Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elin Walker Jones a Peter Read. 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd eitemau brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 243 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor hwn a gyn haliwyd ar 26 Mai 2016, fel rhai cywir.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mai  2016. 

 

5.

TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015-16 - MEYSYDD PLANT A PHOBL IFANC A GOFAL pdf eicon PDF 411 KB

Aelodau Cabinet : Y Cynghorwyr Mair Rowlands, Gareth Roberts, Gareth Thomas

 

 

(a)          I ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

(b)          I dderbyn ymateb i gwestiynau craffu penodol:

 

(i)            Ymateb gan yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden (Gweler   

                  Atodiad 1 a 2)

(ii)        Ymateg gan yr Aelod Cabinet Addysg          (Gweler Atodiad 1)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:

 

(a)  Trosolwg o berfformiad y Cyngor hyd yma ym maes Plant a Phobl Ifanc a Gofal ac sy’n cyfarch y cynlluniau trawsnewidiol sydd yng nghynllun strategol y Cyngor. 

(b)  Ymatebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden a’r Aelod Cabinet Addysg i gwestiynau penodol gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau.

 

(i)     Cymerwyd y cyfle i longyfarch Aled Davies ar ei benodiad i’r swydd o Bennaeth Adran Oedolion a Llesiant yn barhaol a dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol.

 

(ii)    Yn deillio o gynnwys yr adroddiad a chwestiynau ar lafar,  ymatebwyd fel a ganlyn:

 

·         Cydnabyddai'r Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc y gwelwyd dirywiad yn y canrannau addysg bersonol  i blant mewn gofal ond roedd yn hyderus bod y problemau wedi eu datrys o ran prosesau gyda pherthynas rhwng yr Adran Addysg a’r Gwasanaeth Cymdeithasol yn dda a rhagwelir y bydd cynnydd yn y targed erbyn blwyddyn nesaf.

·         O safbwynt cynnydd yn y nifer o waharddiadau parhaol yn ysgolion cynradd, eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg yn dilyn gorfod cau uned arbenigol yn y Felinheli oherwydd materion diogelwch, roedd yn ffyddiog y byddai’r nifer o waharddiadau yn gostwng gan fod trefniadau amgen wedi eu rhoi mewn lle o fewn ysgolion i gynnal y disgyblion gydag ymddygiad dwys ac emosiynol.  Sicrhawyd y byddir yn ceisio lleihau’r niferoedd a waharddir. Nodwyd ymhellach bod ysgolion wedi gallu ymdopi yn dda iawn ar ôl cau’r uned ac roeddynt i’w canmol am y gwaith a wneir gyda’r plant.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chefnogaeth i ddisgyblion 3*, esboniodd yr Aelod Cabinet Addysg o ganlyniad i newidiadau yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad bod llawer o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac o ganlyniad fe fydd pob plentyn yn derbyn cynllun unigol. 

·         Mewn ymateb i bryder amlygwyd yng nghyd-destun gostyngiad yng nghyllideb y gwasanaethau ataliol ac yn benodol y Tîm o Amgylch y Plant, esboniodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod y Grŵp Tasg Amlasiantaethol yn ystyried ffrydiau o waith penodol ac yn cael eu hariannu gan grant.  Ategodd  y Pennaeth  Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd bod yr arian yn parhau gydag ychydig o ostyngiad a bod cyfeiriad a’r weledigaeth yn newid o ran mynediad i’r ddarpariaeth yn unol â’r anghenion sydd wedi eu hadnabod dros y cyfnod diwethaf.  Nodwyd ymhellach bod y strategaeth ataliol wedi adnabod bylchau yn seiliedig ar anghenion lleol yn y meysydd isod:

o   Oediad llefaredd ac Iaith

o   Rhiantu

o   Ymddygiad

o   Mynediad i wasanaeth iechyd meddwl ar lefel isel i blant a phobl ifanc ac oedolion

Cytunodd y Grŵp Tasg ar y ffordd ymlaen gan lunio rhaglen weithredu ar gyfer comisiynu’r gwasanaeth i’r dyfodol.  Cydnabuwyd bod risgiau o safbwynt lleihad i’r prosiectau i’r dyfodol. 

·                     Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau yn gefnogol i’r gwasanaeth ataliol uchod a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc gyfleu ddymuniad y Pwyllgor i sicrhau bod unigolion yn derbyn y gefnogaeth haeddiannol. 

·                     Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn a chodi ymwybyddiaeth rhieni o’r trefniadau diogelu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AROLYGIAD AROLYGIAETH GOFAL A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL CYMRU (AGGCC) AC AROLYGIAETH GOFAL IECHYD CYMRU (AGIC) O'R GOFAL A'R CYMORTH A DDARPERIR GAN WASANAETHAU ANABLEDDAU DYSGU YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 308 KB

Aelodau Cabinet:  Y Cyng. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

     Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu yng Ngwynedd, adolygiad o’r trefniadau i fedru gwireddu’r weledigaeth ynghyd a gwybodaeth am brif ganfyddiadau’r arolygiad a chynllun gweithredu.  

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i sylwadau'r Aelodau fel a ganlyn:

 

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau strategol ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, esboniodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y gwaith ar lefel rhanbarthol yn symud ymlaen ac yn adrodd i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau fel rhan o’r broses cyn ei gyflwyno i’r Llywodraeth. 

·         Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan y Cyng. Linda Ann Wyn Jones o leihad yn y nifer o weithwyr cymdeithasol, addawodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n ceisio cael gwybodaeth i’r Aelod o’r strwythur yn cynnwys nifer o weithwyr cymdeithasol  a fodolai 4 blynedd yn ôl.  Nodwyd ymhellach wrth edrych ar strwythurau blaenorol a’r rhai presennol rhaid cadw mewn cof sut mae’r gwasanaeth wedi datblygu a gorfod ymdopi gyda newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg,  a.y.b.

·         Nodwyd bod mynychu hyfforddiant Amddifadu o ryddid (DoLs) wedi bod yn agoriad llygaid ac fe nodwyd pryder enfawr ynglyn a diffyg aseswyr a bod oddeutu 200 o achosion yn disgwyl ar restr aros a phryderwyd y gall hyn gostio oddeutu £1,000 yr wythnos i’r Cyngor

·         Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y Cyngor wedi cymryd camau i roi arian unwaith ac am byth i ymdrin â’r achosion ar y rhestr aros, ond y tebygolrwydd ydoedd y byddai’n rhaid cyflwyno cais am gyllideb barhaol i ymdrin â’r rhestr aros.  Cadarnhawyd bod cydlynydd wedi ei phenodi ynghyd a threfniadau mewn lle i  hyfforddi gweithwyr cymdeithasol i fod yn gymwys i ymdrin á’r achosion. Ar hyn o bryd credir bod o leiaf  13 o swyddogion wedi eu hyfforddi i wneud asesiadau ac anelir i geisio hyfforddi 20 dros gyfnod o amser. Roedd y  mater yn derbyn sylw pellach a thrafodaeth gyda’r Aelod Cabinet perthnasol o ran ceisio rhoi strwythur yn ei le ar gyfer ymdrin â materion Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd yn ehangach. Tra’n cydnabod bod risgiau yn gysylltiedig gyda’r gwaith yma, rhaid bod yn ofalus i beidio gorymateb heb wybod beth yw’r darlun cyflawn a natur y gymhariaeth gydag awdurdodau eraill.

·         Mewn ymateb i bryder wnaed gan Aelod ynglyn a sicrwydd bod cyllid digonol ar gyfer yr asesiadau, nododd y Rheolwr Sirol Anableddau Dysgu, er bod mwy o unigolion yn derbyn asesiadau a mwy o bwysau ar weithwyr, bod y dull asesu wedi newid yn unol â’r Ddeddf Iechyd a Llesiant a bellach bod mwy o bwyslais ar waith arbedol a deilliannau ac yn awr yn darparu gwasanaethau mewn dull mwy credigol.   Nodwyd pwysigrwydd yn rôl y trydydd sector a’r angen i’r gwasanaeth sicrhau dilyniant i gyfarch anghenion a datblygu cyfleon unigolion megis drwy raglen OPUS, a.y.b. 

·         Yng nghyswllt sefydlu Uned Diogelu ar gyfer gwasanaethau oedolion, cadarnhawyd bod swydd ychwanegol wedi ei hysbysebu ac fe gyflwynir bid ariannol i gryfhau’r Tîm er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DATBLYGIAD Y SWYDDFEYDD ARDAL pdf eicon PDF 222 KB

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu’r bwriad o ddatblygiad y Swyddfeydd Ardal.

 

(a) Gosododd yr Aelod Cabinet gefndir i’r bwriad drwy nodi bod arbenigwyr yn y maes addysg wedi nodi bod arweinyddiaeth yn bwysig i gynnal safonau addysg. Nodwyd bod arweinyddion ysgolion o dan bwysau sylweddol drwy orfod rheoli staff, adeiladau, gweinyddu, arwain yr addysgu o fewn yr ysgol, ac mewn rhai achlysuron yn dysgu.  Prif bwrpas datblygu Swyddfeydd Ardal fyddai i fedru tynnu rhywfaint o faich oddi ar arweinyddion ysgolion er mwyn galluogi athrawon i addysgu ac i Benaethiaid arwain.

Tynnwyd sylw y byddai’r swyddfeydd ardal arfaethedig yn wahanol i’r swyddfeydd ardal a fu yn y gorffennol a’r prif nod ydoedd hybu cydweithio rhwng ysgolion ar nifer o lefelau.

 

(b) Nododd y Pennaeth Addysg bod mwy o bwyslais ar ranbartholi gwasanaethau'r dyddiau hyn ac fel gwasanaeth addysg nid oeddynt yn awyddus i bellhau’r gwasanaeth oddi wrth yr unigolion.   Wrth fod gofynion y tair ardal yng Ngwynedd yn dra gwahanol, nodwyd pwysigrwydd i greu cyfundrefn sy’n atebol yn lleol ac i sicrhau'r math cywir o adnoddau. 

 

Dros y blynyddoedd roedd mwy o bwysau wedi ei roi ar yr ysgolion a thrwy sefydlu Swyddfa Ardal rhagwelir y gellir tynnu’r elfennau o weinyddiaeth a rheolaeth drwy gyfundrefn lle gall athrawon rannu cyfrifoldeb dros fwy nag un safle. Nodwyd bod  Penaethiaid yn teimlo'r pwysau yn drwm yn enwedig mewn ysgolion gwledig a lleiaf ac yn sgil y toriadau o £4.3m yng nghyllideb ysgolion byddai’r strwythur arfaethedig yn sylfaen o ran cefnogaeth ac yn galluogi athrawon a Phenaethiaid i ganolbwyntio ar addysgu plant. 

 

(c) Derbyniwyd amlinelliad o’r strwythur gan y Swyddog Addysg Ardal a oedd yn cynnwys is-grwpiau, sef ail-sefydlu Bwrdd Ansawdd Sirol a fyddai’n goruchwylio materion yn ymwneud a lles, diogelu a gwella ansawdd addysg.  Yn ogystal, er mwyn sicrhau atebolrwydd lleol, bwriedir sefydlu Pwyllgor Craffu Ardal er mwyn creu partneriaid yn lleol i gynnwys Swyddog Ardal / Swyddog Busnes a Gwasanaethau, Ymgynghorydd Her Ysgol, Pennaeth, Cadeirydd Llywodraethwyr a dau aelod etholedig er mwyn medru craffu ar thema benodol yn lleol.

 

Nodwyd bod llywodraethwyr yn greiddiol i lwyddiant ysgol ac er mwyn hybu cydweithrediad strategol bwriedir sefydlu Bwrdd Strategol Dalgylch i gynnwys Cadeiryddion cyrff llywodraethol  y dalgylch a fyddai’n cwrdd dwywaith y tymor ar gyfer cynnal hyfforddiant, trafod cynlluniau datblygu dalgylchol mewn meysydd penodol er mwyn tynnu baich gwaith oddi ar unigolion mewn sefydliadau ar wahân. Hyderir y byddai hyn yn cryfhau perthynas agosach ac atebolrwydd lleol er mwyn hyrwyddo safonau addysg yn yr ysgolion.

 

Byddai’r uchod yn atebol i’r Tim Rheoli Addysg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

 

(a)  Bod y strwythur yn ymddangos yn gymhleth ac yn creu haen arall o weinyddiaeth.

 

(b)           Tra yn croesawu newid, gofynnwyd sut yr ariannir y strwythur newydd yn enwedig yn yr hinsawdd o doriadau sydd ohoni

 

Mewn ymateb, nodwyd bod cyllid wedi ei gymeradwyo am y 3 blynedd gyntaf gyda buddsoddiad unwaith ac am byth. Wedi hynny byddai’n ofynnol i’r gyfundrefn addysg ganolog fedru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU HAF 2016 pdf eicon PDF 613 KB

Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth Thomas

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu gwybodaeth gynnar ar berfformiad diwedd cyfnodau allweddol y flwyddyn addysgol 2015/16. 

 

(a)   Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg bod angen parchu cynnwys yr adroddiad gan mai gwybodaeth gychwynnol amodol am ganlyniadau CA4 a rannwyd gan nad oedd mynediad hyd yma at ddata cymharol a meincnodol ar gyfer pob cyfnod allweddol. 

 

(b)  Nodwyd bod y canlyniadau yn dda yng Ngwynedd a thynnwyd sylw yn benodol at y canlynol:

 

·         gwelwyd gwelliant sylweddol yng Nghyfnod Allweddol 4 ar draws ystod y dangosyddion  

·         Bod canlyniadau CA3 yn parhau yn gadarn (yn yr ail safle eleni)

·         Bod canlyniadau Cyfnod Sylfaen / Cyfnod Allweddol 2 yn weddol sefydlog ac angen ymgymryd â darn o waith o ran y trothwyon yn yr oedrannau yma i ganfod arferion da, cymhariaeth gydag ardaloedd de ddwyrain Cymru, asesiadau athrawon, a.y.b.

·         Bod angen rhoi sylw i CA3/CA4 ym meysydd  Cymraeg, Saesneg a Mathemateg

·         Angen gwella ansawdd y ddarpariaeth a safonau cyflawniad yn CA5 

·         Bod presenoldeb wedi gwella’n sylweddol yn CA4 ac roedd y Pennaeth Addysg yn ddiolchgar i’r ysgolion a’r gwasanaeth addysg am y gefnogaeth sydd yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau

 

(c)           Ategodd yr Aelod Cabinet Addysg ganmoliaeth a gwerthfawrogiad i staff ysgolion a’r swyddogion canolog yr Adran Addysg am eu gwaith caled mewn cynnal y perfformiad a chyfeiriodd yn benodol at fesurydd TL2+ (68.5%) a oedd yn gynnydd o 5% ar berfformiad 2015 ac sydd wedi gwella 13.5% ers cychwyn y Cyngor hwn.

 

(ch)      Mewn ymateb i ymholiadau  gan Aelodau unigol, nodwyd:

 

·         bod y berthynas gyda GwE wedi aeddfedu dros y 2 flynedd diwethaf a bod modd trafod anghenion penodol lleol i Wynedd drwy’r cynllun busnes e.e. gwnaed penodiad newydd ar gyfer Mathemateg yn CA4 sydd wedi bod yn llwyddiant 

·         Gellir cynnal trafodaeth am natur y gefnogaeth sydd ei angen yn lleol a hyderir y bydd yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth i’r canlyniadau 

·         Bod canlyniadau arolygiadau Gwynedd wedi gwella’n sylweddol  

 

 

Penderfynwyd:     Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.