Agenda item

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 28 Chwefror 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.1       Materion yn codi o’r cofnodion – Eitem 4 (d) (i) Wal y Cei

 

Nododd y Cadeirydd siom na oedd yn bosibl i swyddog Ymgynghoriaeth Gwynedd fod yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad peirianyddol ar ddatblygiad gwaith i wal y cei. Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod yn ddiweddar gyda swyddogion Uned Ymgynghoriaeth Gwynedd ac fe adroddodd ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa diweddaraf sef bod bras amcan gyfrif y cynlluniau diwygiedig o ail-ddatblygu wal y cei ar gost o £2.2m.  Ar hyn o bryd, gellir cael oddeutu 75% o’r costau drwy grantiau ac arian Ewrop ond bod diffyg o 25% sydd yn cyfateb i £500,000.   Yn y cyfarfodydd diwethaf fe drafodwyd y posibilrwydd o ddenu trydydd parti i gyfrannu at y costau ac fe fyddai modd trafod hyn ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn. Awgrymwyd bod holl Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y gofyn am gefnogaeth ariannol bosibl a bod y wybodaeth hyn yn cael ei amlygu I aelodau o’r holl gymdeithasau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Harbwr. Deallwyd yr amlygwyd pryder gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn â’r bwriad i ymestyn y strwythur presennol allan oddeutu medr i’r môr ac y byddai’n  effeithio ar gynefinoedd, ond bellach deallir eu bod yn hapus gyda’r cynlluniau diwygiedig.  Deallir ymhellach y bydd y cais yn cael ei gyflwyno a’i ystyried gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sef yr Awdurdod Cynllunio yn Aberdyfi yn fuan.

 

Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n trefnu bod copiau o’r cynlluniau ar gael i’w gweld yn swyddfa’r Harbwr Feistr ac y byddai’n cylchredeg nodiadau o’r broses sydd wedi digwydd yn yr wythnosau nesaf.  Nodwyd y byddai’n heriol i geisio canfod £500,000 gyda’r bwriad i edrych ar bob ffynhonell ariannol posibl. 

 

O safbwynt amserlen, hyderir y gellir dechrau ar y gwaith ym mis Ebrill 2019.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         O safbwynt denu cyfraniad lleol, teimlwyd bod £500,000 yn heriol ac a fyddai modd i’r Cyngor ystyried ffynhonellau o gyfeiriad ffrydiau twristiaeth

·         Bod 2018 yn cael ei ddynodi yn Flwyddyn y Môr a phwy a wyr efallai y byddai adnoddau ariannol ar gael gan Lywodraeth Cymru. 

·         Cytunwyd yn y gorffennol bod y cei yn adnodd bwysig i Aberdyfi yn enwedig ar gyfer cynnal busnesau, sefydliad y Bad Achub a.y.b.

·         Bod Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas wedi ei benodi’n ddiweddar yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ac y byddai o fudd cynnal trafodaeth gydag ef ynghylch unrhyw gymorth y gallasai awgrymu 

·         Nad oedd yn opsiwn i beidio adnewyddu wal y cei, neu fe fyddai’n disgyn i’r môr ond bod y llwybr i gyrraedd y nod yn anodd

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod ac edrychir ymlaen i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol hwn ym mis Mawrth 2018.

 

                                    (b)       Bod y cynlluniau diwygiedig ac adroddiad diweddaraf ar gael yn Swyddfa’r Harbwr Feistr ar gyfer eu harchwilio ymhellach gan aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn ac Aelodau o’r cyhoedd.

 

4.2       Eitem 4 (d) (ff) – Tir Comin / tir ystorfa, gwastraff

 

Adroddwyd bod y tir uchod yn parhau yn broblemus gyda’r cyhoedd yn gwaredu pob math o ysbwriel yn anghyfreithlon ar y tir, gan gynnwys oergelli, rhewgelli, asbestos a.y.b.

 

Eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod asbestos ar y tir sydd yn gorfod cael ei waredu gan arbenigwyr ac yn unol â chanllawiau llym.  Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi neilltuo oddeutu £10,000 wrth gefn ar gyfer y gwaith clirio gyda thua £8,000 yn ychwanegol ar gyfer gosod ffens bwrpasol fel bo neb yn gallu gwaredu ysbwriel neu gwneud unrhyw ddfnydd o’r tir heb ganiatad i’r dyfodol.  Hyderir y bydd y safle wedi ei glirio erbyn dechrau mis Ebrill 2018.  Erbyn diwedd yr haf mawr obeithir fe fydd llecyn taclus ar gael yn yr ardal i gadw cawelli ac offer pysgotwyr sydd yn gweithio yn rheolaidd allan o harbwr Aberdyfi.  Roedd y Gwasanaeth mewn trafodaeth gyda chwmni gwaredu o Gaernarfon er ceisio amcan bris I waredu’r gwastraff.

 

Nododd cynrychiolydd y Clwb Hwylio bod ganddynt les ar gyfer rhan bach o’r tir ac y byddai’r Clwb yn fodlon cyfrannu yn ariannol ac yn ymarferol ar waredu’r gwastraff anghyfreithlon. Gofynwyd bod y cynrychiolydd yn cylch redeg copi o’r brydles I swyddogion ar y cyfle cyntaf

 

Nododd Aelod unwaith y bydd y tir wedi ei glirio, fe fydd yn adnodd gwerthfawr a diogel ar gyfer cadw celfi swyddogol ac mewn lleoliad delfrydol.

 

Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol bod angen i bysgotwyr sicrhau fod eu holl eiddo, gan gynnwys offer pysgota o unrhyw fath, wedi ei storio mewn ffordd daclus.  Fe fydd unrhyw offer sydd yn cael ei adnabod fel defnydd na fyddai wedi cael ei ddefnyddio neu ei gynnal a chadw ers amser yn cael ei waredu.

 

Awgrymodd Aelod y gellir canfod pwy sydd yn gwaredu’n anghyfreithlon drwy ymchwilio i’r rhifau cyfresol ar y deunyddiau.

 

Nodwyd fel mater o wybodaeth bod cwmni “Clarach Waste Services” ar gael yn Aberystwyth sydd yn cynnal gwasanaeth wythnosol i Dywyn ac efallai y byddai’n werth cysylltu â hwy am bris i waredu’r ysbwriel.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.   

 

 

Dogfennau ategol: