Agenda item

 

Aelod Cabinet:  Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad cynnydd ar Ymchwiliad Craffu  Alltwen.

 

 

10.00 – 10.15 a.m.

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr ymchwiliad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar y gwaith oedd wedi ei gyflawni a’r gwaith sydd wedi ei gynllunio. Amlygodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones bod angen ymchwilio pellach i’r maes gan mai dryslyd iawn oedd ceisio dehongli pwyt odd yn cael y gwasanaeth a ‘r nifer oedd yn derbyn y gwasanaeth. Awgrymwyd bod angen mwy o amser i holi ymhellach er mwyn ceisio datrys hyn ynghyd a cheisio adborth defnyddwyr gwasanaeth. Cynigiwyd bod angen treulio diwrnod yn Alltwen yn ceisio mewnbwn rhai o’r defnyddwyr.

 

b)    Amlygwyd mai tri yn unig o aelodau’r ymchwiliad oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd mai, ac fe wnaed awgrym y dylid fod wedi gohirio'r cyfarfod hwnnw oherwydd y nifer a fynychwyd ac oherwydd y materion oedd yn codi yn y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb, nodwyd nad oedd cworwm ar gyfer ymchwiliad craffu ac fe benderfynwyd be fyddai tri yn mynychu byddai’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Gwnaed awgrym i osod dyddiadau i’r dyfodol fel eu bod yn nyddiaduron yr aelodau

 

c)    Derbyniwyd y sylw bod angen ymateb cyn gleifion a phobl sydd yn derbyn y gwasanaeth, ond amlygwyd yr angen i ystyried hyn yn ofalus oherwydd materion cyfrinachedd a diogelu data. Awgrymwyd y gellid casglu'r wybodaeth drwy swyddogion gweithredol sydd yn ymwneud ar’ defnyddwyr gwasanaeth wyneb yn wyneb a heb greu pryder ymysg y defnyddwyr o gael eu holi ar gyfer yr ymchwiliad.

Mewn ymateb i gynnig bod angen treulio diwrnod yn yr ysbyty yn ceisio adborth, awgrymwyd y byddai un person yn ddigonol ar gyfer hyn.

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol

-       Enghreifftiau o fethu cael offer -angen datrysiad. Nodwyd bod y broses o geisio offer yn drwsgl a bod angen cadw budd yn lleol

-       Pwysig cael mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth i’r ymchwiliad a bod system yn ei le i sicrhau hyn

-       Staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gweithio dros 24ain awr , dros saith diwrnod yr wythnos - amlygwyd nad oes staff Gwynedd yn rhoi'r oriau i mewn dros y penwythnos - angen cyfarch hyn

-       Arafwch y Bwrdd Iechyd i ymrwymo o i rai agweddau

-       dylid ymestyn allan ymhellach - ehangu’r cynllun i ardaloedd erial

-       Cais i’r ymchwiliad ystyried nodi oedran yr unigolion sydd yn cael eu holi oherwydd amharodrwydd rhai pobl hyn i gwyno

-       A oes ystyriaeth wedi ei roi i’r pwysau ychwanegol tebygol  ar y gwasanaeth petai’r penderfyniad yw gadael Ewrop?

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn sylwadau’r swyddogion. Amlygodd bod y cleifion yn hoffi’r dull newydd o weithio a bod angen parhau gydag agwedd bositif.

 

dd)     Derbyniwyd bod gwrthdaro rhwng ceisio trefn newydd a’r hen drefn a bod rhwystredigaethau dros ei ymestyn, ond bod rhaid ceisio datrysiad a symud ymlaen. Cytunodd gyda’r sylw bod angen mewnbwn y defnyddwyr gwasanaeth, ond amlygodd yr angen i wneud hyn yn ystyrlon.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllideb ar gyfer y broses, nodwyd bod cyllid ar gyfer Cynllun Peilot Vanguard wedi ei dderbyn ar gyfer y swyddogion yn unig.

 

PENDERFYNWYD

-       Caniatáu estyniad i’r ymchwiliad hyd at Fedi 2016.

-       Y byddai’r Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yn treulio diwrnod yn Alltwen yn cysgodi swyddogion a chasglu gwybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Ymchwiliad

-       Bod trefniant yn ei le i’r gwasanaeth rannu sylwadau cleifion gyda’r ymchwiliad.

 

Dogfennau ategol: