Agenda item

I ddiweddaru Aaelodau’r Pwyllgor Craffu ar y cynnydd a’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus.

Penderfyniad:

(i)      Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth;

(ii)    Gofyn i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu mwy o beiriannau gwefru chwim;

(iii)   Derbyn adroddiad cynnydd pan yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod y Cyngor ynghlwm â phrosiect heriol a thechnegol i osod dros 100 o bwyntiau gwefru mewn 25 safle ar draws Gwynedd, gydag 16 o’r heini yn cynnwys pwyntiau gwefru chwim. Eglurwyd bod yr Adran yn cynnig cyfleon newydd i’w staff gan eu bod yn derbyn hyfforddiant i osod y pwyntiau gwefru eu hunain, yn hytrach na chontractio’r gwaith i gwmni allanol.

 

Adroddwyd bod y prosiect hwn wedi ei rannu i bum rhan, ac mai gosod y pwyntiau gwefru yw’r cam cyntaf. Nodwyd mai dyma’r unig gam bydd y Cyngor yn gallu ei gyflawni yn annibynnol a bydd rhaid dibynnu ar gyrff eraill i gydweithio ar y camau eraill er mwyn cyflawni’r prosiect. Eglurwyd bod hyn wedi achosi cryn oedi yn y prosiect hyd yma, gan fod nifer o bwyntiau gwefru wedi cael eu gosod ond ddim wedi cael eu cysylltu i’r rhwydwaith eto. Sicrhawyd bod yr Adran wedi dysgu o’r heriau hyn ac yn hyderu na fyddai’r un trafferthion yn codi wrth weithredu’r prosiect i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn ymatebion cadarnhaol i lythyr yn ddiweddar ynghylch cael pwyntiau gwefru cymunedol. Cydnabuwyd nad oes modd i bawb gwefru eu ceir adref gan nad oes gan bob tŷ man parcio agos neu bod y lleoliad y man parcio yn anodd i’w gysylltu. Adroddwyd bod cynlluniau i gael pwyntiau gwefru cymunedol yn y dyfodol.

 

Mynegwyd siom bod y Llywodraeth wedi newid eu targed o atal ceir petrol a disel erbyn 2030, yn ôl hyd at 2035.

 

Cadarnhawyd bod ymgynghori yn rhan bwysig o’r broses gan fod casglu adborth o ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn hanfodol. Eglurwyd bod yr adborth sydd eisoes wedi ei dderbyn gan ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn gadarnhaol. Esboniwyd bod adborth yn cael ei gasglu wrth i ddefnyddwyr orffen defnyddio’r pwynt gwefru a bod eu hymatebion yn cael eu gyrru i system fewnol o dan reolaeth y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt ymgynghoriadau’r Cyngor gyda cymdeithasau tai ynglŷn â pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y prif bwyslais yn cael ei roi i’r 25 man presennol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gan y Cyngor berthynas clos gydag cymdeithasau tai ac mae pwyntiau gwefru wedi eu cynnwys fel rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ddulliau o dalu am wasanaeth y pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau y bydd tair ffordd i wneud hyn. Manylwyd bod modd defnyddio cerdyn penodol ar gyfer y pwyntiau gwefru, drwy ap ar ffôn symudol ac yn y dyfodol gobeithir bydd darpariaeth i dalu drwy gerdyn banc arferol.

 

Rhannwyd pryderon nad oes digon o fetel i gynhyrchu batris ar gyfer mwy o geir trydan ar hyn o bryd yn ogystal â phryderon bydd cael ceir trydan yn fwrn mawr i’r rhwydwaith trydanol ymdopi ag o. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, cydnabuwyd bod yr her o annog pobl Gwynedd i ddefnyddio ceir trydan yn sylweddol. Er hyn, pwysleisiodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y prosiect hwn yn bwysig fel rhan o dargedau cynllun newid hinsawdd a natur.

 

Holwyd os oes modd darparu mwy o bwyntiau gwefru chwim yn y dyfodol, gan eu bod yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod defnyddio mwy o bwyntiau chwim yn heriol i’r rhwydwaith trydanol, ond bydd y Adran yn ôl i’r Pwyllgor gyda diweddariad ar y mater hwn pan yn amserol.

 

Sicrhawyd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu cynllun busnes ar gyfer y pwyntiau gwefru. Nodwyd bod hyn yn galluogi’r Cyngor i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’r arian a gasglwyd wrth i bwyntiau gwefru cael eu defnyddio, a’r posibilrwydd o ddefnyddio paneli solar i’w pweru. Cadarnhawyd bod nifer o syniadau wedi cael eu cyflwyno a bod gwaith ymchwil yn cael ei gwblhau i sicrhau bod yr opsiynau gorau yn cael eu dewis. Ychwanegwyd bydd yr Adran yn darparu adroddiad ar gynnydd y prosiect pan yn amserol.

 

Cydnabuwyd bod y newid hwn i gerbydau trydan yn newid mawr i orsafoedd petrol. Croesawyd unrhyw gyfle i’w cefnogi gyda’r newid hwn.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth

2.    Gofyn i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu mwy o beiriannau gwefru chwim

3.    Derbyn adroddiad cynnydd pan yn amserol

 

 

Dogfennau ategol: