Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd I’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd i’r
Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd I’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi
wrth Y Cynghorydd Ioan
Ceredig Thomas (Aelod Cabinet Economi),
Y Cyng. Mike Stevens (Cyngor
Gwynedd), Mr Nick Dawson (Outward Bound),
Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr
Economi a Chymuned) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017. Cofnod: Cyflwynwyd: Cofno Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno 4.1
Materion yn codi o’r cofnodion – Eitem 4 (d) (i) Wal y Cei Nododd y Cadeirydd siom na oedd yn bosibl i swyddog
Ymgynghoriaeth Gwynedd fod yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad
peirianyddol ar ddatblygiad gwaith i wal y cei. Roedd y Cadeirydd wedi mynychu
cyfarfod yn ddiweddar gyda swyddogion Uned Ymgynghoriaeth Gwynedd ac fe
adroddodd ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa diweddaraf sef bod bras amcan
gyfrif y cynlluniau diwygiedig o ail-ddatblygu wal y cei ar gost o £2.2m. Ar hyn o bryd, gellir cael oddeutu 75% o’r
costau drwy grantiau ac arian Ewrop ond bod diffyg o 25% sydd yn cyfateb i
£500,000. Yn y cyfarfodydd diwethaf fe
drafodwyd y posibilrwydd o ddenu trydydd parti i gyfrannu at y costau ac fe
fyddai modd trafod hyn ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol
hwn. Awgrymwyd bod holl Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y gofyn am gefnogaeth
ariannol bosibl a bod y wybodaeth hyn yn cael ei amlygu I aelodau o’r holl
gymdeithasau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Harbwr. Deallwyd yr amlygwyd pryder
gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn â’r bwriad i ymestyn y strwythur presennol
allan oddeutu medr i’r môr ac y byddai’n
effeithio ar gynefinoedd, ond bellach deallir eu bod yn hapus gyda’r
cynlluniau diwygiedig. Deallir ymhellach
y bydd y cais yn cael ei gyflwyno a’i ystyried gan Awdurdod y Parc
Cenedlaethol, sef yr Awdurdod Cynllunio yn Aberdyfi yn fuan. Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddai’n trefnu bod copiau o’r cynlluniau ar gael i’w gweld yn swyddfa’r Harbwr
Feistr ac y byddai’n cylchredeg nodiadau o’r broses sydd wedi digwydd yn yr
wythnosau nesaf. Nodwyd y byddai’n
heriol i geisio canfod £500,000 gyda’r bwriad i edrych ar bob ffynhonell
ariannol posibl. O safbwynt amserlen, hyderir y gellir dechrau ar y
gwaith ym mis Ebrill 2019. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol: ·
O safbwynt denu cyfraniad lleol, teimlwyd bod
£500,000 yn heriol ac a fyddai modd i’r Cyngor ystyried ffynhonellau o
gyfeiriad ffrydiau twristiaeth ·
Bod 2018 yn cael ei ddynodi yn Flwyddyn y Môr a phwy
a wyr efallai y byddai adnoddau ariannol ar gael gan Lywodraeth Cymru. ·
Cytunwyd yn y gorffennol bod y cei yn adnodd bwysig
i Aberdyfi yn enwedig ar gyfer cynnal busnesau, sefydliad y Bad Achub a.y.b. ·
Bod Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas wedi ei benodi’n
ddiweddar yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ac y byddai o fudd
cynnal trafodaeth gydag ef ynghylch unrhyw gymorth y gallasai awgrymu ·
Nad oedd yn opsiwn i beidio adnewyddu wal y cei, neu
fe fyddai’n disgyn i’r môr ond bod y llwybr i gyrraedd y nod yn anodd Penderfynwyd: (a) Derbyn
a nodi’r uchod ac edrychir ymlaen i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Ymgynghorol hwn ym mis Mawrth 2018. (b) Bod y cynlluniau diwygiedig ac adroddiad diweddaraf ar gael yn Swyddfa’r Harbwr Feistr ar gyfer eu harchwilio ymhellach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 182 KB I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (a)
Atgoffwyd yr Aelodau bod
angen cyflwyno cyfansoddiad a chofnodion blynyddol cyfredol y mudiadau /
sefydliadau maent yn gynrychioli ar y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr er mwyn sicrhau
aelodaeth cymwys o’r Pwyllgor yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn
2014. Rhestrwyd y mudiadau hynny nad
oedd wedi anfon y dogfennau perthnasol fel a ganlyn: ·
Pwyllgor Gwelliannau
Aberdyfi ·
Cymdeithas Pysgodfeydd
Bae Ceredigion ·
Clwb Cychod Aberdyfi ·
Clwb Hwylio Dyfi ·
Clwb Rhwyfo Aberdyfi Deallir nad yw Partneriaeth Aberdyfi na
Siambr Fasnach Aberdyfi yn bodoli mwyach. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod a disgwylir i’r mudiadau uchod anfon y dogfennau perthnasol ymlaen
i’r Swyddog Cefnogi Aelodau. (b)
O safbwynt niferoedd
angorfeydd yn yr Harbwr gwelwyd leihad o 1 o’i gymharu â 2016 gyda chynnydd yn
y badau dŵr personol. Siomedig fu’r
tywydd a oedd yn cael effaith ar yr harbyrau ar draws y Sir ond braf ydoedd
nodi bod cychod o Gonwy wedi ymweld â harbwr Aberdyfi a hyderir y byddent yn
ymweld eto i’r dyfodol. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. (c)
Cod Diogelwch Morwrol Derbyniwyd archwiliad gan Asiantaeth Gwylwyr
y Glannau ac yn deillio o’u hadroddiad cyfeiriwyd at fân elfennau a oedd angen
sylw yn Harbwr Aberdyfi megis tacluso o amgylch y cei gan fod nwyddau a rhaffau
wedi eu cadw mewn ffordd a allasai achosi risg.
Fe fydd yr archwilwyr yn ymweld a’r gwasanaeth ymhen blwyddyn a’r bwriad
ydoedd gwahodd aelodau’r Pwyllgorau Harbwr i un cyfarfod canolog er mwyn derbyn
gwybodaeth gan yr archwilwyr ynglyn â phrif materion y Cod Diogelwch. Rhagwelir
bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhorthmadog. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed y
pwyntiau canlynol:
Ymatebodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig a’r Harbwr Feistr i’r uchod fel a ganlyn: (i)
Tra’n cydymdeimlo gyda’r Clwb Hwylio o
safbwynt gofod iddynt yn yr aber yn sgil gosodiad yr angorfeydd, eglurwyd bod y
sianel yn culhau a’r Harbwr Feistr yn ceisio ei orau i beidio cymryd gormod o
le a gwerthfawrogir y cydweithrediad parod gan y Clwb Hwylio ar bob achlysur (ii)
Gwelwyd gwelliant o ran
problemau gyda’r badau dŵr personol ac unwaith y derbynir trefniant
cenedlaethol, fe ellir anfon neges allan i phob morwr Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. (ch) Mordwyo Adroddwyd bod yr Harbwr Feistr yn gwneud ei
orau i gadw’r cymhorthyddion ar safle a sicrhawyd y byddai Bwi Rhif 2 ar y
safle cyn Gwyl Y Pasg. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. (d)
Cynnal a Chadw Amlinellodd yr Harbwr Feistr ei raglen waith
dros gyfnod y gaeaf fel a ganlyn:
|
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol: a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Cofnod: Penderfynwyd: Ethol Mr Dave Williams fel sylwedydd i
gynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Aberdyfi ar yr isod: ·
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Abermaw ·
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Porthmadog ·
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 22 Mawrth 2018. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi
y cynhelir nesaf y Pwyllgor
Ymgynghorol ar 22 Mawrth 2018. |