skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)          Atgoffwyd yr Aelodau bod angen cyflwyno cyfansoddiad a chofnodion blynyddol cyfredol y mudiadau / sefydliadau maent yn gynrychioli ar y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr er mwyn sicrhau aelodaeth cymwys o’r Pwyllgor yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn 2014.  Rhestrwyd y mudiadau hynny nad oedd wedi anfon y dogfennau perthnasol fel a ganlyn:

 

·         Pwyllgor Gwelliannau Aberdyfi

·         Cymdeithas Pysgodfeydd Bae Ceredigion

·         Clwb Cychod Aberdyfi

·         Clwb Hwylio Dyfi

·         Clwb Rhwyfo Aberdyfi

 

Deallir nad yw Partneriaeth Aberdyfi na Siambr Fasnach Aberdyfi yn bodoli mwyach.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod a disgwylir i’r mudiadau uchod anfon y dogfennau perthnasol ymlaen i’r Swyddog Cefnogi Aelodau.

 

(b)          O safbwynt niferoedd angorfeydd yn yr Harbwr gwelwyd leihad o 1 o’i gymharu â 2016 gyda chynnydd yn y badau dŵr personol.  Siomedig fu’r tywydd a oedd yn cael effaith ar yr harbyrau ar draws y Sir ond braf ydoedd nodi bod cychod o Gonwy wedi ymweld â harbwr Aberdyfi a hyderir y byddent yn ymweld eto i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)           Cod Diogelwch Morwrol

 

Derbyniwyd archwiliad gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ac yn deillio o’u hadroddiad cyfeiriwyd at fân elfennau a oedd angen sylw yn Harbwr Aberdyfi megis tacluso o amgylch y cei gan fod nwyddau a rhaffau wedi eu cadw mewn ffordd a allasai achosi risg.  Fe fydd yr archwilwyr yn ymweld a’r gwasanaeth ymhen blwyddyn a’r bwriad ydoedd gwahodd aelodau’r Pwyllgorau Harbwr i un cyfarfod canolog er mwyn derbyn gwybodaeth gan yr archwilwyr ynglyn â phrif materion y Cod Diogelwch. Rhagwelir bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhorthmadog.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

  • Bod yr Outward Bound yn cydweithio’n dda gyda staff yr Harbwr o ran unrhyw weithgareddau
  • Dymuniad i weld yr angorfeydd yn y mannau lle roeddynt oddeutu 15 mlynedd yn ôl
  • O safbwynt diogelwch, gofynnwyd a oedd unrhyw broblem yn deillio o ddefnydd badau dŵr personol

 

Ymatebodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a’r Harbwr Feistr i’r uchod fel a ganlyn:

 

(i)             Tra’n cydymdeimlo gyda’r Clwb Hwylio o safbwynt gofod iddynt yn yr aber yn sgil gosodiad yr angorfeydd, eglurwyd bod y sianel yn culhau a’r Harbwr Feistr yn ceisio ei orau i beidio cymryd gormod o le a gwerthfawrogir y cydweithrediad parod gan y Clwb Hwylio ar bob achlysur

(ii)           Gwelwyd gwelliant o ran problemau gyda’r badau dŵr personol ac unwaith y derbynir trefniant cenedlaethol, fe ellir anfon neges allan i phob morwr

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)   Mordwyo

 

Adroddwyd bod yr Harbwr Feistr yn gwneud ei orau i gadw’r cymhorthyddion ar safle a sicrhawyd y byddai Bwi Rhif 2 ar y safle cyn Gwyl Y Pasg. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(d)          Cynnal a Chadw

 

Amlinellodd yr Harbwr Feistr ei raglen waith dros gyfnod y gaeaf fel a ganlyn:

 

  • Gwaith atgyweirio ym Mryn Llestair (Picnic Island)
  • Gwaith ar Bwi y Fairway a Bwi Rhif 2
  • Atgyweirio’r cwch
  • Gwaith o hyn tan y Nadolig yn gosod pren i’r lanfa

 

Nododd y Swyddog Morwrol mai 6 cerbyd sydd gan y Gwasanaeth ond nad oedd ‘run cerbyd yn Aberdyfi nac Abermaw.  Mawr hyderir y bydd cerbyd ar gael cyn Nadolig ac un i Abermaw erbyn flwyddyn newydd.  Roedd yr Harbwr Feistr wedi bod yn defnyddio ei gerbyd ei hun i glirio anifeiliad oddi ar y traeth megis defaid, llamhidyddion, a.yb.

 

O safbwynt y llwybr pren ar draws y llain golff, bod angen cysylltu â chyrff perthnasol am gyfraniadau ariannol i’w atgyweirio.  Roedd y llwybr wedi bod ar gau ond hyderir y gellir gwneud gwaith ddechrau’r flwyddyn newydd.

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn anodd deall pam ei fod wedi cymryd cyhyd i gael cerbyd i Aberdyfi ac yn enwedig yr angen o’i ddefnydd ar dywydd garw.  Ychwanegodd Aelod arall bod cyfrifoldebau’r Harbwr Feistr yn ymestyn cyn belled â Fairbourne ac roedd yn hanfodol iddo gael cerbyd i fedru ymgymryd â’i ddyletswyddau.  Awgrymwyd y dylid dwyn y mater i sylw’r Aelod Cabinet Economi a phwysleisio’r ffaith bod gwir angen cerbyd ar gyfer yr Harbwr Feistr yn Aberdyfi.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(dd)      Materion Staff

 

Adroddwyd bod y bartneriaeth gyda’r Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi yn gweithio’n wych a’r cyfnod cyflogaeth wedi ymestyn tan diwedd Rhagfyr. 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle ar ran y Pwyllgor Ymgynghorol i ddiolch i’r Harbwr Feistr a’r staff am eu gwaith clodwiw.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(e) Materion harbwr a thiroedd     

 

(i)            Adroddwyd bod cawelli yn cael eu storio ar y cei a phwysleiswyd yr angen am gydweithrediad y pysgotwyr i’w cadw yn daclus er diogelwch y cyhoedd.  Hyderir i’r dyfodol y gellir cael lle diogel ar y tir comin ar gyfer eu storio.  Pwysleislwyd yr angen hefyd i’r defnyddwyr masnachol beidio parcio cerbydau ar ochr y cei am gyfnodau hir, eto oherwydd diogelwch risg i’r cyhoedd, heblaw ar gyfer llwytho a dad-lwytho nwyddau neu bysgod.  Bydd yn rhaid i’r trefniadau newid yn 2018 ac efallai y gellir cael trefniant ar gyfer cael tocyn parcio iddynt i barcio yn y maes parcio. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:

 

·         bod cawelli ac offer pysgota yn nodweddol o Harbwr gweithiol  

·         pwysgirwydd i gael presenoldeb cynrychiolaeth o’r gymdeithas pysgotwyr i gyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.  Awgrymwyd i gysylltu â chynrychiolydd y Gymdeithas Pysgotwyr ar ran y Pwyllgor i ofyn a fyddai modd enwebu eilydd ymhlith y pysgotwyr lleol i fynychu ar ei ran pe byddai angen    

·         bod materion diogelwch yn hynod bwysig ac roedd nifer o gynlluniau dros y blynyddoedd wedi dwyn ffrwyth i geisio gwella diogelwch y cyhoedd, megis siacedi achub addas, a.y.b.  Deallir bod Llywodraeth yr Alban yn cyflenwi siacedi achub am ddim a hyderir y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un trywydd.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod a chysylltu â chynrychiolydd y Gymdeithas Pysgotwyr, ar ran y Pwyllgor Ymgynghorol, i ganfod a fyddai modd ethol cynrychiolydd ymhlith y pysgotwyr lleol i fynychu’r Pwyllgor ar ei ran, ar achlysuron pan nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod.                     

 

 

(ii)                   Dŵr Ymdrochi

 

Adroddwyd bod canlyniadau’r dŵr ymdrochi wedi gwella flwyddyn mewn cymhariaeth a flwyddyn diwethaf  gyda Thraeth y Fynwent hefyd yn parhau i’w brofi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(iii)                 Arwyddion Diogelwch

 

Adroddwyd bod swyddogion y Gwasnaeth Morwrol wedi cynnal trafodaethau gyda Josh Cooper o Fudiad y Bad Achub, ynghyd â’r ddau aelod lleol.  Roedd lleoliadau wedi eu cytuno ar gyfer gosod yr arwyddion diogelwch a hyderir y bydd adroddiad terfynol cyn y Nadolig gyda’r arwyddion yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2018.  O safbwynt arwyddion yn Abermaw, hyderir y bydd yr arwyddion yn eu lle erbyn Awst.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â phostyn sydd yn dal y bwi achub yn Harbwr Penhelyg, cadarnhaodd yr Harbwr Feistr y byddai’n cael ei adnewyddu.

 

Nododd cynrychiolydd y Bad Achub eu bod yn gwneud cyhoeddiadau o beryglon y môr a nodwyd bwysigrwydd i osod arwyddion rhwng Tywyn ac Aberdyfi yn enwedig i godi ymwyddiaeth o lanw terfol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(f)  Materion Ariannol

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr Aelodau drwy’r fantolen ariannol gan nodi fel a ganlyn:

 

  • bod tanwariant o £3,264 yng nghostau staff
  • bod tanwariant o £11,640 yng nghostau tiroedd ac eiddo
  • bod gorwariant o £32 yng nghostau cwch a cherbydau
  • bod gorwariant o £1,296 yng nghostau offer a chelfi
  • bod targed yr incwm yn fyr o £5,594

 

 

Ar gyfer diwedd Medi 2017 nodwyd bod yr incwm yn fyr o £2,283.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ff)       Ffioedd a thaliadau 2017/18

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18 er cwrdd â her gyllideb a tharged incwm y gwasanaeth.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(g)        Digwyddiadau

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig mai braf ydoedd gweld cymaint o weithgareddau amrywiol yn yr gymuned.  Cyfeiriwyd yn benodol at daith ar fadau dŵr personol o Morfa Bychan i Aberdyfi yn ystod yr haf a chanmolwyd y trefniadau ar y diwrnod.  Hyderir y bydd y gweithgaredau yn parhau ac yn cael eu cynnal eto flwyddyn nesaf.  Fodd bynnag, nodwyd bod angen adolygu’r gweithgareddau fel rhan o’r Dyfi Fest yn benodol elfennau iechyd a diogelwch a gynhaliwyd ar y cei (castell neidio).  Pe bydd y Dyfi Fest yn cael ei gynnal flwyddyn nesaf, awgrymyd efallai y gall gweithredwr y castell neidio gael cyflenwad trydan o’r Harbwr yn hytrach na defnyddio generadur.

 

Mewn ymateb i gais ar gyfer ail-leoli yr orsaf dywydd gan ei fod wedi ei leoli yn y man anghywir ar y cei, awgrymodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i Mr Des George drafod a chytuno lleoliad addas gyda’r Harbwr Feistr ar y cyfle cyntaf.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

 

Dogfennau ategol: