Agenda item
Cais i godi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi
modurdy gydag ystafell chwaraeon uwchben.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans
Cofnod:
Cais i godi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi
modurdy gydag ystafell chwaraeon uwchben
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn
ymwneud a chodi porth ar yr annedd presennol ynghyd a chodi modurdy ar wahân
gydag ystafell chwaraeon uwchben o fewn y cwrtil. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli mewn Ardal
Gadwraeth ynghanol pentref Llanystumdwy ger yr Afon Dwyfor ac i’r dwyrain ohono
mae pont rhestredig Gradd II. Tynnwyd
sylw bod yr holl bolisïau ynghyd ag ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus wedi
eu nodi yn yr adroddiad. O safbwynt dyluniadau, nodwyd bod yr eiddo presennol
yn adeilad trawiadol gyda codiad y to yn eithaf serth. Roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod codiad to y modurdy yn gweddu gyda’r eiddo
presennol ynghyd a’r deunyddiau allanol.
O safbwynt mwynderau gweledol, er bod y modurdy yn sylweddol o ran maint
ac uchder, ni fyddai’n ymddangos yn ormesol o’i gymharu â’r
eiddo preswyl presennol. Ystyriwyd y byddai newid maint a dyluniad y modurdy
fel ei fod yn llai gyda pits to gwahanol yn achosi
mwy o effaith weledol gan y byddai yn gwrthdaro yn erbyn dyluniad penodol yr
eiddo presennol. Ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn debygol o gael effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau’r ardal
leol.
Tynnwyd sylw bod y safle mewn parth
llifogydd ond bod posib rheoli’r risg o lifogydd mewn modd derbyniol. Eglurwyd ymhellach bod y datblygiad islaw lefel y ffordd
ac yn ddigon pell oddi wrth
unedau preswyl cyfagos ac felly ni ystyrir y byddai’n effeithio arnynt. Derbyniwyd a thynnwyd sylw at bryderon a gwrthwynebiadau a nodwyd yn y ffurflen
sylwadau hwyr a oedd yn bennaf
yn ymwneud ag uchder a maint y modurdy, effaith ar y bont rhestredig
Gradd II, effaith ar ddiogelwch ffyrdd
o’r fynedfa o’r briffordd ac i lawr y trac mynediad.
Sicrhawyd bod yr holl faterion uchod
wedi derbyn ystyriaeth ac asesiad gofalus ynghyd a chadarnhad gan swyddogion yr Uned
Trafnidiaeth nad oedd ganddynt wrthwynebiad
o ran diogelwch ffyrdd a’i fod yn
cydymffurfio â’r polisiau priodol. Yn ychwanegol, nid oedd gan y Swyddog
Cadwraeth unrhyw wrthwynebiad. Ystyriwyd felly bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â’r holl bolisiau perthnasol
ac argymhelliad y swyddogion
Cynllunio ydoedd caniatau yn ddarostyngedig i’r saith amod
a nodwyd yn yr adroddiad.
(b) Nododd y gwrthwynebydd, oherwydd bod trefn y rhaglen wedi ei
ddiwygio, nad oedd wedi cael
amser i ddarparu ei sylwadau oherwydd
nad oedd wedi derbyn y wybodaeth
gyflawn tan fore’r cyfarfod.
Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch
Gyfreithiwr bod disgwyl i siaradwyr fod yn
barod i gyflwyno pan oedd y cyfarfod yn cychywn a nad
oedd yn bosibl
gohirio’r drafodaeth gan fod y cais wedi
agor a’i gyflwyno.
Felly,
yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd y gwrthwynebydd ei fod dan anfantais
oherwydd hyn ac thrwy’r holl broses gan nad oedd
ganddo’r wybodaeth gyflawn ac fe amlygodd
y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod yna bwynt golygfa unigryw ar ben y rhodfa ar draws Afon
Dwyfor ac yn caniatáu i olygfeydd
gael eu gweld
tua'r de a thua'r gorllewin tuag at y pentref
• Pe byddir yn caniatau’r
cais hwn, bydd yr olygfa
yn cael ei
golli am byth
• Bod yr
olygfa yn cael ei fwynhau
gan lawer o bobl megis cerddwyr
cŵn, pobl leol, pentrefwyr, twristiaid a bod pobl yn stopio yno
a’i fod yn
gyrchfan o fewn y pentref
• Nad oedd rhan fwyaf
o bobl yn awyddus i weld yr adeilad hwn yn
cael ei adeiladu
i’r raddfa hon yn enwedig yr
uchder
·
Nad oedd gwrthwynebiad i’r ymgeisydd godi
modurdy ond byddai'n well pe byddai’n adeilad unllawr i osgoi rhwystr i’r golygfeydd
prydferth ac ysblennydd
• Os nad yw aelodau'r
pwyllgor yn gyfarwydd â'r safle
awgrymwyd y byddai'n ddoeth gohirio’r cais a mynd i ymweld
â’r safle
• Bod elfen
diogelwch yn flaenoriaeth uchel yn enwedig gan
fod aelodau o’r teulu yn
defnyddio'r rhodfa i feicio, chwarae a sglefr fyrddio a gall y plant gael eu harsylwi o'r
tŷ
• Bod cynnig
cynllunio blaenorol yn 2000 ar gyfer
adeilad o faint unllawr na fyddai'n rhwystro'r
golygfeydd
(c) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol
mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau:
·
Maint ac edrychiad – cymerwyd amser a gofal gyda'r
pensaer i sicrhau bod y modurdy arfaethedig yn cydweddu gyda’r
tŷ annedd. Bod pits y
to yn seiliedig ar Eglwys y pentref sydd wedi ei
lleoli yn uniongyrchol ar draws yr afon er
mwyn cadw nodweddion pensaernïol sy'n bodoli eisoes
o fewn y pentref. O ran cynigion blaenorol, ni gyflwynwyd cais
am fodurdy llai a dyma’r tro cyntaf
i gais gael ei gyflwyno
·
Effaith posibl i fynediad cerbydau – bod defnydd traffig ar y fynedfa
presennol wedi gostwng yn aruthrol
ers i'r caffi
gau a’i drosi
i ddefnydd preswyl. Bellach, dim ond ychydig o ddefnydd a wneir o’r fynedfa
hon yn ddyddiol felly mae'r pryderon a godwyd yn anghymesur.
Fodd bynnag, mae man pasio ar
y tro o’r ffordd fynediad a oedd ar gael
pan oedd defnydd i’r caffi ond
bellach wedi tyfu'n wyllt gyda
mieri ac fe fyddai’r ymgeisydd yn fwy na
pharod i’w glirio ei hun
·
Cyfyngu ar yr olygfa
o ben y fynedfa - bod golygfeydd
presennol eisoes wedi eu difetha
oherwydd bodolaeth strwythur concrid hyll sydd wedi
ei leoli ar waelod y ffordd.
Dylai unrhyw un sydd am weld yr olygfeydd o ben y ffordd fynedfa gael eu
hannog i gerdded ychydig o gamau i lwybr troed y bont
lle gellir gweld golygfeydd gwirioneddol eiconig yn ddiogel
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau,
esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio bod yr Adran wedi rhoi ystyriaeth
fanwl i’r dyluniad o safbwynt effaith weledol a pharch i’r lleoliad
sensitif.
(d)
Cynigiwyd
ac eilwyd argymhelliad y swyddogion cynllunio i’w ganiatau.
(dd) Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod ynglyn ag uchder y to, esboniwyd bod lefel y to yn is na’r ffordd
gyhoeddus.
Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn unol a’r
amodau canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Sicrhau cwblhau’r
datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd.
3. Llechi ar y to
4. Gorffeniad i gydweddu a’r annedd bresennol
5. Defnydd fel modurdy yn unig/dim defnydd preswyl/cysgu atodol
6. Rhaid cwblhau’r gwaith torri i mewn i do’r
annedd presennol rhwng dechrau mis Hydref a diwedd mis Ebrill o fewn unrhyw
flwyddyn.
7. Cyn cychwyn unrhyw waith yn ymwneud a’r bwriad yma, rhaid cyflwyno a
chytuno manylion gosod blwch ystlumod a’i osod yn ei le cyn cychwyn gwaith torri
i mewn i’r to.
Nodyn Dwr Cymru
Dogfennau ategol: