Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Trevor Edwards a W. Tudor Owen ynghyd â John Pollard (Aelod Lleyg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1
Rhagfyr, 2016, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd yr Is-Gadeirydd gofnodion o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016, fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 118 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad monitro’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwr Cyllid ar
y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror. Gosododd yr Aelod
Cabinet Adnoddau y cyd-destun gan dynnu sylw at yr argymhelliad i’r
Cabinet: ·
Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2016) o’r Gyllideb
Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth. ·
Trosglwyddo (£115k) o'r Adran
Rheoleiddio i falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cynorthwyo efo'r newidiadau
sydd o'n blaenau er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Cyngor. ·
Cynaeafu (£250k) o'r casgliad
ffafriol Treth y Cyngor, (£180k) o danwariant Budd-daliadau, (£600k) cyllideb
wrth gefn, ynghyd â (£250k) o'r tanwariant a gynhwysir o dan 'Eraill' i
falansau cyffredinol y Cyngor, gyda £1,055k (£756k 2017/18, a £299k 2018/19)
ohono ar gyfer ymrwymiadau yn y maes Addysg sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan
y Cabinet 13 Rhagfyr 2016. Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y
swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn: ·
Bod cyllideb enfawr gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a bod y lefel gorwariant bellach
yn 0.1% o’r gyllideb. Roedd newidiadau deddfwriaethol wedi bod yn bwysau
ychwanegol ar yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a phwysau cefnogi plant yn
all-sirol wedi arwain at orwario yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.
Cyfeiriwyd at y bidiau a gyflwynir i’r Cabinet ar 14 Chwefror i ymateb i’r
gofyn ar yr Adrannau. Disgwylir i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gymryd
camau i reoli’r gyllideb erbyn 31 Mawrth ac asesu’r sefyllfa ar gyfer y
dyfodol; ·
O ran y tanwariant o dan y pennawd ‘Gwasanaethau
Ol-16’ yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, bod galw yn y maes hwn yn
amrywio gydag un pecyn costus yn gallu newid y sefyllfa gwariant. Nid oedd y
tanwariant yn golygu bod y gwasanaeth ddim yn cyflawni, rhoddir pwyslais ar
wasanaethau ataliol er mwyn galluogi unigolion i ofalu am eu hunain; ·
Bod y targed incwm ar gyfer cinio ysgol eisoes yn
adlewyrchu’r pris a godir ac mai’r newid o ran nifer disgyblion oedd wedi
effeithio ar yr incwm; ·
O ran arbedion effeithlonrwydd yng nghyllidebau’r
ysgolion, ymgynghorwyd â’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a daethpwyd i’r casgliad i
ohirio arbedion y sector Uwchradd am flwyddyn, gan fod demograffi Uwchradd yn
gostwng gwerth £383k yn 2017/18 gan newid cyfeiriad y flwyddyn ganlynol. Nid
oedd rhesymeg mewn diswyddo staff ysgolion (i’w ariannu’n ganolog gan y Cyngor),
ac yna ail-gyflogi. Roedd Gwynedd yn gwario ymysg y 2 neu 3 cyngor uchaf o ran
y sector gynradd, gyda chynghorau cyfagos yn cynllunio i dorri mwy yng
nghyllidebau eu hysgolion erbyn 2017/18. ·
O ran tueddiadau gwario yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant ac addasu’r cyllidebau, roedd yr Adran yn cymryd y cyfle i
wneud trosglwyddiadau i ymateb i’r tueddiadau. PENDERFYNWYD: (i)
Nodi’r sefyllfa
a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau (ii) Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 116 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion am y rhaglen ddiwygiedig a’r
ffynonellau ariannu perthnasol. Gosododd yr Aelod
Cabinet Adnoddau y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i’r
Cabinet ar 14 Chwefror. Nodwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua
£31.592 miliwn yn 2016/17, gyda £8.024 miliwn ohono wedi’i ariannu trwy ddenu
grantiau penodol. Cadarnhawyd bod £6.040 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio o 2016/17 i 2017/18, ond ni achoswyd unrhyw golled ariannu i’r
Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau nad oedd yn
bryderus o ran yr ail-broffilio a ni ragwelir llithriad mawr fwy na hyn a
adroddir, ond ni ellir gwarantu hynny. PENDERFYNWYD (i)
Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng
nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor; (ii)
Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r argymhellion. |
|
CYLLIDEB 2017/18 A STRATEGAETH ARIANNOL 2017/18 – 2019/20 PDF 108 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr
Aelod Cabinet Adnoddau ar y gyllideb er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor
Archwilio graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol a’r risgiau perthnasol
cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 14 Chwefror. Gosodwyd cefndir
a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau. Cyfeiriodd at y 4
seminar cyllid a gynhaliwyd yn ystod Ionawr/Chwefror i dderbyn mewnbwn yr
aelodau, gan nodi ei siomedigaeth o ran y niferoedd na fynychwyd. Nododd ei fod
yn anodd rhagweld i’r dyfodol, ond bod y Cyngor yn taflunio i’r dyfodol gyda’r
drefn ariannol a weithredir gan y Cyngor wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa
Archwilio Cymru. Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr
adroddiad gan nodi bod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o 1.1% o gymharu gyda’r
cyfartaledd ar draws Cymru o 0.3%. Nodwyd bod swyddogion Gwynedd wedi bod yn
flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i
adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Tynnwyd sylw at Atodiad 1 i’r
adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet, a oedd yn manylu ar fidiau anorfod i ymateb
i’r pwysau ar wasanaethau. Nodwyd, ar y cyfan, y bu cefnogaeth yn y
seminarau cyllid i gynnydd o 2.8% yn y Dreth Cyngor. Eglurwyd y cynhelir
adolygiad cynhwysfawr o asedau’r Cyngor dan arweiniad y Prif Weithredwr ac fe
fyddai’r Cyngor newydd yn llunio Strategaeth Asedau i’w weithredu o 2018/19 am
gyfnod o 10 mlynedd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:- ·
Beth fyddai pobl Gwynedd yn ei
gael o ganlyniad i’r ardoll prentisiaid? ·
Bod codiad sylweddol yn ardoll
Awdurdod Tân Gogledd Cymru, beth oedd mewnbwn y Cyngor i’r broses? ·
O ran arbedion effeithlonrwydd
pellach, pryder nad oedd y Cyngor Llawn yn rhan o’r penderfyniadau a’r effaith
ar bobl Gwynedd. ·
Amheuaeth y byddai’n bosib
gwneud arbedion effeithlonrwydd pellach. ·
Bod y seminarau cyllid a
gynhaliwyd yn fuddiol. Roedd yr argymhelliad yn gytbwys a gofalus. ·
A ddylid dwyn perswâd ar
Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i fabwysiadu yng Nghymru trefn
Lloegr o ran treth busnes er mwyn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio’r dreth
busnes? ·
Bod y Cyngor yn casglu arian
drwy’r drefn Dreth Cyngor ar ran yr Awdurdod Tân a Pharc Cenedlaethol Eryri. A
fyddai’n bosib nodi dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor? ·
Y byddai’n well cynnwys
dadansoddiad manylach ar y daflen Dreth Cyngor yn hytrach na Newyddion Gwynedd. ·
Bod lefel cynllun rhyddhad
treth i fusnesau bychan yng Nghymru yn llai na Lloegr. Beth oedd yr effaith? Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:- · Bod yr ardoll prentisiaid bron gyfystyr a 1% o godiad yn Dreth y Cyngor. Roedd yr ardoll yn gynllun gan Lywodraeth San Steffan i hybu’r nifer o brentisiaid, ni fyddai’r mwyafrif o’r arian a gesglir yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet Adnoddau wedi anfon gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Cabinet yn Llywodraeth Cymru o ran cyfleoedd i’r rhanbarth, a’r posibilrwydd o ddefnyddio’r arian ar gynlluniau hyfforddi yn hytrach na chostau cyflogi. Ni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor argymell
i’r Cyngor Llawn ar 2 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18, y Dangosyddion
Darbodus, y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r trefniant uno gyda’r
Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol. Gosododd y Pennaeth Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad. Nodwyd gwerthfawrogiad
o’r cyfarfod briffio a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2017 i aelodau’r Pwyllgor gydag
ymgynghorydd arbenigol o gwmni Arlingclose, sef
ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod parthed effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr
Undeb Ewropeaidd ar fuddsoddiadau, nododd y Pennaeth Cyllid y derbyniwyd eglurder y byddai’r penderfyniad yn weithredol o Ionawr 2020, felly yn y cyfamser byddai
rhaid byw efo’r ansicrwydd ond ni ragwelir
effaith uniongyrchol ar strategaeth 2017/18. PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor
Llawn ar 2 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r
Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi
llif arian dyddiol. |
|
ADOLYGIAD O'R DREFN CRAFFU PDF 335 KB Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd a Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a
oedd yn manylu
ar ddau fodel
posib yn deillio o waith Is-Grŵp, a sefydlwyd gan y Pwyllgor, i edrych ar
drefniadau craffu’r Cyngor yn dilyn
beirniadaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nodwyd bod Model A yn addasiad
o’r trefniadau presennol gyda thri phwyllgor craffu (Addysg ac Economi, Gofal, Cymunedau) a’r materion corfforaethol yn cael eu
craffu gan y Pwyllgor Archwilio a Model B, un Prif Bwyllgor Craffu
ond mwy o ymchwiliadau (hyd at 8 ohonynt ar unrhyw
adeg o’i gymharu â thri o dan Model A). Tynnwyd sylw at yr atodiadau a
oedd yn cynnwys
disgrifiad llawn o’r modelau, asesiad
o’u manteision ac anfanteision a’u gallu i gyfarch
y gwendidau a adnabuwyd. Amlygodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth
Gorfforaethol gwahaniaeth
barn aelodau’r Is-Grŵp
o ran y model a ffafrir. Pwysleisiwyd yr
angen i bwyso
a mesur y risgiau ynghlwm â’r ddau
fodel. Gofynnwyd i’r Pwyllgor, fel
y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu, argymell un o’r modelau craffu
i’r Cyngor Llawn, argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 yn yr
adroddiad (pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir) a gofyn i’r Swyddog Monitro,
mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r
Cyngor llawn. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:- ·
Ffafrio
Model B gan y byddai un pwyllgor yn rhoi cyfle i fwy o drosolwg. ·
Bod elfen o ddatgysylltiad
rhwng Y Cabinet a Chraffu gyda rhai materion nad oedd gan y Cyngor ddylanwad
arnynt yn cael eu craffu, angen i fod yn fwy penodol yn y dyfodol. ·
Anghysondeb o ran llwyth
gwaith y Pwyllgorau Craffu ar hyn o bryd, ac weithiau nid oedd dilyniant o ran
eitemau. ·
Bod
adnabod meysydd diddordeb a sgiliau aelodau unigol yn hynod bwysig. Roedd
trefniadau o ran dyrannu seddi ar y pwyllgorau craffu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol yn arwain at lenwi seddi
gweigion yn unig. ·
Bod
yr ymchwiliadau yn fwy effeithiol. ·
Yn aelod o’r Is-Grŵp ac
o’r farn bod angen newid a byddai Model B gydag un
Pwyllgor yn welliant gan gadw trefn o’r rhaglen craffu a chadw’r Cabinet i
gyfrif. Bod rhaid bod yn ofalus nad oedd yr un rhai (aelodau) yn rhan o’r ymchwiliadau. ·
Yr angen i aelodau fanteisio
ar yr hyfforddiant sydd ar gael. ·
Yn aelod o’r Is-Grŵp ac
yn ffafrio Model A o ystyried bod rhan fwyaf o wariant y Cyngor yn y meysydd
Addysg a Gofal. Teimlo y gallai pwyllgorau penodol ynghlwm â’r
meysydd gwaith yma edrych yn fwy dwfn ar faterion. A ellir cael hyn efo un
pwyllgor? Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod, nododd yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol
bod cyfyngiadau mewn pwyllgor tra bod ymchwiliadau craffu yn gyfarfodydd anffurfiol lle gellir trafod materion
na ellir
yn gyhoeddus. Nododd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
TREFNIADAU RHEOLI RISG PDF 111 KB (i) Cyflwyno llythyr
Swyddfa Archwilio Cymru (ii) Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddodd
y Prif Weithredwr bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal arolwg ysgafn
o drefniadau rheoli risg y Cyngor ac wedi nodi cyfleoedd
gwella y gallai’r Cyngor ddewis eu
hystyried wrth adolygu trefniadau rheoli risg. Nododd bod diwylliant y Cyngor yn bur wahanol i aml o gynghorau
eraill gyda Ffordd Gwynedd yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i
bopeth yr ydym yn ei
wneud. Nodwyd bod gormod o bwyslais mewn rhai cynghorau
o ran cadw cofrestr risg, roedd Ffordd
Gwynedd wedi arwain at addasu ffyrdd o weithio (gan gynnwys
yr Uned Archwilio
Mewnol) er mwyn i’r gweithlu
berchnogi risg. Ceisir gwreiddio diwylliant Ffordd Gwynedd trwy’r Cyngor, byddai cadw rhestr
fyw o’r
rhwystrau yn diwallu’r angen am gofrestr risg. Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg a oedd
yn manylu ar y camau y bydd
y Cyngor yn eu cymryd er
mwyn manteisio ar y cyfleoedd i wella a amlinellir
yn llythyr SAC. Nodwyd bod y cyfleoedd i wella yn
rhoi cyfle i’r Cyngor ddarganfod
datrysiad a oedd yn addas
i’r Cyngor ac yn plethu i
mewn i’r meddylfryd y ceisir ei annog ar
draws y Cyngor gan beidio creu dogfen
swmpus o ran y Strategaeth Risg. Pwysleisiwyd y bwriedir i’r
gofrestr risg fod yn ddogfen
fyw i’w ddefnyddio
i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau anodd, ac yn y pendraw, cryfhau trefniadau llywodraethu’r Cyngor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
fel eglurhad manwl o’r camau
y bydd y Cyngor yn eu cymryd
er mwyn manteisio
ar y cyfleoedd i wella a
amlinellir yn llythyr Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 21/11/16 - 27/1/17 PDF 443 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 5 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau,
1 adolygiad grant a 2 archwiliad
dilyniant. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol – Gwerthiant Disel Mewn
ymateb i sylw gan aelod,
nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig yn symud
ymlaen efo sefydlu trefn i
alluogi cwsmeriaid i dalu efo
cerdyn. Eglurodd yr anfonir cyfarwyddyd
i’r Harbwr Feistri pan fo
newid ym mhrisiau tanwydd yn dilyn pryniant
stoc newydd ond nid oedd
wedi ei weithredu
ym mhob harbwr.
Nododd yr aelod y dylai’r
Harbwr Feistri orfod cydnabod eu bod wedi derbyn
gwybodaeth newid pris. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio bod gofyn ar gwsmeriaid i
gwblhau datganiad o ba % o’r pryniant
disel a ddefnyddir at bwrpasau masnachol a domestig er mwyn
gwahaniaethu, codir elfen o dreth ychwanegol
o ran defnydd masnachol. Bryn Blodau, Llan Ffestiniog Nododd aelod yr angen
i gadw llygad
ar y sefyllfa er mwyn sicrhau
bod camau wedi eu cymryd i
liniaru’r risgiau a amlygwyd. Mewn
ymateb i sylw gan aelod
parthed diffyg trefn hyfforddi, nododd y Rheolwr Archwilio bod Rheolwr newydd yn y swydd
a bod y Cartref wedi derbyn Hysbysiad o Ddiffyg Cydymffurfio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Mai 2016 oherwydd diffyg hyfforddiant staff. Ychwanegwyd y disgwyliwyd bod gweithrediad ar y materion cyn
cynnal yr archwiliad ond nad oedd. Gweithwyr Cefnogol
Nododd
aelod bryder y defnyddir “cut & paste” o gynllun
arall gyda chynllun gofal gwallus o ganlyniad. Ychwanegodd ei bod yn falch
y bydd y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn ystyried yr
archwiliad. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod,
nododd y Rheolwr Archwilio bod y Cyngor yn datblygu system hyfforddiant integredig gyda mynediad o gartref i weithwyr
i’w galluogi i gwblhau mwy
o fodiwlau ar-lein. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad
ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 21 Tachwedd 2016 hyd at 27 Ionawr 2017 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr
y gwasanaethau perthnasol; (ii)
ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn
categori barn ‘C’ yn y Gweithgor a benodwyd yn y cyfarfod blaenorol;
(iii)
mai cyfrifoldeb
unrhyw aelod na allai fod
yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 PDF 515 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2016/17. Adroddwyd bod yr Uned
Archwilio Mewnol hyd at 27 Ionawr 2017 wedi cwblhau 68.06% o’r cynllun, gyda 49
o’r 72 archwiliad yng nghynllun 2016/17 wedi eu rhyddhau yn derfynol. Tynnwyd sylw at
addasiadau i’r cynllun gan nodi o ganlyniad i 2 aelod o’r tîm adael cyflogaeth
y Cyngor a 1 aelod arall yn terfynu eu cyflogaeth fis Chwefror, roedd y cynllun
wedi ei addasu gan flaenoriaethu archwiliadau gyda rhai wedi eu tynnu allan a
rhai yn llithro i’r flwyddyn nesaf. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod parthed trefniadau penodi swyddogion, nododd y Rheolwr Archwilio bod
un Arweinydd Tîm wedi ei benodi ac fe gynhelir
cyfweliadau i benodi 2 Archwiliwr. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio a chymeradwyo’r addasiadau. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2017/18 PDF 421 KB Cyflwyno Cynllun
Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi manylion am gynllun drafft o waith y Gwasanaeth
Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2017/18 er sylwadaeth a chymeradwyaeth
y Pwyllgor. Nodwyd bod y cynllun drafft wedi ei baratoi yn dilyn cyfarfodydd
gyda Phenaethiaid neu dîm rheoli adrannol ac fe ystyriwyd y Gofrestr Risg
Gorfforaethol yn ogystal â chofrestrau risg pob adran. Tynnwyd sylw bod cynnydd yn y ddarpariaeth ar
gyfer gwaith dilyniant yn y cynllun drafft er mwyn sicrhau bod pob gweithrediad
cytunedig yn derbyn sylw yn hytrach na gweithrediadau cytunedig adroddiadau a
dderbyniodd farn C yn unig. Mewn ymateb i sylw gan
aelod na drosglwyddwyd archwiliadau a ganslwyd yn 2016/17 (Rheolaeth Gyllidebol
– Ysgolion Cynradd a Diogelwch Gwybodaeth mewn Ysgolion), i gynllun 2017/18,
eglurodd y Rheolwr Archwilio y darparwyd adroddiadau ar gyfer ysgolion unigol i
ddiwallu’r gofyn. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio drafft ar gyfer y cyfnod 1
Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018. |
|
Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned yn rhoi
diweddariad ar waith a raglenwyd i gynnal adolygiad
cynhwysfawr o’r Hafan yn 2017/18 yn dilyn penderfyniad
y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr 2016 i ofyn i’r Adran
Economi a Chymuned (gyda chefnogaeth yr Adran Gyllid)
gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran yr Hafan. Nodwyd bod yr
Hafan yn ased economaidd pwysig i’r ardal
a’r Cyngor gan ei fod
yn creu incwm
uwch na’r costau. Ychwanegwyd y bwriedir i’r
adolygiad ystyried ystod o wahanol strwythurau rheoli a llywodraethu er mwyn cynnal llwyddiant
yr Hafan i’r dyfodol. Nodwyd bod yr Adran wedi
adnabod y gwaith fel testun posib
i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
perthnasol, a pe dymunir, fe ellir
adrodd i’r Pwyllgor hwn ar
y darlun ehangach/cyflawn yn
dilyn cynnal asesiad manwl. Nododd
yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned ei fod yn
amserol i ystyried y trefniadau rheoli a llywodraethu o ystyried y newid mewn defnydd a thueddiadau’r farchnad, gan roi sylw
i’r effaith ar fusnesau a’r
gymuned leol. Nododd yr aelodau eu
cefnogaeth i gynnal yr adolygiad
a’r bwriad i ystyried y gwahanol
bartneriaid gan fod yr Hafan
yn rhoi Pwllheli
ar y map yn rhyngwladol o ran hwylio. Mewn ymateb i ddymuniad
rhai o’r aelodau i’r Pwyllgor
hwn dderbyn diweddariad, nododd y Prif Weithredwr bod risg o ddyblygu gwaith gan y byddai’n
debygol y cynhelir ymchwiliad craffu i edrych ar
y sefyllfa, felly fe ddylid ystyried un ai i’r drefn graffu
neu’r Pwyllgor hwn ystyried y mater. PENDERFYNWYD: (i)
nodi a derbyn
cynnwys yr adroddiad. (ii)
cefnogi bwriad
yr Adran Economi a Chymuned i adolygu trefniadau
rheoli a llywodraethu Hafan Pwllheli a’r amserlen arfaethedig
ar gyfer gwneud hynny. (iii)
bod y drefn craffu yn ystyried
y mater. |