Agenda item

YR HEN GWRT, CAERNARFON

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Yr Hen Gwrt, Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo:                                 Ms Moira Hartley (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:

Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

           

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr Hen Lys, Pen Deitch, Caernarfon.  Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol oddi ar ac ar yr eiddo; dangos ffilmiau a dramâu; cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, unrhyw adloniant arall a lluniaeth hwyr y nos.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded

 

Nodwyd bod dau sylw wedi ei derbyn, un gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo a defnydd goruchwylwyr drysau ac un gan y Gwasanaeth Tan.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Ei bod yn derbyn awgrym gan yr Heddlu i ddefnyddio goruchwylwyr drysau ar gyfer digwyddiadau unigol yn unig

·         Bod ymweliad safle gyda’r Gwasanaeth Tân a Swyddog Stadau'r Cyngor wedi bod yn fuddiol

·         Bod angen cynnal trafodaethau pellach ar oleuo’r llwybr dianc

·         Bod dodrefn yn cael ei osod ar y stryd er mwyn denu cwsmeriaid i’r adeilad

 

c)            Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a defnydd goruchwylwyr drysau. Amlygwyd, bod yr ymgeisydd yn Adran M (b) o’r cais yn datgan ‘Licensed door supervisors on duty for all events’. Nodwyd bod yr Heddlu o’r farn nad oes angen goruchwylwyr drysau ar gyfer pob digwyddiad oherwydd natur y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn yr adeilad. O ganlyniad, byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd asesu digwyddiadau unigol cyn penderfynu os oes angen goruchwylwyr drysau. Cynigiwyd yr amod, ‘Each event will be risk assessed to establish whether door supervisors are required’. Awgrymwyd bod amod ynglŷn â gweithredu Her 25 yn hytrach na Her 21 yn cael ei gynnwys ar y drwydded. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y drwydded.

 

ch)       Adroddwyd bod yr ymateb gwreiddiol gan y Gwasanaeth Tân wedi ei dderbyn 16 Awst yn datgan nad oedd yr eiddo yn cydymffurfio â rhagofalon tân; yn benodol gan fod y llwybr dianc mewn argyfwng yng nghefn yr adeilad yn arwain at giât wedi ei gloi tu ôl i adeiladau Pencadlys y Cyngor. Yn dilyn archwiliad safle gyda’r ymgeisydd a Swyddog Stadau’r Cyngor 21 Awst, derbyniwyd cadarnhad fod y Gwasanaeth Tân yn tynnu eu gwrthwynebiad i’r cais yn ôl. Cafwyd cytundeb gan y Swyddog Stadau i wneud newidiadau i banel ffens fel bod modd ei agor yn hawdd heb ddefnydd goriad. Byddai hyn yn sicrhau llwybr dianc clir mewn argyfwng tân. 

 

            Mewn ymateb i bryder yr Aelodau ynglŷn â’r llwybr dianc, nododd yr ymgeisydd bod bwriad cynnal trafodaethau pellach ynglŷn â goleuo’r llwybr sydd wëid ei leoli tu ôl i adeiladau’r Cyngor.

 

d)            Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

 

dd)       Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.   Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl         ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y        Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                      i.        Atal trosedd ac anhrefn

                     ii.        Atal niwsans cyhoeddus

                    iii.        Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                   iv.        Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

Ystyriwyd nad oedd sylwadau’r Heddlu yn gwrthwynebu’r cais ond yn argymell cynnwys amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng, Cynllun Her 25 a goruchwyliaeth drysau. Cynigiwyd yr amodau hyn er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn ac i warchod plant rhag niwed a chadarnhawyd bod yr ymgeisydd yn gytûn. Ni ystyriwyd sylwadau Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru oherwydd iddynt gael eu tynnu’n ôl.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd, gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol.

 

Dogfennau ategol: