Agenda item

I adolygu trefniadau cyflawni’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a monitro cynnydd o ran gweithredu Cynllun Llesiant 2023-2028.

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad:

 

·       Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder am y trefniadau cyflawni a sut mae cynnydd yn cael ei fesur er mwyn gwireddu amcanion y Cynllun Llesiant.

·       Argymell i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am:

·      sut mae’r Iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fesul amcan llesiant

·      sut mae’r fethodoleg System Gyfan a Pwysa Iach: Cymru yn llinyn euraidd drwy’r gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor) a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cyflwyno trefniadau cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar gyfer 2024-2025 yn seiliedig ar Gynllun Llesiant 2023-2028 Gwynedd a Môn. Manylwyd bod tri Amcan Llesiant penodol o fewn y cynllun sef:

 

·       Gweithio i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

·       Gweithio i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.

·       Gweithio i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at sero net carbon.

 

Ychwanegwyd bod ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’, strategaeth hirdymor  Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru, wedi cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd fel llinyn euraidd ac fe fydd yn cael ystyriaeth ganolog i weithrediad y Bwrdd. Ystyriwyd sut bydd y Bwrdd yn monitro’r llinyn euraidd hwn gan gofio fod yr iaith Gymraeg hefyd yn llinyn euraidd drwy weithrediad y Bwrdd.

 

Cydnabuwyd nad oedd yr iaith Gymraeg i’w weld yn amlwg fel ei fod yn ganolog i waith y Bwrdd, fel soniwyd mewn trafodaethau am waith y Bwrdd yn y Pwyllgor hwn. Pwysleisiwyd bod newid wedi cael ei gyflwyno gan y Bwrdd er mwyn sicrhau fod yr ymrwymiad i’r iaith Gymraeg llawer fwy amlwg erbyn hyn. Sicrhawyd bod holl bartneriaid y Bwrdd yn gweithredu gyda’r Gymraeg yn ganolog i’w hystyriaethau.

 

Cadarnhawyd bod nifer o is-grwpiau’r Bwrdd bellach wedi dod i ben ac yn cael eu trin fel grwpiau tasg a gorffen ble mae swyddogion o bob partneriaeth yn cyfrannu ar lefel gweithredol i wireddu amcanion. Nodwyd bod nifer o’r grwpiau hyn eisoes mewn lle megis ‘grŵp hyrwyddo hawlio budd-daliadau’ a ‘grŵp siarter teithio’, i gynorthwyo lliniaru effaith tlodi ar ein cymunedau. Manylwyd ar y grŵp siarter teithio gan nodi ei fod yn ystyried nifer o ffactorau yn ychwanegol i gludiant cyhoeddus, megis dulliau teithio staff, gwefru cerbydau a phobl yn gweithio o adref.

 

Pwysleisiwyd bod yr Is-grŵp Iaith Gymraeg yn parhau i fod yn weithredol, gyda chynrychiolaeth o bob partneriaeth yn rhan ohono ac yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Adroddwyd bod yr is-grŵp hwn wedi bod yn gweithio ar brosiect i ymateb i heriau recriwtio yn yr ardal a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

Adroddwyd ar weithdrefnau cyflawni lefel uchel mae’r Bwrdd yn bwriadu eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Esboniwyd mai gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd sydd wedi cael ei nodi hyd yma, er bod y cynllun llesiant yn un pum mlynedd. Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi gosod gweithdrefnau ar gyfer dwy flynedd yn unig er mwyn sicrhau sylfaeni cadarn o faterion gweithredol. Cydnabuwyd mai un o heriau sy’n wynebu’r Bwrdd yw ychwanegu gwerth i gymunedau heb ddyblygu’r gwaith mae partneriaid eisoes yn ei gwblhau eu hunain.

 

Mewn ymateb i ymholiad, tynnwyd sylw at ddau o’r gweithdrefnau cyflawni lefel uchel a gyflwynwyd. Eglurwyd bod y weithdrefn ‘bod y Bwrdd yn Wybodus am Drawma’ yn ofyniad gan y llywodraeth a bod aelodau’r Bwrdd yn derbyn hyfforddiant manwl am y pwnc ar hyn o bryd. Cadarnhawyd mai bwriad y weithdrefn yma yw sicrhau fod y Bwrdd a’i bartneriaid yn ymwybodol o sefyllfaoedd defnyddwyr gwasanaeth ac yn cymryd eu profiadau i ystyriaeth wrth ddarparu gwasanaethau. Ymhelaethwyd bod ‘Cefnogi teuluoedd a chysoni hawliau plant’ hefyd wedi cael ei nodi fel gweithdrefn i’r Cynllun Llesiant er mwyn sicrhau fod hawliau plant yn derbyn ystyriaeth wrth i’r Bwrdd cyflawni ei waith.

 

Diolchwyd am wybodaeth drylwyr yng nghyflwyniad llafar y swyddogion ond mynegwyd siomedigaeth gan Aelodau’r pwyllgor am ddiffyg gwybodaeth ysgrifenedig yn yr Adroddiad. Nodwyd bod hyn wedi arwain at anawsterau wrth geisio paratoi i graffu trefniadau’r Bwrdd yn effeithlon yn ystod y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad:

 

·       Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder am y trefniadau cyflawni a sut mae cynnydd yn cael ei fesur er mwyn gwireddu amcanion y Cynllun Llesiant.

·       Argymell i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am:

·       sut mae’r Iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fesul amcan llesiant

·       sut mae’r fethodoleg System Gyfan a Pwysau Iach: Cymru Iach yn llinyn euraidd drwy’r gwaith.

 

Dogfennau ategol: