Agenda item

Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi gwesty gyda tŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi gwesty gyda thŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y byddai’r gwesty yn 80 ystafell wely dros 3/4 llawr, gyda thŷ bwyta a bar ar y llawr daear ac adnoddau cysylltiol, ynghyd â 56 llecyn parcio a storfa beics. Nododd bod y safle mewn lleoliad amlwg ar gyrion Porthmadog, a bod yr adeilad a oedd yn y gorffennol yn swyddfa treth, yn weladwy wrth fynd dros Y Cob i gyfeiriad Porthmadog. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nododd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol oherwydd bod datblygu ar dir llwyd a darparu llety wedi ei wasanaethu yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

Amlygodd bod amrywiaeth o adeiladau yng nghyffiniau’r safle a bod nodweddion hanesyddol i rai adeiladau. Ni ystyriwyd fod unrhyw ffurf bendant yn bodoli o fewn yr ardal gyfagos. Eglurodd bod yr adeilad presennol yn eithaf sylweddol ei faint gyda thri llawr iddo a tho hip llechi, nid oedd unrhyw nodweddion pensaernïol o ddiddordeb yn perthyn iddo. Nododd bod y bwriad yn dangos adeilad wedi ei leoli ymhellach o’r ffordd gyhoeddus gyda’r maes parcio i’r blaen. Ymhelaethodd y byddai’r datblygiad yn ei gyfanrwydd yn creu newid gweledol amlwg ond ni ystyriwyd y byddai’r newid yn un annerbyniol. Roedd yn bwysig nodi bod dynodiadau tirwedd a cadwraethol yn gyfagos i’r safle, ond bod rhaid ystyried cyd-destun y safle ar gyrion tref brysur. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn newid sylweddol ar y sefyllfa bresennol a’i fod yn debyg mai lleol yn unig fyddai’r effaith mwyaf. Nododd y credir na fyddai effaith y datblygiad yn un annerbyniol o ystyried natur yr ardal, yr adeilad presennol a natur y datblygiad.

 

Eglurodd bod y safle wedi ei leoli yn agos i dai teras preswyl Tros y Bont (Britannia Terrace a Britannia Place). Nododd nid oedd amheuaeth y byddai newid o’r hyn a oedd yn bodoli ar y safle, ond o ystyried lleoliad, ffurf a maint yr adeilad presennol gyda’r hyn a fwriedir, ni chredir y byddai’r newid yn un annerbyniol.

 

Nododd mai’r materion a oedd yn pryderu trigolion lleol y mwyaf oedd effaith y datblygiad yn lleol oherwydd maint y bwriad a’r hyn a welir fel diffyg darpariaeth parcio o fewn y safle. Amlygodd bod Datganiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn ogystal â chynlluniau manwl yn dangos llwybrau trafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Oherwydd y pryderon a amlygwyd, cynhaliwyd asesiad trylwyr o’r bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth a derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan yr Uned wrthwynebiad i'r bwriad.

 

Tynnodd sylw yn dilyn derbyn Datganiad Ieithyddol bod yr Uned Iaith wedi datgan bod y bwriad yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar y dref a’r Iaith Gymraeg. Amlygodd bod y Gwasanaeth Twristiaeth yn nodi bod darpariaeth o’r math yma o westy yn brin o ystyried y nifer o ymwelwyr i’r ardal.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeiswyr y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais wedi ei gyflwyno gan y tirfeddianwyr Mapeley Steps a Premier Inn;

·         Byddai’r bwriad yn cefnogi’r economi leol gyda buddsoddiad o oddeutu £6 miliwn a chreu hyd at 30 o swyddi yn uniongyrchol;

·         Disgwylir i ran helaeth o’r swyddi fod ar gyfer pobl leol gyda’r cyfleon cyflogaeth yn cefnogi cymunedau cynaliadwy lle gall yr Iaith Gymraeg barhau i ffynnu;

·         Bod ymchwil a thystiolaeth yn dangos bod angen sylweddol am lety wedi ei wasanaethu o safon uchel ym Mhorthmadog. Gyda dim ond un gwesty cadwyn cenedlaethol arall ym Mhorthmadog;

·         Byddai’r bwriad yn gwella proffil ymwelwyr i Borthmadog gan ddenu ymwelwyr newydd heb effeithio’n uniongyrchol ar westai eraill yn y dref, fel y gwelir o’r gwesty yn Noc Fictoria, Caernarfon;

·         Cynhaliwyd trafodaethau o ran y nifer o lecynnau parcio ac yn hyderus bod y ddarpariaeth parcio ar y safle yn ddigonol o ystyried lleoliad a hygyrchedd y datblygiad yn agos i ganol y dref a’r nifer o feysydd parcio cyhoeddus gerllaw;

·         Gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r bwriad a fyddai’n hwb enfawr i economi Porthmadog.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod rhan fwyaf o’r gymuned yn gefnogol i’r cais ac yn croesawu swyddi newydd, ystafelloedd ychwanegol a datblygiad y safle. Ond roedd nifer fechan yn nodi pryderon am y datblygiad er ddim yn gwrthwynebu’r datblygiad;

·         Mai prif bryder trigolion Britannia Terrace, Britannia Place a Surveyor’s Place oedd y ddarpariaeth parcio ar y safle oherwydd bod parcio eisoes yn broblem yn yr ardal yma o Borthmadog;

·         Bod gan drigolion oedrannus ac anabl gytundeb gyda’r cyn-berchnogion o ran parcio ar y safle a’u bod yn siomedig bod y trefniant wedi dod i ben;

·         Ei fod yn bwysig bod y cwmni yn dod i drefniant gyda’r Cyngor o ran dilysu parcio a bod arwyddion a marchnata ar y we yn annog gwesteion i barcio ym maes parcio Llyn Bach neu faes parcio Heol y Parc;

·         Annog y datblygwr i ymgynghori ymhellach gyda thrigolion lleol o ran parcio er mwyn dod i ddealltwriaeth;

·         Bod rhai trigolion yn gofyn am gyfyngu’r oriau gwaith adeiladu i rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener;

·         Dylid defnyddio adeiladwyr a gweithwyr lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a deunyddiau ac arferion a oedd yn gyfeillgar i’r amgylchedd lle bod modd;

·         Bod 87% o bobl yn ward Porthmadog yn deall neu yn medru siarad Cymraeg. Felly, roedd yn holl bwysig bod yr Iaith Gymraeg yn amlwg ym mhob agwedd o’r gwesty a bod yr Iaith Gymraeg yn iaith naturiol yn y gwesty o’r cychwyn fel yr oedd yn nhref Porthmadog;

·         Bod angen sicrhau bod ffaniau ac unedau awyru wedi eu gosod digon pell o dai cyfagos;

·         Yn gyffredinol bod cefnogaeth gref i’r datblygiad ond ei fod yn bwysig bod pryderon lleol yn cael eu hystyried;

·         Bod y datblygiad yn ddatganiad o hyder yn nhref Porthmadog;

·         Annog y cwmni i gefnogi busnesau lleol yn y dref o ran cyflenwi cynnyrch. Ei fod yn bwysig bod cwmni mawr fel hyn yn cefnogi busnesau bach a chadw’r budd yn lleol.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y cais yn cynnig cyfle ardderchog i Borthmadog yn enwedig o ran y swyddi a fyddai’r datblygiad yn eu creu;

·         Dim yn anghytuno mewn egwyddor i’r bwriad, roedd y safle yn lleoliad ardderchog a chyfleus ar gyfer gwesty ond bod angen ystyried pryderon o ran y ddarpariaeth parcio ar y safle ar gyfer gwesteion a staff. Nid oedd y gwasanaeth trenau mor aml â hynny ac fe allai’r datblygiad olygu mwy o anawsterau parcio i’r dref o ystyried y sefyllfa parcio bresennol. Efallai bod modd i un ai cynyddu’r ddarpariaeth parcio neu leihau’r nifer o ystafelloedd yn y gwesty er mwyn dod dros y broblem;

·         Byddai’r adeilad wedi ei osod yn ôl gyda dyluniad mwy meddal na’r adeilad presennol, felly byddai’n llai ymwthiol. Eisiau gweld darpariaeth gwefru ceir trydan ar y safle;

·         Bod yr adeilad presennol yn wag a bod angen y math yma o ddatblygiad ym Mhorthmadog. Pryder o ran y ddarpariaeth parcio. Gobeithio y byddai’r staff yn lleol a bod yr Iaith Gymraeg yn rhan naturiol o’r busnes gan sicrhau bod arwyddion yn ddwyieithog. Bod yr aelod lleol yn gofyn i’r ymgeiswyr brynu cynnyrch yn lleol, yn syniad da ond gwestai cenedlaethol yn dueddol o brynu mewn swmp a ni ellir rhoi pwysau arnynt i brynu’n lleol yn anffodus. Byddai’r datblygiad yn creu swyddi a oedd yn hynod o bwysig;

·         Pe caniateir y cais, a ellir gosod amod yng nghyswllt bod yr Iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y staff, yn enwedig staff y dderbynfa?

·         Dylid gofyn i’r ymgeiswyr ystyried defnyddio lliwiau Cymru ar yr arwyddion;

·         Bod mynediad i faes parcio cyhoeddus drwy gefn y safle, mai cyfnodau o 2 i 3 noson oedd ymwelwyr yn debygol o aros ac fe fyddai’r datblygiad yn fuddiol i siopau yn y dref ac yn dod a gwaith i’r ardal;

·         Cefnogol i’r cais gyda sylwadau’r asiant yn cadarnhau ymwybyddiaeth y datblygwr o bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg yn yr ardal. Bod y ddarpariaeth parcio ar y safle yn ddigonol gyda chyswllt trên ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a meysydd parcio cyhoeddus gerllaw. Bod yr amseroedd gweithio a argymhellir o dan amod 13 yn oriau rhesymol. Roedd gwir angen datblygiad o’r fath yn yr ardal.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod yr asesiad trafnidiaeth wedi dod i’r casgliad bod 56 man parcio yn ddarpariaeth ddigonol ar gyfer y safle o ystyried cynaliadwyedd y safle. Roedd y safle wedi ei leoli ar gyrion y dref, meysydd parcio cyhoeddus gerllaw, cysylltiadau cludiant trên a bws ynghyd â lôn beics tu ôl i’r safle. O ystyried mai caniatâd ar gyfer gwesty oedd dan sylw a thueddiad i westeion barcio a chadw car dros nos, y gallai’r meysydd parcio ymdopi â’r gofyn ychwanegol. Roedd dros 400 o lecynnau parcio mewn meysydd parcio cyfagos felly nid oedd y datblygiad yn debygol o greu problemau parcio ar strydoedd cyfagos;

·         Bod y dymuniad i sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn rhan naturiol o’r gwesty o’r cychwyn cyntaf yn hynod bwysig. Roedd yn anodd amodi o ran pwy a gyflogir a’u hiaith. Argymhellir gosod amod o ran sicrhau bod yr arwyddion yn ddwyieithog ac fe ellir rhoi nodyn, pe caniateir y cais, yn nodi pwysigrwydd cysylltu gyda Hunaniaith (y Fenter Iaith leol) cyn datblygu’r safle er cael mwy o ddealltwriaeth o Gymreictod yr ardal;

·         Gellir cynnal trafodaeth gyda’r ymgeiswyr o ran dyluniad arwyddion ar y safle.

         

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Holl ddeunyddiau i’w cytuno cyn eu gosod

4.     llechi naturiol

5.     Tirlunio

6.     Priffyrdd/parcio

7.     Dŵr Cymru

8.     Bioamrywiaeth

9.     Gwarchod llwybr cerdded/beicio

10.  Archaeoleg

11.  Cyfoeth Naturiol Cymru

12.  Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu

13.   Datganiad Dull Adeiladu/amser gweithio

14.   Arwyddion dwyieithog

15.   Cytuno manylion cyfyngu ffenestri i agor/gwydr afloyw

16.   Cynllun goleuo

17.   Cadw ardal cadw biniau/gwasanaethau yn glir

18.   Triniaethau ffin (yn enwedig o ystyried yr adeiladau rhestredig) y safle ar gyrion tref

19.   Cytuno ar fath/ffurf a lleoliad y paneli solar cyn eu gosod

20.   Nodyn draenio cynaliadwy.

 

Nodyn:   Pwysigrwydd cysylltu gyda Hunaniaith (y Fenter Iaith leol) cyn datblygu’r safle er cael mwy o ddealltwriaeth o Gymreictod yr ardal.

Dogfennau ategol: