Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd ar yr uchod. 

 

10.00 a.m. – 10.45 a.m.

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd ynghyd a strategaeth drafft lletya pobl hŷn a thynnwyd sylw  ganddo  i brif flaenoriaethau’r strategaeth sef:

 

·         Cefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi cyn hired â phosib

·         Canfod ardaloedd daearyddol penodol ble mae’n debygol y bydd galw uchel

·         Sicrhau lletya addas i bobl hŷn

·         Sicrhau bod pobl hŷn Gwynedd yn ymwybodol o’r opsiynau lletya sy’n bodoli o fewn y Sir a bod gwybodaeth hygyrch ar gael

 

(b)  Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Tai at  nod y strategaeth sy’n gosod cyfeiriad o ran anghenion y boblogaeth.  Edrychwyd ar ardaloedd penodol a’r gwasanaeth sydd ar gael yn barod.  Atgoffwyd y Pwyllgor o’r heriau a wyneba’r Cyngor ynghyd a’r twf yn y boblogaeth.  Gwelir twf yn y boblogaeth 85+ gyda chanran uchel ohonynt yn byw ar ben eu hunan ac yn ddibynnol ar ofal cymdeithasol.  Ymddengys os yw’r llety yn addas ar gyfer unigolion eu bod yn gallu aros yn eu cartrefi gyda’r gost yn llai i’r gwasanaeth.  

 

Ystyriwyd tueddiadau ac fe welwyd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd yn enwedig y cymunedau arfordirol.  Yn ogystal, nodwyd bod twf sylweddol yn y cleifion gyda dementia a bod hyn yn creu pryderon i’r dyfodol ac fe geisir cael cydbwysedd rhwng y ddarpariaeth sy’n bodoli a’r hyn fydd ei angen i’r dyfodol. 

 

Adnabuwyd 8 ardal o safbwynt pwysau o ran y boblogaeth ac fe welwyd mewn rhai ardaloedd bod y boblogaeth yn hŷn, rhai pobl ifanc yn symud allan, a bod y patrwm mewnlifiad erbyn hyn yn weddol gyson.  O safbwynt yr 8 ardal, ystyriwyd y math o ddarpariaeth fyddai’n briodol ac a fyddai’n cwrdd â’r angen yn llawn. Byddir yn edrych ar y rôl sector preswyl i’r dyfodol gan fod mwy o welyau preswyl / nyrsio na darpariaeth tai gwarchod. 

 

(c)  Nododd y Rheolwr Strategol Tai bod goblygiadau tymor hir ac ariannol i’r strategaeth ac y byddai’n rhaid ystyried partneriaeth gyda chymdeithas tai a fyddai yn ei dro yn ddibynnol ar grantiau, a.y.b.

 

(ch)        Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r strategaeth ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol: 

 

·         Paham na all y Cyngor ystyried cofrestriad deuol yn enwedig gan fod y Bwrdd Iechyd / AGGCC yn gefnogol?

·         Pryder ynglŷn â lleihad mewn nifer o welyau preswyl traddodiadol gyda’r gwelyau bellach wedi eu trosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd ac o ganlyniad nad oes lle i bobl leol ym Mlaenau Ffestiniog yn benodol, ac nad oes tir ar gael i sefydlu tai gwarchod ychwanegol yno ar gyfer anghenion y bobl leol.

·         Pryder pan fo cartrefi preswyl preifat yn cau, bo’r cyfrifoldeb yn syrthio ar y Cyngor i gadw’r cartref yn agored hyd nes y gellir adleoli defnyddwyr y cartref

·         Bod yr ardaloedd a bennir yn y strategaeth yn rhai sydd o dan bwysau enfawr gyda phobl yn symud i mewn iddynt i ymddeol ac oni ddylai’r strategaeth gyfeirio at gydnabyddiaeth ariannol i fedru ymdopi a’r sefyllfa

·         Gwnaed cais am fanylion pellach o’r nifer o unigolion sydd dros 65+

·         Siomedig nad oedd y cynllun gweithredu yn nodi amserlen a phwy sydd yn gyfrifol am y gweithrediadau

·         Bod diffyg cyfeiriad o fewn y strategaeth ynglyn â maint gwelyau ysbytai a’r angen i gymryd ystyriaeth o hyn yn enwedig ar gyfer cleifion sydd yn dymuno aros gartref ac yn byw mewn tai hynafol mewn trefi megis  Blaenau Ffestiniog lle nad oes modd ffitio gwely arbenigol ysbyty yn y tai ac o ganlyniad yn gorfodi pobl oedrannus i fynd i gartrefi neu ysbytai. 

 

 

(d)       Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant  bod sefyllfa’r farchnad o ran cartrefi preswyl yn fregus iawn ac nad oedd hyn yn unigryw i Wynedd.   Cadarnhawyd bod cartref preswyl wedi cau yn ddiweddar ond fe lwyddwyd i adleoli’r defnyddwyr mewn cydweithrediad agos â’r Bwrdd Iechyd.  Nododd bod  costau cyflogau yn cael effaith ar hyfywdra rhai o’r cartrefi ond mae y  broblem sylfaenol yw recriwtio nyrsys.  O safbwynt cofrestriad deuol, eglurwyd bod trafodaethau ac ymchwil cychwynnol yn mynd rhagddynt gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn ystyried y posibilrwydd o ddarparu cyfleusterau cofrestriad deuol.  Bydd hyn yn cynnwys cael  barn gyfreithiol o’r hyn y gellir ei gyflawni.   Cadarnhawyd nad oedd modd rhoi ymateb buan ar hyn o bryd gan fod yn rhaid cael canfyddiadau  cychwynnol y gwaith yn gyntaf o safbwynt deddfwriaeth, a.y.b.

 

(dd) Eglurwyd mewn ymateb i ymholiad pellach ynglyn a gwahaniaeth mewn taliadau i gartrefi preswyl, bod costau cartrefi yn amrywio ac yn ddibynnol ar gyflwr yr adeiladau, lleoliad a’r math o arbenigedd gofal / darpariaeth, a.y.b.  Ar hyn o bryd, nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo ynglyn a ffioedd er sicrhau gwasanaeth cost effeithiol o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.  Sicrhawyd y byddir yn darparu adroddiad pellach i gyfarfod paratoi nesaf y Pwyllgor Craffu gan wahodd swyddogion i’r cyfarfod i amlinellu prosesau  gosod ffioedd cartrefi preswyl ynghyd a hyfywdra cartrefi gofal preifat yng Ngwynedd. 

 

(e)       Esboniwyd, mewn ymateb i ymholiad ynglyn a datrysiad gwledig y byddai’n ofynnol efallai gwneud datrysiad traddodiadol sef i wneud defnydd o ddarpariaeth sydd ar gael  mewn ardal os nad oes lle i dai gofal ychwanegol.

 

(f)        O safbwynt gwahaniaethu rhwng y nifer o ddefnyddwyr cynhenid o bobl hŷn a phobl sy’n dod o du allan y Sir yng nghartrefi preswyl, cadarnhaodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Adran yn ceisio cael y ffigyrau i’r Cynghorydd Aled Evans.  Nodwyd ymhellach bod gan yr Adran ambell achos lle mae awdurdodau dros y ffin yn ariannu  Cyflwynwyd y ddadl i’r Llywodraeth yn amlinellu y problemau mae symudiad pobl i Wynedd heb eu rhwydweithiau cefnogol ond yn anffodus cyfyngedig yw’r llwyddiant hyd yma.      

 

(ff) Esboniodd yr Uwch Reolwr Tai bod y Cyngor wedi derbyn grant ar gyfer dau gynllun ac un ychwanegol ym Mhorthmadog ond nad oedd ymrwymiad tu hwnt i hyn.  Byddai’n ofynnol ystyried opsiynau gwahanol megis cynllun gofal ychwanegol ysgafn  sydd yn fodel rhwng gofal tai gwarchod a gofal tai ychwanegol.  Ni cheir gofal 24awr o fewn y cynllun hwn.  Gweithredir model o’r fath ynf Nghysgod y Gogarth, Conwy.        

 

Penderfynwyd:        Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant    

 

(i)            Sicrhau bod y materion isod yn cael eu cynnwys o fewn y strategaeth lletya pobl hŷn:

·         Cydnabyddiaeth bod stoc o dai hynafol mewn rhai ardaloedd ac felly yn amhosib darparu gwelyau ysbyty yn y tai oherwydd maint penodedig i wely ysbyty a’r angen i ystyried opsiynau gwahanol yn yr ardaloedd hyn

·         Bod angen cydnabyddiaeth ariannol ychwanegol ar gyfer rhai ardaloedd i gyfarch y twf mewn nifer o bobl hŷn sydd wedi ymddeol i’r ardaloedd hyn a’r gost o ddarparu gwasanaethau iddynt.      

 

 

(ii)          gyflwyno gwybodaeth ychwanegol i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn sydd i’w gynnal ar 23 Chwefror 2016 i gyfarch y materion canlynol      

  

·                     Ffioedd / costau  a hyfywedd cartrefi preswyl preifat

·                    Llenyddiaeth diweddar gan Brifysgol Bangor

·                     Darpariaeth gofal ychwanegol ysgafn (“Extra Care Light”)

 

Dogfennau ategol: