Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones ac Elwyn Edwards.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 326 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13.07.2023 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fel rhai cywir.

 

5.

CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD pdf eicon PDF 414 KB

I gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni Drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg posib i’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem yma gan yr Is-Gadeirydd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Polisi Cynllunio. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei greu yn dilyn adolygiad diweddar. Manylwyd fod y broses o’i ddatblygu’n un technegol gyda nifer o gamau sydd angen eu cyfarch yn statudol.

 

Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf yw mabwysiadu Cytundeb Cyflawni. Esboniwyd bod holl broses o ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei rannu i 7 cam, gydag amserlen fras a chyfnodau ymgynghoriad allweddol wedi ei nodi ar gyfer pob agwedd.

 

Nodwyd bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael eu cymryd i’w ystyriaeth cyn cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i’r Cabinet ar 10 Hydref 2023. Manylwyd bydd y mater yn cael ei gyflwyno i Weithgor Polisi Cynllunio ym mis Ionawr, cyn dychwelyd i’r Cabinet a’i gyflwyno i’r Cyngor Llawn pan yn amserol.

 

Ystyriwyd y posibilrwydd o ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg o fewn Atodiad 5 y Cynllun (“Risgiau Posib a dulliau ymateb”). Nodwyd ei fod yn amlwg o’r ddogfen fod ymgynghori yn ran pwysig o’r cytundeb cyflawni ac yn cael sylw ond ddim wedi ei nodi fel risg. Sef, y risg o beidio ymgynghori yn ddigonol. Ymhelaethwyd gan ei fod yn elfen mor bwysig, fyddai’n fuddiol ei gynnwys fel risg er mwyn sicrhau ei fod yn cael sylw yn gyson. Derbyniwyd bod yr amserlen i gwblhau’r Cynllun yn heriol ac felly ystyriwyd y posibilrwydd byddai’n anodd i ymgynghori’n effeithiol o fewn yr amser hynny gan sicrhau bod nifer fawr o ymatebion yn cyrraedd y swyddogion, gan sicrhau amser i’w dadansoddi. Holwyd yng nghyswllt yr ymgynghori blaenorol gan ofyn a ddysgwyd rhywbeth o’r ymgynghoriad blaenorol ac a weithredwyd ar yr hyn a ddysgwyd i fwydo i mewn i’r ymgynghori oedd i ddod.

 

Croesawyd bod y rhestr o gyrff y bwriedir ymgynghori â hwy yn cynnwys grwpiau wedi eu tangynrychioli a bod yr ymgynghoriad yn agored i bawb ymateb. Cyfeiriwyd at y dulliau ymgynghori gan nodi pryder eu bod yn ddulliau arferol a ddefnyddir wrth ymgynghori. Holwyd sut y sicrheir ymateb gan y grwpiau wedi eu tangynrychioli a sylweddoli’n gynnar ni dderbyniwyd ymatebion ganddynt a gwneud rhywbeth amdano. Nodwyd bod rôl i gynghorwyr gefnogi’r gwaith.

 

Mewn ymateb i’r ystyriaethau hyn, nododd Aelod Cabinet Amgylchedd ei fod yn bwysig iawn bod y Cyngor yn cymryd perchnogaeth o’r cynllun hwn, drwy sicrhau bod Aelodau’n annog unrhyw un addas i gwblhau unrhyw ymgynghoriad ac yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth ar y Cynllun pan yn amserol. Esboniwyd bod yr Adran wedi diwygio’r dulliau maent yn ei ddefnyddio wrth ymgynghori yn dilyn adborth o’r gorffennol a gobeithiai bydd hyn yn arwain at niferoedd uwch  o ymatebion y tro hwn.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar bedwar achlysur gwahanol. Esboniwyd mai’r gofyniad statudol i gyflwyno’r Cynllun yw dwywaith, ac felly mae Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y broses yn gynhwysol ac yn rhoi nifer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN pdf eicon PDF 569 KB

I ddiweddaru Aaelodau’r Pwyllgor Craffu ar y cynnydd a’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)      Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth;

(ii)    Gofyn i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu mwy o beiriannau gwefru chwim;

(iii)   Derbyn adroddiad cynnydd pan yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod y Cyngor ynghlwm â phrosiect heriol a thechnegol i osod dros 100 o bwyntiau gwefru mewn 25 safle ar draws Gwynedd, gydag 16 o’r heini yn cynnwys pwyntiau gwefru chwim. Eglurwyd bod yr Adran yn cynnig cyfleon newydd i’w staff gan eu bod yn derbyn hyfforddiant i osod y pwyntiau gwefru eu hunain, yn hytrach na chontractio’r gwaith i gwmni allanol.

 

Adroddwyd bod y prosiect hwn wedi ei rannu i bum rhan, ac mai gosod y pwyntiau gwefru yw’r cam cyntaf. Nodwyd mai dyma’r unig gam bydd y Cyngor yn gallu ei gyflawni yn annibynnol a bydd rhaid dibynnu ar gyrff eraill i gydweithio ar y camau eraill er mwyn cyflawni’r prosiect. Eglurwyd bod hyn wedi achosi cryn oedi yn y prosiect hyd yma, gan fod nifer o bwyntiau gwefru wedi cael eu gosod ond ddim wedi cael eu cysylltu i’r rhwydwaith eto. Sicrhawyd bod yr Adran wedi dysgu o’r heriau hyn ac yn hyderu na fyddai’r un trafferthion yn codi wrth weithredu’r prosiect i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn ymatebion cadarnhaol i lythyr yn ddiweddar ynghylch cael pwyntiau gwefru cymunedol. Cydnabuwyd nad oes modd i bawb gwefru eu ceir adref gan nad oes gan bob tŷ man parcio agos neu bod y lleoliad y man parcio yn anodd i’w gysylltu. Adroddwyd bod cynlluniau i gael pwyntiau gwefru cymunedol yn y dyfodol.

 

Mynegwyd siom bod y Llywodraeth wedi newid eu targed o atal ceir petrol a disel erbyn 2030, yn ôl hyd at 2035.

 

Cadarnhawyd bod ymgynghori yn rhan bwysig o’r broses gan fod casglu adborth o ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn hanfodol. Eglurwyd bod yr adborth sydd eisoes wedi ei dderbyn gan ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn gadarnhaol. Esboniwyd bod adborth yn cael ei gasglu wrth i ddefnyddwyr orffen defnyddio’r pwynt gwefru a bod eu hymatebion yn cael eu gyrru i system fewnol o dan reolaeth y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt ymgynghoriadau’r Cyngor gyda cymdeithasau tai ynglŷn â pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y prif bwyslais yn cael ei roi i’r 25 man presennol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gan y Cyngor berthynas clos gydag cymdeithasau tai ac mae pwyntiau gwefru wedi eu cynnwys fel rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ddulliau o dalu am wasanaeth y pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau y bydd tair ffordd i wneud hyn. Manylwyd bod modd defnyddio cerdyn penodol ar gyfer y pwyntiau gwefru, drwy ap ar ffôn symudol ac yn y dyfodol gobeithir bydd darpariaeth i dalu drwy gerdyn banc arferol.

 

Rhannwyd pryderon nad oes digon o fetel i gynhyrchu batris ar gyfer mwy o geir trydan ar hyn o bryd yn ogystal â phryderon bydd cael ceir trydan yn fwrn mawr i’r rhwydwaith trydanol ymdopi ag o. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, cydnabuwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TOILEDAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno diweddariad ar y Gwasanaeth Toiledau Cyhoeddus ac i dderbyn sylwadau ac adborth ar y cynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC ac yr Uwch Beiriannydd. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod 61 o doiledau cyhoeddus wedi eu lleoli ar draws y sir. Cydnabuwyd bod cyfraniad Cynghorau Cymunedau a Threfi yn hanfodol i’w cadw ar agor, Ychwanegwyd bod 29 toiled cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan gymunedau, gan gynyddu’r cyfanswm sydd ar gael i drigolion i 90 toiled cyhoeddus.

 

Cadarnhawyd bydd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus newydd yn cael ei gyflwyno erbyn mis Tachwedd 2024 ac felly mae’r adran yn ail-edrych ar yr angen i godi ffioedd i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus. Esboniwyd bod ffioedd o 20c i ddefnyddio toiledau cyhoeddus penodol yng Nghaernarfon, Dolgellau, Porthmadog a Phwllheli.

 

Cyflwynodd aelod ddadansoddiad a gwybodaeth am doiledau cyhoeddus a thoiledau cymunedol yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Nododd y dylid atal codi ffioedd tan fod posib talu yn ddigyswllt. Holodd am y nifer o fusnesau a oedd ar y rhestr aros ar gyfer y Cynllun Grant Cymunedol. Nododd ei bod yn edrych ymlaen at weld gwelliannau yn y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod, nododd Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg a YGC ei werthfawrogiad o’r dadansoddiad a’r wybodaeth a gyflwynwyd. Eglurodd y byddai’n ymateb yn llawn i’r aelod yn dilyn derbyn y wybodaeth ar e-bost. Nododd bod rhestr aros ar gyfer y Cynllun Grant Cymunedol. Eglurodd y derbynnir cyllid yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru, nid oedd yn cynyddu, ac o’r herwydd yn gyfyngedig o’r nifer all fod yn rhan o’r cynllun.

 

Rhannwyd pryderon am system codi ffioedd ar ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus. Manylwyd os yw’r ffi yn 20c yn gyfredol, bydd angen codi’r ffi i 50c gan mai dim ond un darn o arian gall ei roi ar unwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod ymchwiliadau yn cael ei wneud i ychwanegu peiriannau i alluogi defnyddwyr dalu gyda cherdyn (yn ychwanegol i’r peiriant casglu arian parod presennol). Byddai hyn yn lleddfu’r angen i gael swyddogion i gasglu’r arian parod mor aml, ac yn gymorth wrth ystyried ffioedd yn y dyfodol. Yn ogystal, adroddwyd bod ystyriaethau yn cael eu cynnal i weld os oes angen codi ffi o unrhyw fath, a gwneud y toiledau am ddim, drwy osod bocs o gyfraniadau yn hytrach na ffi.

 

Amlygwyd bod y gwasanaeth yn edrych ar y tri opsiwn canlynol i’r dyfodol, mewn cysylltiad gyda’r ystyriaeth o godi ffioedd i ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus:

1.    Diddymu’r ddarpariaeth codi ffioedd yn gyfan gwbl o’r 5 toiled cyfredol

2.    Parhau gyda’r drysau talu o fewn y 5 toiled cyhoeddus cyfredol gan amnewid y drysau talu i dechnoleg o beiriannau sy’n derbyn taliadau di gyffwrdd ac arian parod.

3.    Ehangu ar y ddarpariaeth o ddrysau talu ffi mynediad.

 

Nodwyd bod yr adran yn cyflwyno bid trwy drefn bidiau’r Cyngor er mwyn sicrhau’r gyllideb i fuddsoddi yn nhoiledau cyhoeddus y sir.

 

Tynnwyd sylw i gynllun Grantiau Toiledau Cymunedol, ble mae modd i leoliadau ymgeisio am hyd at £500 o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 pdf eicon PDF 401 KB

Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 13 Gorffennaf 2023.

 

Eglurwyd yr angen i ddiwygio’r blaenraglen ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod yr eitem ‘Strwythur Llywodraethiant a Threfniadau Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei raglennu ar gyfer y  cyfarfod hwn ond derbyniwyd cais i’w ail-raglennu gan ei fod yn gynamserol i’w graffu. Manylwyd bod Rheolwr Rhaglen y Bwrdd wedi cadarnhau y byddai’n amserol i gyflwyno’r adroddiad yn rhan o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2023.

 

Cadarnhawyd mai un adroddiad byddai’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cyflwyno i gyfarfod 30 Tachwedd 2023 o’r Pwyllgor o dan y teitl ‘Strategaeth Llifogydd Lleol’. Sicrhawyd byddai’r adroddiad hwn hefyd yn cyfarch y materion oedd dan sylw pan flaenoriaethwyd yr eitem ‘Rheolaeth yr Arfordir’ yng ngweithdy blynyddol y Pwyllgor. Esboniwyd bod y penderfyniad i gyfuno’r ddwy eitem yn caniatáu amser digonol i graffu’r eitemau hyn yn effeithiol.