Agenda item

 

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Thomas

 

I ystyried adroddiad cynnydd gan Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. 

 

 

10.15 – 11.00 a.m.

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed gan yr Adran Addysg mewn ymateb i’r Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg.  Atgoffwyd yr aelodau bod yr argymhellion wedi ei llunio ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Cymraeg o fewn dalgylchedd y Sir.

Nododd yr Aelod Cabinet bod trefniant yn ei le gan yr Adran Addysg ar gyfer cynnal astudiaeth gan arbenigwr annibynnol i beth yn union a olygir wrth addysgu a dysgu dwyieithog lle bo hynny ar waith a diffinio natur ieithyddol ysgolion uwchradd y Sir  (Argymhellion 1 a 2 o’r ymchwiliad). Eglurwyd, er bod arbenigwr wedi ei benodi, nad oedd modd dechrau ar y gwaith oherwydd amgylchiadau personol. Adroddwyd bod yr adran wedi ystyried penodi arbenigwr arall, ond penderfynwyd gohirio'r gwaith hyd Fedi 2016. Amlygodd bod y sefyllfa yma yn un anffodus, ond bellach wedi ei datrys.

 

Dosbarthwyd cylch gorchwyl o ofynion yr astudiaeth i’r aelodau, er gwybodaeth..

 

b)    Wrth gyflwyno'r cynllun gweithredu, nododd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg bod angen cysoni Polisi Iaith Ysgolion y Sir a bod edrych ar y sefyllfa Uwchradd yn greiddiol i’r astudiaeth.

 

c)    Mynegwyd siom nad oedd ymateb i’r holl argymhellion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad cynnydd a gwnaed cais i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg adrodd /rhoi trosolwg sydyn ar bob un.

 

ch)    Diolchwyd i'r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg am y manylion. Amlygodd yr Aelod Cabinet y byddai unrhyw argymhellion i’r dyfodol yn plethu i mewn i Gynllun Busnes yr Adran fel ffordd o ymateb iddynt, ynghyd ac argymhellion yr Adroddiad Blynyddol - gwnaed cais i’r Pwyllgorau Craffu edrych ar gylch Cynllun Busnes Addysg.

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Cadeirydd bod yr ymchwiliad wedi bod o werth a da oedd gweld gweithredu eisoes ar rai o’r argymhellion.

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd yn sylwadau canlynol:

·         Yng nghyd-destun Ysgol Friars bod angen sicrhau darpariaeth ieithyddol briodol ar gyfer y plant

·         Dylai unrhyw adroddiadau / dogfennau ychwanegol fod wedi eu dosbarthu ymlaen llaw er mwyn craffu'r sefyllfa yn well

·         Amlygwyd mai Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg ydoedd ac nid Addysg Ddwyieithog - angen bod yn rhagweithiol i gadw'r Gymraeg yn fyw.

·         Angen edrych ar drefniadaeth ysgolion Bangor ar fyrder. Angen rhoi ystyriaeth i ysgolion preifat Bangor – angen ceisio rheolaeth dros y defnydd o’r iaith yma.

·         Pam mai ysgolion sydd yn gosod eu hunain mewn categorïau - angen cysondeb

·         Defnydd iaith tu hwnt i oriau ysgol yn anodd ei reoli - angen mesur defnydd o’r iaith mewn cymdeithas a sicrhau anogaeth  / hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyfforddwyr

·         Angen adolygu’r argymhellion fel targedau ‘campus’

·         Pryder  y gallai rhai ysgolion gael eu Seisnigeiddio a phlant yn symud i ysgol gyfagos, sydd o ganlyniad yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr ysgolion hynny

·         Angen cefnogaeth i rieni di-Gymraeg

 

e)    Mewn ymateb i’r sylw yn ymwneud â mesur defnydd o’r iaith tu hwnt i oriau ysgol, nododd yr Aelod Cabinet bod y plant, drwy ddefnydd o’r Siarter Iaith yn adrodd eu hunain ar y defnydd o iaith yn gymdeithasol. Anogwyd hefyd i Benaethiaid a Llywodraethwyr ysgolion ystyried yr elfen yma.

 

f)     Mewn ymateb i sylw a wnaed ynglŷn ag arian Redrow ym Mangor, adroddwyd mai cyfrifoldeb yr Adran Cynllunio yw hyn.

 

ff)   Mewn ymateb i sylw am Ysgol Friars, amlygwyd bod Cadeirydd y Llywodraethwyr ynghyd a’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Mair Rowlands wedi  cynnal trafodaethau gyda’r Adran Addysg a rhoi mewnbwn i’r Polisi iaith.

 

g)    Croesawyd yr adroddiad a diolchwyd am y gwaith oedd wedi ei gyflawni hyd yma. Amlinellwyd yr angen i adolygu'r argymhellion yn gyhoeddus a ffurfiol. Ategwyd siom nad oedd y dogfennau ychwanegol wedi eu dosbarthu ymlaen llaw. Derbyniwyd y cais i’r arbenigwr annibynnol drafod sylwadau / syniadau cychwynnol ei astudiaeth gydag aelodau'r Ymchwiliad Craffu.

 

PENDERFYNWYD,

a)    derbyn yr adroddiad cynnydd ond ceisio adroddiad cynnydd pellach yn ymateb i’r holl argymhellion ymhen 6 mis (Ionawr 2017)

b)    bod yr arbenigwr sydd yn cynnal yr astudiaeth annibynnol yn cyfarfod gydag aelodau’r Ymchwiliad i gael eu mewnbwn i’w waith

 

 

 

Dogfennau ategol: