YR HWB, YSGUBOR ISAF, LON Y CARIADON, Y BALA
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Yr Hwb, Ysgubor Isaf, Lon Cariadon, Y Bala,
Gwynedd
Ar ran yr eiddo: Ms
Zoe Rachel Hansford Smith (Ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd:
Mared Llwyd (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod Y Cyhoedd)
Mr
Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr
Hwb, Ysgubor Isaf, Lôn Cariadon, Y Bala. Gwnaed y cais mewn perthynas ag adeiladu caffi
sy’n cynnwys gardd/ ardal eistedd tu allan, canolfan gweithgareddau awyr
agored, ardal chwarae’ soft play’ a chanolfan digwyddiadau. Y bwriad yw gwerthu
alcohol ar yr eiddo, dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw wedi ei
recordio, perfformiadau dawns a gwerthiant alcohol.
Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais
wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y
byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Nodwyd bod dau sylw wedi ei
derbyn, un gan Uned Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryderon y byddai caniatáu
adloniant tu allan i’r eiddo yn creu niwsans sŵn i drigolion lleol ac un
sylw gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch
Cyfyng ar yr eiddo.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng
·
Bod
bwriad cynnal gŵyl fwyd / gŵyl gwrw / marchnad cynnyrch fferm ar y
lleoliad ynghyd a dangos ffilmiau a chyflwyniadau theatr
·
Bod bwriad treialu cerddoriaeth fyw ar brynhawn Sul
·
Petai ddigwyddiad tu allan i oriau trwyddedig yn
cael ei drefnu, y byddai yn gwneud cais am drwydded dros dro.
c)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog
o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd cwynion
wedi dod i law'r Heddlu yn dilyn digwyddiadau ar y safle. Ategodd bod amodau
wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd
amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a gweithredu
cynllun Her 25. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y
drwydded
ch) Yn
manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor
Gwynedd bod cyfaddawd wedi ei gyrraedd
gyda’r ymgeisydd yn dilyn cais gan yr Adran i leihau oriau holl adloniant
rheoledig tu allan i’r adeilad. Cytunwyd bod yr oriau yn cael eu haddasu i 9:00
- 19:30 (Llun i Sul). Yn dilyn cyfaddawd, cadarnhawyd nad oedd gan yr Uned
wrthwynebiad i’r cais, ond argymhellwyd bod amodau sŵn i’w cynnwys ar y drwydded.
d)
Ymneilltuodd
yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais
dd) Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen
gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig
a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar
yr ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u
mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o
dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal
trosedd ac anhrefn
ii.
Atal
niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau
diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod
plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
e)
Ystyriwyd nad oedd sylwadau’r Heddlu a Gwarchod y
Cyhoedd yn gwrthwynebu’r cais ond yn argymell cynnwys amodau ychwanegol mewn
perthynas â Theledu Cylch Cyfyng, Cynllun Her 25 a rheolaeth sŵn.
Cynigiwyd yr amodau hyn er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac
anhrefn, gwarchod plant rhag niwed ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd yr
ymgeisydd wedi cadarnhau ei bod yn cytuno â’r argymhellion hyn ynghyd â
diwygio’r drwydded i amlygu adloniant tu allan o 09:00 i 19:00 bob dydd.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd,
gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth yr Heddlu a Gwarchod y Cyhoedd
Gwynedd yn gydnaws â’r amcanion trwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn
bresennol.
Dogfennau ategol: