Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad monitro’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwr Cyllid ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun gan dynnu sylw at yr argymhelliad i’r Cabinet: 

 

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.

·         Trosglwyddo (£115k) o'r Adran Rheoleiddio i falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cynorthwyo efo'r newidiadau sydd o'n blaenau er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Cyngor.

·         Cynaeafu (£250k) o'r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, (£180k) o danwariant Budd-daliadau, (£600k) cyllideb wrth gefn, ynghyd â (£250k) o'r tanwariant a gynhwysir o dan 'Eraill' i falansau cyffredinol y Cyngor, gyda £1,055k (£756k 2017/18, a £299k 2018/19) ohono ar gyfer ymrwymiadau yn y maes Addysg sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet 13 Rhagfyr 2016.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Bod cyllideb enfawr gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a bod y lefel gorwariant bellach yn 0.1% o’r gyllideb. Roedd newidiadau deddfwriaethol wedi bod yn bwysau ychwanegol ar yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a phwysau cefnogi plant yn all-sirol wedi arwain at orwario yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Cyfeiriwyd at y bidiau a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror i ymateb i’r gofyn ar yr Adrannau. Disgwylir i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gymryd camau i reoli’r gyllideb erbyn 31 Mawrth ac asesu’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol;

·        O ran y tanwariant o dan y pennawd ‘Gwasanaethau Ol-16’ yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, bod galw yn y maes hwn yn amrywio gydag un pecyn costus yn gallu newid y sefyllfa gwariant. Nid oedd y tanwariant yn golygu bod y gwasanaeth ddim yn cyflawni, rhoddir pwyslais ar wasanaethau ataliol er mwyn galluogi unigolion i ofalu am eu hunain;

·        Bod y targed incwm ar gyfer cinio ysgol eisoes yn adlewyrchu’r pris a godir ac mai’r newid o ran nifer disgyblion oedd wedi effeithio ar yr incwm;

·        O ran arbedion effeithlonrwydd yng nghyllidebau’r ysgolion, ymgynghorwyd â’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a daethpwyd i’r casgliad i ohirio arbedion y sector Uwchradd am flwyddyn, gan fod demograffi Uwchradd yn gostwng gwerth £383k yn 2017/18 gan newid cyfeiriad y flwyddyn ganlynol. Nid oedd rhesymeg mewn diswyddo staff ysgolion (i’w ariannu’n ganolog gan y Cyngor), ac yna ail-gyflogi. Roedd Gwynedd yn gwario ymysg y 2 neu 3 cyngor uchaf o ran y sector gynradd, gyda chynghorau cyfagos yn cynllunio i dorri mwy yng nghyllidebau eu hysgolion erbyn 2017/18.

·        O ran tueddiadau gwario yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac addasu’r cyllidebau, roedd yr Adran yn cymryd y cyfle i wneud trosglwyddiadau i ymateb i’r tueddiadau.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

(ii)    Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion.

Dogfennau ategol: