Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr
Aelod Cabinet Adnoddau ar y gyllideb er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor
Archwilio graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol a’r risgiau perthnasol
cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 14 Chwefror.
Gosodwyd cefndir
a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau. Cyfeiriodd at y 4
seminar cyllid a gynhaliwyd yn ystod Ionawr/Chwefror i dderbyn mewnbwn yr
aelodau, gan nodi ei siomedigaeth o ran y niferoedd na fynychwyd. Nododd ei fod
yn anodd rhagweld i’r dyfodol, ond bod y Cyngor yn taflunio i’r dyfodol gyda’r
drefn ariannol a weithredir gan y Cyngor wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa
Archwilio Cymru.
Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr
adroddiad gan nodi bod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o 1.1% o gymharu gyda’r
cyfartaledd ar draws Cymru o 0.3%. Nodwyd bod swyddogion Gwynedd wedi bod yn
flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i
adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Tynnwyd sylw at Atodiad 1 i’r
adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet, a oedd yn manylu ar fidiau anorfod i ymateb
i’r pwysau ar wasanaethau.
Nodwyd, ar y cyfan, y bu cefnogaeth yn y
seminarau cyllid i gynnydd o 2.8% yn y Dreth Cyngor. Eglurwyd y cynhelir
adolygiad cynhwysfawr o asedau’r Cyngor dan arweiniad y Prif Weithredwr ac fe
fyddai’r Cyngor newydd yn llunio Strategaeth Asedau i’w weithredu o 2018/19 am
gyfnod o 10 mlynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Beth fyddai pobl Gwynedd yn ei
gael o ganlyniad i’r ardoll prentisiaid?
·
Bod codiad sylweddol yn ardoll
Awdurdod Tân Gogledd Cymru, beth oedd mewnbwn y Cyngor i’r broses?
·
O ran arbedion effeithlonrwydd
pellach, pryder nad oedd y Cyngor Llawn yn rhan o’r penderfyniadau a’r effaith
ar bobl Gwynedd.
·
Amheuaeth y byddai’n bosib
gwneud arbedion effeithlonrwydd pellach.
·
Bod y seminarau cyllid a
gynhaliwyd yn fuddiol. Roedd yr argymhelliad yn gytbwys a gofalus.
·
A ddylid dwyn perswâd ar
Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i fabwysiadu yng Nghymru trefn
Lloegr o ran treth busnes er mwyn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio’r dreth
busnes?
·
Bod y Cyngor yn casglu arian
drwy’r drefn Dreth Cyngor ar ran yr Awdurdod Tân a Pharc Cenedlaethol Eryri. A
fyddai’n bosib nodi dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor?
·
Y byddai’n well cynnwys
dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor yn hytrach na Newyddion Gwynedd.
·
Bod lefel cynllun rhyddhad
treth i fusnesau bychan yng Nghymru yn llai na Lloegr. Beth oedd yr effaith?
Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-
·
Bod yr ardoll prentisiaid bron
gyfystyr a 1% o godiad yn Dreth y Cyngor. Roedd yr ardoll yn gynllun gan
Lywodraeth San Steffan i hybu’r nifer o brentisiaid, ni fyddai’r mwyafrif o’r
arian a gesglir yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru. Nodwyd bod yr Aelod
Cabinet Adnoddau wedi anfon gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Cabinet yn
Llywodraeth Cymru o ran cyfleoedd i’r rhanbarth, a’r posibilrwydd o
ddefnyddio’r arian ar gynlluniau hyfforddi yn hytrach na chostau cyflogi. Ni
fyddai yn digwydd eleni, ond edrychir am gyfleoedd i’r dyfodol.
·
Mai’r Cyngor oedd yn ariannu
ardoll yr Awdurdod Tân, ond eu penderfyniad annibynnol hwy oedd gosod yr
ardoll. Ymddiriedir yng nghynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod Tân.
·
Cyflwynir cynlluniau arbedion
effeithlonrwydd pellach gerbron y Cabinet i’w cymeradwyo. ‘Roedd pob un cynllun
i arbed yn debygol o gael rhywfaint o effaith ar rywun yn rhywle ond fe geisir
lleihau’r effaith gan gyflawni gwasanaethau i bobl Gwynedd mewn ffyrdd
gwahanol. Y dewis arall oedd toriadau a fyddai’n golygu atal gwneud rhywbeth yn
gyfan gwbl. Atgoffwyd yr aelodau o’r drefn Galw i Mewn, lle ellir galw mewn
penderfyniad y Cabinet i’w graffu.
·
Edrychir am fwy o gyfleoedd
arbedion yn hytrach na chynnydd uwch o ran Treth y Cyngor, neu mwy o doriadau a
fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar bobl Gwynedd. Cydymdeimlir â’r aelodau o
ran y sefyllfa ariannol a chyflawni i bobl Gwynedd, roedd yn dasg anodd.
·
O dan y drefn a oedd yn bodoli
yn Lloegr o ran treth busnes, bod addasiad i’r grant a dderbynnir gan y
Llywodraeth pan fo rhanbarthau yn derbyn y dreth fusnes. Byddai’n debygol o
olygu toriad grant a risg ariannol uwch i’r Cyngor hwn pe mabwysiadir y drefn
yng Nghymru.
·
Bod y bil Treth Cyngor yn
statudol gyda thaflen ar wahân yn rhestru’r gwariant. Roedd Newyddion Gwynedd
i’w ddosbarthu yn y dyfodol agos ac fe wirir os oedd yn bosib crybwyll y
sefyllfa ynddo.
·
Bod Newyddion Gwynedd wedi dod
yn uwch nag aml i ffynhonnell arall mewn arolwg a gynhaliwyd yn 2009 o ran sut
roedd pobl Gwynedd yn derbyn gwybodaeth.
·
Y byddai ymestyn y cynllun
rhyddhad treth i fusnesau bychan yn gymorth i fusnesau, ac i economi Gwynedd,
ac fe fyddai’r Cyngor yn gefnogol pe byddai Llywodraeth Cymru am ei ymestyn.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad a’r risgiau
perthnasol, ac argymell i’r Cabinet y dylid:
(i) argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth
2017):
1. Sefydlu cyllideb o £231,299,720 ar gyfer
2017/18, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £168,963,540 a £62,336,180 o
incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.8% (neu gyfuniad addasedig o ffigyrau
ar ôl i’r Cabinet ystyried yr opsiynau).
2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £12.015m yn
2017/18 a £6.410m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal
9.3 o’r adroddiad.
(ii) nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Atodiad 4, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 15-17 o’r Cynllun.
Dogfennau ategol: