Agenda item

Cyflwyno diweddariad ar y Gwasanaeth Toiledau Cyhoeddus ac i dderbyn sylwadau ac adborth ar y cynnwys.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC ac yr Uwch Beiriannydd. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod 61 o doiledau cyhoeddus wedi eu lleoli ar draws y sir. Cydnabuwyd bod cyfraniad Cynghorau Cymunedau a Threfi yn hanfodol i’w cadw ar agor, Ychwanegwyd bod 29 toiled cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan gymunedau, gan gynyddu’r cyfanswm sydd ar gael i drigolion i 90 toiled cyhoeddus.

 

Cadarnhawyd bydd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus newydd yn cael ei gyflwyno erbyn mis Tachwedd 2024 ac felly mae’r adran yn ail-edrych ar yr angen i godi ffioedd i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus. Esboniwyd bod ffioedd o 20c i ddefnyddio toiledau cyhoeddus penodol yng Nghaernarfon, Dolgellau, Porthmadog a Phwllheli.

 

Cyflwynodd aelod ddadansoddiad a gwybodaeth am doiledau cyhoeddus a thoiledau cymunedol yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Nododd y dylid atal codi ffioedd tan fod posib talu yn ddigyswllt. Holodd am y nifer o fusnesau a oedd ar y rhestr aros ar gyfer y Cynllun Grant Cymunedol. Nododd ei bod yn edrych ymlaen at weld gwelliannau yn y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod, nododd Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg a YGC ei werthfawrogiad o’r dadansoddiad a’r wybodaeth a gyflwynwyd. Eglurodd y byddai’n ymateb yn llawn i’r aelod yn dilyn derbyn y wybodaeth ar e-bost. Nododd bod rhestr aros ar gyfer y Cynllun Grant Cymunedol. Eglurodd y derbynnir cyllid yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru, nid oedd yn cynyddu, ac o’r herwydd yn gyfyngedig o’r nifer all fod yn rhan o’r cynllun.

 

Rhannwyd pryderon am system codi ffioedd ar ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus. Manylwyd os yw’r ffi yn 20c yn gyfredol, bydd angen codi’r ffi i 50c gan mai dim ond un darn o arian gall ei roi ar unwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod ymchwiliadau yn cael ei wneud i ychwanegu peiriannau i alluogi defnyddwyr dalu gyda cherdyn (yn ychwanegol i’r peiriant casglu arian parod presennol). Byddai hyn yn lleddfu’r angen i gael swyddogion i gasglu’r arian parod mor aml, ac yn gymorth wrth ystyried ffioedd yn y dyfodol. Yn ogystal, adroddwyd bod ystyriaethau yn cael eu cynnal i weld os oes angen codi ffi o unrhyw fath, a gwneud y toiledau am ddim, drwy osod bocs o gyfraniadau yn hytrach na ffi.

 

Amlygwyd bod y gwasanaeth yn edrych ar y tri opsiwn canlynol i’r dyfodol, mewn cysylltiad gyda’r ystyriaeth o godi ffioedd i ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus:

1.    Diddymu’r ddarpariaeth codi ffioedd yn gyfan gwbl o’r 5 toiled cyfredol

2.    Parhau gyda’r drysau talu o fewn y 5 toiled cyhoeddus cyfredol gan amnewid y drysau talu i dechnoleg o beiriannau sy’n derbyn taliadau di gyffwrdd ac arian parod.

3.    Ehangu ar y ddarpariaeth o ddrysau talu ffi mynediad.

 

Nodwyd bod yr adran yn cyflwyno bid trwy drefn bidiau’r Cyngor er mwyn sicrhau’r gyllideb i fuddsoddi yn nhoiledau cyhoeddus y sir.

 

Tynnwyd sylw i gynllun Grantiau Toiledau Cymunedol, ble mae modd i leoliadau ymgeisio am hyd at £500 o grant i sicrhau glendid a diogelwch toiledau, er mwyn i’r cyhoedd eu defnyddio heb ddisgwyliad o brynu nwyddau neu wasanaeth. Manylwyd bydd lleoliadau cymeradwy yn derbyn arwyddion gan y Cyngor i hysbysu’r cyhoedd o’r gwasanaeth hwn. Nodwyd bod 35 eiddo yn rhan o’r cynllun ar hyn o bryd, gyda lleoliadau ychwanegol ar restr aros. Cydnabuwyd bod yr adran wedi derbyn adborth nad yw’r cyhoedd yn ymwybodol o’r cynllun hwn a bydd gwaith yn cael ei wneud i’w hyrwyddo.

 

Nodwyd y dylid ystyried diwygio’r wefan i gynnwys oriau amser penodol i’r toiledau cyhoeddus yn hytrach na nodi os yw ar agor yn dymhorol neu drwy’r flwyddyn. Esboniwyd byddai hyn yn sicrhau trigolion o flaen llaw os bydd y cyfleusterau ar gael iddyn nhw wrth deithio.

 

Nodwyd bod angen gwneud gwell defnydd o’r arwyddion sy’n hysbysu defnyddwyr o ble mae’r toiledau cyhoeddus. Esboniwyd bod rhai enghreifftiau ble mae’r arwyddion yn aneglur, neu nad oes arwydd yno o gwbl, a cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud gan yr adran i geisio sicrhau bod arwyddion clir yn dangos ble mae pob toiled cyhoeddus wedi’i leoli.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar fandaliaeth, cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd ei fod yn gyfuniad o fandaliaeth gyffredinol o fewn y toiledau cyhoeddus a fandaliaeth oherwydd y ffioedd sy’n cael ei godi.

 

Mewn ymateb i ymholiad am sicrhau fod pawb yn gallu defnyddio’r toiledau cyhoeddus, cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod arolwg yn cael ei gynnal i wneud yn siŵr os yw’r toiledau cyhoeddus ar gael i bawb, a sut gellir eu newid er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch. Croesawyd bwriad yr adran i gynnal ymgynghoriad cydraddoldeb o fewn y toiledau cyhoeddus er mwyn sicrhau fod gan yr holl ddefnyddwyr y cyfleusterau maent eu hangen.

 

Rhoddwyd ystyriaeth o’r angen i ail-drafod gyda cynghorau cymuned am doiledau cyhoeddus sydd bellach ar gau. Eglurwyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r cynghorau cymuned er mwyn sefydlu partneriaethau am ofal y toiledau cyhoeddus. Nodwyd bod rhai enghreifftiau ble mae’r partneriaethau hyn wedi methu ac fod y toiledau bellach ar gau. Ystyriwyd y byddai’n fuddiol i godi’r pwnc yma gyda’r cynghorau cymuned eto gan bod nifer o gynrychiolwyr newydd yn rhan ohonynt yn dilyn yr etholiad yn 2022.

 

Cytunwyd byddai’r adran yn darparu diweddariad, gan gynnwys asesiad o’r opsiynau posib ar gyfer y drefn ffioedd pan yn amserol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth

2.    Derbyn diweddariad gan gynnwys asesiad o’r opsiynau posib ar gyfer y drefn drysau talu pan yn amserol.

 

Dogfennau ategol: