Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016 – 2017

 

Diolchodd y Cynghorydd Beth Lawton i’r Cynghorydd Peter Read am ei waith a’i ddiddordeb yn y maes fel cyn cadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y  Cynghorydd Eirwyn Williams  yn Is gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016 – 2017

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Siân Wyn Hughes, Dewi Owen,  Peter Read, Gareth A Roberts ac Ann Williams. Neil Foden a David Healy (Swyddogion Undeb Athrawon)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones, yn eitem 9 ar y rhaglen oherwydd natur ei gwaith. Gadawodd y Cynghorydd yr ystafell yn ystod y drafodaeth.

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 257 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2016

 

7.

ADRODDIAD CYNNYDD - YMCHWILIAD CRAFFU ALLTWEN pdf eicon PDF 69 KB

 

Aelod Cabinet:  Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad cynnydd ar Ymchwiliad Craffu  Alltwen.

 

 

10.00 – 10.15 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr ymchwiliad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar y gwaith oedd wedi ei gyflawni a’r gwaith sydd wedi ei gynllunio. Amlygodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones bod angen ymchwilio pellach i’r maes gan mai dryslyd iawn oedd ceisio dehongli pwyt odd yn cael y gwasanaeth a ‘r nifer oedd yn derbyn y gwasanaeth. Awgrymwyd bod angen mwy o amser i holi ymhellach er mwyn ceisio datrys hyn ynghyd a cheisio adborth defnyddwyr gwasanaeth. Cynigiwyd bod angen treulio diwrnod yn Alltwen yn ceisio mewnbwn rhai o’r defnyddwyr.

 

b)    Amlygwyd mai tri yn unig o aelodau’r ymchwiliad oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd mai, ac fe wnaed awgrym y dylid fod wedi gohirio'r cyfarfod hwnnw oherwydd y nifer a fynychwyd ac oherwydd y materion oedd yn codi yn y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb, nodwyd nad oedd cworwm ar gyfer ymchwiliad craffu ac fe benderfynwyd be fyddai tri yn mynychu byddai’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Gwnaed awgrym i osod dyddiadau i’r dyfodol fel eu bod yn nyddiaduron yr aelodau

 

c)    Derbyniwyd y sylw bod angen ymateb cyn gleifion a phobl sydd yn derbyn y gwasanaeth, ond amlygwyd yr angen i ystyried hyn yn ofalus oherwydd materion cyfrinachedd a diogelu data. Awgrymwyd y gellid casglu'r wybodaeth drwy swyddogion gweithredol sydd yn ymwneud ar’ defnyddwyr gwasanaeth wyneb yn wyneb a heb greu pryder ymysg y defnyddwyr o gael eu holi ar gyfer yr ymchwiliad.

Mewn ymateb i gynnig bod angen treulio diwrnod yn yr ysbyty yn ceisio adborth, awgrymwyd y byddai un person yn ddigonol ar gyfer hyn.

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol

-       Enghreifftiau o fethu cael offer -angen datrysiad. Nodwyd bod y broses o geisio offer yn drwsgl a bod angen cadw budd yn lleol

-       Pwysig cael mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth i’r ymchwiliad a bod system yn ei le i sicrhau hyn

-       Staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gweithio dros 24ain awr , dros saith diwrnod yr wythnos - amlygwyd nad oes staff Gwynedd yn rhoi'r oriau i mewn dros y penwythnos - angen cyfarch hyn

-       Arafwch y Bwrdd Iechyd i ymrwymo o i rai agweddau

-       dylid ymestyn allan ymhellach - ehangu’r cynllun i ardaloedd erial

-       Cais i’r ymchwiliad ystyried nodi oedran yr unigolion sydd yn cael eu holi oherwydd amharodrwydd rhai pobl hyn i gwyno

-       A oes ystyriaeth wedi ei roi i’r pwysau ychwanegol tebygol  ar y gwasanaeth petai’r penderfyniad yw gadael Ewrop?

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn sylwadau’r swyddogion. Amlygodd bod y cleifion yn hoffi’r dull newydd o weithio a bod angen parhau gydag agwedd bositif.

 

dd)     Derbyniwyd bod gwrthdaro rhwng ceisio trefn newydd a’r hen drefn a bod rhwystredigaethau dros ei ymestyn, ond bod rhaid ceisio datrysiad a symud ymlaen. Cytunodd gyda’r sylw bod angen mewnbwn y defnyddwyr gwasanaeth, ond amlygodd yr angen i wneud hyn yn ystyrlon.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllideb ar gyfer y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

YMCHWILIAD CRAFFU ADDYSG GYMRAEG pdf eicon PDF 221 KB

 

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I ystyried adroddiad cynnydd gan Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. 

 

 

10.15 – 11.00 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed gan yr Adran Addysg mewn ymateb i’r Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg.  Atgoffwyd yr aelodau bod yr argymhellion wedi ei llunio ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Cymraeg o fewn dalgylchedd y Sir.

Nododd yr Aelod Cabinet bod trefniant yn ei le gan yr Adran Addysg ar gyfer cynnal astudiaeth gan arbenigwr annibynnol i beth yn union a olygir wrth addysgu a dysgu dwyieithog lle bo hynny ar waith a diffinio natur ieithyddol ysgolion uwchradd y Sir  (Argymhellion 1 a 2 o’r ymchwiliad). Eglurwyd, er bod arbenigwr wedi ei benodi, nad oedd modd dechrau ar y gwaith oherwydd amgylchiadau personol. Adroddwyd bod yr adran wedi ystyried penodi arbenigwr arall, ond penderfynwyd gohirio'r gwaith hyd Fedi 2016. Amlygodd bod y sefyllfa yma yn un anffodus, ond bellach wedi ei datrys.

 

Dosbarthwyd cylch gorchwyl o ofynion yr astudiaeth i’r aelodau, er gwybodaeth..

 

b)    Wrth gyflwyno'r cynllun gweithredu, nododd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg bod angen cysoni Polisi Iaith Ysgolion y Sir a bod edrych ar y sefyllfa Uwchradd yn greiddiol i’r astudiaeth.

 

c)    Mynegwyd siom nad oedd ymateb i’r holl argymhellion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad cynnydd a gwnaed cais i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg adrodd /rhoi trosolwg sydyn ar bob un.

 

ch)    Diolchwyd i'r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg am y manylion. Amlygodd yr Aelod Cabinet y byddai unrhyw argymhellion i’r dyfodol yn plethu i mewn i Gynllun Busnes yr Adran fel ffordd o ymateb iddynt, ynghyd ac argymhellion yr Adroddiad Blynyddol - gwnaed cais i’r Pwyllgorau Craffu edrych ar gylch Cynllun Busnes Addysg.

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Cadeirydd bod yr ymchwiliad wedi bod o werth a da oedd gweld gweithredu eisoes ar rai o’r argymhellion.

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd yn sylwadau canlynol:

·         Yng nghyd-destun Ysgol Friars bod angen sicrhau darpariaeth ieithyddol briodol ar gyfer y plant

·         Dylai unrhyw adroddiadau / dogfennau ychwanegol fod wedi eu dosbarthu ymlaen llaw er mwyn craffu'r sefyllfa yn well

·         Amlygwyd mai Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg ydoedd ac nid Addysg Ddwyieithog - angen bod yn rhagweithiol i gadw'r Gymraeg yn fyw.

·         Angen edrych ar drefniadaeth ysgolion Bangor ar fyrder. Angen rhoi ystyriaeth i ysgolion preifat Bangor – angen ceisio rheolaeth dros y defnydd o’r iaith yma.

·         Pam mai ysgolion sydd yn gosod eu hunain mewn categorïau - angen cysondeb

·         Defnydd iaith tu hwnt i oriau ysgol yn anodd ei reoli - angen mesur defnydd o’r iaith mewn cymdeithas a sicrhau anogaeth  / hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyfforddwyr

·         Angen adolygu’r argymhellion fel targedau ‘campus’

·         Pryder  y gallai rhai ysgolion gael eu Seisnigeiddio a phlant yn symud i ysgol gyfagos, sydd o ganlyniad yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr ysgolion hynny

·         Angen cefnogaeth i rieni di-Gymraeg

 

e)    Mewn ymateb i’r sylw yn ymwneud â mesur defnydd o’r iaith tu hwnt i oriau ysgol, nododd yr Aelod Cabinet bod y plant, drwy ddefnydd o’r Siarter Iaith yn adrodd eu hunain ar y defnydd o iaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

POLISI CLUDIANT: ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 83 KB

 

Aelod Cabinet:  Y Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod. 

 

(Copi i ddilyn)

 

11.00 – 11.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Gadawodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yr ystafell ac ni fu yn rhan o’r drafodaeth)

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn amlygu'r angen i Gyngor Gwynedd osod polisi a threfniadau cludiant newydd i’r Adran Oedolion a Llesiant mewn ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Amlygwyd bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i hybu llesiant ein dinasyddion er mwyn hybu a chefnogi annibyniaeth.

Yn sgil newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r hinsawdd ariannol, nododd yr Aelod Cabinet bod angen mabwysiadu polisi cludiant teg a chynaliadwy. Amlygodd y gall newidiadau gael effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac felly bydd ymgysylltu effeithiol gyda rhan-ddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr a’u teuluoedd, yn allweddol i’r broses.

 

Adroddwyd, wrth i bob unigolyn gael ei asesu, bydd cludiant yn cael ei gyfarch yn y pecyn gofal - bydd yno fel rhan o’r pecyn yn hytrach nag fel ychwanegiad. I gyfarch hyn, bydd rhaid i bob unigolyn gael ei asesu yn ei gyfanrwydd.

 

Cymhelliant yr ymarfer yw ymateb i’r ddeddf ac amlygwyd bod tri opsiwn posib i’w hystyried.

 

·         Penderfynu peidio â newid  trefniadau.  Byddai oblygiadau ariannol a diwylliannol o ran peidio newid ein hymarfer yn y maes yma.

·         Mabwysiadu’r polisi newydd ac ail adolygu pecynnau gofal yn benodol ar sail y polisi cludiant newydd.

·         Mabwysiadu’r polisi newydd ar sail pecynnau newydd, ailasesiadau ac adolygiadau blynyddol o becynnau yn hytrach na chynnal adolygiad penodol ar faterion cludiant.

 

Awgrymwyd nad oedd opsiwn 1 yn realistig nag yn gynaliadwy yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol mae’r Awdurdod yn wynebu.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn, pam bod cyfanswm cost Iechyd Meddwl yn isel ar gyfer cyllideb 2016/2017 (£550.00), nodwyd nad oedd neb gyda chyflyrau iechyd meddwl yn derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd ac felly adroddwyd mai ‘awgrym’ yn unig ydoedd.

 

Mewn ymateb i sylw mai cynllun ydoedd i arbed arian ac nid i hybu annibyniaeth, derbyniwyd gan yr Aelod Cabinet bod arbediad o ddeutu £38k ynghlwm â’r broses, ond amlinellwyd mai'r bwriad oedd cynnwys cludiant fel rhan o’r pecyn gofal. Adroddwyd bod sgôp yma i gydweithio gyda chludiant integredig, e.e., gwell defnydd o fflyd cartrefi preswyl i symud pobl o fewn y Sir, i hybu llesiant a chefnogi annibyniaeth

 

c)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·           Angen hybu annibyniaeth i bobl hŷn gan sicrhau bod ganddynt ryddid i adael y tŷ.

·           Angen sicrhau bod y gwasanaeth ar gyfer Gwynedd gyfan ac nid yn y prif ardaloedd yn unig.

·           Angen cydlynu gwell gyda gwasanaeth tacsi o’r ysbyty.

·           O blaid gweithio yn fwy effeithiol - trefniadau mewnol yn ymddangos yn flêr ar hyn o bryd ac felly angen ail strwythuro i sicrhau gwell trefn a threfniadau cludiant hyblyg.

·           Angen rhoi ystyriaeth i adnoddau cludiant mewn ysgolion.

·           Angen sicrhau bod yr asesu yn gywir a bod y rhai hynny sydd fwyaf angen y gwasanaeth yn derbyn y gwasanaeth.

·           Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘asesu’ a ‘gwir angen’? Rhaid cael dealltwriaeth o wir angen yr unigolyn drwy adnabod cyfleoedd i gwrdd â’r angen hynny yn hytrach na  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.