Agenda item

I ddiweddaru Aelodau ar y Gwasanaeth Edrychiad Stryd.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Rheolwr Gwasanaethau Stryd a Rheolwr Prosiectau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd yn dilyn trosglwyddo’r y Gwasanaeth Casglu Gwastraff ac Ailgylchu i’r Adran Amgylchedd, cymerwyd y cyfle i ail-drefnu rhai gwasanaethau yn yr Adran. Eglurwyd bod y gwasanaethau Glanhau Strydoedd, Gorfodaeth Stryd a Thîm Tacluso Ardal Ni wedi uno i greu un gwasanaeth newydd o’r enw ‘Gwasanaeth Edrychiad Stryd’ o dan un rheolwr.  Pwysleisiwyd mai nod y Gwasanaeth Edrychiad Stryd yw ceisio cyrraedd amcan y Cyngor o wireddu Cymunedau Glân a Thaclus drwy Wynedd er lles trigolion, ymwelwyr a’r economi leol.

 

Nodwyd bod y tîm Glanhau Strydoedd yn gweithredu ar ofynion statudol er mwyn sicrhau bod strydoedd y Sir yn lân, tra bod tîm Gorfodaeth Stryd yn canolbwyntio ar gosbi pobl am lygru, tipio neu am beidio codi baw ci. Eglurwyd bod y Tîm Tacluso Ardal Ni yn dîm gymharol newydd sy’n cyfrannu yn sylweddol at wella edrychiad a delwedd ein strydoedd a’n hamgylchedd.

 

Adroddwyd bod adolygiad manwl o wasanaeth Glanhau Strydoedd wedi ei gwblhau a  bod cynllun gwella wedi cael ei ddatblygu yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw. Nodwyd bod y cynllun gwella yn ffocysu ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth, technoleg gwybodaeth a datblygu fflyd werdd. Pwysleisiwyd bod adolygu’r cylchdeithiau yn flaenoriaeth yn dilyn yr adolygiad. Cydnabuwyd bod systemau trefnu cylchdeithiau a chasgliadau bellach wedi dyddio ac yn creu her wrth geisio cyflawni gwasanaethau. Cadarnhawyd bod yr Adran yn buddsoddi mewn system newydd i optimeiddio cylchdeithiau gan obeithio bydd hyn yn adnodd i sicrhau gwasanaeth modern ac effeithlon sy’n cyfrannu at ddelwedd y Sir, tra hefyd yn gymorth i gyrraedd targedau arbedion presennol. Esboniwyd bydd y system yn gallu llunio cylchdeithiau o’r newydd er mwyn sicrhau bod amser yn cael ei reoli’n well a hefyd yn cynnig gwelliannau i'r fflyd.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn bid ariannol er mwyn sefydlu Glanhawyr Trefol. Manylwyd y gobeithir bydd gweithwyr yn defnyddio cert a sugnydd sbwriel trydan mewn trefi ym mhob ardal o Wynedd. Nodwyd y bwriedir newid oriau gwaith mewn ardaloedd trefol (gan gynnwys pentrefi) o 5yb hyd at 1yh fel eu bod yn gweithio o 8yb i 4yh tra'n parhau i gydymffurfio gyda chod ymarfer am lendid stryd digonol erbyn 8yb ble yn briodol. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau bod y timau yn weledol i’r cyhoedd gan ennyn gwerthfawrogiad am eu gwaith.

 

Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i recriwtio mwy o swyddogion i’r gwasanaeth Gorfodaeth Stryd yn dilyn cyfnod heriol. Cadarnhawyd bod y nifer o ddirwyon a ddosbarthwyd wedi cynyddu yn ddiweddar oherwydd hyn. Nodwyd bod diweddariad pellach yn cael ei baratoi ar gyfer y wasg er mwyn i drigolion fod yn ymwybodol o waith y gwasanaeth hwn i’r dyfodol. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda Taclo Tipio Cymru ac wedi adnabod manteision o ddefnyddio teclyn ‘Flymapper’ mewn ardaloedd prysur i daclo’r broblem. Cydnabuwyd bod Bangor yn ardal ble mae tipio yn broblem a bod swyddogion yn datblygu cynllun ar gyfer yr ardal i atgoffa trigolion o reolau gwaredu gwastraff. Nodwyd os bydd yr ymgyrch hwn yn llwyddiannus, y byddai’n cael ei ddatblygu i’w rannu drwy Gymru gyfan. Tynnwyd sylw o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ryddhau Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Cenedlaethol a bydd ei gyhoeddiad yn arwain i’r Adran addasu eu Cod Ymarfer.

 

Nodwyd mai un o flaenoriaethau’r gwasanaeth Gorfodaeth Stryd dros y gaeaf oedd delio gyda baw cŵn. Pwysleisiwyd bod y broblem hon yn flaenoriaeth barhaus i’r gwasanaeth a bod swyddogion wedi bod yn adnewyddu arwyddion a biniau dros y gaeaf. Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd gan fod mwy o gŵn yn yr ardal ers y blynyddoedd diwethaf bod yr Adran yn ceisio canfod balans o ran prynu mwy o finiau baw ci . Cydnabuwyd bod hyn yn her i’r Adran oherwydd heriau ariannol ac mae ychwanegu biniau i’w gwagio ar gylchdeithiau yn effeithio ar allu gweithwyr i’w gwagio’n amserol. Er hyn, cydnabuwyd bod newid i reoliadau yn caniatáu i berchnogion cŵn waredu baw ci mewn unrhyw fin gweddilliol cyhoeddus arferol a ddarperir gan y Cyngor. Soniwyd bod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd yn unol â gofynion statudol i’w diweddaru. Cadarnhawyd bod ymgynghoriad am y gorchymyn yn digwydd dros yr wythnosau nesaf a bydd hyn yn gyfle i unrhyw un leisio barn am broblemau baw cŵn sydd yn eu hardaloedd ymhlith materion cysylltiedig eraill.

 

Eglurwyd bod Tîm Tacluso Ardal Ni yn brysur iawn gydag ystod eang o gyfrifoldebau. Nodwyd bod y gwasanaeth hwn yn fwy gweledol i drigolion Gwynedd ac mae’r Adran yn derbyn adborth cadarnhaol am eu gwaith yn rheolaidd. Esboniwyd bod natur gwaith y tîm yn newid wrth iddo ddatblygu gan nodi fod cryn bwyslais yn cael ei roi ar ymgyrchoedd canol trefi yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod y gweithwyr bellach yn arbenigwyr gyda’r offer sy’n cael ei ddefnyddio i gyflawni’r gwaith. Ymfalchïwyd bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi lansio ymgyrchoedd timau tacluso yn ddiweddar gan ddilyn nifer o brosesau a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd.

 

Holodd aelod a fyddai modd lledaenu’r defnydd o’r trefniadau gwneud cais i’r Timau Ardal Ni i wasanaethau eraill. Mewn ymateb, nododd  Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC y byddai’n codi’r mater mewn cyfarfod o’r Tîm Rheoli Corfforaethol er mwyn trafod y posibilrwydd o ledaenu’r model.

 

Cadarnhawyd bod 5 o finiau clyfar wedi cael eu gosod mewn lleoliadau prysur ar draws y Sir. Eglurwyd bod y biniau yn cael eu pweru gan egni solar er mwyn cywasgu’r sbwriel fel nad oes angen i’w gwagio mor aml. Nodwyd bod neges yn cael ei yrru gan y bin i systemau’r gwasanaeth i’w hysbysu bod angen ei wagio, cyn iddo fynd yn orlawn ac achosi blerwch. Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu arian grant eleni er mwyn buddsoddi mewn isadeiledd canol trefi. Eglurwyd bydd cyfran o’r arian yn cael ei ddyrannu i fuddsoddi mewn mwy o finiau clyfar a meinciau clyfar. Nodwyd bod cost y biniau clyfar yn ddrud ac felly mae’r Adran yn cydweithio gydag Adran Technoleg Gwybodaeth y Cyngor i geisio datblygu technoleg gyffelyb i’w ddefnyddio ar finiau yng Ngwynedd am bris rhatach na’u prynu.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod bwriad i ychwanegu mwy o finiau ailgylchu cyhoeddus ar draws y Sir. Er hyn, nodwyd bod y biniau ailgylchu sydd eisoes wedi cael eu lleoli yn cael eu camddefnyddio ac felly mae angen datrys y broblem hon cyn ychwanegu mwy ohonynt. Eglurwyd nad ydi cynnwys biniau gweddilliol a biniau clyfar ddim yn cael eu didoli gan fod eu cynnwys yn cael ei losgi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: