Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, E. Selwyn Griffiths, Siân Wyn Hughes, Dewi Owen, Peter Read, Mair Rowlands (Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc), Neil Foden a David Healey (Undebau Athrawon)  a Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. .

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 374 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2015. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2015. 

 

Atgoffodd  y Cynghorydd Alwyn Gruffydd am yr angen i’r Pennaeth Addysg gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor Craffu hwn yn deillio o’r cofnod yn y cyfarfod diwethaf dan y pennawd Materion BrysTarged Arbedion Ysgolion.

 

5.

STRATEGAETH LLETYA POBL HYN pdf eicon PDF 289 KB

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd ar yr uchod. 

 

10.00 a.m. – 10.45 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd ynghyd a strategaeth drafft lletya pobl hŷn a thynnwyd sylw  ganddo  i brif flaenoriaethau’r strategaeth sef:

 

·         Cefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi cyn hired â phosib

·         Canfod ardaloedd daearyddol penodol ble mae’n debygol y bydd galw uchel

·         Sicrhau lletya addas i bobl hŷn

·         Sicrhau bod pobl hŷn Gwynedd yn ymwybodol o’r opsiynau lletya sy’n bodoli o fewn y Sir a bod gwybodaeth hygyrch ar gael

 

(b)  Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Tai at  nod y strategaeth sy’n gosod cyfeiriad o ran anghenion y boblogaeth.  Edrychwyd ar ardaloedd penodol a’r gwasanaeth sydd ar gael yn barod.  Atgoffwyd y Pwyllgor o’r heriau a wyneba’r Cyngor ynghyd a’r twf yn y boblogaeth.  Gwelir twf yn y boblogaeth 85+ gyda chanran uchel ohonynt yn byw ar ben eu hunan ac yn ddibynnol ar ofal cymdeithasol.  Ymddengys os yw’r llety yn addas ar gyfer unigolion eu bod yn gallu aros yn eu cartrefi gyda’r gost yn llai i’r gwasanaeth.  

 

Ystyriwyd tueddiadau ac fe welwyd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd yn enwedig y cymunedau arfordirol.  Yn ogystal, nodwyd bod twf sylweddol yn y cleifion gyda dementia a bod hyn yn creu pryderon i’r dyfodol ac fe geisir cael cydbwysedd rhwng y ddarpariaeth sy’n bodoli a’r hyn fydd ei angen i’r dyfodol. 

 

Adnabuwyd 8 ardal o safbwynt pwysau o ran y boblogaeth ac fe welwyd mewn rhai ardaloedd bod y boblogaeth yn hŷn, rhai pobl ifanc yn symud allan, a bod y patrwm mewnlifiad erbyn hyn yn weddol gyson.  O safbwynt yr 8 ardal, ystyriwyd y math o ddarpariaeth fyddai’n briodol ac a fyddai’n cwrdd â’r angen yn llawn. Byddir yn edrych ar y rôl sector preswyl i’r dyfodol gan fod mwy o welyau preswyl / nyrsio na darpariaeth tai gwarchod. 

 

(c)  Nododd y Rheolwr Strategol Tai bod goblygiadau tymor hir ac ariannol i’r strategaeth ac y byddai’n rhaid ystyried partneriaeth gyda chymdeithas tai a fyddai yn ei dro yn ddibynnol ar grantiau, a.y.b.

 

(ch)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r strategaeth ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol: 

 

·         Paham na all y Cyngor ystyried cofrestriad deuol yn enwedig gan fod y Bwrdd Iechyd / AGGCC yn gefnogol?

·         Pryder ynglŷn â lleihad mewn nifer o welyau preswyl traddodiadol gyda’r gwelyau bellach wedi eu trosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd ac o ganlyniad nad oes lle i bobl leol ym Mlaenau Ffestiniog yn benodol, ac nad oes tir ar gael i sefydlu tai gwarchod ychwanegol yno ar gyfer anghenion y bobl leol.

·         Pryder pan fo cartrefi preswyl preifat yn cau, bo’r cyfrifoldeb yn syrthio ar y Cyngor i gadw’r cartref yn agored hyd nes y gellir adleoli defnyddwyr y cartref

·         Bod yr ardaloedd a bennir yn y strategaeth yn rhai sydd o dan bwysau enfawr gyda phobl yn symud i mewn iddynt i ymddeol ac oni ddylai’r strategaeth gyfeirio at gydnabyddiaeth ariannol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015-16 (CHWARTER 2) - GOFAL pdf eicon PDF 396 KB

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod.

 

10.45 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau yn dilyn derbyn Adroddiad Trosolwg o berfformiad y Cyngor

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebwyd iddynt gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fel a ganlyn:

 

(a) bod gofynion newydd mewn perthynas â dyletswyddau lles ond nad oedd dim byd pendant wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth hyd yma.  Bydd rhaid ymgymryd á’r dyletswyddau o fewn adnoddau presennol ac y byddai’n rhaid cydymffurfio a’r ail-strwythuro ehangach o fewn yr Adran.  Hyderir y byddir yn penodi Rheolwr Llesiant o fewn y mis nesaf.

 

(b) mai oddeutu 20 o fyfyrwyr y flwyddyn sydd yn mynychu’r cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mangor. Bu i’r Adran hysbysebu am staff yn ardal Meirionnydd yn ddiweddar ac roedd yr ymateb yn dda.  

 

(c) Eglurwyd ar y bwriad o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Her Gofal ac y byddir fel cam cyntaf yn arbrofi gyda Chyngor Tref ac yna yn ddibynnol ar yr ymateb gellir penderfynu ar raglen waith ehangach i gwrdd â grwpiau penodol.  Nodwyd bod apêl i ymweld ag ardal Penllyn lle mae 5 o Gynghorau Cymuned yn cydweithio a’i gilydd.  Sicrhawyd y byddir yn codi ymwybyddiaeth  Aelodau Lleol o’r ymweliadau arbrofol fel eu bod yn ymwybodol os oes unrhyw ymweliadau yn eu hardal.   

 

(ch)  addawyd y byddir yn cylchredeg ffigyrau i’r Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones o’r nifer sydd ar restr aros y Gweithwyr Cymdeithasol

 

(a)              Bod llawer iawn o waith ymchwil wedi ei wneud parthed llwybrau gyrfaoedd, ond bod llawer iawn o waith eto i’w gyflawni.  Cydnabuwyd ei bod yn anodd recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr gofal mewn ardaloedd gwledig a bod rhai o’r darparwyr allanol yn recriwtio gweithwyr gofal o dramor.  Fodd bynnag, sicrhawyd bod llawer o ymdrech wedi cael ei wneud i gysylltu á’r Colegau Addysg Bellach i godi proffil o ran y cyfleoedd ond nad oedd gofal yn yrfa yn atyniadol o safbwynt y cyflog. Rhaid rhoi mwy o sylw i sicrhau bod unigolion yn adnabod y maes yn fuan a bod cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach. Cadarnhawyd bod llawer iawn yn cael ei wneud ar lefel broffesiynol er mwyn datblygu unigolion yn eu gyrfa.   Cydnabuwyd bod strwythurau hyfforddi rhai darparwyr allanol yn ymddangos yn gryfach nag eraill.  Nodwyd  efallai y dylai’r Cyngor ystyried gosod cymalau pendant mewn contractau er mwyn sicrhau elfen o fuddsoddiad i ddatblygu llwybrau gyrfa.

 

(dd)  O safbwynt y toriadau bod y prif elfennau o ran effaith  wedi cael eu cyflwyno a bod  rhai ohonynt yn mynd i gael effaith ar y gwasanaeth megis effaith ar ymweliadau ac asesiadau amserol, a.y.b. ac yn golygu dewisiadau anodd.  Fodd bynnag, o wneud yr ymdrech  i gael gwared â gwastraff, hyderir y bydd yr effaith yn llai ar unigolion ond y byddir yn arafach o ran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN WAITH - ADRODDIAD GWERTHUSO PERFFORMIAD 2014 / 15 (AROLYGAETH GOFAL A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL - AGGCC) pdf eicon PDF 68 KB

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad mewn ymateb i adroddiad gwerthuso perfformiad yr Arolygaeth Goal a Gwasanethau Cymdeithasol (AGGCC).   

 

11.30 a.m. – 12.15 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith a luniwyd mewn ymateb i Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014/15 yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r rhaglen waith ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt ac fe ymatebwyd iddynt gan y swyddogion perthnasol:

 

(a)  teimlwyd bod y materion dan sylw yn rhai a drafodwyd eisoes ac nad oedd cynnydd o ran amserlen

 

Eglurwyd bod y rhaglen waith yn ymateb yn benodol i’r hyn a ofynnir gan yr Arolygaeth.  Derbyniwyd y sylw ei fod yn ymddangos bod arafwch dros y misoedd  diwethaf ond roedd hyn am resymau penodol a’r ffaith bod staff yn gorfod edrych ar ffurf eraill o weithio.

 

Ategodd Aelod bod 2/3 prosiect wedi bod yn araf ond roedd hyn yn ddibynnol ar benderfyniadau.  Rhaid cofio bod llawer o’r newidiadau yn newid ymwneud â diwylliant i’r Adran ond byddir yn croesawu amserlen sy’n nodi dyddiadau penodol yn y cynllun gweithredu.

 

(b)    Pam bod yr Arolygaeth yn mynd o amgylch mudiadau / unigolion ar hyn o bryd?

 

Eglurwyd bod yr Arolygaeth wedi dewis Gwynedd fel un o 6 awdurdod ar draws Cymru sydd yn derbyn archwiliad ar wasanaeth anableddau dysgu yn benodol a’u bod  angen trafod hefo mudiadau / teuluoedd ac unigolion.

 

(b)    Beth sydd wedi digwydd i drigolion Cartref Plas y Bryn, Bontnewydd?

 

Esboniwyd bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi trefnu  i adleoli  trigolion cartref Plas y Bryn i wardiau penodol mewn ysbytai ac i leoliadau ar draws Gogledd Cymru yn ddibynnol ar y gofal roeddynt angen.  Yn ogystal roedd rhai wedi symud i gartref Bryn Seiont Newydd.   Mewn ymateb bellach i sylw ynglyn a ffioedd Bryn Seiont, bod gwaith negodi wedi digwydd rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r cartref ynglyn a ffi safonol am unigolion sydd yn  cael eu lleoli  yno.

           

(ch) Bod y sefyllfa o gau Cartref Bryn Llifon yn broses wahanol ac yn ymwneud a hyfywdra ariannol a phroblem recriwtio staff.

 

(d) O safbwynt morâl staff yr Adran, cadarnhaodd y Pennaeth ei fod o’r farn  ei fod yn isel ond rhaid cofio bod yr Adran yn mynd drwy newidiadau sylweddol o ran diwylliant, ffurf a phrosesau gwaith gyda’r ail-strwythuro yn creu ansicrwydd i staff.  Hyderir, unwaith y bydd eglurder o’r newidiadau, y byddir yn gallu symud ymlaen ac y bydd morâl yn gwella.  O ran amserlen ac o gofio bod y newidiadau ar raddfa sylweddol, rhagwelir y byddai’r sefyllfa yn cymryd oddeutu 12-15 mis i setlo. 

 

(dd)  awgrymir y byddai’n fanteisiol i enwebu 2 neu 3 aelod o blith y Pwyllgor Craffu hwn i gynorthwyo gyda llunio briff i’r cynllun strategol o safbwynt trefniadau cymorth i ofalwyr.

 

(e)    Pwysigrwydd i gadw golwg a rhoi sylw i gefnogi gofalwyr  ac o gofio bod rhai ohonynt yn blant ysgol yn enwedig pan fo unigolion yn cael eu hanfon o ysbytai heb dderbyn asesiad.  

 

(f)    Mynegwyd pryder gan aelodau, o ystyried y toriadau arfaethedig, na fyddai’r Adran yn gallu ymdopi a holl ofynion y Ddeddf Llesiant ac y byddai’r Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o fesurau arbennig.

 

Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PANEL RHIANT CORFFORAETHOL

I ethol aelod i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol i olynu y Cyng. Elin  Walker Jones yn dilyn ei ymddiswyddiad diweddar o’r Panel.

 

12.15 p.m. – 12.25 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:                        Ethol y Cynghorydd Siân Wyn Hughes i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol i olynu’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn dilyn ei ymddiswyddiad diweddar o’r Panel.