Agenda item

Aelod Cabinet:  Cyng. W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod.

 

10.45 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau yn dilyn derbyn Adroddiad Trosolwg o berfformiad y Cyngor

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebwyd iddynt gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fel a ganlyn:

 

(a) bod gofynion newydd mewn perthynas â dyletswyddau lles ond nad oedd dim byd pendant wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth hyd yma.  Bydd rhaid ymgymryd á’r dyletswyddau o fewn adnoddau presennol ac y byddai’n rhaid cydymffurfio a’r ail-strwythuro ehangach o fewn yr Adran.  Hyderir y byddir yn penodi Rheolwr Llesiant o fewn y mis nesaf.

 

(b) mai oddeutu 20 o fyfyrwyr y flwyddyn sydd yn mynychu’r cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mangor. Bu i’r Adran hysbysebu am staff yn ardal Meirionnydd yn ddiweddar ac roedd yr ymateb yn dda.  

 

(c) Eglurwyd ar y bwriad o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Her Gofal ac y byddir fel cam cyntaf yn arbrofi gyda Chyngor Tref ac yna yn ddibynnol ar yr ymateb gellir penderfynu ar raglen waith ehangach i gwrdd â grwpiau penodol.  Nodwyd bod apêl i ymweld ag ardal Penllyn lle mae 5 o Gynghorau Cymuned yn cydweithio a’i gilydd.  Sicrhawyd y byddir yn codi ymwybyddiaeth  Aelodau Lleol o’r ymweliadau arbrofol fel eu bod yn ymwybodol os oes unrhyw ymweliadau yn eu hardal.   

 

(ch)  addawyd y byddir yn cylchredeg ffigyrau i’r Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones o’r nifer sydd ar restr aros y Gweithwyr Cymdeithasol

 

(a)              Bod llawer iawn o waith ymchwil wedi ei wneud parthed llwybrau gyrfaoedd, ond bod llawer iawn o waith eto i’w gyflawni.  Cydnabuwyd ei bod yn anodd recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr gofal mewn ardaloedd gwledig a bod rhai o’r darparwyr allanol yn recriwtio gweithwyr gofal o dramor.  Fodd bynnag, sicrhawyd bod llawer o ymdrech wedi cael ei wneud i gysylltu á’r Colegau Addysg Bellach i godi proffil o ran y cyfleoedd ond nad oedd gofal yn yrfa yn atyniadol o safbwynt y cyflog. Rhaid rhoi mwy o sylw i sicrhau bod unigolion yn adnabod y maes yn fuan a bod cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach. Cadarnhawyd bod llawer iawn yn cael ei wneud ar lefel broffesiynol er mwyn datblygu unigolion yn eu gyrfa.   Cydnabuwyd bod strwythurau hyfforddi rhai darparwyr allanol yn ymddangos yn gryfach nag eraill.  Nodwyd  efallai y dylai’r Cyngor ystyried gosod cymalau pendant mewn contractau er mwyn sicrhau elfen o fuddsoddiad i ddatblygu llwybrau gyrfa.

 

(dd)  O safbwynt y toriadau bod y prif elfennau o ran effaith  wedi cael eu cyflwyno a bod  rhai ohonynt yn mynd i gael effaith ar y gwasanaeth megis effaith ar ymweliadau ac asesiadau amserol, a.y.b. ac yn golygu dewisiadau anodd.  Fodd bynnag, o wneud yr ymdrech  i gael gwared â gwastraff, hyderir y bydd yr effaith yn llai ar unigolion ond y byddir yn arafach o ran darparu’r gwasanaethau. 

 

(b)               Yng nghyswllt problemau recriwtio a chystadleuaeth gan ddarparwyr allanol, nodwyd tra’n derbyn ei fod yn gamp i gadw unigolion mewn swydd am gyfnod hir, ei bod yn haws i’r Cyngor gadw staff oherwydd amodau gwaith, pensiynau, a.y.b.  Mynegodd aelod y dylid  edrych ar ddulliau dychmygus blaengar i gadw staff megis cynllun les ceir. 

 

(c)                Mewn ymateb i sylw wnaed gan Aelod ynglyn ag adroddiad gan y Trydydd Sector, ynglyn ag ardrawiad cyflogau / taliadau gan awdurdodau lleol ar hyfywdra darparwyr, sicrhawyd y byddir yn anfon copi i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn.

 

(d)              Yn yr un modd, awgrymwyd y dylid anfon copi o adroddiad Llwybr Gyrfa Gofalwyr iddynt yn ogystal.

 

(ng)  O safbwynt cofrestriad deuol, ategwyd bod y gwaith comisiynu yn mynd rhagddo a rhagwelir y byddir yn ei gwblhau oddeutu mis Ebrill ac y byddai modd cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu ar y modelau posib wedi hynny. Os oes enghreifftiau o Gynghorau wedi ymgymryd á’r ddarpariaeth y byddir yn ei gynnwys o fewn yr ymchwiliad.

 

Penderfynwyd:                        (a)        Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

(a)           Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu hwn ar ganfyddiadau gwaith comisiwn argofrestriad deuol”.

 

(b)           Gofyn i’r Rheolwr Cefnogi Aelodau – Craffu anfon y wybodaeth amlinellir yn (j) uchod i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn.

 

Dogfennau ategol: