Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd a Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a oedd yn manylu ar ddau fodel posib yn deillio o waith Is-Grŵp, a sefydlwyd gan y Pwyllgor, i edrych ar drefniadau craffu’r Cyngor yn dilyn beirniadaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nodwyd bod Model A yn addasiad o’r trefniadau presennol gyda thri phwyllgor craffu (Addysg ac Economi, Gofal, Cymunedau) a’r materion corfforaethol yn cael eu craffu gan y Pwyllgor Archwilio a Model B, un Prif Bwyllgor Craffu ond mwy o ymchwiliadau (hyd at 8 ohonynt ar unrhyw adeg o’i gymharu â thri o dan Model A).

 

Tynnwyd sylw at yr atodiadau a oedd yn cynnwys disgrifiad llawn o’r modelau, asesiad o’u manteision ac anfanteision a’u gallu i gyfarch y gwendidau a adnabuwyd. 

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol gwahaniaeth barn aelodau’r Is-Grŵp o ran y model a ffafrir. Pwysleisiwyd yr angen i bwyso a mesur y risgiau ynghlwm â’r ddau fodel.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor, fel y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu, argymell un o’r modelau craffu i’r Cyngor Llawn, argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 yn yr adroddiad (pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir) a gofyn i’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r Cyngor llawn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Ffafrio Model B gan y byddai un pwyllgor yn rhoi cyfle i fwy o drosolwg.

·         Bod elfen o ddatgysylltiad rhwng Y Cabinet a Chraffu gyda rhai materion nad oedd gan y Cyngor ddylanwad arnynt yn cael eu craffu, angen i fod yn fwy penodol yn y dyfodol.

·         Anghysondeb o ran llwyth gwaith y Pwyllgorau Craffu ar hyn o bryd, ac weithiau nid oedd dilyniant o ran eitemau.

·         Bod adnabod meysydd diddordeb a sgiliau aelodau unigol yn hynod bwysig. Roedd trefniadau o ran dyrannu seddi ar y pwyllgorau craffu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol yn arwain at lenwi seddi gweigion yn unig.

·         Bod yr ymchwiliadau yn fwy effeithiol.

·         Yn aelod o’r Is-Grŵp ac o’r farn bod angen newid a byddai Model B gydag un Pwyllgor yn welliant gan gadw trefn o’r rhaglen craffu a chadw’r Cabinet i gyfrif. Bod rhaid bod yn ofalus nad oedd yr un rhai (aelodau) yn rhan o’r ymchwiliadau.

·         Yr angen i aelodau fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael.

·         Yn aelod o’r Is-Grŵp ac yn ffafrio Model A o ystyried bod rhan fwyaf o wariant y Cyngor yn y meysydd Addysg a Gofal. Teimlo y gallai pwyllgorau penodol ynghlwm â’r meysydd gwaith yma edrych yn fwy dwfn ar faterion. A ellir cael hyn efo un pwyllgor?

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol bod cyfyngiadau mewn pwyllgor tra bod ymchwiliadau craffu yn gyfarfodydd anffurfiol lle gellir trafod materion na ellir yn gyhoeddus.

 

Nododd y Prif Weithredwr bod dau fater y dylid ystyried:

1.      Safbwynt y Penaethiaid Adran - traroedd y Penaethiaid yn derbyn yr angen am graffu a’r ffaith fod modd iddo wneud gwahaniaeth fel rhan o ddemocratiaeth byw, ‘roedd yna ormod o achosion lleroedd yn anodd gweld y gwerth a gafwyd, gyda staff yn cael eu tynnu o gyflawni gwasanaeth i bobl Gwynedd er mwyn ysgrifennu adroddiadau a pharatoi ar gyfer craffu.

2.      Model A – y perygl y byddai llwyth gwaith craffu yn disgyn ar Addysg ac Oedolion gan dynnu mwy o adnoddau o’r meysydd hynny i fwydocraffuyn hytrach na chyflwyno gwasanaethau i drigolion.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     argymell Model B i’r Cyngor Llawn;

(ii)    argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 yn yr adroddiad, pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir;

(iii)  gofyn i’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r Cyngor llawn.

 

Dogfennau ategol: