Codi adeilad 4 llawr i ddarparu 2 siop a 15 uned byw i
fyfyrwyr
AELOD LLEOL: Cynghorydd
David Gwynfor Edwards
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi
adeilad 4 llawr i ddarparu 2 siop a 15 uned byw i fyfyrwyr.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle yn ffurfio
rhan o gwrtil tŷ tafarn Varsity ac sydd yn cael
ei ddefnyddio ar hyn o bryd
fel gardd gwrw. Roedd wedi ei
leoli ar ran o’r Stryd Fawr
ym Mangor, rhwng tŷ tafarn
a neuadd snwcer.
Cyfeirwyd at y polisiau
perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Nodwyd bod y safle
o fewn ffin ddatblygu’r Ddinas ac yn safle eithaf
amlwg ar y stryd fawr. Cydnabyddir
bod rhai yn pryderu am y nifer o lety preifat sydd
wedi eu hadeiladu
yn bwrpasol yn ardal Bangor a bod awgrym bod nifer o ystafelloedd sydd ar gael yn
wag. Ond o edrych ar y ffigyrau
sydd ar gael
ymddengys mai canran weddol isel
o’r ddarpariaeth sydd ar gael
sydd yn cael
ei ddiwallu i’r math yma o unedau ar hyn
o bryd. Ni ystyrir y byddai’n rhesymol i wrthod y bwriad ar sail diffyg angen am y math yma o lety.
Tynnwyd sylw
bod y bwriad yn ymwneud a darparu 2 uned fasnachol ar lawr gwaelod
yr adeilad a’u mhaint yn
eithaf bychan. Byddai’r datblygiad yn ymddangos
yn naturiol o ran ei leoliad ar
y stryd fawr. Ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol
yn ei gyfanrwydd
ac yn ategu patrwm y strydlun mewn modd derbyniol.
Derbynbiwyd sawl
gwrthwynebiad i’r bwriad yn wreiddiol
ar sail yr uned ddeulawr i gefn y safle ond
bellach roedd yr adeilad hwn wedi
ei dynnu allan o’r cais. Ystyriwyd bod y cynlluniau diwygiedig wedi ymateb i’r
gwrthwynebiadau mewn modd boddhaol trwy
sicrhau digon o bellter rhwng cefn
tai Lon Pobty a’r datblygiad newydd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn cael
effaith negyddol o safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl oherwydd natur defnydd presennol y safle a’r ardal
o’i amgylch.
Yn dilyn
rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys y llythyrau
o wrthwynebiadau a’r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisiau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.
(b) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais.
(c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Bod
y cais yn gwbl addas
ar gyfer y safle ac nad oedd
unrhyw sail cynllunio i’w wrthod
·
Anfodlonrwydd o eiriad yr Uned Polisi
ar y Cyd ym mharagraff 5.18 sef “bod canran gymharol isel o siaradwyr Cymraeg ym Mangor ….” Teimlwyd bod y geiriad yn rhoi
camargraff o Fangor ac er bod y ganran yn isel o’i
gymharu â gweddill Gwynedd roedd y nifer o siaradwyr Cymraeg yn weddol uchel
o’i gymharu â gweddill Cymru
·
Er mai cais am unedau manwerthu sydd wedi ei gyflwyno
pryderwyd y byddai’r unedau yn cael
defnydd fel swyddfeydd ar gyfer
y busnes lletya fel sydd wedi
digwydd gyda sawl cais cyffelyb
yn y gorffennol. Gofynnwyd am eglurhad pellach ar ddefnydd o unedau
o’r fath i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio
·
Ategwyd y pryder uchod yn enwedig
gan nad oedd
swyddfeydd yn cyfrannu tuag at economi’r ardal.
Penderfynwyd: Caniatau – amodau
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Deunyddiau
4. Llechi
5. Cynllun Rheolaeth Myfyrwyr (cytundebau lletya).
6. Cyfleusterau parcio
yn unol â’r cynlluniau.
7. Siopau o fewn
dosbarth defnydd A1 yn unig
Dogfennau ategol: