Agenda item

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

1)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau

2)    Gwneud cais I'r Fforwm Craffu am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn gweld pa mor wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fei bod yn rhoi trosolwg o’r cynnydd sydd i’w weld ar y Cynllun Gweithredu Tai. Amlygwyd fod cynnydd da i’w weld ers mabwysiadu’r Cynllun yn ôl yn mis Ebrill 2021 gyda:

·         241 tŷ cymdeithasol wedi’i adeiladu

·         202 tŷ gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd

·         32 o unedau digartrefedd wedi neu wrthi’n cael ei godi

·         64 grant prynwyr am y tro cyntaf wedi’u rhoi er mwyn adnewyddu tai gwag

·         633 o grantiau addasiadau tai wedi’u dyrannu i alluogi pobl anabl barhau i fyw yn eu cartrefi.

Mynegwyd yn gyffredinol fod yr adran yn teimlo yn gryf eu bod yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac ymyraethau ac o ganlyniad fod y cynlluniau yn diwallu anghenion unigolion mewn gwahanol ardaloedd o’r sir.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r prosiectau gan gychwyn a “Datblygu ein tai eu hunain prynu tai preifat a phrynu tir adeiladu ar gyfer y dyfodol”. Nodwyd fod y tri phrosiect yn anelu i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Gwynedd gan berchen neu rentu tŷ addas ar gyfer eu hanghenion. Eglurwyd o weithredu’r cynlluniau prynu ac adeiladu tai yn llwyddiannus yn ystod cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai, bydd y Cyngor wedi codi 90 o dai ac wedi prynu 100 arall fydd ar gael i’w gosod i drigolion Gwynedd. Amlygwyd fod sawl datblygiad ar y gweill ar hyn o bryd gyda chwe datblygiad mewn lleoliadau megis Bangor, Llanystumdwy a Llanberis ar gamau gwahanol yn y broses.

 

O ran y Cynllun Prynu i Osod, nodwyd fod 18 o dai bellach wedi’u prynu gyda 6 arall yn y broses o gael eu prynu. Eglurwyd fod y tai yma yn cael eu prynu ar draws y sir ac mewn lleoliadau ble gellir ymateb i anghenion tai bobl leol. Ychwanegwyd cyn gosod yr eiddo fod rhaid dod a’r tai i safon byw derbyniol a statudol, ac fod yr adran wrthi’n trafod eu trefniadau gosod. Eglurwyd o ran prynu tiroedd, fod tiroedd wedi’i prynu ym Mynytho, Llanystumdwy a Caernarfon er mwyn eu datblygu yn y dyfodol. O ran tai Cymdeithasol, mynegwyd fod y Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda’r Cymdeithasau Tai i roi Rhaglen Datblygu Tai Cymdeithasol ar waith yn y sir. Anelir i gyrraedd targed o adeiladu 700 o dai cymdeithasol ar draws y sir yn ystod oes y cynllun. Ategwyd hyd ym fod 241 o dai wedi’u codi, gyda 279 ar y gweill a bod y rhaglen yn llawn ar gyfer 2024/25.

 

Tynnwyd sylw at y Cynllun Grantiau gan nodi fod y Cynllun Gweithredu yn cynnwys nifer o gynlluniau sy’n ymwneud a dyrannu grantiau er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Gwynedd. Eglurwyd yn ddiweddar fod y Cyngor wedi agor grant cynlluniau adfywio cymunedol sy’n darparu grantiau i grwpiau cymunedau ddarparu unedau byw i bobl leol. Nodwyd ers dechrau’r Cynllun fod 633 o addasiadau wedi’u gwneud i alluogi pobl i aros yn eu cartrefu. Eglurwyd y gall hyn gynnwys man addasiadau megis gosod rampiau neu waith strwythurol megis codi estyniadau neu addasu ystafelloedd. Tynnwyd sylw at Grantiau Tai Gwag i brynwyr tro cyntaf, gan amlygu fod tai gwag a fu’n arfer bod yn ail gartrefi bellach yn gymwys ar gyfer y grant.

 

Amlygwyd fod y sefyllfa yn parhau i fod yn ddyrys yn y maes digartrefedd gyda 70 i 100 o bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref bob mis a bod 217 mewn llety argyfwng yn ôl ym mis Rhagfyr 2023. Pwysleisiwyd nad yw’r cyflenwad tai a llety a chefnogaeth yn ddigonol i ymateb i’r galw ac i ymdopi a’r pwysau sydd ar y gwasanaeth. Eglurwyd fod yr adran wedi penodi dau swyddog arbenigol i gefnogi unigolion sy’n cyflwyno’n ddigartref neu mewn peryg o fod o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Nodwyd fod 52 o unigolion wedi derbyn cefnogaeth gan y swyddogion.

 

Mynegwyd yn ystod Pwyllgor Crafu blaenorol fod yr adran wedi cydnabod fod angen gwella’r cyfathrebu rhwng yr Aelodau ac o ganlyniad mae’r adran wedi diweddaru tudalen benodol ar y Mewnrwyd Aelodau ac lansio map sy’n dangos lleoliadau rhai o’r prif gynlluniau sydd naill ai wedi’i gwblhau neu ar y gweill.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-       Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd os oes pryder am yr arian sydd ar gael ar gyfer addasu tai i bobl ag anableddau gan ei fod yn cael ei ariannu drwy grantiau.

o   Nodwyd fod pryder gan fod prisiau wedi cynyddu yn enwedig ar ôl Covid. Eglurwyd fod cyllidebau yn dynn ac nad yw’r ffigyrau ar hyn o bryd yn ddigonol i ddiwallu anghenion pob unigolyn.

 

-       Nodwyd fod sôn am gynllun i addasu tai gweigion ac amlygwyd fod arian cyfalaf ar gael i'w prynu ond dim sôn am arian refeniw er mwyn caglu rhent ac i gynnal yr eiddo. Gofynnwyd sut y bydd y Cyngor yn cynnal a chadw’r eiddo.

o   Nodwyd drwy’r cynlluniau fod yr incwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ad-dalu'r buddsoddiad ac fod arian i gynnal a chadw’r eiddo wedi ei gynnwys. O ran arbenigedd i edrych ar ôl yr eiddo eglurwyd fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac y bydd cyhoeddiad yn fuan. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn gweithio yn agos iawn a’r cymdeithasau tai.

 

-       Holwyd beth yw’r tueddiadau o ran digartrefedd yng Ngwynedd - hynny yw a yw’r niferoedd yn cynyddu er bod poblogaeth y sir yn lleihau. Tynnwyd sylw yn gyson i beth yw’r rheswm dros ddigartrefedd, o ble mae’r unigolion yn dod ynghyd a gosod tai i bobl leol.

o   Mynegwyd fod nifer digartref yn uchel tu hwnt ac fod nifer o ddiffiniadau gwahanol i ddigartrefedd. Amlygwyd fod natur digartrefedd yn amrywiol ond fod materion fel tor perthynas a’r hinsawdd economaidd yn cael ei amlygu yn gyson. Nodwyd fod pwysau cynyddol i’w weld yn dilyn Covid a newid deddfwriaethol ac nad yw hyn yn broblem i Wynedd yn unig ond i’w weld yn un cenedlaethol.

o   O ran cyswllt â Gwynedd amlygwyd fod gan y mwyafrif sy’n nodi eu hunain yn ddigartref gyswllt lleol i Wynedd. Pwysleisiwyd yr angen iddynt amlygu eu cyswllt â Gwynedd er mwyn cyrraedd meini prawf rhestr digartrefedd. Eglurwyd os nad oes cyswllt lleol i’w gweld yng Ngwynedd gellir eu cyfeirio yn ôl i awdurdod ble mae cyswllt clir i’w weld. Eglurwyd yn ogystal fod angen cyswllt clir a Gwynedd os ar restr aros tai cymdeithasol yn ogystal yn unol â’r Polisi Tai Cymdeithasol.

o   O ran tai i bobl leol eglurwyd fod rhai tai gydag amod person lleol, a bod blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolyn a chyswllt lleol wrth osod tai cymdeithasol.  Pwysleisiwyd yr angen i drafod gyda’r adran gyfreithiol os am drafod rhoi amod lleol ar bob cartref.

 

-       Gofynnwyd beth yw oes y Cynllun Gweithredu Tai ac os yw’r cynllun yn cyrraedd ei dargedau.

o   Nodwyd mai 2026/27 fydd blwyddyn olaf y cynllun, ond ei fod yn datblygu yn ystod ei oes a bod rhai cynlluniau yn mynd tu hwnt i oes y cynllun. Mynegwyd o ganlyniad i natur y cynllun y bydd canran uchel o’r cynnydd yn cael ei weld o ganol i ddiwedd y 6 mlynedd. Pwysleisiwyd fod yr adran yn monitro yn chwarterol ond fod nifer o’r prosiectau wedi’u clymu o ran hinsawdd ariannol y farchnad. Yn gyffredinol, nodwyd fod y cynllun yn cyrraedd mwyafrif o’i dargedau.

 

-       Amlygwyd fod llai cynlluniau datblygu tai a nifer isel o ymgeiswyr am grant tai gwag ym Meirionydd a gofynnwyd os oes rhesymau dros hyn.

o   Mynegwyd o ran cynlluniau datblygu tai fod yr adroddiad yn amlygu 6 cynllun tu hwnt i Feirionnydd ond fod yr adran yn parhau i edrych am safleoedd penodol ym Meirionydd. 

o   O ran grantiau tai gwag nodwyd yr angen i gynnal sesiynau penodol yn Ne'r Sir er mwyn trio codi ymwybyddiaeth o’r grantiau ac i dargedu ardaloedd ble mae’r nifer sydd yn cymryd mantais i’w weld yn isel.

 

-       Holwyd o ran cefnogaeth i unigolion oedd yn ddigartref o ganlyniad i drais yn y cartref pwy oedd yn darparu’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

o   Eglurwyd fod pecynnau cymorth yn cael eu hariannu drwy arian grant a bod nifer o ddarparwyr yn cael ei defnyddio ar draws y sir er mwyn sicrhau fod y gefnogaeth yn cael ei gynnig gan unigolion ag arbenigedd.

 

-       Amlygwyd fod yr adroddiad yn nodi arbedion sydd i’r gwasanaeth iechyd o ganlyniad i gefnogi unigolion aros yn eu cartrefi. Nodwyd siom nad yw’r Llywodraeth ddim yn cymryd sylw o hyn. Holwyd o ran cyllid os yw’r adran yn gwneud defnydd o bob ceiniog o grant tai cymdeithasol sydd ar gael, ac os mai’r Cyngor sydd yn ei dderbyn ac yna ei basio ymlaen i’r Cymdeithasau Tai. Yn ogystal â hyn gofynnwyd os oes modd defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i ddefnydd adeiladu tai cymdeithasol gan ei gynnig fel morgais i’r Cymdeithasau Tai.

o   Nodwyd fod £12.3m yn dod i Wynedd dros 3 blynedd, a'u bod yn gwneud defnydd llawn o bob ceiniog ac wedi manteisio ar fwy o arian yn ogystal. Eglurwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa gref gyda nifer o gynlluniau wrth gefn yn barod i fynd. Nodwyd fod y Cyngor yn gweithio gyda’r Cymdeithasau Tai i sicrhau fod y Cyngor yn blaenoriaethu ble a pa fath o eiddo fydd yn cael ei adeiladu. O ran arian ychwanegol nodwyd fod gan Gymdeithasau Tai fynediad i amrywiaeth o gronfeydd ychwanegol ond fod arian ychwanegol yn gallu effeithio ar gyfradd o arian fydd ar gael o grant Tai Cymdeithasol.

 

-       Mynegwyd fod nifer o safleoedd sydd o eiddo’r Cyngor ddim yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a holwyd os yw’r lleoliadau yma yn cael eu hystyried fel lleoliadau i gartrefi.

o   Eglurwyd fod pob math o leoliadau yn cael eu hystyried a bod yr adran edrych ar diroedd ac adeiladau sydd berchen y Cyngor. Amlygwyd ar rai achlysuron fod defnyddio’r lleoliadau yn gostus ac yn anodd eu trosi i fod yn gartrefi yn rhwydd. Amlygwyd fod angen i eiddo fod o safon benodol ac o fewn rheoliadau penodol. Gofynnwyd i unigolion a oedd a lleoliadau posib i gysylltu gyda’r adran er mwyn eu hasesu, er mwyn cadw defnydd o adeiladau yn lleol.

 

-       Holwyd beth yw’r diffiniad o Dŷ Gwag, ac os yn derbyn grant tŷ gwag i’w ail wneud os oes rheoliadau fod rhaid i unigolyn fyw yn y tŷ yn dilyn derbyn y grant.

o   Eglurwyd fod y diffiniad yn un penodol sydd i’w wneud a statws treth Cyngor y tŷ. Nodwyd disgwyliad i unigolion ddefnyddio'r tŷ fel cartref yn dilyn hyn ac nid fel ail gartref. 

 

-       Amlygwyd fod niferoedd oedd mewn llety argyfwng dros y Nadolig yn hynod uchel a gofynnwyd pa fath o lety sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor, os yw’n gost effeithiol a pa mor gyflym mae unigolion yn symud ymlaen o’r lleoliadau yma.

o   Eglurwyd fod y llety argyfwng yn cynnwys amrywiaeth o lety ond fod mwyafrif yn westai a lleoliadau gwely a brecwast. Pwysleisiwyd fod y lleoliadau yn gallu bod yn anaddas o ganlyniad i stoc eiddo sydd ar gael. Mynegwyd fod yr adran yn blaenoriaethu i greu llety dros dro addas, ac amlygwyd yr angen i weithio yn nes gyda’r sector breifat yn ogystal.  Mynegwyd ar gyfartaledd fod unigolion yn symud allan o lety argyfwng wedi 200 diwrnod.

 

-       Holwyd faint o gyngor sydd yn cael ei gynnig i bobl sy’n prynu am y tro cyntaf er mwyn iddynt allu bod yn llwyddiannus wrth ymgeisio yn erbyn pobl eraill.

o   Eglurwyd fod grantiau ar gael i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf ac eu bod wedi bod yn cael ei hyrwyddo gan arwerthwyr tai lleol. Efallai fod angen edrych ar hyn i sicrhau ei fod yn cael ei wneud ac efallai yn ceisio canolbwyntio ar leoliadau penodol.

 

-       Cynigwyd i wneud cais i'r Fforwm Craffu am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn gweld pa mor wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi

 

PENDERFYNWYD

 

1)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau

2)    Gwneud cais I'r Fforwm Craffu am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn gweld pa mor wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi

 

 

 

Dogfennau ategol: