Agenda item

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu’r bwriad o ddatblygiad y Swyddfeydd Ardal.

 

(a) Gosododd yr Aelod Cabinet gefndir i’r bwriad drwy nodi bod arbenigwyr yn y maes addysg wedi nodi bod arweinyddiaeth yn bwysig i gynnal safonau addysg. Nodwyd bod arweinyddion ysgolion o dan bwysau sylweddol drwy orfod rheoli staff, adeiladau, gweinyddu, arwain yr addysgu o fewn yr ysgol, ac mewn rhai achlysuron yn dysgu.  Prif bwrpas datblygu Swyddfeydd Ardal fyddai i fedru tynnu rhywfaint o faich oddi ar arweinyddion ysgolion er mwyn galluogi athrawon i addysgu ac i Benaethiaid arwain.

Tynnwyd sylw y byddai’r swyddfeydd ardal arfaethedig yn wahanol i’r swyddfeydd ardal a fu yn y gorffennol a’r prif nod ydoedd hybu cydweithio rhwng ysgolion ar nifer o lefelau.

 

(b) Nododd y Pennaeth Addysg bod mwy o bwyslais ar ranbartholi gwasanaethau'r dyddiau hyn ac fel gwasanaeth addysg nid oeddynt yn awyddus i bellhau’r gwasanaeth oddi wrth yr unigolion.   Wrth fod gofynion y tair ardal yng Ngwynedd yn dra gwahanol, nodwyd pwysigrwydd i greu cyfundrefn sy’n atebol yn lleol ac i sicrhau'r math cywir o adnoddau. 

 

Dros y blynyddoedd roedd mwy o bwysau wedi ei roi ar yr ysgolion a thrwy sefydlu Swyddfa Ardal rhagwelir y gellir tynnu’r elfennau o weinyddiaeth a rheolaeth drwy gyfundrefn lle gall athrawon rannu cyfrifoldeb dros fwy nag un safle. Nodwyd bod  Penaethiaid yn teimlo'r pwysau yn drwm yn enwedig mewn ysgolion gwledig a lleiaf ac yn sgil y toriadau o £4.3m yng nghyllideb ysgolion byddai’r strwythur arfaethedig yn sylfaen o ran cefnogaeth ac yn galluogi athrawon a Phenaethiaid i ganolbwyntio ar addysgu plant. 

 

(c) Derbyniwyd amlinelliad o’r strwythur gan y Swyddog Addysg Ardal a oedd yn cynnwys is-grwpiau, sef ail-sefydlu Bwrdd Ansawdd Sirol a fyddai’n goruchwylio materion yn ymwneud a lles, diogelu a gwella ansawdd addysg.  Yn ogystal, er mwyn sicrhau atebolrwydd lleol, bwriedir sefydlu Pwyllgor Craffu Ardal er mwyn creu partneriaid yn lleol i gynnwys Swyddog Ardal / Swyddog Busnes a Gwasanaethau, Ymgynghorydd Her Ysgol, Pennaeth, Cadeirydd Llywodraethwyr a dau aelod etholedig er mwyn medru craffu ar thema benodol yn lleol.

 

Nodwyd bod llywodraethwyr yn greiddiol i lwyddiant ysgol ac er mwyn hybu cydweithrediad strategol bwriedir sefydlu Bwrdd Strategol Dalgylch i gynnwys Cadeiryddion cyrff llywodraethol  y dalgylch a fyddai’n cwrdd dwywaith y tymor ar gyfer cynnal hyfforddiant, trafod cynlluniau datblygu dalgylchol mewn meysydd penodol er mwyn tynnu baich gwaith oddi ar unigolion mewn sefydliadau ar wahân. Hyderir y byddai hyn yn cryfhau perthynas agosach ac atebolrwydd lleol er mwyn hyrwyddo safonau addysg yn yr ysgolion.

 

Byddai’r uchod yn atebol i’r Tim Rheoli Addysg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

 

(a)  Bod y strwythur yn ymddangos yn gymhleth ac yn creu haen arall o weinyddiaeth.

 

(b)           Tra yn croesawu newid, gofynnwyd sut yr ariannir y strwythur newydd yn enwedig yn yr hinsawdd o doriadau sydd ohoni

 

Mewn ymateb, nodwyd bod cyllid wedi ei gymeradwyo am y 3 blynedd gyntaf gyda buddsoddiad unwaith ac am byth. Wedi hynny byddai’n ofynnol i’r gyfundrefn addysg ganolog fedru ysgwyddo’r buddsoddiad fel y gweithredir y model yn ei blaen. Pwysleisiwyd bod capasiti canolog yr Adran Addysg yn rhy fach a phe byddir yn gadael y sefyllfa fel ac mae, y tebygolrwydd fyddai i’r sefyllfa waethygu.  Rhaid cofio bod rhai ysgolion cynradd yn fach a cheir trafferthion i recriwtio staff.  O safbwynt y model uchod, byddai’n creu cyfle i gyfres o ysgolion fedru gweithio gyda’i gilydd, cael trafodaethau yn lleol ac i gynnig datrysiadau i symud ymlaen. Gwelir yma, sail gychwynnol i roi cynhaliaeth i athrawon addysgu a Phenaethiaid i arwain. 

 

(c)  Rhagwelir y byddai’n anodd denu llywodraethwyr i sesiynau hyfforddi.

 

Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod cynllun peilot yn weithredol yn ardal Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog gyda Chadeiryddion llywodraethwyr wedi dod at ei gilydd ac o’u profiad yn ei weld yn fuddiol ac yn gyfle i drafod materion cyffelyb.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg bod safonau addysg yng Ngwynedd yn dda ond bod yn ofynnol ystyried y dyfodol. Ceir neges o du’r ysgolion eu bod yn sigo ac yn  gynyddol anodd iddynt gyda llawer o newidiadau yn y cwricwlwm, a’u bod yn teimlo pwysau cynyddol ar Dîm Rheoli'r ysgolion.  Wrth geisio gwella’r amodau o fewn y model uchod gellir rhyddhau’r amser i’r Timau Rheoli. Ar hyn o bryd, nodwyd bod Penaethiaid yn gorfod ymdopi gyda gwaith o gynnal adeiladau, ymdrin â materion iechyd a diogelwch a.y.b. ond fel rhan o’r model byddai unigolion yn y swyddfeydd ardal yn gallu cynorthwyo gyda’r gwaith yma iddynt. 

 

Gwelir enghreifftiau da o wasanaethau rhanbarthol o safbwynt GwE ond cyrhaeddir at bwynt lle mae tensiwn rhwng safonau gwahanol awdurdodau. Drwy’r model uchod gellir sicrhau ar lefel ardal bod y gefnogaeth a’r gynhaliaeth yn cyrraedd yr ysgolion mewn da bryd.  Ar hyn o bryd yng Ngwynedd nodwyd nad oedd ‘run ysgol gynradd mewn categori statudol a gobeithir na fydd ‘run ysgol uwchradd yn y categori hwnnw ychwaith i’r dyfodol. 

 

Fe fyddai cyfle i’r Pwyllgor Craffu fedru craffu ar y model gan roi barn i weld a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol. 

  

 

(ch) Gofynnodd cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig bod unrhyw ail-lunio yn rhoi sylw i'r egwyddor o reolaeth leol i ysgolion  sydd wedi cael ei ddirprwyo yn briodol i ysgolion i reoli eu cyllideb,  a dros yr 20 mlynedd diwethaf, bod  llawer wedi digwydd yn y datblygiad hwnnw. Nodwyd bod cyrff llywodraethu wedi cymryd llawer mwy o gyfrifoldebau gan gynnwys ymdrin â chyllidebau, adeiladau, ac ati.  Gofynnwyd ar gyfer unrhyw ail-lunio, bod ystyriaeth briodol yn cael ei roi i newidiadau sydd eisoes wedi digwydd.  Gofynnwyd yn benodol i gydnabod y gofynion enfawr sydd yn bodoli eisoes ar ysgolion i fynychu cyfarfodydd oherwydd bod gofyn i benaethiaid dreulio llawer o’u hamser mewn cyfarfodydd yn barod a bod hyn yn creu pryder. Felly, gofynnwyd i ystyried yn ofalus unrhyw strwythur sy'n cynyddu nifer y cyfarfodydd i Benaethiaid. .

 

Ychwanegodd, tra’n derbyn bod ambell densiwn rhwng GwE ac awdurdodau, credir y gellir eu goresgyn.  Rhaid cofio gwnaed buddsoddiad enfawr rhwng yr ysgolion a GwE ac ail-strwythuro ar gyfer gweithredu’r model cyfan i symud addysg ymlaen.  

 

 

(d)  Pryder y gall y Pwyllgor Craffu Ardal gynnwys oddeutu 80 o unigolion.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg y byddai’r Pwyllgor Craffu Ardal yn blaenoriaethu materion ac yn ei dro yn gwahodd Cadeirydd / staff ysgol i graffu ar them benodol i sicrhau cyfeiriad lleol e.e. ym maes Mathemateg. 

 

Ychwanegwyd, ar gyfer eglurder ehangach y byddai’n ofynnol ffurfioli'r is-grwpiau a chreu cylch gorchwyl ar eu cyfer.  

 

(dd) Tra’n croesawu’r egwyddor o adfer y Swyddfa Addysg Ardal a’r angen am

gefnogaeth i ysgolion, byddai’n synhwyrol i sefydlu’r swyddfeydd yn gyntaf cyn adeiladu ar y model.

 

(e)           Mynegwyd bod diffyg recriwtio Penaethiaid wedi bod yn broblem oherwydd cyfyngiad ar ymgeiswyr i fedru ymgymryd â’r cymhwyster CPCP.  Hefyd teimlwyd bod gofynion cymwysterau’r Colegau i fedru ymgymryd â chwrs ymarfer dysgu yn rhy uchel.

 

Mewn ymateb, cydnabuwyd bod denu ymgeiswyr ar gyfer ymgymryd â’r cymhwyster CPCP yn her yn enwedig yn yr ysgolion lleiaf oherwydd nad yw athrawon yn cael digon o brofiad o ran rheoli pobl.

 

(f)            O safbwynt recriwtio penaethiaid, mynegwyd bod hysbysebion am Benaethiaid yn cael eu cyfyngu i ysgolion Gwynedd yn unig ac oni ellir lledaenu’r hysbysebu’n ehangach.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Addysg mai penderfyniad i’r corff llywodraethol unigol ydoedd hysbysebu a bod cost sylweddol i hysbysebu yn y wasg.

 

(ff)  Gellir dehongli’r model fel modd i arbed arian sef i bennu Pwyllgorau Craffu Ardal, penodi un Pennaeth ar fwy nag un ysgol o fewn yr ardal, ac o ganlyniad byddir yn colli swyddi athrawon / penaethiaid. 

 

(g) Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a sawl Pennaeth sydd ar secondiad i GwE, dywedodd y Pennaeth Addysg bod y nifer o secondiadau wedi lleihau gan ychwanegu mai un o anfanteision i Wynedd ydoedd bod nifer o swyddi ar draws y rhanbarth yn gofyn am yr iaith Gymraeg ac felly bod Gwynedd wedi colli fwy o Benaethiaid / athrawon o ran canran na’r awdurdodau eraill. 

 

(ng)  O safbwynt adborth o du’r Penaethiaid ynglyn a’r newidiadau, esboniodd y Pennaeth Addysg ni ellir cynnal y ddarpariaeth fel y mae.  Tra’n cydnabod y bydd rhai yn ei groesawu ac eraill ddim, pwysleisiodd bod yn rhaid aeddfedu fel proffesiwn o’r meddylfryd i gadw popeth yn unigol ac i fod yn barod i rannu adnoddau fel bo modd cydweithio’n lleol.  

 

(h) Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a lleoliad y Swyddogion Ardal, eglurwyd y byddai dwy elfen i’w gwaith sef eu bod yn atebol yn lleol ond hefyd byddai’n ofynnol iddynt ddod at ei gilydd yn rhanbarthol.

           

(i)            Esboniodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol bod aelodau’r Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg wedi cyfweld a Phenaethiaid ysgolion penodol yn ystod tymor yr haf ac wedi derbyn negeseuon clir iawn ynglyn ag ysgafnhau baich  i ysgolion o ran datganoli gwaith i ryddhau amser.  Yn sgil hyn felly, awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r tri Swyddog Ardal gwrdd â’r Ymchwiliad Craffu i drafod manylder y model swyddfeydd ardal.     

 

 

Penderfynwyd:          (a)    Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

                                       (b)  Bod y Pwyllgor Craffu yn cefnogi’r egwyddor o sefydlu Swyddfeydd Ardal fel cam ymlaen ond dymunir i’r Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg drafod gyda’r tri Swyddog Ardal fanylder y model a gynigir a’r hyn fydd yn cael ei ddatganoli i’r swyddfeydd ardal.

 

Dogfennau ategol: