Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad mewn ymateb i adroddiad gwerthuso perfformiad yr Arolygaeth Goal a Gwasanethau Cymdeithasol (AGGCC).   

 

11.30 a.m. – 12.15 p.m.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith a luniwyd mewn ymateb i Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014/15 yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r rhaglen waith ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt ac fe ymatebwyd iddynt gan y swyddogion perthnasol:

 

(a)  teimlwyd bod y materion dan sylw yn rhai a drafodwyd eisoes ac nad oedd cynnydd o ran amserlen

 

Eglurwyd bod y rhaglen waith yn ymateb yn benodol i’r hyn a ofynnir gan yr Arolygaeth.  Derbyniwyd y sylw ei fod yn ymddangos bod arafwch dros y misoedd  diwethaf ond roedd hyn am resymau penodol a’r ffaith bod staff yn gorfod edrych ar ffurf eraill o weithio.

 

Ategodd Aelod bod 2/3 prosiect wedi bod yn araf ond roedd hyn yn ddibynnol ar benderfyniadau.  Rhaid cofio bod llawer o’r newidiadau yn newid ymwneud â diwylliant i’r Adran ond byddir yn croesawu amserlen sy’n nodi dyddiadau penodol yn y cynllun gweithredu.

 

(b)    Pam bod yr Arolygaeth yn mynd o amgylch mudiadau / unigolion ar hyn o bryd?

 

Eglurwyd bod yr Arolygaeth wedi dewis Gwynedd fel un o 6 awdurdod ar draws Cymru sydd yn derbyn archwiliad ar wasanaeth anableddau dysgu yn benodol a’u bod  angen trafod hefo mudiadau / teuluoedd ac unigolion.

 

(b)    Beth sydd wedi digwydd i drigolion Cartref Plas y Bryn, Bontnewydd?

 

Esboniwyd bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi trefnu  i adleoli  trigolion cartref Plas y Bryn i wardiau penodol mewn ysbytai ac i leoliadau ar draws Gogledd Cymru yn ddibynnol ar y gofal roeddynt angen.  Yn ogystal roedd rhai wedi symud i gartref Bryn Seiont Newydd.   Mewn ymateb bellach i sylw ynglyn a ffioedd Bryn Seiont, bod gwaith negodi wedi digwydd rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r cartref ynglyn a ffi safonol am unigolion sydd yn  cael eu lleoli  yno.

           

(ch) Bod y sefyllfa o gau Cartref Bryn Llifon yn broses wahanol ac yn ymwneud a hyfywdra ariannol a phroblem recriwtio staff.

 

(d) O safbwynt morâl staff yr Adran, cadarnhaodd y Pennaeth ei fod o’r farn  ei fod yn isel ond rhaid cofio bod yr Adran yn mynd drwy newidiadau sylweddol o ran diwylliant, ffurf a phrosesau gwaith gyda’r ail-strwythuro yn creu ansicrwydd i staff.  Hyderir, unwaith y bydd eglurder o’r newidiadau, y byddir yn gallu symud ymlaen ac y bydd morâl yn gwella.  O ran amserlen ac o gofio bod y newidiadau ar raddfa sylweddol, rhagwelir y byddai’r sefyllfa yn cymryd oddeutu 12-15 mis i setlo. 

 

(dd)  awgrymir y byddai’n fanteisiol i enwebu 2 neu 3 aelod o blith y Pwyllgor Craffu hwn i gynorthwyo gyda llunio briff i’r cynllun strategol o safbwynt trefniadau cymorth i ofalwyr.

 

(e)    Pwysigrwydd i gadw golwg a rhoi sylw i gefnogi gofalwyr  ac o gofio bod rhai ohonynt yn blant ysgol yn enwedig pan fo unigolion yn cael eu hanfon o ysbytai heb dderbyn asesiad.  

 

(f)    Mynegwyd pryder gan aelodau, o ystyried y toriadau arfaethedig, na fyddai’r Adran yn gallu ymdopi a holl ofynion y Ddeddf Llesiant ac y byddai’r Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o fesurau arbennig.

 

Mewn ymateb, esboniwyd bod arbedion effeithlonrwydd y gellid ei gyflawni o fewn  yr Adran a chydnabuwyd bod gwastraff o fewn rhai sustemau ymhob gwasanaeth.  Fodd bynnag, nodwyd bod y toriadau arfaethedig yn ychwanegol ar ben yr arbedion effeithlonrwydd ac wrth gwrs yn golygu y byddir yn gorfod lleihau rhai gwasanaethau. Pwysleisiwyd y byddir yn ceisio sicrhau bod unrhyw doriad yn cael cyn lleied o effaith ar drigolion Gwynedd ag sydd bosib.  

 

(ff)   Cyfeiriwyd at bwynt 4.2 lle nodir y bydd y ddau Aelod Cabinet yn allweddol i sicrhau llwyddiant y rhaglenni moderneiddio a gofynnwyd beth fyddai rôl y Pwyllgor Craffu yn hyn o beth. 

 

Eglurwyd bod yr holl Aelodau yn rhan o’r rhaglen o newidiadau sydd ar y gweill o ran arbedion a thoriadau a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bod yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni.  Yn ogystal, nodwyd pwysigrwydd i rôl y craffwyr a bod yn digwydd mewn mwy nag un ffordd boed hyn gan aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn, y Cyfarwyddwr Corfforaethol ac Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod yr Adran yn mynd i’r cyfeiriad cywir.      

 

Penderfynwyd:                  (a)    Derbyn a nodi’r rhaglen gwaith yn ddarostyngedig i dderbyn amserlen gadarn ar gyfer gweithredu i’w gyflwyno i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn ar 23 Chwefror 2016.

  

               (b)       Enwebu'r aelodau canlynol i gynorthwyo'r swyddogion

perthnasol a’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn llunio briff ar gyfer y cynllun strategol mewn perthynas â chymorth i ofalwyr:

 

Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones

Y Cynghorydd R H Wyn Williams

 

Dogfennau ategol: