Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kim Jones, Llio Elenid Owen, Rhys Tudur, Robert Glyn Daniels a'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor).

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Gwilym Jones am ei gyfraniad i’r Pwyllgor dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Croesawyd y Cynghorydd Jina Gwyrfai fel Aelod newydd i’r Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 164 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfyd y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2024 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2024, fel rhai cywir.

 

5.

TREFNIADAU CYFLAWNI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 311 KB

I adolygu trefniadau cyflawni’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a monitro cynnydd o ran gweithredu Cynllun Llesiant 2023-2028.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad:

 

·       Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder am y trefniadau cyflawni a sut mae cynnydd yn cael ei fesur er mwyn gwireddu amcanion y Cynllun Llesiant.

·       Argymell i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am:

·      sut mae’r Iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fesul amcan llesiant

·      sut mae’r fethodoleg System Gyfan a Pwysa Iach: Cymru yn llinyn euraidd drwy’r gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor) a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cyflwyno trefniadau cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar gyfer 2024-2025 yn seiliedig ar Gynllun Llesiant 2023-2028 Gwynedd a Môn. Manylwyd bod tri Amcan Llesiant penodol o fewn y cynllun sef:

 

·       Gweithio i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

·       Gweithio i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.

·       Gweithio i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at sero net carbon.

 

Ychwanegwyd bod ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’, strategaeth hirdymor  Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru, wedi cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd fel llinyn euraidd ac fe fydd yn cael ystyriaeth ganolog i weithrediad y Bwrdd. Ystyriwyd sut bydd y Bwrdd yn monitro’r llinyn euraidd hwn gan gofio fod yr iaith Gymraeg hefyd yn llinyn euraidd drwy weithrediad y Bwrdd.

 

Cydnabuwyd nad oedd yr iaith Gymraeg i’w weld yn amlwg fel ei fod yn ganolog i waith y Bwrdd, fel soniwyd mewn trafodaethau am waith y Bwrdd yn y Pwyllgor hwn. Pwysleisiwyd bod newid wedi cael ei gyflwyno gan y Bwrdd er mwyn sicrhau fod yr ymrwymiad i’r iaith Gymraeg llawer fwy amlwg erbyn hyn. Sicrhawyd bod holl bartneriaid y Bwrdd yn gweithredu gyda’r Gymraeg yn ganolog i’w hystyriaethau.

 

Cadarnhawyd bod nifer o is-grwpiau’r Bwrdd bellach wedi dod i ben ac yn cael eu trin fel grwpiau tasg a gorffen ble mae swyddogion o bob partneriaeth yn cyfrannu ar lefel gweithredol i wireddu amcanion. Nodwyd bod nifer o’r grwpiau hyn eisoes mewn lle megis ‘grŵp hyrwyddo hawlio budd-daliadau’ a ‘grŵp siarter teithio’, i gynorthwyo lliniaru effaith tlodi ar ein cymunedau. Manylwyd ar y grŵp siarter teithio gan nodi ei fod yn ystyried nifer o ffactorau yn ychwanegol i gludiant cyhoeddus, megis dulliau teithio staff, gwefru cerbydau a phobl yn gweithio o adref.

 

Pwysleisiwyd bod yr Is-grŵp Iaith Gymraeg yn parhau i fod yn weithredol, gyda chynrychiolaeth o bob partneriaeth yn rhan ohono ac yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Adroddwyd bod yr is-grŵp hwn wedi bod yn gweithio ar brosiect i ymateb i heriau recriwtio yn yr ardal a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

Adroddwyd ar weithdrefnau cyflawni lefel uchel mae’r Bwrdd yn bwriadu eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Esboniwyd mai gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd sydd wedi cael ei nodi hyd yma, er bod y cynllun llesiant yn un pum mlynedd. Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi gosod gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd yn unig er mwyn sicrhau sylfaeni cadarn o faterion gweithredol. Cydnabuwyd mai un o heriau sy’n wynebu’r Bwrdd yw ychwanegu gwerth i gymunedau heb ddyblygu’r gwaith mae partneriaid eisoes yn ei gwblhau eu hunain.

 

Mewn ymateb i ymholiad, tynnwyd sylw at ddau o’r gweithdrefnau cyflawni lefel uchel a gyflwynwyd. Eglurwyd bod y weithdrefn ‘bod y Bwrdd yn Wybodus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLAWLYFR CYNNAL PRIFFYRDD pdf eicon PDF 245 KB

I ddiweddaru’r Aelodau ar y Llawlyfr Cynnal Priffyrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau ac argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a Ymgynghoriaeth Gwynedd:

 

·       yn rhoi trefniadau mewn lle i adael i gynghorwyr wybod pan fo problem a adroddwyd wedi ei ddatrys.

·       yn edrych ar sefydlu trefniadau i adolygu safon archwiliadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth yr Adran a Pheiriannydd Ardal Dwyfor. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Llawlyfr Cynnal Priffyrdd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2023 a'i fod bellach yn weithredol. Tynnwyd sylw at brif amcanion y llawlyfr wrth ei weithredu, sef sicrhau:

 

·       Bod gweithdrefnau cynnal asedau priffyrdd y Cyngor yn cydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol presennol.

·       Bod y Cyngor yn darparu rhwydwaith priffyrdd diogel sydd wedi ei gynnal yn dda.

·       Bod safonau cynnal priodol yn cael ei gweithredu’n gyson ledled Gwynedd

·       Bod safonau a dull gweithredu’r Cyngor yn gyson ag awdurdodau priffyrdd eraill o fewn Cymru.

·       Bydd y Cyngor yn parhau i allu amddiffyn hawliadau trydydd parti a chamau cyfreithiol gan unigolion.

·       Bod dyraniadau cyllideb cynnal priffyrdd yn y dyfodol yn cael eu dylanwadu gan risg yn hytrach na gan ffactorau eraill.

 

Cadarnhawyd bod y llawlyfr wedi cael ei ddatblygu i gynllunio sut mae’r Cyngor yn cydymffurfio gyda’r dyletswydd penodol o dan Deddf Priffyrdd 1980 yn ogystal â nifer o godau ymarfer cenedlaethol, i gynnal y ffyrdd a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Manylwyd bod y llawlyfr wedi ei selio ar Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (Gorffennaf 2010) a oedd ynddo’i hun wedi cael ei ddylanwadu gan ‘Code of Practice for Highway Maintenance Management 2005’.

 

Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu ar sail ardaloedd Dwyfor, Arfon a Meirionnydd oherwydd maint y Sir. Eglurwyd bod hyn yn drefn effeithiol er mwyn ymateb i ymholiadau cynnal ffyrdd yn amserol, gan sicrhau fod yr un trefniadau a gweithdrefnau mewn lle ar gyfer yr holl ardaloedd.

 

Cadarnhawyd bod y llawlyfr yn cael ei ddefnyddio fel canllaw dyddiol ar sut i gynnal ffyrdd y Sir ac yn amddiffyn y Cyngor rhag hawliadau trydydd parti ac achosion llys. Pwysleisiwyd bod y Cyngor wedi derbyn 343 o geisiadau hawlio trydydd parti rhwng 1 Ebrill 2016 ac 1 Ebrill 2024 a bod y Cyngor wedi llwyddo i amddiffyn 294 ohonynt. Manylwyd bod hyn yn gyfradd llwyddiant o bron i 86%.

 

Esboniwyd bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cydymffurfio â chod ymarfer newydd a gyhoeddwyd yn 2016 sef ‘Well-managed Highway Infastructure: A Code of Practice. Ymhelaethwyd bod Cymdeithas Syrfëwr Sirol Cymru yn ymgynghori gydag awdurdodau lleol er mwyn llunio cynlluniau sy’n gyson yn genedlaethol er mwyn sicrhau nad oes newidiadau i gyflyrau’r ffyrdd pan mae teithwyr yn symud o un Sir i’r llall. Pwysleisiwyd bod awdurdodau lleol yn ymgymryd â sefydlu hierarchaeth rhwydwaith, trefniadau arolygu, trefn trwsio yn ogystal â defnyddio risg i ddylanwadu ar sut y caiff y gyllideb ei ddyrannu, i sicrhau nad oes newidiadau mawr ymysg Siroedd.

 

Tynnwyd sylw penodol i gymal 7.1 o’r llawlyfr a oedd yn nodi bod categori diffygion ffyrdd yn cael eu categoreiddio fel diffyg critigol, diffyg diogelwch neu ddiffyg cynnal. Nodwyd bod y gwasanaeth yn arolygu ffyrdd yn rheolaidd gan wneud hynny yn fisol, pob 3 mis neu bob 6 mis yn ddibynnol ar ddosbarth y ffordd a’r defnydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

GWASANAETH EDRYCHIAD STRYD pdf eicon PDF 161 KB

I ddiweddaru Aelodau ar y Gwasanaeth Edrychiad Stryd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Rheolwr Gwasanaethau Stryd a Rheolwr Prosiectau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd yn dilyn trosglwyddo’r y Gwasanaeth Casglu Gwastraff ac Ailgylchu i’r Adran Amgylchedd, cymerwyd y cyfle i ail-drefnu rhai gwasanaethau yn yr Adran. Eglurwyd bod y gwasanaethau Glanhau Strydoedd, Gorfodaeth Stryd a Thîm Tacluso Ardal Ni wedi uno i greu un gwasanaeth newydd o’r enw ‘Gwasanaeth Edrychiad Stryd’ o dan un rheolwr.  Pwysleisiwyd mai nod y Gwasanaeth Edrychiad Stryd yw ceisio cyrraedd amcan y Cyngor o wireddu Cymunedau Glân a Thaclus drwy Wynedd er lles trigolion, ymwelwyr a’r economi leol.

 

Nodwyd bod y tîm Glanhau Strydoedd yn gweithredu ar ofynion statudol er mwyn sicrhau bod strydoedd y Sir yn lân, tra bod tîm Gorfodaeth Stryd yn canolbwyntio ar gosbi pobl am lygru, tipio neu am beidio codi baw ci. Eglurwyd bod y Tîm Tacluso Ardal Ni yn dîm gymharol newydd sy’n cyfrannu yn sylweddol at wella edrychiad a delwedd ein strydoedd a’n hamgylchedd.

 

Adroddwyd bod adolygiad manwl o wasanaeth Glanhau Strydoedd wedi ei gwblhau a  bod cynllun gwella wedi cael ei ddatblygu yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw. Nodwyd bod y cynllun gwella yn ffocysu ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth, technoleg gwybodaeth a datblygu fflyd werdd. Pwysleisiwyd bod adolygu’r cylchdeithiau yn flaenoriaeth yn dilyn yr adolygiad. Cydnabuwyd bod systemau trefnu cylchdeithiau a chasgliadau bellach wedi dyddio ac yn creu her wrth geisio cyflawni gwasanaethau. Cadarnhawyd bod yr Adran yn buddsoddi mewn system newydd i optimeiddio cylchdeithiau gan obeithio bydd hyn yn adnodd i sicrhau gwasanaeth modern ac effeithlon sy’n cyfrannu at ddelwedd y Sir, tra hefyd yn gymorth i gyrraedd targedau arbedion presennol. Esboniwyd bydd y system yn gallu llunio cylchdeithiau o’r newydd er mwyn sicrhau bod amser yn cael ei reoli’n well a hefyd yn cynnig gwelliannau i'r fflyd.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn bid ariannol er mwyn sefydlu Glanhawyr Trefol. Manylwyd y gobeithir bydd gweithwyr yn defnyddio cert a sugnydd sbwriel trydan mewn trefi ym mhob ardal o Wynedd. Nodwyd y bwriedir newid oriau gwaith mewn ardaloedd trefol (gan gynnwys pentrefi) o 5yb hyd at 1yh fel eu bod yn gweithio o 8yb i 4yh tra'n parhau i gydymffurfio gyda chod ymarfer am lendid stryd digonol erbyn 8yb ble yn briodol. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau bod y timau yn weledol i’r cyhoedd gan ennyn gwerthfawrogiad am eu gwaith.

 

Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i recriwtio mwy o swyddogion i’r gwasanaeth Gorfodaeth Stryd yn dilyn cyfnod heriol. Cadarnhawyd bod y nifer o ddirwyon a ddosbarthwyd wedi cynyddu yn ddiweddar oherwydd hyn. Nodwyd bod diweddariad pellach yn cael ei baratoi ar gyfer y wasg er mwyn i drigolion fod yn ymwybodol o waith y gwasanaeth hwn i’r dyfodol. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda Taclo Tipio Cymru ac wedi adnabod manteision o ddefnyddio teclyn ‘Flymapper’ mewn ardaloedd prysur i daclo’r broblem. Cydnabuwyd bod Bangor yn ardal ble  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

EITEMAU'R CYFARFOD NESAF pdf eicon PDF 95 KB

I gadarnhau’r eitemau i’r craffu yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mai 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhau bydd yr eitemau isod yn cael eu craffu yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 16 Mai 2024:

 

·       Cyfarwyddyd Erthygl 4 – Ymgynghoriad Cyhoeddus

·       Clwyf Gwywiad yr Onnen

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd y cytunwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024, byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn eu cyfarfodydd cyswllt gyda’r Penaethiaid ac Aelodau

Cabinet perthnasol, yn adnabod eitemau i’w trafod ynghyd â’r eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ yng nghyfarfod 16 Mai 2024.

 

Cadarnhawyd bod eitem ychwanegol wedi cael ei adnabod o fewn cyfarfod cyswllt y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gyda Phenaethiaid ac Aelodau Cabinet perthnasol fel mater posib i’w graffu, sef ‘Clwyf Gwywiad yr Onnen’. Esboniwyd fod y mater wedi ei gynnwys ar gofrestr risg yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a nodwyd bod gan y Cyngor raglen waith i adnabod y Clwyf mewn coed ac i’w drin. Manylwyd y gellid craffu maint y broblem a’r cynnydd a wnaed o ran delio gyda’r Clwyf yn ogystal â’r gost o ddelio gyda’r Clwyf hyd yn hyn a’r costau a rhagwelir i’r dyfodol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau os oeddent yn dymuno craffu’r eitem hon yn ogystal ag ‘Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ yn y cyfarfod a gynhelir ar 16 Mai 2024.

 

Atgoffwyd yr Aelodau byddai cyfle iddynt flaenoriaethu eitemau i’w craffu ar gyfer y pedwar cyfarfod arall a gynhelir yn ystod cyfnod 2024/25 yn y Gweithdy Blynyddol a gynhelir yn yr wythnosau nesaf.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau, eglurwyd y byddai’n amserol i graffu’r eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ yng nghyfarfod 16 Mai 2024 i sicrhau bod mewnbwn Aelodau’r Pwyllgor yn cael ei dderbyn cyn i Aelodau’r Cabinet drafod yr eitem yn y misoedd canlynol. Atgoffwyd yr aelodau bod yr amserlen i drafod yr eitem hon wedi llithro gyda’r Pwyllgor wedi penderfynu yn ei gyfarfod diwethaf i’w symud o’r cyfarfod yma i gyfarfod 16 Mai 2024 yn sgil cyfnod cyn-etholiadol etholiad Comisiynydd yr Heddlu rhwng 25 Mawrth a 2 Mai 2024. Pwysleisiwyd byddai craffu’r eitem yng nghyfarfod 16 Mai yn amserol ac yn gyfle i’r Pwyllgor wneud argymhellion i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhau bydd yr eitemau isod yn cael eu craffu yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 16 Mai 2024:

 

·       Cyfarwyddyd Erthygl 4 – Ymgynghoriad Cyhoeddus

·       Clwyf Gwywiad yr Onnen