Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr June
Marshall, Tudor Owen, Gruffydd Williams,
Aled Evans (Aelod Lleol), Sian Wyn Hughes (Eilydd) a’r Cynghorydd Gwen
Griffith (ar gyfer yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd cyn y prif gyfarfod). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorwyr Stephen
Churchman, Anne Lloyd-Jones, Michael Sol Owen a John Wyn Williams yn eitemau
5.1 a 5.3 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1021/08/LL; C16/0773/14/AM) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Dyfrig Wynn
Jones yn eitemau 5.4 a 5.5 (ceisiadau cynllunio rhifau C16/090/33/LL;
C16/1239/41/LL) oherwydd bod teulu ei wraig yn cadw maes carafanau yn Pen
Llŷn Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b)
Datganodd yr
aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gareth
Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen (cais cynllunio rhif C16/1021/08/LL); ·
Y Cynghorydd Endaf Cooke
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif
C16/0773/14/AM); ·
Y Cynghorydd Eric M.
Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif
C16/1353/17/HT); ·
Y Cynghorydd John Wyn
Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1367/25/LL); Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim
materion brys i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2016, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28
Tachwedd 2016 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif: C16/1021/08/LL - Meusydd Llydain, Bryniau Hendre, Penrhyndeudraeth PDF 445 KB Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 ty farchnad
agored a 6 ty fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio,
gwaith tir a creu mynedfeydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Oherwydd bod y Cadeirydd yn datgan diddordeb yn y cais hwn
bu i’r Cynghorydd Elwyn
Edwards, Is-gadeirydd y Pwyllgor,
gymryd y gadair. Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 tŷ sy'n
cynnwys 3 tŷ farchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith
draenio, gwaith tir a chreu mynedfeydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohirwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar
28 Tachwedd 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn gwybodaeth bellach ynglyn gosodiad y tai a’r math yma o dai sydd eu hangen yn
yr ardal. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi
ymweld â’r safle cyn y prif gyfarfod. ‘Roedd y cais ar
gyfer codi 9 tŷ newydd sydd yn cynnwys
3 tŷ marchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ynghyd â gwaith draenio, gwaith tirlunio a chreu mynedfeydd. Tynnwyd sylw bod y cais wedi ei ddiwygio
o’r cais gwreiddiol drwy ail-gynllunio trefniant mynedfeydd i’r 3 tŷ marchnad agored. Fe wnaed y newidiadau i’r mynedfeydd o ganlyniad i drafodaethau gyda’r Uned Trafnidaeth sydd wedi awgrymu
y dylid creu mwy o le parcio a throi o fewn safleoedd
y tai. Byddai peth gwaith lledu yn
cael ei gynnal
ar hyd y ffordd ddi-ddosbarth gyfagos er mwyn
hwyluso symudiadau cerbydol ar hyd
y ffordd yma tra bydd palmant
newydd yn cael ei ddarparu
ar hyd blaen
y tai marchnad agored. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus a oedd wedi eu nodi
yn yr adroddiad,
a hefyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol. Cadarnhawyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol
ar y safle ac nid oedd gan
swyddogion wrthwynebiad o safbwynt effaith ar fwynderau gweledol
na phreswyl. O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau a phryderon wedi eu derbyn
oedd yn ymwneud
a’r ffordd cyfagos ag effaith y datblygiad ar ddiogelwch
y ffordd a symudiadau ar ei hyd. Cydnabyddwyd bod y ffordd yn gul
ond rhaid cofio bod gwelliannau yn cael eu
cynnig fel rhan o’r cais
ac hefyd fod rhan o’r safle
wedi ei ddefnyddio
yn y gorffennol fel gwaith argraffu
masnachol a’r tebygolrwydd y byddai gwaith cyffelyb yn gallu ail-dechrau
ar y safle heb yr angen
am ganiatad cynllunio, ac o
bosib hefo llawer mwy o drafnidiaeth
yn mynd a dod o’r safle. Nid oedd gan
swyddogion wrthwynebiad o safbwynt bioamrywiaeth na choed. O safbwynt materion tai fforddiadwy nodwyd bod y datblygiad yn ei gyfanrwydd yn dangos fod dapariaeth fforddiadwy yn cael ei gynnig fel rhan o’r cais sef 6 uned fforddiadwy o’r 9 tŷ a gynigir. O’r ymateb a dderbyniwyd gan Uned Strategol Tai nodwyd bod angen cydnabyddedig am yr unedau fforddiadwy. Gohirwyd y cais yn flaenorol i dderbyn mwy o wybodaeth am drefniant gosodiad tai Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd yn bwriadu cymryd drosodd y 6 tŷ fforddiadwy pe caniateir y cais hwn. Derbyniwyd ymateb gan CCG yn datgan bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif: C16/0677/11/LL - 146-152 Stryd Fawr, Bangor PDF 283 KB Codi adeilad 4 llawr i ddarparu 2 siop a 15 uned byw i
fyfyrwyr AELOD LLEOL: Cynghorydd
David Gwynfor Edwards Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
adeilad 4 llawr i ddarparu 2 siop a 15 uned byw i fyfyrwyr. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle yn ffurfio
rhan o gwrtil tŷ tafarn Varsity ac sydd yn cael
ei ddefnyddio ar hyn o bryd
fel gardd gwrw. Roedd wedi ei
leoli ar ran o’r Stryd Fawr
ym Mangor, rhwng tŷ tafarn
a neuadd snwcer. Cyfeirwyd at y polisiau
perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Nodwyd bod y safle
o fewn ffin ddatblygu’r Ddinas ac yn safle eithaf
amlwg ar y stryd fawr. Cydnabyddir
bod rhai yn pryderu am y nifer o lety preifat sydd
wedi eu hadeiladu
yn bwrpasol yn ardal Bangor a bod awgrym bod nifer o ystafelloedd sydd ar gael yn
wag. Ond o edrych ar y ffigyrau
sydd ar gael
ymddengys mai canran weddol isel
o’r ddarpariaeth sydd ar gael
sydd yn cael
ei ddiwallu i’r math yma o unedau ar hyn
o bryd. Ni ystyrir y byddai’n rhesymol i wrthod y bwriad ar sail diffyg angen am y math yma o lety. Tynnwyd sylw
bod y bwriad yn ymwneud a darparu 2 uned fasnachol ar lawr gwaelod
yr adeilad a’u mhaint yn
eithaf bychan. Byddai’r datblygiad yn ymddangos
yn naturiol o ran ei leoliad ar
y stryd fawr. Ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol
yn ei gyfanrwydd
ac yn ategu patrwm y strydlun mewn modd derbyniol.
Derbynbiwyd sawl
gwrthwynebiad i’r bwriad yn wreiddiol
ar sail yr uned ddeulawr i gefn y safle ond
bellach roedd yr adeilad hwn wedi
ei dynnu allan o’r cais. Ystyriwyd bod y cynlluniau diwygiedig wedi ymateb i’r
gwrthwynebiadau mewn modd boddhaol trwy
sicrhau digon o bellter rhwng cefn
tai Lon Pobty a’r datblygiad newydd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn cael
effaith negyddol o safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl oherwydd natur defnydd presennol y safle a’r ardal
o’i amgylch. Yn dilyn
rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys y llythyrau
o wrthwynebiadau a’r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisiau a chanllawiau lleol a chenedlaethol. (b) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. (c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
y cais yn gwbl addas
ar gyfer y safle ac nad oedd
unrhyw sail cynllunio i’w wrthod ·
Anfodlonrwydd o eiriad yr Uned Polisi
ar y Cyd ym mharagraff 5.18 sef “bod canran gymharol isel o siaradwyr Cymraeg ym Mangor ….” Teimlwyd bod y geiriad yn rhoi
camargraff o Fangor ac er bod y ganran yn isel o’i
gymharu â gweddill Gwynedd roedd y nifer o siaradwyr Cymraeg yn weddol uchel
o’i gymharu â gweddill Cymru · Er mai cais am unedau manwerthu sydd wedi ei gyflwyno pryderwyd y byddai’r unedau yn cael defnydd fel swyddfeydd ar gyfer y busnes lletya fel sydd wedi digwydd gyda sawl cais cyffelyb yn y gorffennol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif: C16/0773/14/AM - Cyn safle Ysgol yr Hendre, Ffordd Eryri, Caernarfon PDF 362 KB Datblygiad preswyl i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai
fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd, uwchraddio’r fynedfa bresennol,
darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a tirlunio. AELODAU LLEOL: Cynghorydd
Endaf Cooke Cynghorydd
W. Roy Owen Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Oherwydd bod y Cadeirydd yn datgan diddordeb yn y cais hwn
bu i’r Cynghorydd Elwyn
Edwards, is-gadeirdd y Pwyllgor, gymryd y gadair. Datblygiad preswyl
i fyny i 45 o dai (gan gynnwys tai fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa newydd,
uwchraddio’r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio (a)
Adroddodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth
Datblygu bod yr Adran wedi derbyn sylwadau hwyr oddi wrth
Dŵr Cymru a olygai y byddent yn ymgymryd â gwelliannau
i’r gwaith trin dŵr i greu capasiti ychwanegol
er mwyn ymdopi
a’r dŵr aflan fydd yn
deillio o safle’r cais. O ganlyniad felly, gofynnwyd i’r Pwyllgor
am ohiriad tan fis Ionawr er mwyn
diwygio cynnwys yr adroddiad. Penderfynwyd: Gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif: C16/1090/33/LL - Plas yng Ngheidio, Boduan PDF 264 KB Cynyddu nifer o unedau teithiol o'r 11 ganiatawyd i 19 (8
ychwanegol) a chodi adeilad golchi. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Anwen J. Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynyddu nifer o unedau
teithiol o'r 11 ganiatawyd i 19 (8 ychwanegol) a chodi adeilad golchi (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad ar gyfer cynyddu
niferoedd carafanau teithiol o 11 i 19 sef 8 yn ychwanegol ar faes carafanau
presennol yngyd ag adeiladu adeilad golchi, ardal
chwarae newydd a ffensio rhan o’r cae. Atgoffwyd y Pwyllgor
y bu iddynt ymweld a’r safle
yn 2015. Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol ynghyd a’r ymatebion
i’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned
Drafnidiaeth na’r Uned Bioamrywiaeth. Derbyniwyd un llythyr o wrthwynebiad ar sail cyflenwad dŵr gan fod eiddo’r
cais ag eiddo’r gwrthwynebydd yn rhannu un bibell ddŵr. Erbyn hyn deallir
bod Dŵr Cymru yn datgan nad
oes gwrthwynebiad bellach yn ddarostyngedig
i gynlluniau sydd ar y gweill i ddatrys
y broblem drwy gyflenwi dŵr o gyfeiriad arall. Nodwyd y byddai’n briodol rhoi amod
ychwanegol ynglŷn â chyflenwad dŵr a fyddai’n datgan bod y mater wedi ei ddatrys i foddhad
yr Adran Gynllunio cyn i’r
unedau newydd fynd ar y safle.
I gloi,
nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac nad oedd unrhyw
wrthwynebiad arall yn datgan i’r
gwrthwyneb ac argymhellwyd i’w ganiatau yn
ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd: Caniatau yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau. 3. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw
un adeg i’w cyfyngu i 19 carafán deithiol a 2 ‘pod’. 4. Cyfyngu i dymor
gwyliau 5. Unedau gwyliau yn
unig a chadw cofrestr 6. Dim
storio carafanau ar y tir. 7. Tirlunio 8. Cynnal a chadw’r
tirlunio tra bydd y defnydd carafanau yn bodoli 9. Waliau allanol yr
adeilad golchi i gydweddu. 10. To'r
adeilad golchi i gydweddu. 11. Angen
cysylltu i’r brif bibell ddŵr cyn i’r datblygiad a ganiateir drwy hyn gael
ei ddefnyddio am y tro cyntaf 12. bod
y broblem o gyflenwad dŵr i’w ddatrys i foddhad yr Adran Gynllunio cyn i’r unedau fynd ar y safle |
|
Cais Rhif: C16/1239/41/LL - Swn y Don, Afonwen, Chwilog, Pwllheli PDF 253 KB Diwygiad i gais a wrthodwyd o dan C16/0407/41/LL ar gyfer
creu safle carafanau teithiol newydd 17 uned, ail leoli 2 uned statig
bresennol, codi bloc toiledau a gosod tanc septic a
darparu llecynnau pasio. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygiad i gais a wrthodwyd o dan C16/0470/41/LL ar gyfer creu safle
carafanau teithiol newydd 17 uned, codi bloc toiledau a gosod tanc septig
a darparu llecynnau pasio (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod yn
gais diwygieidig ar gyfer maes
carafanau i 17 carafan deithiol a chodi adeilad unllawr i gynnwys toiledau/adnoddau ymolchi, symud dwy garafan
statig o’u lleoliad presennol i leoliad newydd, a thri llecyn pasio
o fewn ymylon y ffordd sy’n arwain
at y safle. Cyfeiriwyd at y polisiau
perthnasol ynghyd a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau
cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
O safbwynt
mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd nad oedd y safle
o fewn unrhyw ddynodiad tirlun ffurifol, er bod y safle o fewn lleoliad
gweddol agored ac yn agos i’r
arfordir. Ni chredir y byddai unrhyw effaith andwyol ar fwynderau
cyffredinol na phreswyl yr ardal
ac felly ni fyddai’n annerbyniol o safbwynt gofynion perthnasol polisi B23. Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod y ffordd ddi-ddosbarth is-safonol gul yn
arwain oddi ar y briffodd gyfagos
ac roedd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais blaenorol oherwydd pryder am safon a chulni’r ffordd fynediad oddi ar y briffordd. Bellach, nodwyd bod y cais yn dangos bwriad
i ddarparu mannau pasio yn wasgaredig
ar hyd y ffordd ac felly roedd y cais yn dderbyniol
gan yr Uned
Trafnidiaeth yn ddibynnol ar gytundeb
rhwng yr Uned a’r ymgeisydd
i gynnal y gwaith cyn cychwyn unrhyw
ddatblygiad. Ar ôl
ystyried yr holl faterion cynllunio
perthnasol, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol
yn seiliedig ar faterion
a nodir yn yr adroddiad a chydymffurfiaeth â gofynion y polisiau perthnasol. Argymhellwyd i ganiatau’r cais. (b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad, gofynnodd yr ymgeisydd i’r
Pwyllgor gefnogi ei gais er
mwyn cynnal y teulu ac i’w cadw
yn lleol i’r dyfodol. Roedd hybu’r iaith Gymraeg
yn bwysig iddynt fel teulu
a sicrhawyd bod yr arwyddion ar y safle yn ddwyieithog. (c) Cynigiwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. Penderfynwyd: Caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau 4. Tirlunio 5. Priffyrdd 6. Rheoli defnydd y safle fel maes
teithiol/gosodiad/tymor/dim storio |
|
Cais Rhif: C16/1240/41/LL - Safle Hen Gapel Moriah, Llanystumdwy PDF 256 KB Cais i godi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi
modurdy gydag ystafell chwaraeon uwchben. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i godi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi
modurdy gydag ystafell chwaraeon uwchben (a) Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn
ymwneud a chodi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi modurdy ar wahân
gydag ystafell chwaraeon uwchben o fewn y cwrtil. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli mewn Ardal
Gadwraeth ynghanol pentref Llanystumdwy ger yr Afon Dwyfor ac i’r dwyrain ohono
mae pont rhestredig Gradd II. Tynnwyd
sylw bod yr holl bolisïau ynghyd ag ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus wedi
eu nodi yn yr adroddiad. O safbwynt dyluniadau, nodwyd bod yr eiddo presennol
yn adeilad trawiadol gyda codiad y to yn eithaf serth. Roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod codiad to y modurdy yn gweddu gyda’r eiddo
presennol ynghyd a’r deunyddiau allanol.
O safbwynt mwynderau gweledol, er bod y modurdy yn sylweddol o ran maint
ac uchder, ni fyddai’n ymddangos yn ormesol o’i gymharu â’r
eiddo preswyl presennol. Ystyriwyd y byddai newid maint a dyluniad y modurdy
fel ei fod yn llai gyda pits to gwahanol yn achosi
mwy o effaith weledol gan y byddai yn gwrthdaro yn erbyn dyluniad penodol yr
eiddo presennol. Ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn debygol o gael effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau’r ardal
leol. Tynnwyd sylw bod y safle mewn parth
llifogydd ond bod posib rheoli’r risg o lifogydd mewn modd derbyniol. Eglurwyd ymhellach bod y datblygiad islaw lefel y ffordd
ac yn ddigon pell oddi wrth
unedau preswyl cyfagos ac felly ni ystyrir y byddai’n effeithio arnynt. Derbyniwyd a thynnwyd sylw at bryderon a gwrthwynebiadau a nodwyd yn y ffurflen
sylwadau hwyr a oedd yn bennaf
yn ymwneud ag uchder a maint y modurdy, effaith ar y bont rhestredig
Gradd II, effaith ar ddiogelwch ffyrdd
o’r fynedfa o’r briffordd ac i lawr y trac mynediad.
Sicrhawyd bod yr holl faterion uchod
wedi derbyn ystyriaeth ac asesiad gofalus ynghyd a chadarnhad gan swyddogion yr Uned
Trafnidiaeth nad oedd ganddynt wrthwynebiad
o ran diogelwch ffyrdd a’i fod yn
cydymffurfio â’r polisiau priodol. Yn ychwanegol, nid oedd gan y Swyddog
Cadwraeth unrhyw wrthwynebiad. Ystyriwyd felly bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â’r holl bolisiau perthnasol
ac argymhelliad y swyddogion
Cynllunio ydoedd caniatau yn ddarostyngedig i’r saith amod
a nodwyd yn yr adroddiad. (b) Nododd y gwrthwynebydd, oherwydd bod trefn y rhaglen wedi ei
ddiwygio, nad oedd wedi cael
amser i ddarparu ei sylwadau oherwydd
nad oedd wedi derbyn y wybodaeth
gyflawn tan fore’r cyfarfod. Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch
Gyfreithiwr bod disgwyl i siaradwyr fod yn
barod i gyflwyno pan oedd y cyfarfod yn cychywn a nad
oedd yn bosibl
gohirio’r drafodaeth gan fod y cais wedi
agor a’i gyflwyno. Felly,
yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd y gwrthwynebydd ei fod dan anfantais
oherwydd hyn ac thrwy’r holl broses gan nad oedd
ganddo’r wybodaeth gyflawn ac fe amlygodd
y prif bwyntiau canlynol: · Bod yna ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif: C16/1306/11/LL - 205-207 Stryd Fawr, Bangor PDF 232 KB Newid defnydd swyddfeydd ar y lloriau cyntaf, ail a trydydd
er mwyn darparu 7 uned byw. AELOD LLEOL: Cynghorydd
David Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd swyddfeydd ar y lloriau cyntaf,
ail a trydydd er mwyn darparu 7 uned byw. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i newid defnydd swyddfeydd sydd wedi eu lleoli
ar y lloriau cyntaf, ail a thrydydd er mwyn creu
saith fflat hunangynhaliol ynghyd a chreu siop ar
y llawrg waelod. Saif yr adeilad ar
ddiwedd teras sy’n ffurfio rhan
o’r Stryd Fawr ym Mangor,
gyda’r edrychiad ochr yn wynebu
llecyn eistedd o flaen y Gadeirlan. Nodwyd bod yr adeilad yn
nodweddiadol oherwydd ei leoliad a’i
ffurf “ar gornel”. Cyfeiriwyd at y polisiau
cynllunio perthnasol ynghyd a’r ymatebion
i’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Esboniwyd mai’r
bwriad ydoedd creu unedau byw
ond nid unedau
ar gyfer myfyrwyr a chyfeiriwyd at y polisi C15 sy’n caniatau ceisiadau ar gyfer trosi
lloriau uwchben siopau ac unedau masnachol yn fflatiau. Ni ystyrir y byddai’r newidiadau allanol yn niwediol
i’r adeilad presennol na gosodiad
yr ardal gadwraeth nac ychwaith
yr adeiladau rhestredig cyfagos. Ystyriwyd byddai sicrhau defnydd newydd i’r adeilad yn
gallu cyfrannu mewn modd positif
i edrychiad a chymeriad yr adeilad a’r
ardal o’i gwmpas. Yn dilyn
rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio perthnasol a’r sylwadau a dderbyniwyd, argymhelliwyd i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir
yn yr adroddiad. (b) Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad: ·
Croesawir y cais yn
wyneb y ffaith bod yr hen adeilad wedi dirywio a’i fod yn rhan bwysig o’r
strydlun ·
Croesawu’r bwriad o
unedau o’r fath ar gyfer pobl Bangor (c) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais. Penderfynwyd: Caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. Amser 2.
Yn unol â’r cynlluniau 3. Deunyddiau |
|
Cais Rhif: C16/1353/17/HT - Tir Masnachwyr Glo MGW, Iard Llifon, Groeslon, Caernarfon PDF 229 KB Gosod twr 18m 'lattice' gyda 3 antenna, 1 lloeren cyfathrebu ar ei ben, a 2 gabinet offer,
1 cabinet mesur a datblygiad cysylltiol sy'n cynnwys ffens 2.1m o uchder. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Eric M. Jones Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod twr 18m “lattice” gyda 3 antenna, 1 lloeren cyfathrebu ar ei ben, a 2 gabinet offer,
1 cabinet mesur a datblygiad cysylltiol sy’n cynnwys ffens 2.1m o uchder. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi bod y safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Groeslon, oddi mewn i safle
sydd wedi ei sefydlu fel iard lo/adeiladu ers nifer o flynyddoedd. Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol
ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad, a’r
sylwadau hwyr a nodwyd ar y ffurflen sylwadau ychwanaegol
Ystyriwyd bod egwyddor y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol gan ei fod
yn gwneud defnydd da o ran o safle sydd eisoes wedi ei ddatblygu a’i fod trwy
hynny yn cydymffurfio a gofynion cyffredinol polisi C3. Tynnwyd sylw at polisi CH20 ynghyd a’r 4 maen prawf pendol
ynghlwm i’r polisi gan nodi bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a’r
gofynion. O safbwynt mwynderau gweledol nodwyd y byddai’n anorfod y
byddai’r strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr
angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol o safbwynt
sŵn a chredwyd bod y safle, i ffwrdd o dai preswyl ac o fewn safle sydd
eisoes wedi ei ddablygu, yn lleoliad addas ar gyfer y
math yma o ddatblygiad. Argymhelliwyd i’w ganiatau gydag
amodau perthnasol. (b) Nododd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
gefnogaeth i’r bwriad ac roedd o’r farn bod y
lleoliad yn addas. Nodwyd ymhellach bod
y Cyngor Cymuned yn gefnogol. (c) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais. (ch) Mewn ymateb i
ymholiad gan Aelod, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai diben y mast ydoedd ar gyfer
ffônau symudol, gwasanaethau brys ac i gyflenwi unrhyw fylchau
ar gyfer y rhwydwaith cyfathrebu. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau 3.
Tynnu’r mast a’r offer cysylltiol ac adfer y
tir os ydi’r defnydd yn dod i ben. 4. Amod lliw y mast a’r
antena/lloeren 5. Amod lliw y cabinet a’r ffens |
|
Cais Rhif: C16/1367/25/LL - Ty Woodlands, Parc Menai, Bangor PDF 257 KB Codi estyniad 4 llawr ochr, estyniad cefn a ochr i'r is-lawr
a creu maes parcio newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
John Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad 4
llawr ochr, estyniad cefn a ochr i’r is-lawr a creu maes parcio newydd. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad ar gyfer ymestyn yr adeilad
presennol er mwyn darparu warws, ehangu’r swyddfeydd presennol, creu
cyfleusterau cyfarfodydd ac ystafell cyfarpar er mwyn i’r busnes presennol
ehangu ar y safle yn hytrach na ail leoli.
Nodwyd bod safle’r cais wedi ei ddynodi o fewn Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) fel Safle Cyflogaeth i’w Warchod ac o fewn Ardal Gwarchod y
Dirwedd a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig. Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol
ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynhgoriadau cyhoeddus. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor yn ddarostyngedig i gydymffurfio
â pholisiau perthnasol. Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli ar dir sydd ar lefel is na’r
masnachwr adeiladu cyfagos, y lonydd stad a safle’r Bookpeople
gerllaw. Roedd yr estyniad ochr ogleddol
a’r estyniad cefn yn adlewyrchiad o’r adeilad presennol. Er hynny, tynnwyd sylw
y byddai’r estyniad ochr ddeheuol o ddyluniad modern gyda defnydd o wydr, to
fflat ac ystafell cyfarpar fychan ar ei ben. Cyflwynwyd cynllun tirweddu ac ail blannu gyda’r cais er mwyn lleihau
effaith y bwriad ac i liniaru’r golled o goed.
Roedd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau na fydd yr estyniad newydd na’r
adeilad presennol yn cael ad-drawiad annerbyniol ar y tirlun lleol nac ar edrychiad
y parc busnes. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, lleolir yr annedd breswyl agosaf
oddeutu 100m i’r dwyrain gyda choedlan ac adeilad masnachwr adeiladu wedi eu
lleoli rhyngddynt. Credwyd na fyddai’r bwriad yn creu cynnydd sylweddol mewn
trafnidiaeth / symudiadau i mewn ac allan o’r safle a fyddai’n achosi effaith
andwyol ar fwynderau preswyl yr eiddo. Roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod y
bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion polisiau perthnasol
ac argymhellwyd i’w ganiatau yn ddarostyngedig i
amodau perthnasol. (b) Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
gefnogaeth i’r cais yn benodol oherwydd pwysigrwydd ar gyfer creu gwaith yn
lleol. (c) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais. Penderfynwyd: Caniatau’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol: 1. Amser 2.
Yn unol â’r amodau. 3. Deunyddiau 4. Amodau Bioamrywiaeth
- cwblhau'r gwaith yn unol â’r adroddiad ecolegol, adroddiad coed
a’r cynllun plannu coed. 5. Cwblhau'r maes parcio newydd cyn
defnyddio’r estyniad. |