Aelodau Cabinet : Y Cynghorwyr Mair Rowlands, Gareth
Roberts, Gareth Thomas
(a)
I
ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor.
(Copi’n amgaeedig)
(b)
I
dderbyn ymateb i gwestiynau craffu penodol:
(i)
Ymateb gan yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden
(Gweler
Atodiad
1 a 2)
(ii) Ymateg gan yr Aelod
Cabinet Addysg (Gweler Atodiad 1)
Cofnod:
Cyflwynwyd:
(a)
Trosolwg o berfformiad y
Cyngor hyd yma ym maes Plant a Phobl Ifanc a Gofal ac sy’n cyfarch y cynlluniau
trawsnewidiol sydd yng nghynllun strategol y Cyngor.
(b)
Ymatebion ysgrifenedig
yr Aelodau Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden a’r Aelod Cabinet Addysg i
gwestiynau penodol gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau.
(i)
Cymerwyd y cyfle i
longyfarch Aled Davies ar ei benodiad i’r swydd o Bennaeth Adran Oedolion a
Llesiant yn barhaol a dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol.
(ii)
Yn deillio o gynnwys yr
adroddiad a chwestiynau ar lafar,
ymatebwyd fel a ganlyn:
·
Cydnabyddai'r Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc y
gwelwyd dirywiad yn y canrannau addysg bersonol
i blant mewn gofal ond roedd yn hyderus bod y problemau wedi eu datrys o
ran prosesau gyda pherthynas rhwng yr Adran Addysg a’r Gwasanaeth Cymdeithasol
yn dda a rhagwelir y bydd cynnydd yn y targed erbyn blwyddyn nesaf.
·
O safbwynt cynnydd yn y nifer o waharddiadau
parhaol yn ysgolion cynradd, eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg yn dilyn gorfod
cau uned arbenigol yn y Felinheli oherwydd materion diogelwch, roedd yn
ffyddiog y byddai’r nifer o waharddiadau yn gostwng gan fod trefniadau amgen
wedi eu rhoi mewn lle o fewn ysgolion i gynnal y disgyblion gydag ymddygiad
dwys ac emosiynol. Sicrhawyd y byddir yn
ceisio lleihau’r niferoedd a waharddir. Nodwyd
ymhellach bod ysgolion wedi gallu ymdopi yn dda iawn ar ôl cau’r uned ac
roeddynt i’w canmol am y gwaith a wneir gyda’r plant.
·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chefnogaeth i
ddisgyblion 3*, esboniodd yr Aelod Cabinet Addysg o ganlyniad i newidiadau yn y
ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad bod llawer o bwyslais ar
ymyrraeth gynnar ac o ganlyniad fe fydd pob plentyn yn derbyn cynllun unigol.
·
Mewn ymateb i bryder amlygwyd yng nghyd-destun
gostyngiad yng nghyllideb y gwasanaethau ataliol ac yn benodol y Tîm o Amgylch
y Plant, esboniodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod y Grŵp Tasg Amlasiantaethol yn ystyried ffrydiau o waith penodol ac yn
cael eu hariannu gan grant. Ategodd y Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd bod yr arian yn parhau gydag ychydig o
ostyngiad a bod cyfeiriad a’r weledigaeth yn newid o ran mynediad i’r
ddarpariaeth yn unol â’r anghenion sydd wedi eu
hadnabod dros y cyfnod diwethaf. Nodwyd
ymhellach bod y strategaeth ataliol wedi adnabod bylchau yn seiliedig ar
anghenion lleol yn y meysydd isod:
o Oediad llefaredd
ac Iaith
o Rhiantu
o Ymddygiad
o Mynediad i wasanaeth iechyd meddwl ar lefel
isel i blant a phobl ifanc ac oedolion
Cytunodd y Grŵp
Tasg ar y ffordd ymlaen gan lunio rhaglen weithredu ar gyfer comisiynu’r
gwasanaeth i’r dyfodol. Cydnabuwyd bod
risgiau o safbwynt lleihad i’r prosiectau i’r dyfodol.
·
Nodwyd bod y Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau yn gefnogol i’r gwasanaeth ataliol uchod a gofynnwyd i’r
Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc gyfleu ddymuniad y Pwyllgor i sicrhau bod
unigolion yn derbyn y gefnogaeth haeddiannol.
·
Mewn ymateb i ymholiad
gan Aelod ynglyn a chodi ymwybyddiaeth rhieni o’r
trefniadau diogelu plant a phobl ifanc, esboniwyd bod y Cyngor wedi codi
ymwybyddiaeth pob aelod o staff am ddiogelwch plant ac wedi derbyn hyfforddiant
i’r perwyl hwn. Nodwyd bod pob Adran o’r
Cyngor wedi dynodi person sy’n gyfrifol am ddiogelu i’w galluogi i adnabod
problemau, nodwyd ymhellach bod y gwaith a wnaed o fewn y Cyngor i’w
ganmol. Awgrymwyd i Aelodau etholedig
sy’n llywodraethwyr godi ymwybyddiaeth o’r uchod yn yr ysgolion.
·
Pryderwyd nad oedd y
Cyngor yn ystyried ac yn meddwl ymlaen llaw fel bo modd ymateb yn fuan pan fo
deddfwriaethau yn newid, a.y.b.
·
Mewn ymateb i’r uchod,
nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y Cyngor yn aml iawn yn arwain ar brosiectau
drwy Gymru gyfan pan fo newid yn digwydd a thynnwyd
sylw at un prosiect sef codi safonau addysg gan nodi bod perfformiad Gwynedd yn
y safle 1af o ran perfformiad disgyblion 15 oed ac yn 5ed o safbwynt y trothwy
lefel 2+.
·
Pryderwyd am y lefel
isel o gefnogaeth fyddai ar gael yn benodol gyda darpariaeth iechyd
meddwl. Mewn ymateb esboniodd yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod swyddog o’r Bwrdd Iechyd wedi ei phenodi i
gyd-weithio gyda’r gwasanaeth ac y gellir symud
ymlaen fel bo angen.
·
Sicrhaodd yr Aelod
Cabinet Addysg y byddai yn trefnu diwrnod agored (ar ddydd Sadwrn) ar gyfer
Aelodau etholedig i Ysgol newydd Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth. Fe fyddai’r ysgol yn agor hanner tymor gyda
diwrnod agored wedi ei drefnu i rieni.
Nododd ymhellach y byddai’n croesawu mwy o ddefnydd cymunedol o’r
adeilad megis yr ystafell therapi.
·
Cadarnhaodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant yng nghyd-destun prosiect Her Gofal, bod Rheolwr Llesiant wedi ei
phenodi ar 1 Gorffennaf 2016 ac yn ystod yr wythnosau cyntaf wedi bod yn
cyfarwyddo a’r gwaith a chyfarfod unigolion.
Fe fyddir yn darparu rhaglen waith a sicrhawyd y byddir yn cyflwyno
adroddiad ymhen 6 mis ar y datblygiadau i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu
hwn.
Penderfynwyd: (a) Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.
(b) Gofyn i’r Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc gyfleu dymuniad y Pwyllgor Craffu hwn i sicrhau parhad i’r
gefnogaeth i ystod o wasanaethau ataliol ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc
bregus y Sir.
(c) Gofyn
i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno adroddiad ar
ddatblygiadau rhaglen waith y Rheolwr Llesiant i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor
Craffu hwn ymhen oddeutu 6 mis.
Dogfennau ategol: