Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Einir Wyn
Williams, Gareth Coj Parry, Sasha Williams ac Eryl Jones-Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant i eitem 6 os yn
trafod materion am yr elusen Gorwel neu Cynnal Gofalwyr – bu i Gorwel gael ei
drafod a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr elfen hon. Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Cynghorydd
Elwyn Jones ar gyfer eitem 6 gan ei fod yn aelod o Fwrdd GISDA sy’n derbyn
arian ond nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ar felly nid oedd angen iddo
adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 23ain o Dachwedd
2023, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar yr 23
Tachwedd 2023, fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU TAI PDF 582 KB Ystyried yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau 2)
Gwneud cais I'r Fforwm Craffu am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol
er mwyn gweld pa mor wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fei bod yn rhoi trosolwg o’r cynnydd sydd i’w weld ar y
Cynllun Gweithredu Tai. Amlygwyd fod cynnydd da i’w weld ers mabwysiadu’r
Cynllun yn ôl yn mis Ebrill 2021 gyda: ·
241
tŷ cymdeithasol wedi’i adeiladu ·
202
tŷ gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd ·
32 o
unedau digartrefedd wedi neu wrthi’n cael ei godi ·
64
grant prynwyr am y tro cyntaf wedi’u rhoi er mwyn adnewyddu tai gwag ·
633 o
grantiau addasiadau tai wedi’u dyrannu i alluogi pobl anabl barhau i fyw yn eu
cartrefi. Mynegwyd yn
gyffredinol fod yr adran yn teimlo yn gryf eu bod yn cynnig amrywiaeth o
gymorth ac ymyraethau ac o ganlyniad fod y cynlluniau yn diwallu anghenion
unigolion mewn gwahanol ardaloedd o’r sir. Tywyswyd yr
aelodau drwy’r prosiectau gan gychwyn a “Datblygu ein tai eu hunain prynu tai
preifat a phrynu tir adeiladu ar gyfer y dyfodol”. Nodwyd fod y tri phrosiect
yn anelu i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Gwynedd gan berchen neu
rentu tŷ addas ar gyfer eu hanghenion. Eglurwyd o weithredu’r cynlluniau
prynu ac adeiladu tai yn llwyddiannus yn ystod cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai,
bydd y Cyngor wedi codi 90 o dai ac wedi prynu 100 arall fydd ar gael i’w gosod
i drigolion Gwynedd. Amlygwyd fod sawl datblygiad ar y gweill ar hyn o bryd
gyda chwe datblygiad mewn lleoliadau megis Bangor, Llanystumdwy a Llanberis ar
gamau gwahanol yn y broses. O ran y
Cynllun Prynu i Osod, nodwyd fod 18 o dai bellach wedi’u prynu gyda 6 arall yn
y broses o gael eu prynu. Eglurwyd fod y tai yma yn cael eu prynu ar draws y
sir ac mewn lleoliadau ble gellir ymateb i anghenion tai bobl leol. Ychwanegwyd
cyn gosod yr eiddo fod rhaid dod a’r tai i safon byw derbyniol a statudol, ac
fod yr adran wrthi’n trafod eu trefniadau gosod. Eglurwyd o ran prynu tiroedd,
fod tiroedd wedi’i prynu ym Mynytho, Llanystumdwy a Caernarfon er mwyn eu
datblygu yn y dyfodol. O ran tai Cymdeithasol, mynegwyd fod y Cyngor yn parhau
i weithio’n agos gyda’r Cymdeithasau Tai i roi Rhaglen Datblygu Tai
Cymdeithasol ar waith yn y sir. Anelir i gyrraedd targed o adeiladu 700 o dai
cymdeithasol ar draws y sir yn ystod oes y cynllun. Ategwyd hyd ym fod 241 o
dai wedi’u codi, gyda 279 ar y gweill a bod y rhaglen yn llawn ar gyfer
2024/25. Tynnwyd sylw at y Cynllun Grantiau gan nodi fod y Cynllun Gweithredu yn cynnwys nifer o gynlluniau sy’n ymwneud a dyrannu grantiau er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Gwynedd. Eglurwyd yn ddiweddar fod y Cyngor wedi agor grant cynlluniau adfywio cymunedol sy’n darparu grantiau i grwpiau cymunedau ddarparu unedau byw i bobl leol. Nodwyd ers dechrau’r Cynllun fod 633 o addasiadau wedi’u gwneud i alluogi pobl i aros yn eu cartrefu. Eglurwyd y gall hyn gynnwys man addasiadau megis gosod rampiau neu waith strwythurol megis codi estyniadau neu addasu ystafelloedd. Tynnwyd sylw at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
GWAITH ATALIOL A GOMISIYNIR I'R TRYDYDD SECTOR PDF 89 KB Ystyried yr
adroddiadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau gan groesawu y syniad o drefn trawsadrannol i fonitro grantiau. 2.
I dderbyn adroddiad cynnydd ar y maes gan yr adrannau yn
2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch yn fawr iawn am
y cyfle i drafod cyfraniad y trydydd sector. Nodwyd fod eu gwerth yn
amhrisiadwy ac ei bod yn holl bwysig i fod yn craffu eu gwaith ynghyd a chraffu
mesur gwerth y sector yn ogystal. Cydnabuwyd dyled enfawr i waith y trydydd
sector, yn enwedig gyda’r sector gyhoeddus yn crebachu am eu bod yn ymateb yn
gyflym a hyblyg. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau fod y Cyngor yn cael y gwerth
mwyaf o arian i sicrhau y gwasanaeth mwyaf effeithiol. Diolchwyd i aelodau’r pwyllgor am yr ymholiad i
edrych i mewn i’r maes hwn. Nodwyd ei bod wedi bod yn gyfle i godi
ymwybyddiaeth o waith sydd yn digwydd. Ategwyd y diolch i’r maes yn ogystal gan
bwysleisio eu bod yn cael eu cyfri fel partner hynod bwysig i’r Cyngor. Mynegwyd fod y cais gan y pwyllgor wedi bod yn
amserol tu hwnt ac wedi galluogi’r adrannau i ail edrych ar eu contractau.
Pwysleisiwyd fod yr adroddiad hwn yn edrych ar fudiadau yn y maes gofal yn unig
ac ar fudiadau sydd yn derbyn cyfraniadau ar gyfer costau rhedeg yn unig ac nid
ar gyfer comisiynu gwasanaethau penodol. Tynnwyd sylw fod yr adroddiad yn
amlygu materion sydd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd â materion
hanesyddol sydd am fod yn heriol i ddygymod a hwy ac edrych ar sut i adeiladu
ar y gwaith yma. Nodwyd fod cyfarfod wedi ei gynnal bythefnos yn ôl ble
trafodwyd y sefyllfa ariannol a chyhoeddwyd y bydd arian ar gyfer 2024/25 yr un
peth a dderbyniwyd yn 2023/24 ynghyd ac amlygu’r amserlen i drafod y ffordd
ymlaen ac i gomisiynu i’r dyfodol. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- -
Amlygwyd fod yr adroddiad yn dangos
anghysondeb o ran lefel y manylder a dderbynnir a’r wybodaeth perfformiad y
gofynnir amdano gan y trydydd sector, a gofynnwyd a oes gwybodaeth bellach wedi
ei dderbyn. o Nodwyd
yn syml fod angen i fudiadau adrodd ar beth maent yn ei wneud gyda’r arian a
dderbynnir. Cytunwyd bod anghysondeb ar draws y sector, a bod angen cysoni'r
wybodaeth sydd yn ei dderbyn. -
Holwyd beth yw'r trefniadau o ran monitro ac
os yw’r Cyngor yn cael gwerth am arian. o Diolchwyd
i’r Pwyllgor Craffu am ddod a’r mater i sylw’r adrannau, nodwyd fod llawer o
wybodaeth yn dod yn ôl i’r Cyngor ond fod y drafodaeth wedi ysgogi’r ddwy adran
i gael system galed i fonitro ac i gysoni ar draws y sector. -
Amlygwyd mai dim ond rhai o’r mudiadau trydydd
sector sydd i’w gweld yn yr adroddiad a bod rhai mudiadau i’w gweld ar goll. o Eglurwyd fod yr adroddiad yn canolbwyntio at waith ataliol yn yr adran Oedolion ac yr Adran Blant. Amlygwyd fod adrannau eraill megis yr adran Tai ac Eiddo yn defnyddio mudiadau trydydd sector i redeg gwasanaethau ataliol, ac efallai fod angen cael mewnbwn adrannau eraill sydd yn gorgyffwrdd. Pwysleisiwyd fod y mudiadau sydd yn cael eu trafod yma ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
PROTOCOL DISGYN / CWYMPO PDF 560 KB Ystyried yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad a gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
i ystyried dosbarthu’r wybodaeth I'r
cyhoedd os yn bosib. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr eitem wedi codi yn dilyn cwestiwn a godwyd gan y cyn-gadeirydd
peth amser yn ôl, sef be ddylai pobl ei wneud os yw unigolion yn disgyn yn eu
cymunedau. Nid oedd yn gwestiwn ble roedd modd ymateb iddo yn syth, ond wedi
peth drafod gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a chyd-weithwyr ym Mwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr amlygwyd nad oes dim protocol cenedlaethol ‘na
rhanbarthol i’r mater hwn. Eglurwyd fod
protocol “I Stumble” yn cael ei ddefnyddio gan yr
ymddiriedolaeth, y Bwrdd Iechyd a rhai awdurdodau lleol eraill ond fod y
protocol hwn yn edrych ar sut i gynorthwyo unigolion os yn disgyn a sut i
ddelio ar ôl disgyn. Amlygwyd nad oedd y protocol yn delio gyda’r cwestiwn sef
sut i ymateb os yw unigion yn disgyn ac ambiwlans ddim ar gael am 8-10 awr, a
pa gyngor y gellir eu rhoi i ofalwr. Mynegwyd fod gwaith wedi
ei wneud i gyfieithu ac i ychwanegu at system “I Stumble”,
ac yn benodol at rhan “Amser Aros Hir Iawn?”. Pwysleisiwyd fod y sylwadau yn
rhai arwynebol ond nad oes modd mynd i lawer o fanylder gan ei bod yn sefyllfa
anodd iawn ymateb iddi gan fod pob achos yn wahanol. Eglurwyd fod Cyfarwyddwr
Rhanbarthol Therapyddion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn hapus i roi bathodyn y
Bwrdd Iechyd arno. Ychwanegwyd y bydd ymgynghoriad ar y ddogfen yn cael ei
gynnal er mwyn gweld os oes ffordd well o rhannu’r wybodaeth. Yn dilyn hyn,
nodwyd y bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal i ofalwyr mewnol ac i ddarparwyr
allanol. Yn ychwanegol i hyn,
nodwyd fod swyddogion o fewn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yn eiddgar iawn i
ddechrau peilot yng Ngwynedd i weld os oes modd lleoli offer i godi unigolion
sydd wedi syrthio mewn lleoliadau addas o fewn cymunedau, ac i hyfforddi
gwirfoddolwyr lleol ar sut i’w defnyddio. Nodwyd eu bod yn disgwyl i gael
cynllun penodol o ran lleoliadau a.y.b., ac er yn wahanol i’r protocol eglurwyd
ei fod wedi datblygu o ganlyniad i’r sgyrsiau sydd wedi codi. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- - Diolchwyd am yr adroddiad gan eu llongyfarch ar
greu adroddiad clir, i feddwl na oedd protocol mewn lle cyn hyn. Amlygwyd
efallai fod angen i’r elfen ‘Amser Aros Hir Iawn?’ efallai mewn lliw arall er
mwyn tynnu sylw ato. - Holwyd os oes amserlen ar gyfer cynnal hyfforddiant
ar y protocol ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd, neu os oes amserlen ar gyfer y
cynllun peilot. o Nodwyd o ran yr
hyfforddiant nad oes amserlen bendant ond na ragwelir rheswm dros oedi ac y
bydd gobeithio modd i’w cynnal yn ystod y gwanwyn yn barod at dymor yr haf a’r
hydref. o Ychwanegodd o ran y
cynllun peilot nad oes dyddiad ond y bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn parhau
i’w holi er mwyn cael amserlen mewn lle. - Holwyd os oes modd creu taflen i’r cyhoedd wedi iddo gael ei dderbyn gan ei bod yn holl bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |