Agenda item

Aelodau Cabinet:  Y Cyng. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

     Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu yng Ngwynedd, adolygiad o’r trefniadau i fedru gwireddu’r weledigaeth ynghyd a gwybodaeth am brif ganfyddiadau’r arolygiad a chynllun gweithredu.  

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i sylwadau'r Aelodau fel a ganlyn:

 

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau strategol ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, esboniodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y gwaith ar lefel rhanbarthol yn symud ymlaen ac yn adrodd i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau fel rhan o’r broses cyn ei gyflwyno i’r Llywodraeth. 

·         Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan y Cyng. Linda Ann Wyn Jones o leihad yn y nifer o weithwyr cymdeithasol, addawodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n ceisio cael gwybodaeth i’r Aelod o’r strwythur yn cynnwys nifer o weithwyr cymdeithasol  a fodolai 4 blynedd yn ôl.  Nodwyd ymhellach wrth edrych ar strwythurau blaenorol a’r rhai presennol rhaid cadw mewn cof sut mae’r gwasanaeth wedi datblygu a gorfod ymdopi gyda newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg,  a.y.b.

·         Nodwyd bod mynychu hyfforddiant Amddifadu o ryddid (DoLs) wedi bod yn agoriad llygaid ac fe nodwyd pryder enfawr ynglyn a diffyg aseswyr a bod oddeutu 200 o achosion yn disgwyl ar restr aros a phryderwyd y gall hyn gostio oddeutu £1,000 yr wythnos i’r Cyngor

·         Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y Cyngor wedi cymryd camau i roi arian unwaith ac am byth i ymdrin â’r achosion ar y rhestr aros, ond y tebygolrwydd ydoedd y byddai’n rhaid cyflwyno cais am gyllideb barhaol i ymdrin â’r rhestr aros.  Cadarnhawyd bod cydlynydd wedi ei phenodi ynghyd a threfniadau mewn lle i  hyfforddi gweithwyr cymdeithasol i fod yn gymwys i ymdrin á’r achosion. Ar hyn o bryd credir bod o leiaf  13 o swyddogion wedi eu hyfforddi i wneud asesiadau ac anelir i geisio hyfforddi 20 dros gyfnod o amser. Roedd y  mater yn derbyn sylw pellach a thrafodaeth gyda’r Aelod Cabinet perthnasol o ran ceisio rhoi strwythur yn ei le ar gyfer ymdrin â materion Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd yn ehangach. Tra’n cydnabod bod risgiau yn gysylltiedig gyda’r gwaith yma, rhaid bod yn ofalus i beidio gorymateb heb wybod beth yw’r darlun cyflawn a natur y gymhariaeth gydag awdurdodau eraill.

·         Mewn ymateb i bryder wnaed gan Aelod ynglyn a sicrwydd bod cyllid digonol ar gyfer yr asesiadau, nododd y Rheolwr Sirol Anableddau Dysgu, er bod mwy o unigolion yn derbyn asesiadau a mwy o bwysau ar weithwyr, bod y dull asesu wedi newid yn unol â’r Ddeddf Iechyd a Llesiant a bellach bod mwy o bwyslais ar waith arbedol a deilliannau ac yn awr yn darparu gwasanaethau mewn dull mwy credigol.   Nodwyd pwysigrwydd yn rôl y trydydd sector a’r angen i’r gwasanaeth sicrhau dilyniant i gyfarch anghenion a datblygu cyfleon unigolion megis drwy raglen OPUS, a.y.b. 

·         Yng nghyswllt sefydlu Uned Diogelu ar gyfer gwasanaethau oedolion, cadarnhawyd bod swydd ychwanegol wedi ei hysbysebu ac fe gyflwynir bid ariannol i gryfhau’r Tîm er mwyn medru gwella gallu’r gwasanaeth i ymateb yn effeithiol ac i gyfarch rhai o ddisgwyliadau’r Arolygaeth.  Addawyd y byddir yn cylchredeg diweddariad o strwythurau Timau o fewn yr Adran i’r Aelodau.

·         O safbwynt goruchwyliaeth i staff, eglurwyd bod trefn yn cael ei  gweithredu lle mae staff y tim yn cael goruchwyliaeth gan Uwch Ymarferyddion, hwy yn ei dderbyn gan y Rheolwr Sirol a hithau yn cael goruchwyliaeth gan Uwch Reolwr.   Mae’r drefn yma yn ei lle  er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol a.y.b.     

 

Penderfynwyd:           Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad ac edrych ymlaen am ddiweddariad yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu hwn ym mis Mawrth 2017.

 

Dogfennau ategol: