Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I
dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 106 KB YR HWB, YSGUBOR ISAF, LON Y CARIADON, Y BALA I ystyried y cais uchod Cofnod: Yr Hwb, Ysgubor Isaf, Lon Cariadon, Y Bala,
Gwynedd Ar ran yr eiddo: Ms
Zoe Rachel Hansford Smith (Ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Mared Llwyd (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod Y Cyhoedd) Mr
Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr
Hwb, Ysgubor Isaf, Lôn Cariadon, Y Bala. Gwnaed y cais mewn perthynas ag adeiladu caffi
sy’n cynnwys gardd/ ardal eistedd tu allan, canolfan gweithgareddau awyr
agored, ardal chwarae’ soft play’ a chanolfan digwyddiadau. Y bwriad yw gwerthu
alcohol ar yr eiddo, dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw wedi ei
recordio, perfformiadau dawns a gwerthiant alcohol. Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais
wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y
byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Nodwyd bod dau sylw wedi ei
derbyn, un gan Uned Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryderon y byddai caniatáu
adloniant tu allan i’r eiddo yn creu niwsans sŵn i drigolion lleol ac un
sylw gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch
Cyfyng ar yr eiddo. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng ·
Bod
bwriad cynnal gŵyl fwyd / gŵyl gwrw / marchnad cynnyrch fferm ar y
lleoliad ynghyd a dangos ffilmiau a chyflwyniadau theatr ·
Bod bwriad treialu cerddoriaeth fyw ar brynhawn Sul ·
Petai ddigwyddiad tu allan i oriau trwyddedig yn
cael ei drefnu, y byddai yn gwneud cais am drwydded dros dro. c)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog
o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd cwynion
wedi dod i law'r Heddlu yn dilyn digwyddiadau ar y safle. Ategodd bod amodau
wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd
amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a gweithredu
cynllun Her 25. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y
drwydded ch) Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd bod cyfaddawd wedi ei gyrraedd gyda’r ymgeisydd yn dilyn cais gan yr Adran i leihau oriau holl adloniant rheoledig tu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 109 KB YR HEN GWRT, CAERNARFON I ystyried y cais uchod Cofnod: Yr Hen Gwrt, Caernarfon Ar ran yr eiddo: Ms Moira Hartley (ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Mr
Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr
Hen Lys, Pen Deitch, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol
oddi ar ac ar yr eiddo; dangos ffilmiau a dramâu; cerddoriaeth fyw ac wedi ei
recordio, unrhyw adloniant arall a lluniaeth hwyr y nos. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y
byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded Nodwyd bod dau
sylw wedi ei derbyn, un gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod
system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo a defnydd goruchwylwyr drysau ac un gan
y Gwasanaeth Tan. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng ·
Ei bod yn derbyn awgrym gan yr Heddlu i ddefnyddio
goruchwylwyr drysau ar gyfer digwyddiadau unigol yn unig ·
Bod ymweliad safle gyda’r Gwasanaeth Tân a Swyddog
Stadau'r Cyngor wedi bod yn fuddiol ·
Bod angen cynnal trafodaethau pellach ar oleuo’r
llwybr dianc ·
Bod
dodrefn yn cael ei osod ar y stryd er mwyn denu cwsmeriaid i’r adeilad c) Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a defnydd goruchwylwyr drysau. Amlygwyd, bod yr ymgeisydd yn Adran M (b) o’r cais yn datgan ‘Licensed door supervisors on duty for all events’. Nodwyd bod yr Heddlu o’r farn nad oes angen goruchwylwyr drysau ar gyfer pob digwyddiad oherwydd natur y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn yr adeilad. O ganlyniad, byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd asesu digwyddiadau unigol cyn penderfynu os oes angen goruchwylwyr drysau. Cynigiwyd yr amod, ‘Each event will be risk assessed to establish whether door supervisors are required’. Awgrymwyd bod amod ynglŷn â gweithredu Her 25 yn hytrach na Her 21 yn cael ei gynnwys ar y drwydded. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |