Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Trevor Edwards a W. Tudor Owen ynghyd â John Pollard (Aelod Lleyg).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 245 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2016, fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd yr Is-Gadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016, fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad monitro’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwr Cyllid ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun gan dynnu sylw at yr argymhelliad i’r Cabinet: 

 

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.

·         Trosglwyddo (£115k) o'r Adran Rheoleiddio i falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cynorthwyo efo'r newidiadau sydd o'n blaenau er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Cyngor.

·         Cynaeafu (£250k) o'r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, (£180k) o danwariant Budd-daliadau, (£600k) cyllideb wrth gefn, ynghyd â (£250k) o'r tanwariant a gynhwysir o dan 'Eraill' i falansau cyffredinol y Cyngor, gyda £1,055k (£756k 2017/18, a £299k 2018/19) ohono ar gyfer ymrwymiadau yn y maes Addysg sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet 13 Rhagfyr 2016.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Bod cyllideb enfawr gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a bod y lefel gorwariant bellach yn 0.1% o’r gyllideb. Roedd newidiadau deddfwriaethol wedi bod yn bwysau ychwanegol ar yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a phwysau cefnogi plant yn all-sirol wedi arwain at orwario yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Cyfeiriwyd at y bidiau a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror i ymateb i’r gofyn ar yr Adrannau. Disgwylir i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gymryd camau i reoli’r gyllideb erbyn 31 Mawrth ac asesu’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol;

·        O ran y tanwariant o dan y pennawd ‘Gwasanaethau Ol-16’ yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, bod galw yn y maes hwn yn amrywio gydag un pecyn costus yn gallu newid y sefyllfa gwariant. Nid oedd y tanwariant yn golygu bod y gwasanaeth ddim yn cyflawni, rhoddir pwyslais ar wasanaethau ataliol er mwyn galluogi unigolion i ofalu am eu hunain;

·        Bod y targed incwm ar gyfer cinio ysgol eisoes yn adlewyrchu’r pris a godir ac mai’r newid o ran nifer disgyblion oedd wedi effeithio ar yr incwm;

·        O ran arbedion effeithlonrwydd yng nghyllidebau’r ysgolion, ymgynghorwyd â’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a daethpwyd i’r casgliad i ohirio arbedion y sector Uwchradd am flwyddyn, gan fod demograffi Uwchradd yn gostwng gwerth £383k yn 2017/18 gan newid cyfeiriad y flwyddyn ganlynol. Nid oedd rhesymeg mewn diswyddo staff ysgolion (i’w ariannu’n ganolog gan y Cyngor), ac yna ail-gyflogi. Roedd Gwynedd yn gwario ymysg y 2 neu 3 cyngor uchaf o ran y sector gynradd, gyda chynghorau cyfagos yn cynllunio i dorri mwy yng nghyllidebau eu hysgolion erbyn 2017/18.

·        O ran tueddiadau gwario yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac addasu’r cyllidebau, roedd yr Adran yn cymryd y cyfle i wneud trosglwyddiadau i ymateb i’r tueddiadau.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

(ii)    Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion am y rhaglen ddiwygiedig a’r ffynonellau ariannu perthnasol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror. Nodwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £31.592 miliwn yn 2016/17, gyda £8.024 miliwn ohono wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Cadarnhawyd bod £6.040 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2016/17 i 2017/18, ond ni achoswyd unrhyw golled ariannu i’r Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau nad oedd yn bryderus o ran yr ail-broffilio a ni ragwelir llithriad mawr fwy na hyn a adroddir, ond ni ellir gwarantu hynny.

 

PENDERFYNWYD

(i)     Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor;

(ii)    Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion.

 

7.

CYLLIDEB 2017/18 A STRATEGAETH ARIANNOL 2017/18 – 2019/20 pdf eicon PDF 108 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau ar y gyllideb er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol a’r risgiau perthnasol cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 14 Chwefror.

 

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau. Cyfeiriodd at y 4 seminar cyllid a gynhaliwyd yn ystod Ionawr/Chwefror i dderbyn mewnbwn yr aelodau, gan nodi ei siomedigaeth o ran y niferoedd na fynychwyd. Nododd ei fod yn anodd rhagweld i’r dyfodol, ond bod y Cyngor yn taflunio i’r dyfodol gyda’r drefn ariannol a weithredir gan y Cyngor wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr adroddiad gan nodi bod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o 1.1% o gymharu gyda’r cyfartaledd ar draws Cymru o 0.3%. Nodwyd bod swyddogion Gwynedd wedi bod yn flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Tynnwyd sylw at Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet, a oedd yn manylu ar fidiau anorfod i ymateb i’r pwysau ar wasanaethau.

 

Nodwyd, ar y cyfan, y bu cefnogaeth yn y seminarau cyllid i gynnydd o 2.8% yn y Dreth Cyngor. Eglurwyd y cynhelir adolygiad cynhwysfawr o asedau’r Cyngor dan arweiniad y Prif Weithredwr ac fe fyddai’r Cyngor newydd yn llunio Strategaeth Asedau i’w weithredu o 2018/19 am gyfnod o 10 mlynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Beth fyddai pobl Gwynedd yn ei gael o ganlyniad i’r ardoll prentisiaid?

·         Bod codiad sylweddol yn ardoll Awdurdod Tân Gogledd Cymru, beth oedd mewnbwn y Cyngor i’r broses?

·         O ran arbedion effeithlonrwydd pellach, pryder nad oedd y Cyngor Llawn yn rhan o’r penderfyniadau a’r effaith ar bobl Gwynedd.

·         Amheuaeth y byddai’n bosib gwneud arbedion effeithlonrwydd pellach.

·         Bod y seminarau cyllid a gynhaliwyd yn fuddiol. Roedd yr argymhelliad yn gytbwys a gofalus.

·         A ddylid dwyn perswâd ar Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i fabwysiadu yng Nghymru trefn Lloegr o ran treth busnes er mwyn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio’r dreth busnes?

·         Bod y Cyngor yn casglu arian drwy’r drefn Dreth Cyngor ar ran yr Awdurdod Tân a Pharc Cenedlaethol Eryri. A fyddai’n bosib nodi dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor?

·         Y byddai’n well cynnwys dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor yn hytrach na Newyddion Gwynedd.

·         Bod lefel cynllun rhyddhad treth i fusnesau bychan yng Nghymru yn llai na Lloegr. Beth oedd yr effaith?

 

Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-

·         Bod yr ardoll prentisiaid bron gyfystyr a 1% o godiad yn Dreth y Cyngor. Roedd yr ardoll yn gynllun gan Lywodraeth San Steffan i hybu’r nifer o brentisiaid, ni fyddai’r mwyafrif o’r arian a gesglir yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet Adnoddau wedi anfon gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Cabinet yn Llywodraeth Cymru o ran cyfleoedd i’r rhanbarth, a’r posibilrwydd o ddefnyddio’r arian ar gynlluniau hyfforddi yn hytrach na chostau cyflogi. Ni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor argymell i’r Cyngor Llawn ar 2 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18, y Dangosyddion Darbodus, y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 

Gosododd y Pennaeth Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad.

 

Nodwyd gwerthfawrogiad o’r cyfarfod briffio a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2017 i aelodau’r Pwyllgor gydag ymgynghorydd arbenigol o gwmni Arlingclose, sef ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ar fuddsoddiadau, nododd y Pennaeth Cyllid y derbyniwyd eglurder y byddai’r penderfyniad yn weithredol o Ionawr 2020, felly yn y cyfamser byddai rhaid byw efo’r ansicrwydd ond ni ragwelir effaith uniongyrchol ar strategaeth 2017/18. 

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Llawn ar 2 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 

9.

ADOLYGIAD O'R DREFN CRAFFU pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd a Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a oedd yn manylu ar ddau fodel posib yn deillio o waith Is-Grŵp, a sefydlwyd gan y Pwyllgor, i edrych ar drefniadau craffu’r Cyngor yn dilyn beirniadaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nodwyd bod Model A yn addasiad o’r trefniadau presennol gyda thri phwyllgor craffu (Addysg ac Economi, Gofal, Cymunedau) a’r materion corfforaethol yn cael eu craffu gan y Pwyllgor Archwilio a Model B, un Prif Bwyllgor Craffu ond mwy o ymchwiliadau (hyd at 8 ohonynt ar unrhyw adeg o’i gymharu â thri o dan Model A).

 

Tynnwyd sylw at yr atodiadau a oedd yn cynnwys disgrifiad llawn o’r modelau, asesiad o’u manteision ac anfanteision a’u gallu i gyfarch y gwendidau a adnabuwyd. 

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol gwahaniaeth barn aelodau’r Is-Grŵp o ran y model a ffafrir. Pwysleisiwyd yr angen i bwyso a mesur y risgiau ynghlwm â’r ddau fodel.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor, fel y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu, argymell un o’r modelau craffu i’r Cyngor Llawn, argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 yn yr adroddiad (pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir) a gofyn i’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r Cyngor llawn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Ffafrio Model B gan y byddai un pwyllgor yn rhoi cyfle i fwy o drosolwg.

·         Bod elfen o ddatgysylltiad rhwng Y Cabinet a Chraffu gyda rhai materion nad oedd gan y Cyngor ddylanwad arnynt yn cael eu craffu, angen i fod yn fwy penodol yn y dyfodol.

·         Anghysondeb o ran llwyth gwaith y Pwyllgorau Craffu ar hyn o bryd, ac weithiau nid oedd dilyniant o ran eitemau.

·         Bod adnabod meysydd diddordeb a sgiliau aelodau unigol yn hynod bwysig. Roedd trefniadau o ran dyrannu seddi ar y pwyllgorau craffu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol yn arwain at lenwi seddi gweigion yn unig.

·         Bod yr ymchwiliadau yn fwy effeithiol.

·         Yn aelod o’r Is-Grŵp ac o’r farn bod angen newid a byddai Model B gydag un Pwyllgor yn welliant gan gadw trefn o’r rhaglen craffu a chadw’r Cabinet i gyfrif. Bod rhaid bod yn ofalus nad oedd yr un rhai (aelodau) yn rhan o’r ymchwiliadau.

·         Yr angen i aelodau fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael.

·         Yn aelod o’r Is-Grŵp ac yn ffafrio Model A o ystyried bod rhan fwyaf o wariant y Cyngor yn y meysydd Addysg a Gofal. Teimlo y gallai pwyllgorau penodol ynghlwm â’r meysydd gwaith yma edrych yn fwy dwfn ar faterion. A ellir cael hyn efo un pwyllgor?

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol bod cyfyngiadau mewn pwyllgor tra bod ymchwiliadau craffu yn gyfarfodydd anffurfiol lle gellir trafod materion na ellir yn gyhoeddus.

 

Nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

TREFNIADAU RHEOLI RISG pdf eicon PDF 111 KB

(i) Cyflwyno llythyr Swyddfa Archwilio Cymru

 

(ii) Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddodd y Prif Weithredwr bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal arolwg ysgafn o drefniadau rheoli risg y Cyngor ac wedi nodi cyfleoedd gwella y gallai’r Cyngor ddewis eu hystyried wrth adolygu trefniadau rheoli risg. Nododd bod diwylliant y Cyngor yn bur wahanol i aml o gynghorau eraill gyda Ffordd Gwynedd yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Nodwyd bod gormod o bwyslais mewn rhai cynghorau o ran cadw cofrestr risg, roedd Ffordd Gwynedd wedi arwain at addasu ffyrdd o weithio (gan gynnwys yr Uned Archwilio Mewnol) er mwyn i’r gweithlu berchnogi risg. Ceisir gwreiddio diwylliant Ffordd Gwynedd trwy’r Cyngor, byddai cadw rhestr fyw o’r rhwystrau yn diwallu’r angen am gofrestr risg.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a oedd yn manylu ar y camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd i wella a amlinellir yn llythyr SAC. Nodwyd bod y cyfleoedd i wella yn rhoi cyfle i’r Cyngor ddarganfod datrysiad a oedd yn addas i’r Cyngor ac yn plethu i mewn i’r meddylfryd y ceisir ei annog ar draws y Cyngor gan beidio creu dogfen swmpus o ran y Strategaeth Risg. Pwysleisiwyd y bwriedir i’r gofrestr risg fod yn ddogfen fyw i’w ddefnyddio i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau anodd, ac yn y pendraw, cryfhau trefniadau llywodraethu’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel eglurhad manwl o’r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd i wella a amlinellir yn llythyr Swyddfa Archwilio Cymru.

 

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 21/11/16 - 27/1/17 pdf eicon PDF 443 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 5 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau, 1 adolygiad grant a 2 archwiliad dilyniant.

                        

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol

 

Gwerthiant Disel

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig yn symud ymlaen efo sefydlu trefn i alluogi cwsmeriaid i dalu efo cerdyn. Eglurodd yr anfonir cyfarwyddyd i’r Harbwr Feistri pan fo newid ym mhrisiau tanwydd yn dilyn pryniant stoc newydd ond nid oedd wedi ei weithredu ym mhob harbwr. Nododd yr aelod y dylai’r Harbwr Feistri orfod cydnabod eu bod wedi derbyn gwybodaeth newid pris.

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio bod gofyn ar gwsmeriaid i gwblhau datganiad o ba % o’r pryniant disel a ddefnyddir at bwrpasau masnachol a domestig er mwyn gwahaniaethu, codir elfen o dreth ychwanegol o ran defnydd masnachol.

 

Bryn Blodau, Llan Ffestiniog

 

Nododd aelod yr angen i gadw llygad ar y sefyllfa er mwyn sicrhau bod camau wedi eu cymryd i liniaru’r risgiau a amlygwyd.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed diffyg trefn hyfforddi, nododd y Rheolwr Archwilio bod Rheolwr newydd yn y swydd a bod y Cartref wedi derbyn Hysbysiad o Ddiffyg Cydymffurfio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Mai 2016 oherwydd diffyg hyfforddiant staff. Ychwanegwyd y disgwyliwyd bod gweithrediad ar y materion cyn cynnal yr archwiliad ond nad oedd.

 

Gweithwyr Cefnogol

 

Nododd aelod bryder y defnyddircut & paste” o gynllun arall gyda chynllun gofal gwallus o ganlyniad. Ychwanegodd ei bod yn falch y bydd y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn ystyried yr archwiliad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Cyngor yn datblygu system hyfforddiant integredig gyda mynediad o gartref i weithwyr i’w galluogi i gwblhau mwy o fodiwlau ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 21 Tachwedd 2016 hyd at 27 Ionawr 2017 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol;

(ii)    ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori barn ‘C’ yn y Gweithgor a benodwyd yn y cyfarfod blaenorol;

(iii)  mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd.

12.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 pdf eicon PDF 515 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2016/17.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol hyd at 27 Ionawr 2017 wedi cwblhau 68.06% o’r cynllun, gyda 49 o’r 72 archwiliad yng nghynllun 2016/17 wedi eu rhyddhau yn derfynol. 

 

Tynnwyd sylw at addasiadau i’r cynllun gan nodi o ganlyniad i 2 aelod o’r tîm adael cyflogaeth y Cyngor a 1 aelod arall yn terfynu eu cyflogaeth fis Chwefror, roedd y cynllun wedi ei addasu gan flaenoriaethu archwiliadau gyda rhai wedi eu tynnu allan a rhai yn llithro i’r flwyddyn nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed trefniadau penodi swyddogion, nododd y Rheolwr Archwilio bod un Arweinydd Tîm wedi ei benodi ac fe gynhelir cyfweliadau i benodi 2 Archwiliwr.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio a chymeradwyo’r addasiadau.

13.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2017/18 pdf eicon PDF 421 KB

Cyflwyno Cynllun Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi manylion am gynllun drafft o waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2017/18 er sylwadaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor. Nodwyd bod y cynllun drafft wedi ei baratoi yn dilyn cyfarfodydd gyda Phenaethiaid neu dîm rheoli adrannol ac fe ystyriwyd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ogystal â chofrestrau risg pob adran.

 

 Tynnwyd sylw bod cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer gwaith dilyniant yn y cynllun drafft er mwyn sicrhau bod pob gweithrediad cytunedig yn derbyn sylw yn hytrach na gweithrediadau cytunedig adroddiadau a dderbyniodd farn C yn unig.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod na drosglwyddwyd archwiliadau a ganslwyd yn 2016/17 (Rheolaeth Gyllidebol – Ysgolion Cynradd a Diogelwch Gwybodaeth mewn Ysgolion), i gynllun 2017/18, eglurodd y Rheolwr Archwilio y darparwyd adroddiadau ar gyfer ysgolion unigol i ddiwallu’r gofyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio drafft ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018.

 

14.

HAFAN PWLLHELI pdf eicon PDF 108 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn rhoi diweddariad ar waith a raglenwyd i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r Hafan yn 2017/18 yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr 2016 i ofyn i’r Adran Economi a Chymuned (gyda chefnogaeth yr Adran Gyllid) gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran yr Hafan. Nodwyd bod yr Hafan yn ased economaidd pwysig i’r ardal a’r Cyngor gan ei fod yn creu incwm uwch na’r costau. Ychwanegwyd y bwriedir i’r adolygiad ystyried ystod o wahanol strwythurau rheoli a llywodraethu er mwyn cynnal llwyddiant yr Hafan i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod yr Adran wedi adnabod y gwaith fel testun posib i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu perthnasol, a pe dymunir, fe ellir adrodd i’r Pwyllgor hwn ar y darlun ehangach/cyflawn yn dilyn cynnal asesiad manwl.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned ei fod yn amserol i ystyried y trefniadau rheoli a llywodraethu o ystyried y newid mewn defnydd a thueddiadau’r farchnad, gan roi sylw i’r effaith ar fusnesau a’r gymuned leol.

           

Nododd yr aelodau eu cefnogaeth i gynnal yr adolygiad a’r bwriad i ystyried y gwahanol bartneriaid gan fod yr Hafan yn rhoi Pwllheli ar y map yn rhyngwladol o ran hwylio.

 

Mewn ymateb i ddymuniad rhai o’r aelodau i’r Pwyllgor hwn dderbyn diweddariad, nododd y Prif Weithredwr bod risg o ddyblygu gwaith gan y byddai’n debygol y cynhelir ymchwiliad craffu i edrych ar y sefyllfa, felly fe ddylid ystyried un ai i’r drefn graffu neu’r Pwyllgor hwn ystyried y mater.

           

PENDERFYNWYD:

(i)     nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

(ii)    cefnogi bwriad yr Adran Economi a Chymuned i adolygu trefniadau rheoli a llywodraethu Hafan Pwllheli a’r amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud hynny.

(iii)  bod y drefn craffu yn ystyried y mater.