Ystyried yr
adroddiadau.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau gan groesawu y syniad o drefn trawsadrannol i fonitro grantiau.
2.
I dderbyn adroddiad cynnydd ar y maes gan yr adrannau yn
2025.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch yn fawr iawn am
y cyfle i drafod cyfraniad y trydydd sector. Nodwyd fod eu gwerth yn
amhrisiadwy ac ei bod yn holl bwysig i fod yn craffu eu gwaith ynghyd a chraffu
mesur gwerth y sector yn ogystal. Cydnabuwyd dyled enfawr i waith y trydydd
sector, yn enwedig gyda’r sector gyhoeddus yn crebachu am eu bod yn ymateb yn
gyflym a hyblyg. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau fod y Cyngor yn cael y gwerth
mwyaf o arian i sicrhau y gwasanaeth mwyaf effeithiol.
Diolchwyd i aelodau’r pwyllgor am yr ymholiad i
edrych i mewn i’r maes hwn. Nodwyd ei bod wedi bod yn gyfle i godi
ymwybyddiaeth o waith sydd yn digwydd. Ategwyd y diolch i’r maes yn ogystal gan
bwysleisio eu bod yn cael eu cyfri fel partner hynod bwysig i’r Cyngor.
Mynegwyd fod y cais gan y pwyllgor wedi bod yn
amserol tu hwnt ac wedi galluogi’r adrannau i ail edrych ar eu contractau.
Pwysleisiwyd fod yr adroddiad hwn yn edrych ar fudiadau yn y maes gofal yn unig
ac ar fudiadau sydd yn derbyn cyfraniadau ar gyfer costau rhedeg yn unig ac nid
ar gyfer comisiynu gwasanaethau penodol. Tynnwyd sylw fod yr adroddiad yn
amlygu materion sydd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd â materion
hanesyddol sydd am fod yn heriol i ddygymod a hwy ac edrych ar sut i adeiladu
ar y gwaith yma. Nodwyd fod cyfarfod wedi ei gynnal bythefnos yn ôl ble
trafodwyd y sefyllfa ariannol a chyhoeddwyd y bydd arian ar gyfer 2024/25 yr un
peth a dderbyniwyd yn 2023/24 ynghyd ac amlygu’r amserlen i drafod y ffordd
ymlaen ac i gomisiynu i’r dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
-
Amlygwyd fod yr adroddiad yn dangos
anghysondeb o ran lefel y manylder a dderbynnir a’r wybodaeth perfformiad y
gofynnir amdano gan y trydydd sector, a gofynnwyd a oes gwybodaeth bellach wedi
ei dderbyn.
o Nodwyd
yn syml fod angen i fudiadau adrodd ar beth maent yn ei wneud gyda’r arian a
dderbynnir. Cytunwyd bod anghysondeb ar draws y sector, a bod angen cysoni'r
wybodaeth sydd yn ei dderbyn.
-
Holwyd beth yw'r trefniadau o ran monitro ac
os yw’r Cyngor yn cael gwerth am arian.
o Diolchwyd
i’r Pwyllgor Craffu am ddod a’r mater i sylw’r adrannau, nodwyd fod llawer o
wybodaeth yn dod yn ôl i’r Cyngor ond fod y drafodaeth wedi ysgogi’r ddwy adran
i gael system galed i fonitro ac i gysoni ar draws y sector.
-
Amlygwyd mai dim ond rhai o’r mudiadau trydydd
sector sydd i’w gweld yn yr adroddiad a bod rhai mudiadau i’w gweld ar goll.
o
Eglurwyd fod yr adroddiad yn canolbwyntio at
waith ataliol yn yr adran Oedolion ac yr Adran Blant. Amlygwyd fod adrannau
eraill megis yr adran Tai ac Eiddo yn defnyddio mudiadau trydydd sector i redeg
gwasanaethau ataliol, ac efallai fod angen cael mewnbwn adrannau eraill sydd yn
gorgyffwrdd. Pwysleisiwyd fod y mudiadau sydd yn cael eu trafod yma ar gyfer y
grant craidd ac nid ar gyfer prynu gwasanaethau ganddynt. Amlygwyd fod nifer o
fudiadau ychwanegol i’r hyn sydd yn yr adroddiad hwn, ond fod yr adroddiad yn
amlygu sut mae adrannau yn comisiynu gwaith gan y trydydd sector ac wedi amlygu
fod mwy o waith angen ei wneud.
-
Holwyd os yw’r disgrifiad o waith yr elusen
Gorwel yn ddisgrifiad priodol ac yn disgrifio’r gwaith maent yn ei wneud.
o Nodwyd bydd
yr adran yn edrych ar y mater i sicrhau ei fod yn gywir.
-
Nodwyd balchder o’r gwaith sydd wedi ei wneud
a bod y defnydd o gytundeb lefel gwasanaeth yn llawer mwy proffesiynol na beth
oedd yn cael ei gynnig flynyddoedd yn ôl.
-
Amlygwyd pryder am gytundebau angen eu
harwyddo, gan fod cytundebau yn rhoi sicrwydd i’r mudiadau am ddyfalbarhad
cynlluniau yn ogystal ag arian 2024/25.
o Eglurwyd fod yr adrannau yn gobeithio y bydd y
gwaith hwn yn golygu y bydd modd cynnig cytundebau tymor hir a fydd yn
galluogi’r mudiadau i gynllunio ymlaen. O ran yr elfen ariannol eglurwyd fod yr
arian yn aros yr un fath ac nad oedd chwyddiant yn cael ei ystyried am 2024/25.
-
Holwyd pa elfennau o wasanaethau statudol
sy’n cael eu darparu gan sefydliadau sy’n cynnig gwasanaeth ataliol ac os oes
arian yn cael ei dorri a oes peryg i ddyletswyddau statudol beidio cael eu
cyflawni.
o Nodwyd
fod elfennau o waith yn cael eu comisiynu megis cynnal gofalwyr. Mynegwyd fod
angen efallai trafodaeth am yr elfennau statudol ac i gysidro hynny ar wahân. O
ran yr elfennau adran Plant nodwyd fod dau faes penodol - fel ymyrraeth gynnar
ac atal sydd yn rhan o raglen Teuluoedd yn gyntaf, a bod y gwaith hwn yn cael
ei ariannu drwy grantiau penodol.
-
Holwyd os oes bwriad i gomisiynu gwaith
ataliol drwy gystadleuaeth agored i’r dyfodol.
o Eglurwyd ei fod yn opsiwn i’r adran Oedolion ei
gysidro i rai gwasanaethau ond fod angen sicrhau fod gwasanaeth yn debyg ar
draws yr holl sir. Nodwyd ei bod yn gystadleuaeth agored yn yr adran Blant ac y
bydd cylch ail-dendro yn 2025.
-
Wrth edrych ar yr adran Blant, holwyd os oes
bwriad i gomisiynu Barnardos i wneud gwaith Tîm Cefnogi Teulu yn Arfon a Dwyfor
a holwyd pam oedd y drefn yn wahanol ym Meirionydd.
o Mynegwyd fod hyn wedi digwydd o ganlyniad i ddiffyg capasiti mewnol yn Meirionydd ac o ganlyniad penderfynwyd
mynd i dendr.
PENDERFYNWYD
1) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau gan groesawu y syniad o drefn trawsadrannol i
fonitro grantiau.
2) I
dderbyn adroddiad cynnydd ar y maes gan yr adrannau yn 2025.
Dogfennau ategol: