Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw
Wyn Jones, Charles Wyn Jones ac Angela Russell. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 28 Tachwedd 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
28 Tachwedd 2019, fel rhai cywir. |
|
I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu’r gyllideb
ar gyfer 2020/21. Mynegwyd fod y gwaith o gynllunio’r gyllideb wedi dechrau ym
mis Mehefin, ac ym mis Gorffennaf fod y rhagdybiaethau yn amlygu yr angen am
gynlluniau arbedion. Esboniwyd fod
cynlluniau arbedion wedi eu trafod yn Pwyllgorau Caffu
dros y misoedd diwethaf ac oherwydd bod rhai cynlluniau yn gynhennus fod y
nifer o gynlluniau arbedion wedi lleihau. Esboniwyd fod y gyllideb wedi ei
thrafod mewn cyfres o weithdai lle gwahoddwyd yr holl aelodau ac
y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Chwefror. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y bydd gyllideb yn cael ei chyflwyno i’r
Cyngor Lawn ddechrau mis Mawrth. Esboniwyd fod y setliad drafft yn well na’r
hyn oedd wedi ei ragweld ac yn cwrdd â chwyddiant. Er hyn, mynegwyd, nad yw’r
setliad drafft yn ddigonol i gyfarch y galw ychwanegol ar wasanaethau ym maes
gofal. Nodwyd y bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth
ar 25 Chwefror. Trafodwyd y tabl gofynion Gwario Ychwanegol a tynnwyd sylw at y prif
benawdau. Mynegwyd o ran Chwyddiant Cyflogau y bydd cynnydd tal dros 2% yn unol
â’r rhagamcan cenedlaethol, ynghyd a chynnydd yng nghyfraniad pensiwn cyflogwyr
i’r Cynllun Pensiwn Athrawon. Nodwyd fod y Gronfa Bensiwn wedi derbyn
dychweliadau gwell na’r disgwyl dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad bydd
y Cyngor yn cyfrannu llai fel cyflogwr mewn i’r Gronfa'r flwyddyn nesaf.
Mynegwyd fod y ffigwr net ar gyfer ysgolion yn dangos sefyllfa wahanol mewn
gwahanol sectorau, gyda niferoedd disgyblion mewn ysgolion cynradd yn lleihau,
ond fod cynnydd yn yr uwchradd. Tynnwyd sylw at Derfynu Grantiau Penodol, gan
nodi fod y Llywodraeth yn ariannu cynlluniau drwy grantiau ac yna yn nodi na
fydd y grantiau yn parhau'r flwyddyn ganlynol, ac yn achos grant ataliol gofal
plant, nid yw’r arian yn trosglwyddo i’r setliad chwaith, ac o ganlyniad fod
angen i’r Cyngor ddarparu’r arian. Tynnwyd sylw at y bidiau oedd i’w gweld o
dan y pennawd Pwysau ar Wasanaethau gan nodi fod lefel gwasanaeth yn yr
adrannau gofal yn amlygu'r galw ychwanegol ar wasanaethau. Esboniwyd fod bid
yno ar gyfer y Gwasanaeth Digartrefedd,
a mynegwyd os bydd grant ychwanegol yn cael ei gynnig i’r maes hwn y
bydd modd dychwelyd y bid. Mynegwyd fod y gyllideb yn nodi y bydd addasiadau
cytundebau torfol i staff yn cael ei ddiddymu yn gyfan gwbl eleni. Tynnwyd sylw at y tabl Sefydlu’r Gyllideb yn amlygu anghenion gwario'r
Cyngor, ac eglurwyd bod y bwlch ariannol
yn cael ei gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%. Ymhelaethwyd gan fynegi fod y
gyfradd cynnydd yn y Dreth Cyngor dros y blynyddoedd yng Ngwynedd yn is na’
chyfartaledd Cymru. Mynegwyd fod consensws da wedi ei amlygu yn y Gweithdai
Cyllideb a gynhaliwyd, a nodwyd yn dilyn
y trafodaethau yma fod yr argymhelliad wedi ei gefnogi gan drwch aelodau’r
Cyngor. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod balansau’r Cyngor wedi bod yn arf allweddol i ganiatáu i’r Cyngor aros i weld beth oedd sefyllfa’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
STRATEGAETH CYFALAF (yn cynnwys Strategaethau Buddsoddi a Benthyg) PDF 138 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi gan nodi bod y
cyflwyniad ar strategaeth cyfalaf 2020/21. Ychwanegwyd ei fod yn rhoi trosolwg
ar y gwariant a sut y maes risgiau yn cael ei rheoli. Amlygwyd Tabl 1:
Dangosydd Darbodus: Amcangyfrifon o Wariant Cyfalaf mewn £ miliynau gan amlygu
ei fod yn nodi cyfanswm o £49 miliwn ond ei fod yn cynnwys £5m oherwydd newid
yn y dull cyfrifo am brydlesau. Nodwyd y prif brosiectau a oedd yn cynnwys · Bisiau Cyfalaf £2.0m · Cartrefi Preswyl £1.5m · Strategaeth Tai £4.2m · Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain £1.5m Mynegwyd y bydd angen i bob gwariant cyfalaf gael
ei ariannu gan ffynonellau allanol, adnoddau’r Cyngor neu ddyled a tynnwyd sylw
at y tabl a oedd yn nodi sut y bydd yn cael ei gyllido. O ran Rheolaeth y
Trysorlys mynegwyd nad oes llawer o newid gan nad yw’r Cyngor ym menthyg arian
yn hir dymor. Esboniwyd fod yr adroddiad yn hynod dechnegol a bod
cyflwyniad wedi ei dderbyn gan gwmni Arlingclose,
Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, a mynegwyd fod y Rheolwr Buddsoddi
yn gofyn i’r Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad, nodi’r wybodaeth a’r risgiau
perthnasol a chefnogi’r bwriad i’r Aelod Cabinet i gyflwyno’r strategaeth i’r
Cyngor Llawn. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn: · Amlygwyd fod
Cynlluniau'r Rhaglen Cyfalaf ar gyfer Ffyrdd, Pontydd a Bwrdeistrefol yn codi
dros y blynyddoedd nesaf a gofynnwyd beth oedd y rheswm dros hyn. Mynegwyd fod
cynllun dros gyfnod o 10 mlynedd ac nad yw rhai prosiectau yn cychwyn am
ychydig flynyddoedd. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a chefnogwyd bwriad yr Aelod Cabinet i gyflwyno’r strategaeth i’r
Cyngor Llawn am gymeradwyaeth. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2019 PDF 64 KB I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael eu
hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau yn gorwario a trafodwyd yr
adrannau yma yn unigol. Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - mynegwyd fod y rhagolygon diweddaraf
yn awgrymu dros £1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y
gorwariant yn cael ei leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a
defnydd o gyllid un tro. Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd - nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr
adran wedi dwysau ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau,
gyda chyfran sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol.
Ychwanegwyd fod Tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion
ariannol yr adran a mynegwyd y bydd £1.8miliwn ychwanegol i’r Adran Plant er
mwyn cwrdd â’r pwysau ychwanegol. Adran Priffyrdd - mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a
gwaredu gwastraff eleni, gan nodi mai costau trosiannol cyn symud i drefniadau
newydd sydd wedi arwain at y gorwariant. Tynnwyd sylw at danwariant ym maes corfforaethol gyda rhagolygon
ffafriol o gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a Phremiwm Treth Cyngor.
Er hyn, amlygwyd fod parhad yn y tueddiad i ôl-ddyddio trosglwyddiadau o Dreth
Cyngor i Drethi Annomestig. Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio
gostyngiadau Treth Cyngor ar ei lefel isaf am y bedwaredd blwyddyn yn olynol.
Nodwyd penderfyniad y Cabinet fel y nodir isod: Penderfynwyd i: · Dderbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. · Nodi fod gorwariant
sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro
manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr
eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant
i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau
ar gyfer cyllideb 2020/21. · Nodi fod Tasglu Cyllideb
Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol
dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr
Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y
cynllun ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd
ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb
2020/21. ·
Ar gyllidebau
Corfforaethol, fod: ¾
(£198k) o gynnyrch treth
ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd
eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. ¾
(£75k) yn ymwneud â
chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
(£500k) o danwariant
Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes gwasanaethau
cymdeithasol cynaliadwy. ¾ (£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 65 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r
Cabinet ar 21 Ionawr. Mynegwyd fod dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf
£89 miliwn am y dair blynedd i’w gweld yn yr adroddiad. Ychwanegwyd fod hyn yn
dangos cynnydd o oddeutu £1.3miliwn ers yr adolygiad blaenorol. Tynnwyd sylw ar
y prif gasgliadau sef fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £31miliwn
yn 2019 ar gynlluniau cyfalaf gyda 41% ohono wedi’i ariannu drwy ddenu
grantiau. Ategwyd fod £9.2miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi ei ail
broffilio o 2019/20 i 2020/21 ond ni achoswyd hyn unrhyw golled ariannu i’r
Cyngor. Nodwyd y grantiau ychwanegol mae’r cyngor wedi ei ddenu a oedd yn
cynnwys · £541k - Ehangu
cynlluniau Grant Ysgolion 21 Ganrif · £286k - Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau Prosiect Tir a Môr,
Llŷn · £128k - Grant Cronfa Datblygu Ranbarthol i ddatblygu Plas Heli · £120k - Grant o Gronfa Trafnidiaeth Leol gan Lywodraeth Cymru i amryw
gynlluniau · £58k - Grant gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer cynlluniau yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn · £29k - Grant Llywodraeth Cymru tuag at gynlluniau Nofio am Ddim. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn: · Mynegwyd fod y rhaglen
cyfalaf yn addasu o flwyddyn i flwyddyn. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth. |
|
TROSOLWG ARBEDION 2019/20 CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU PDF 192 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid gan nodi fod yr
adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa arbedion yn dilyn trafod yr Adroddiadau
Perfformiad yn y Cabinet. Nodwyd fod gwerth £32m o arbedion wedi eu cymeradwyo
ers 2015/16 ac fod £28.4m o’r cynlluniau yma wedi ei gwireddu. Amlygwyd risgiau
sylweddol i arbedion cynllun Adolygiad Dechrau i’r Diwedd gan yr Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd, ond ychwanegwyd fod y Tasglu Cyllideb Plant wedi ei
gomisiynu i roi sylw i faterion ariannol yr Adran gan gynnwys y maes hwn. Amlygwyd dau risg gan yr Adran Oedolion i gyflawni arbedion, a bod yr Adran Addysg wedi cynnig cynlluniau
amgen. Mynegwyd fod llithriad yn arbedion yr Adran Tai ac Eiddo a bod angen i’r
adran edrych ar gynlluniau amgen. Nodwyd fod 22 allan o 121 o gynlluniau eleni yn llithro. Mynegwyd fod dod o hyd i arbedion
wedi bod yn heriol ac mae trafferthion wedi codi ond fod arbedion yn anorfod. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 18/11/19 - 31/01/20 PDF 204 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio'r adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn
crynhoi gwaith Archwilio Mewnol am gyfnod o Dachwedd 2019 i 31 Ionawr 2020.
Ychwanegwyd fod 12 Adroddiad am Archwiliadau o’r Cynllun Gweithredol ac un
archwiliad grant. Amlygwyd y tabl a oedd yn gosod allan yr archwiliadau o’r
cynllun a gwblhawyd yn y cyfnod gan ddangos y lefel sicrwydd perthnasol. Tynnwyd sylw at yr archwiliad Grant Ôl-16 gan nodi ei fod yn ofynnol i
awdurdodau ddarparu tystiolaeth o wariant priodol o’r dyraniadau ar gyfer
chweched dosbarth ac addysg barhaus i oedolion. Mynegwyd fod y wybodaeth wedi
ei gyflwyno ynghyd â’r rhestrau gwirio cysylltiedig at Lywodraeth Cymru o fewn
y terfyn amser. Nodwyd fod trefniadau newydd wedi eu sefydlu ar gyfer archwiliadau
dilyniant. Ar 31 Ionawr 2020, roedd gweithrediad derbyniol ar 64% o’r camau
cytunedig a i liniaru risgiau uchel / uchel iawn a 70% o’r camau a gytunwyd i
liniaru risgiau canolig / isel. Tynnwyd sylw at Drefniadau Dychwelyd Cyfarpar ac Offer - lefel sicrwydd
“Cyfyngedig”. Mynegwyd gan aelod o’r Pwyllgor bod diffyg trefniadau i
ddychwelyd cardiau adnabod y Cyngor yn gallu bod yn broblemus. Mynegwyd fod
angen rhestr wirro, ond ei fod yn gyfrifoldeb ar
unigolion i ddod a’i cardiau adnabod yn ôl. Pwysleisiwyd fod angen cefnogaeth i
reolwyr er mwyn cryfhau cysondeb a rheolaeth. Trafodwyd Penodi a Chostau Athrawon Llanw Uwchradd - Lefel Sicrwydd
Digonol. Nodwyd fod nifer o athrawon di-gymwys yn cael eu penodi fel athrawon
llanw. Holwyd os yw’r cyfrifoldeb am hyn yn disgyn ar y Cyngor neu’r Ysgolion
neu Lywodraethwyr. Gofynnwyd am drafodaeth bellach yn y Pwyllgor Craffu Addysg.
Edrychwyd ar Iechyd a Diogelwch Harbyrau oedd
â Lefel Sicrwydd “Digonol”. Holwyd o ran lefel sicrwydd risg os oedd yn codi
neu leihau. Mynegwyd fod cryn amser wedi mynd heibio ers edrych ar rhain ac o
ganlyniad nad oes modd cymharu. Nodwyd y bydd y Gwasanaeth Archwilio yn cadw
hyn mewn cof yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at Fesurau Diogelwch Parc Padarn gan nodi fod y Gwasanaeth
Morwrol a Pharciau Gwledig yn credu nad yw’r Cynllun Argyfwng yn ymarferol bellach
gan ystyried maint y safle a'i fod ar agor 24 awr y dydd. Pwysleisiwyd fod
angen cynlluniau argyfwng ymarferol a fydd yn cwmpasu'r holl barciau gwledig. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 PDF 116 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd a wnaed ar y Cynllun Archwilio Mewnol
2019/20 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Archwilio gan roi crynodeb o waith
y cynllun. Nodwyd fod 17 o’r archwiliadau wedi eu gohirio ac o ganlyniad fod
addasiadau wedi eu gwneud i’r cynllun presennol. Mynegwyd o’r 51 archwiliad
unigol yng nghynllun 2019/20 fod 31 wedi ei rhyddhau yn dderbyniol.
Pwysleisiwyd ei bod yn anochel fod addasiadau yn cael eu gwneud i’r cynllun i adlewyrchu salwch hir
dymor Uwch Archwiliwr ac amser Uwch Archwiliwr i gynorthwyo Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri. Amlygwyd yr archwiliadau a phenderfynwyd eu canslo. Roedd y rhain yn
cynnwys Trefniadau Diogelu, Cronfeydd Ysgol a Systemau Technoleg Gwybodaeth. PENDERFYNWYD nodwyd y
diweddariad o gynnydd yn erbyn y cynllun archwlio
2019/20. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2020/21 PDF 80 KB I ystyried y Cynllun Archwilio Mewnol Drafft 1af Ebrill 2020 – 31ain Mawrth 2021 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Archwilio a
oedd yn nodi cynllun drafft o waith Archwilio Mewnol am 2020/21. Mynegwyd er
mwyn sicrhau fod y pethau cywir yn cael eu hadolygu, rhoddwyd ystyriaeth i’r
gofrestr Risg Corfforaethol, Cynllun Strategol Cyngor Gwynedd ac unrhyw
ddatblygiadau arwyddocaol sydd ar waith. Esboniwyd drwy wneud hyn roedd modd paratoi
cynllun drafft cychwynnol, sydd wedi ei drafod a phob pennaeth. Mynegwyd fod oddeutu 711 o ddiwrnod o adnoddau
archwilio er mwyn cwblhau cynllun archwilio 2020/21. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn: ·
Nodwyd pwysigrwydd fod Brexit yn cael ei adolygu, gan fod angen edrych ar
drefniadau o ran cyflenwyr er enghraifft. ·
Pwysleisiwyd fod Meysydd
Chwarae Ysgolion yn risg uchel. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio drafft ar gyfer cyfnod
1Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021. |
|
ADOLYGU DOSBARTHIADAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO PDF 55 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyfreithiol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yr adroddiad gan nodi ei
bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu pob dosbarth pleidleisio a’r mannau
pleidleisio bod 5 mlynedd. Ychwanegwyd fod y broses hon yn broses barhaus yn y
Cyngor ac ychwanegwyd y bydd adolygiad pellach o’r trefniadau pleidleisio yn
cael ei wneud yn sgil adolygiad diweddar Comisiwn Ffiniau Cymru. Mynegwyd fel bod yr adolygiad wedi dilyn y drefn ac wedi cyhoeddi
rhybudd cyhoeddus o’r adolygiad ac anfonwyd copïau i bartïon allai fod â
diddordeb. Wrth gysylltu, eglurwyd y byddai o fudd cael awgrymiadau am leoliad
arall, pe mynegwyd pryderon ynghylch a gosaf bleidleisio penodol. Mynegwyd fod
chwe ymateb a amlygodd pryder am ddwy orsaf gan nad oeddynt yn ddelfrydol o
safbwynt mynediad i bobl anabl. Er y pryderon, ychwanegwyd fod ymatebwyr yn
cydnabod prinder llefydd amgen priodol ar hyn o bryd. O ran yr adolygiad nodwyd
fod rhai newidiadau man - rhai o ran lleoliadau newydd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn · O ran comisiwn Ffiniau
holwyd os oes amserlen glir pryd fydd penderfyniad. Mynegwyd nad oedd amserlen
glir ond y ddealltwriaeth anffurfiol yw y bydd Gorchymyn yn ei le erbyn yr haf. · Holwyd pwy oedd yn gyfrifol am asesu lleoliadau gan fod yr adeilad yn
anaddas yn Nolgellau. Mynegwyd nad oeddent wedi derbyn gwybodaeth am yr orsaf
hon a bydd modd edrych i mewn i’r mater. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r canlyniadau ac argymell eu bod yn
cael ei gynnwys i’w rhoi gerbron y Cyngor. |