Agenda item

Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 ty farchnad agored a 6 ty fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio, gwaith tir a creu mynedfeydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Oherwydd bod y Cadeirydd yn datgan diddordeb yn y cais hwn bu i’r Cynghorydd Elwyn Edwards, Is-gadeirydd y Pwyllgor, gymryd y gadair. 

 

Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ farchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio, gwaith tir a chreu mynedfeydd.

 

(a)  Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohirwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn gwybodaeth bellach ynglyn gosodiad y tai a’r math yma o dai sydd eu hangen yn yr ardal.  ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y prif gyfarfod.

 

Roedd y cais ar gyfer codi 9 newydd sydd yn cynnwys 3 marchnad agored a 6 fforddiadwy ynghyd â gwaith draenio, gwaith tirlunio a chreu mynedfeydd.  Tynnwyd sylw bod y cais wedi ei ddiwygio o’r cais gwreiddiol drwy ail-gynllunio trefniant mynedfeydd i’r 3 marchnad agored. Fe wnaed y newidiadau i’r mynedfeydd o ganlyniad i drafodaethau gyda’r Uned Trafnidaeth sydd wedi awgrymu y dylid creu mwy o le parcio a throi o fewn safleoedd y tai. Byddai peth gwaith lledu yn cael ei gynnal ar hyd y ffordd ddi-ddosbarth gyfagos er mwyn hwyluso symudiadau cerbydol ar hyd y ffordd yma tra bydd palmant newydd yn cael ei ddarparu ar hyd blaen y tai marchnad agored. 

 

Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad, a hefyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol.

 

Cadarnhawyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol ar y safle ac nid oedd gan swyddogion wrthwynebiad o safbwynt effaith ar fwynderau gweledol na phreswyl.  O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad,  derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau a phryderon wedi eu derbyn oedd yn ymwneud a’r ffordd cyfagos ag effaith y datblygiad ar ddiogelwch y ffordd a symudiadau ar ei hyd.  Cydnabyddwyd bod y ffordd yn gul ond rhaid cofio bod gwelliannau yn cael eu cynnig fel rhan o’r cais ac hefyd fod rhan o’r safle wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol fel gwaith argraffu masnachol a’r tebygolrwydd y byddai gwaith cyffelyb yn gallu ail-dechrau ar y safle heb yr angen am ganiatad cynllunio, ac o bosib hefo llawer mwy o drafnidiaeth yn mynd a dod o’r safle.  

 

Nid oedd gan swyddogion wrthwynebiad o safbwynt bioamrywiaeth na choed.

 

O safbwynt materion tai fforddiadwy nodwyd bod y datblygiad yn ei gyfanrwydd yn dangos fod dapariaeth fforddiadwy yn cael ei gynnig fel rhan o’r cais sef 6 uned fforddiadwy o’r 9 a gynigir.  O’r ymateb a dderbyniwyd gan Uned Strategol Tai nodwyd bod angen cydnabyddedig am yr unedau fforddiadwy.  Gohirwyd y cais yn flaenorol i dderbyn mwy o wybodaeth am drefniant gosodiad tai Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd yn bwriadu cymryd drosodd y 6 fforddiadwy pe caniateir y cais hwn.  Derbyniwyd ymateb gan CCG yn datgan bod y polisi gosod yn unol a pholisi tai gosod cyffredin Cyngor Gwynedd.

 

O ran y galw presennol, cyfeiriwyd at y canfyddiadau ym mharagraff 5.24 o’r adroddiad sy’n amlinellu tarddiad yr ymgeiswyr. 

 

Bydd angen sicrhau bod y tai marchnad agored a’r tai fforddiadwy yn cael eu datblygu ar y cyd ac nad oedd posibilrwydd mai dim ond y tai marchnad agored fydd yn cael eu datblygu. Cadarnhawyd bod CCG yn bwriadu bod yn bartneriaid yn y cynllun ac fel sy’n arferol yn y math hwn o ddatblygiad fe lunir cytundeb 106 i sicrhau bod y tai yn cael eu trosglwyddo i CCG fydd yn sicrhau bod yr unedau ar gael i ddiwallu angen lleol. Golygai’r bwriad bod cymysgedd da o dai sydd yn eithaf anghyffredin o weld tai marchnad agored a tai fforddiadwy yn dod yn rhan o’r un cynllun a bod hyn i’w groesawu.

 

Ystyrir bod y bwriad yn ei gyfanrwydd yn dderbyniol ac y byddai’n ddatblygiad sy’n ymateb i angen cydnabyddedig i unedau arfaethedig ar y safle hwn.  Credir bod y materion amlygwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol wedi eu profi i raddau derbyniol ac yn bodloni gofynion y polisiau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.  O ystyried yr holl faterion perthnasol amlygwyd yn yr adroddiad, argymhellwyd  i ddirprwyo’r hawl i’r swyddogion Cynllunio ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 perthnasol ac i’r amodau cynllunio perthnasol.         

 

(b)  Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) bod ganddo bryderon ynglŷn â’r cais hwn fel a ganlyn:

 

·         Bod yr ardal wedi gweld cryn ddatblygiadau diweddar o stadau ynghyd a datblygiadau o dai unigol

·         Prif wrthwynebiad ydoedd pryder ynglŷn â cheir yn gorfod bacio allan o’r tai marchnad agored i ffordd sy’n eithriadol o brysur

·         pryder am fynediad i’r tir amaethyddol ac y byddir wedi croesawu gweld cynlluniau yn ogystal

·         O’r 3 marchnad agored, bod un ohonynt yn  rhannol tu allan i’r ffin ddatblygu

·         Yn dilyn cryn drafodaethau yn ymwneud â’r Cynllun Datblygu Unedol bod 190 o dai ychwanegol i’w datblygu yn ardal Penrhyndeudraeth ac nad yw’r safle wedi ei ddynodi yn y Cynllun

·         Tra’n derbyn bod angen tai fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth ni dderbynnir bod  angen am dai ychwanegol

·         Bod dwyster y nifer tai yn ormod i’r safle bach hwn

 

(c)  Mewn ymateb i’r pryder ynglyn â diogelwch y ffordd, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod y gofod parcio i’r tai marchnad agored yn eithaf sylweddol a bod lle i droi a bacio o fewn y cwrtil.  Yn anffodus ei fod yn dangos ar y cynllun bod y ceir yn wynebu ymlaen sydd yn rhoi argraff nad oedd modd troi ar y safle. Nodwyd ymhellach bod modd darparu lle ar y cwrtil ac y byddai hyn yn goresgyn unrhyw bryderon diogelwch ffyrdd.  

 

 

(ch) Cynigiwyd ac eilwyd i wrthod y cais oherwydd pryder am ddiogelwch y ffordd trwy i’r ceir fod yn gorfod bacio dros palmant ac allan i’r ffordd cyfagos.

 

(d)           Ymatebodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio a’r Uwch Gyfreithiwr  i ymholiadau Aelodau fel a ganlyn:

 

·         O safbwynt gwahaniaeth maint rhwng y tai marchnad agored a’r tai fforddiadwy, cadarnhawyd bod raid i dai fforddiadwy fod o faint penodol yn unol a chanllaw atodol y Cyngor ac yn y cyswllt hwn bod y cymysgedd o dai yn adlewyrchu’r angen

·         Ynglyn a bwriadau’r Gymdeithas Tai o’r tai fforddiadwy, eglurwyd bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn rhan o bartneriaeth y cynllun ac oherwydd nad ydynt yn berchen y tir rhaid sicrhau cytundeb 106 i sicrhau bod y tirfeddiannwr yn trosglwyddo’r tai i CCG

·         Yng nghyd-destun hawl i ddiddymu cytundeb 106 ymhen 5 mlynedd, yn dechnegol fe fyddai modd i CCG ddiddymu’r cytundeb ond ni welwyd hyn yn digwydd yn y gorffennol.  Derbyniwyd eglurhad ynglyn a phwrpas Cymdeithas Tai sef i ddarparu tai a bod ganddynt reolau statudol i’w dilyn.  O safbwynt y polisi gosod nodwyd mai Cyngor Gwynedd sydd yn yn dal y rhestr aros am dai.

·         Nad oedd y cais yn or-ddatblygiad ac yn sgil diwygio’r cynllun gwreiddiol o 14 i 9 roedd dwysedd y safle yn dderbyniol ac yn diwallu’r angen am dai fforddiadwy

·         Yng nghyd-destun y sydd tu allan i’r ffin ddatblygu, bod mwyafrif ohono tu fewn i’r ffin ac roedd y cais gerbron yn galluogi gosodiad gwell o fewn y safle

 

(dd)  Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad i’w ganiatau:

 

·         Tra’n deall bod elfen o bryder ynglyn â diogelwch ffordd, teimlwyd bod y mater wedi cael ei gyfarch ac nad oedd modd gwrthod cais yn seiliedig ar fethiant cerbyd i facio i’r ffordd.

·         Bod argyfwng am dai yng Ngwynedd ac roedd y cynllun gerbron yn cyfarch yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy

·         Bod oddeutu 2,000 unigolyn yn disgwyl am cymdeithasol ac y byddai cynllun o’r fath yn cael ei groesawu mewn sawl cymuned yng Ngwynedd

 

(e) Pleidleiswyd i wrthod y cais ond fe syrthiodd y cynnig hwn.

 

(f) Pleidleiswyd i roi hawl i’r swyddogion Cynllunio ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllun i sicrhau bod gofod digonol o flaen y tai marchnad agored i fedru parcio a throi cerbydau o fewn y safle heb orfod bagio i’r briffordd, ac fe gariwyd y cynnig hwn.

 

            Penderfynwyd:   Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd:

 

(a)  ddiwygio’r cynllun er sicrhau gofod digonol o flaen y tai marchnad agored i gerbydau fedru parcio a throi o fewn y safle;

 

(b) gwblhau cytundeb 106 er mwyn sicrhau fod y tai sydd i’w codi tu allan i’r ffin yn cael eu trosglwyddo i gymdeithas tai ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

            3. Deunyddiau allanol gan gynnwys llechi

            4. Tirlunio

            5. Priffyrdd

            6. Dwr Cymru

            7. Bioamrywiaeth

            8. Coed

            9. Tynnu hawliau PD

            10. Cyflwyno a chytuno ar Gynllun Rheolaeth Adeiladu

 

Dogfennau ategol: