Agenda item

 

Aelod Cabinet:  Y Cyng.  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod. 

 

(Copi i ddilyn)

 

11.00 – 11.45 a.m.

 

Cofnod:

(Gadawodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yr ystafell ac ni fu yn rhan o’r drafodaeth)

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn amlygu'r angen i Gyngor Gwynedd osod polisi a threfniadau cludiant newydd i’r Adran Oedolion a Llesiant mewn ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Amlygwyd bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i hybu llesiant ein dinasyddion er mwyn hybu a chefnogi annibyniaeth.

Yn sgil newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r hinsawdd ariannol, nododd yr Aelod Cabinet bod angen mabwysiadu polisi cludiant teg a chynaliadwy. Amlygodd y gall newidiadau gael effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac felly bydd ymgysylltu effeithiol gyda rhan-ddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr a’u teuluoedd, yn allweddol i’r broses.

 

Adroddwyd, wrth i bob unigolyn gael ei asesu, bydd cludiant yn cael ei gyfarch yn y pecyn gofal - bydd yno fel rhan o’r pecyn yn hytrach nag fel ychwanegiad. I gyfarch hyn, bydd rhaid i bob unigolyn gael ei asesu yn ei gyfanrwydd.

 

Cymhelliant yr ymarfer yw ymateb i’r ddeddf ac amlygwyd bod tri opsiwn posib i’w hystyried.

 

·         Penderfynu peidio â newid  trefniadau.  Byddai oblygiadau ariannol a diwylliannol o ran peidio newid ein hymarfer yn y maes yma.

·         Mabwysiadu’r polisi newydd ac ail adolygu pecynnau gofal yn benodol ar sail y polisi cludiant newydd.

·         Mabwysiadu’r polisi newydd ar sail pecynnau newydd, ailasesiadau ac adolygiadau blynyddol o becynnau yn hytrach na chynnal adolygiad penodol ar faterion cludiant.

 

Awgrymwyd nad oedd opsiwn 1 yn realistig nag yn gynaliadwy yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol mae’r Awdurdod yn wynebu.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn, pam bod cyfanswm cost Iechyd Meddwl yn isel ar gyfer cyllideb 2016/2017 (£550.00), nodwyd nad oedd neb gyda chyflyrau iechyd meddwl yn derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd ac felly adroddwyd mai ‘awgrym’ yn unig ydoedd.

 

Mewn ymateb i sylw mai cynllun ydoedd i arbed arian ac nid i hybu annibyniaeth, derbyniwyd gan yr Aelod Cabinet bod arbediad o ddeutu £38k ynghlwm â’r broses, ond amlinellwyd mai'r bwriad oedd cynnwys cludiant fel rhan o’r pecyn gofal. Adroddwyd bod sgôp yma i gydweithio gyda chludiant integredig, e.e., gwell defnydd o fflyd cartrefi preswyl i symud pobl o fewn y Sir, i hybu llesiant a chefnogi annibyniaeth

 

c)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·           Angen hybu annibyniaeth i bobl hŷn gan sicrhau bod ganddynt ryddid i adael y tŷ.

·           Angen sicrhau bod y gwasanaeth ar gyfer Gwynedd gyfan ac nid yn y prif ardaloedd yn unig.

·           Angen cydlynu gwell gyda gwasanaeth tacsi o’r ysbyty.

·           O blaid gweithio yn fwy effeithiol - trefniadau mewnol yn ymddangos yn flêr ar hyn o bryd ac felly angen ail strwythuro i sicrhau gwell trefn a threfniadau cludiant hyblyg.

·           Angen rhoi ystyriaeth i adnoddau cludiant mewn ysgolion.

·           Angen sicrhau bod yr asesu yn gywir a bod y rhai hynny sydd fwyaf angen y gwasanaeth yn derbyn y gwasanaeth.

·           Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘asesu’ a ‘gwir angen’? Rhaid cael dealltwriaeth o wir angen yr unigolyn drwy adnabod cyfleoedd i gwrdd â’r angen hynny yn hytrach na rhoi label ‘gofal dydd’ amhersonol iddynt

·           Awgrym i aelod o’r teulu neu ofalwr fod gyda’r unigolyn pan fydd yn cael ei asesu er mwyn sicrhau barn annibynnol.

·           Yng nghyd-destun y broses apêl - pwy fydd ar y panel? Rhaid ystyried bod pobl yn fregus ac nad oedd angen gosod rheolau sefydlog yma. Awgrymwyd i’r broses apêl fod yn hygyrch a hyblyg.

·           Croesawyd egwyddorion y cynllun, ond mynegwyd pryder o ran ymarferoldeb. Bydd rhaid sicrhau mynediad at wasanaeth a bod anogaeth a datblygu sgiliau yn cael eu cynnig i’r defnyddwyr er mwyn iddynt fagu hyder i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

·           Pellter, abl i deithio eu hunain a gosod mewn siroedd eraill, yn gosod cynsail beryg

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phellter yn gosod cynsail, nodwyd nad yw pellter o reidrwydd yn gosod ‘angen cludiant’, ond nodwyd byddai’n rhaid adnabod cyfleodd i gwrdd ag anghenion pob unigolyn.

 

Nid oedd ymateb i’r cwestiwn, pwy fydd ar y panel yng ngyd-destun y broses apêl, ond sicrhawyd y byddai ymateb yn cael ei anfon i’r ymholydd.

 

d)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha siroedd eraill oedd wedi  mabwysiadau trefniadau tebyg, amlygwyd bod Sir y Fflint wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth o’r fath. Nodwyd bod Swyddogion Sir y Fflint yn cydweithio yn dda gyda Swyddogion Cyngor Gwynedd ac yn rhannu ymarfer da

 

Mewn ymateb i’r sylw, gwnaed cais i’r gwasanaeth ystyried sir sydd yn debycach i broffil Gwynedd.

 

dd)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r asesiadau, nodwyd y byddai’r asesiadau yn cael eu gwneud ar sail mwy positif. Ategwyd mai'r un bobl broffesiynol fydd yn gwneud yr asesu; bydd yr asesiad yn drylwyr. O’r asesiad, daw deilliannau fydd angen datrysiadau.

 

Pwysleisiwyd gan yr Aelod Cabinet mai cynllun i gyfarch anghenion yr unigolyn oedd yma, yn gynllun creadigol, cyffrous a heriol i’r gwasanaeth fyddai yn cynnig llesiant i bob unigolyn. Bydd dyletswydd ar y gwasanaeth i gynnig y gorau i’r dinesydd a bydd pob ymgais yn cael ei wneud i geisio cyflwani hyn - bydd rhaid rhesymoli, ond ni fydd neb yn cael ei ddiystyru.

 

                        Cynigiwyd ac eiliwyd i gefnogi opsiwn 3.

           

PENDERFYNWYD

Gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cabinet:

-       Gweithredu Opsiwn 3, sydd yn cyd-fynd gydag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 , drwy adeiladu ar gryfderau unigolyn ac edrych ar adeiladu ar gryfderau cymunedol.

-       Sicrhau defnydd priodol a chydlynu trefniadau cludiant mewnol

-       Nodi mwy o fanylion yn yr Adroddiad i’r Cabinet am y broses apêl

-       Ystyried yn ofalus yr effaith ar unigolion o safbwynt y gost ac a ellir lliniaru’r effaith

-       Gwneud cais i Sir y Fflint amlygu’r gwersi a ddysgwyd / rhwystrau a wynebwyd, fel bod modd eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet

-       Ystyried trefniadau mewn siroedd eraill sydd â phroffil tebyg i Wynedd

-       Rhoi ystyriaeth hafal i bob rhan o Wynedd wledig a threfol o ran hwyluso a chydlynu trefniadau cludiant.

 

 

Dogfennau ategol: