Agenda item

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu’r gyllideb ar gyfer 2020/21. Mynegwyd fod y gwaith o gynllunio’r gyllideb wedi dechrau ym mis Mehefin, ac ym mis Gorffennaf fod y rhagdybiaethau yn amlygu yr angen am gynlluniau arbedion.  Esboniwyd fod cynlluniau arbedion wedi eu trafod yn Pwyllgorau Caffu dros y misoedd diwethaf ac oherwydd bod rhai cynlluniau yn gynhennus fod y nifer o gynlluniau arbedion wedi lleihau. Esboniwyd fod y gyllideb wedi ei thrafod mewn cyfres o weithdai lle gwahoddwyd yr holl aelodau ac y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Chwefror.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y bydd gyllideb yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Lawn ddechrau mis Mawrth. Esboniwyd fod y setliad drafft yn well na’r hyn oedd wedi ei ragweld ac yn cwrdd â chwyddiant. Er hyn, mynegwyd, nad yw’r setliad drafft yn ddigonol i gyfarch y galw ychwanegol ar wasanaethau ym maes gofal. Nodwyd y bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ar 25 Chwefror.

 

Trafodwyd y tabl gofynion Gwario Ychwanegol a tynnwyd sylw at y prif benawdau. Mynegwyd o ran Chwyddiant Cyflogau y bydd cynnydd tal dros 2% yn unol â’r rhagamcan cenedlaethol, ynghyd a chynnydd yng nghyfraniad pensiwn cyflogwyr i’r Cynllun Pensiwn Athrawon. Nodwyd fod y Gronfa Bensiwn wedi derbyn dychweliadau gwell na’r disgwyl dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad bydd y Cyngor yn cyfrannu llai fel cyflogwr mewn i’r Gronfa'r flwyddyn nesaf. Mynegwyd fod y ffigwr net ar gyfer ysgolion yn dangos sefyllfa wahanol mewn gwahanol sectorau, gyda niferoedd disgyblion mewn ysgolion cynradd yn lleihau, ond fod cynnydd yn yr uwchradd. Tynnwyd sylw at Derfynu Grantiau Penodol, gan nodi fod y Llywodraeth yn ariannu cynlluniau drwy grantiau ac yna yn nodi na fydd y grantiau yn parhau'r flwyddyn ganlynol, ac yn achos grant ataliol gofal plant, nid yw’r arian yn trosglwyddo i’r setliad chwaith, ac o ganlyniad fod angen i’r Cyngor ddarparu’r arian. Tynnwyd sylw at y bidiau oedd i’w gweld o dan y pennawd Pwysau ar Wasanaethau gan nodi fod lefel gwasanaeth yn yr adrannau gofal yn amlygu'r galw ychwanegol ar wasanaethau. Esboniwyd fod bid yno ar gyfer y Gwasanaeth Digartrefedd,  a mynegwyd os bydd grant ychwanegol yn cael ei gynnig i’r maes hwn y bydd modd dychwelyd y bid. Mynegwyd fod y gyllideb yn nodi y bydd addasiadau cytundebau torfol i staff yn cael ei ddiddymu yn gyfan gwbl eleni.

 

Tynnwyd sylw at y tabl Sefydlu’r Gyllideb yn amlygu anghenion gwario'r Cyngor, ac eglurwyd  bod y bwlch ariannol yn cael ei gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%. Ymhelaethwyd gan fynegi fod y gyfradd cynnydd yn y Dreth Cyngor dros y blynyddoedd yng Ngwynedd yn is na’ chyfartaledd Cymru. Mynegwyd fod consensws da wedi ei amlygu yn y Gweithdai Cyllideb a gynhaliwyd,  a nodwyd yn dilyn y trafodaethau yma fod yr argymhelliad wedi ei gefnogi gan drwch aelodau’r Cyngor. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod balansau’r Cyngor wedi bod yn arf allweddol i ganiatáu i’r Cyngor aros i weld beth oedd sefyllfa’r setliad, cyn hyd yn oed ystyried lefel arbedion dros £2miliwn. Esboniwyd fod y balansau wedi prynu amser ac osgoi hel bwganod am doriadau nad oedd eu hangen erbyn 2020/21. Ychwanegwyd y bydd cadw’r balansau yn caniatáu defnyddio’r un tactegau eto erbyn cyllideb 2021/22. Mynegodd nad oes Strategaeth Tymor Canolig wedi ei gyflwyno gyda’r gyllideb eleni, gan fod ansicrwydd am y dyfodol cyn cyllideb Canghellor Llywodraeth San Steffan fydd yn cael ei gyflwyno ar 11 Mawrth. Cadarnhaodd fod y gyllideb am 2020/21 yn gytbwys.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

·    Holwyd y Pennaeth o ran Trosglwyddiadau i’r Setliad a Therfynu Grant Penodol , a bu iddo ymhelaethu ar beth yn union yw'r rhain. O ran trosglwyddiadau i’r setliad, nodwyd mai grantiau yw’r rhain sydd yn parhau ond fod yr arian yn cael ei drosglwyddo i grant cyffredinol y Cyngor, ynghyd â’r cyfrifoldebau perthnasol. Amlygwyd fod rhai grantiau penodol lle disgwylir i’r Cyngor ymrwymo i wariant ychwanegol a pryd mae’r grantiau eu bod yn dod i ben mae disgwyliad i’r Cyngor ddarparu'r arian.

·         Holwyd pam fod Cynlluniau Tai yn y rhaglen cyfalaf yn haneru yn 2021/22. Mynegwyd fod yn llithro o flwyddyn i flwyddyn ac yn anghyson rhwng blynyddoedd.

·         Mynegwyd pryder am sawl grant penodol yn y maes gofal gan Lywodraeth Cymru gan nodi nad oes cynlluniau pendant i’r dyfodol.

·         Amlygodd fod y gyllideb yn gilr a diolchwyd i’r Adran Gyllid am eu gwaith a’i cefnogaeth.

 

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: