Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams fuddiant personol, yn eitem 5.1
ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0520/44/LL),
oherwydd ei fod yn berchennog gwesty bach. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant
a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
a bu iddo bleidleisio. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Nia
Jeffreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0520/44/LL); ·
Y Cynghorydd Dafydd
Meurig, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0556/21/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019,
fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C18/0520/44/LL - Tŷ Moelwyn, Britannia Terrace, Porthmadog PDF 163 KB Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a
chodi gwesty gyda tŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa,
creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi
gwesty gyda thŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu
llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig). (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y byddai’r gwesty yn 80 ystafell wely
dros 3/4 llawr, gyda thŷ bwyta a bar ar y llawr daear ac adnoddau
cysylltiol, ynghyd â 56 llecyn parcio a storfa beics. Nododd bod y safle mewn
lleoliad amlwg ar gyrion Porthmadog, a bod yr adeilad a oedd yn y gorffennol yn
swyddfa treth, yn weladwy wrth fynd dros Y Cob i gyfeiriad Porthmadog. ‘Roedd
rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nododd bod egwyddor
y datblygiad yn dderbyniol oherwydd bod datblygu ar dir llwyd a darparu llety
wedi ei wasanaethu yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a
chenedlaethol. Amlygodd bod amrywiaeth o adeiladau yng nghyffiniau’r safle a bod
nodweddion hanesyddol i rai adeiladau. Ni ystyriwyd fod unrhyw ffurf bendant yn
bodoli o fewn yr ardal gyfagos. Eglurodd bod yr adeilad presennol yn eithaf
sylweddol ei faint gyda thri llawr iddo a tho hip llechi, nid oedd unrhyw
nodweddion pensaernïol o ddiddordeb yn perthyn iddo. Nododd bod y bwriad yn
dangos adeilad wedi ei leoli ymhellach o’r ffordd gyhoeddus gyda’r maes parcio
i’r blaen. Ymhelaethodd y byddai’r datblygiad yn ei gyfanrwydd yn creu newid
gweledol amlwg ond ni ystyriwyd y byddai’r newid yn un annerbyniol. Roedd yn
bwysig nodi bod dynodiadau tirwedd a cadwraethol yn gyfagos i’r safle, ond bod
rhaid ystyried cyd-destun y safle ar gyrion tref brysur. Ni ystyriwyd bod y
bwriad yn newid sylweddol ar y sefyllfa bresennol a’i fod yn debyg mai lleol yn
unig fyddai’r effaith mwyaf. Nododd y credir na fyddai effaith y datblygiad yn
un annerbyniol o ystyried natur yr ardal, yr adeilad presennol a natur y
datblygiad. Eglurodd bod y
safle wedi ei leoli yn agos i dai teras preswyl Tros y Bont (Britannia Terrace a Britannia Place).
Nododd nid oedd amheuaeth y byddai newid o’r hyn a oedd yn bodoli ar y safle,
ond o ystyried lleoliad, ffurf a maint yr adeilad presennol gyda’r hyn a
fwriedir, ni chredir y byddai’r newid yn un annerbyniol. Nododd mai’r
materion a oedd yn pryderu trigolion lleol y mwyaf oedd effaith y datblygiad yn
lleol oherwydd maint y bwriad a’r hyn a welir fel diffyg darpariaeth parcio o
fewn y safle. Amlygodd bod Datganiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais
yn ogystal â chynlluniau manwl yn dangos llwybrau trafnidiaeth i mewn ac allan
o’r safle. Oherwydd y pryderon a amlygwyd, cynhaliwyd asesiad trylwyr o’r
bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth a derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan yr Uned
wrthwynebiad i'r bwriad. Tynnodd sylw yn dilyn derbyn Datganiad Ieithyddol bod yr Uned Iaith wedi datgan bod y bwriad yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar y dref a’r Iaith Gymraeg. Amlygodd bod y Gwasanaeth Twristiaeth yn nodi bod darpariaeth o’r math ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C19/0556/21/LL - Fferm Talybont Uchaf, Tal y Bont, Bangor PDF 121 KB Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy
mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1). AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig
trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn
gais ôl-weithredol. Eglurodd bod y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont
Uchaf, a oedd yn cynnwys tŷ sylweddol, anecs ac
adeiladau allanol a oedd yn adeilad rhestredig (Gradd II). Nododd bod yr
adeilad mewn ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu Pentref
Lleol Llandygai fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn (CDLl). Nododd bod Polisi Strategol 13 o’r CDLl yn
anelu tuag at hwyluso twf economaidd trwy gefnogi sawl agwedd o'r economi leol
gan gynnwys cefnogi ffyniant economaidd cymunedau gwledig a hwyluso twf ar
raddfa briodol trwy ail-ddefnyddio adeiladau a oedd yn bodoli'n barod mewn
ardaloedd gwledig. Eglurodd bod y bwriad yn cwrdd â meini prawf Polisi CYF6 o’r
CDLl a oedd yn annog caniatáu ail ddefnyddio ac
addasu adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes. Tynnodd sylw mai’r ddwy prif elfen, a fyddai’n gallu effeithio ar
fwynderau cymdogion oedd materion sŵn a thrafnidiaeth. Nododd y cyflwynwyd
adroddiad sŵn gyda’r cais a bod yr adroddiad yn dod i’r casgliad nad oedd
y gweithdy’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion o safbwynt
sŵn. Eglurodd bod yr ymgeisydd yn y broses o brynu Fferm Tal y Bont Uchaf
a’r adeiladau cysylltiedig â phetai hynny’n digwydd, mater i’r perchennog
fyddai rheoli’r sŵn, fel na fyddai’n effeithio ei eiddo ei hun.
Argymhellwyd, pe caniateir y cais, y dylid cynnwys amod yn clymu’r caniatâd
cynllunio i berchennog / preswylydd Fferm Tal y Bont Uchaf yn unig. Amlygodd nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad, ond
y derbyniwyd cryn wrthwynebiad gan y gymuned leol yn honni bod y cynnydd yn y
drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol.
Nododd wrth ystyried defnydd blaenorol y safle at ddefnydd amaethyddol ‘doedd
dim i rwystro cerbydau amaethyddol / peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r
safle at y diben hwnnw. Nododd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi tynnu’n ôl eu gwrthwynebiad i’r
cais. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y busnes yn fusnes
arbenigol a oedd yn cyflogi 9 aelod o staff llawn amser; ·
Bod les safle blaenorol
y busnes wedi dod i ben, cynhaliwyd trafodaeth gyda swyddogion y Cyngor ag
eraill o ran safle amgen addas ond nid oedd un ar gael; ·
Bod y busnes wedi gorfod
ail-leoli ar fyr rybudd. Felly, yn anffodus roedd y cais yn gais ôl-weithredol; ·
Bod y teulu bellach yn
berchen y safle yn ei gyfanrwydd; ·
Bod y peiriannau’n
guddiedig a bod hyn yn bwysig gyda phroblemau lladrata yn y gorffennol; ·
Bod y safle yn gyfleus i
Porth Penrhyn ym Mangor, Y Felinheli a Marina Conwy, ac yn agos at yr A55; · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais llawn i newid defnydd adeilad o ddefnydd
D2 (canolfan cartio dan do) i ddefnydd B2 (defnydd diwydiannol cyffredinol). AELOD LLEOL: Cynghorydd Jason Parry Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i newid defnydd adeilad o ddefnydd D2 (canolfan cartio dan do) i ddefnydd B2 (defnydd diwydiannol
cyffredinol). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer dod a defnydd yr adeilad yn ôl i ddefnydd
busnes o fewn dosbarth defnydd B2, a oedd yn cyd-fynd a’i leoliad yn Ystâd
Ddiwydiannol Cibyn, mwy na’r defnydd presennol. Eglurodd bod Ystâd Ddiwydiannol Cibyn wedi ei benodi fel
Safle Strategol Isranbarthol ar gyfer defnyddiau tir o fewn dosbarthiadau
defnydd B1, B2 a B8. Roedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Amlygodd nad oedd pryderon o safbwynt mwynderau na
thrafnidiaeth. Tynnodd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, gan nodi
bod Datganiad Ieithyddol wedi ei gyflwyno a bod yr Uned Iaith yn ystyried y
byddai’r effaith yn gadarnhaol ac yn cynnig cyfleon cyflogaeth yn lleol. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol
a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y defnydd fel
canolfan cartio wedi dod i ben. Byddai’r bwriad yn
newid y defnydd busnes yn ôl i ddefnydd busnes B2 gan gydymffurfio â dynodiad
Ystâd Ddiwydiannol Cibyn fel safle wedi ei warchod ar gyfer defnydd cyflogaeth; ·
Mai’r ymgeisydd oedd Welcome Furniture, a oedd yn
cyflogi 190 o staff eisoes ar safle arall yng Nghibyn, a’r rhan fwyaf ohonynt
yn bobl leol. Byddai ehangu’r busnes yn creu hyd at 20 swydd ychwanegol; ·
Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiad i’r cais ac roedd y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd aelod y byddai’r datblygiad o les i’r ardal gyda chwmni
sefydledig yn dod a’r safle yn nôl i ddefnydd. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod os oedd y cwmni blaenorol wedi derbyn
arian cyhoeddus a’r swm, nododd yr Uwch Gyfreithiwr y byddai’n pasio’r ymholiad
i’r Adran Economi a Chymuned, er ymateb i’r aelod yn uniongyrchol. Pwysleisiodd
nad oedd hyn yn berthnasol i’r penderfyniad ar y cais hwn. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio
gyda’r cynlluniau 3. Nodyn
Dŵr Cymru Nodyn: nid yw’r caniatâd yn caniatáu unrhyw arwyddion na unedau
awyru/echdynnu. |