I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael eu
hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau yn gorwario a trafodwyd yr
adrannau yma yn unigol.
Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - mynegwyd fod y rhagolygon diweddaraf
yn awgrymu dros £1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y
gorwariant yn cael ei leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a
defnydd o gyllid un tro.
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd - nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr
adran wedi dwysau ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau,
gyda chyfran sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol.
Ychwanegwyd fod Tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion
ariannol yr adran a mynegwyd y bydd £1.8miliwn ychwanegol i’r Adran Plant er
mwyn cwrdd â’r pwysau ychwanegol.
Adran Priffyrdd - mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a
gwaredu gwastraff eleni, gan nodi mai costau trosiannol cyn symud i drefniadau
newydd sydd wedi arwain at y gorwariant.
Tynnwyd sylw at danwariant ym maes corfforaethol gyda rhagolygon
ffafriol o gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a Phremiwm Treth Cyngor.
Er hyn, amlygwyd fod parhad yn y tueddiad i ôl-ddyddio trosglwyddiadau o Dreth
Cyngor i Drethi Annomestig. Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio
gostyngiadau Treth Cyngor ar ei lefel isaf am y bedwaredd blwyddyn yn olynol.
Nodwyd penderfyniad y Cabinet fel y nodir isod:
Penderfynwyd i:
· Dderbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
· Nodi fod gorwariant
sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro
manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr
eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant
i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau
ar gyfer cyllideb 2020/21.
· Nodi fod Tasglu Cyllideb
Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol
dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr
Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y
cynllun ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd
ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb
2020/21.
·
Ar gyllidebau
Corfforaethol, fod:
¾
(£198k) o gynnyrch treth
ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd
eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
¾
(£75k) yn ymwneud â
chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
(£500k) o danwariant
Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes gwasanaethau
cymdeithasol cynaliadwy.
¾
(£312k) i'w ddefnyddio i
gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant
yn 2020/21.
¾
Ac y gweddill sef
(£502k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau fel a ganlyn:
· O ran Cludiant Plant yn
yr Adran addysg holwyd os oedd yr adran yn edrych ar y rhesymau dros y
gorwariant. Nododd y Prif Weithredwr fod llawer o resymau dros y gorwariant a
oedd yn cynnwys plant ddim yn ymgartrefu mewn ysgolion ac o ganlyniad yn
mynychu ysgolion eraill. Pwysleisiwyd fod casgliadau’r adolygiad yn amlygu fod
angen i’r adran fod yn fwy heriol ac ystyried os oes ffyrdd gwahanol o gynnig
cludiant a mynegwyd fod y Prif Weithredwr wedi gofyn i ddwy adran ystyried dod
at ei gilydd i weld os oes modd dod i gasgliad ac i wneud y gwaith yn
effeithlon. Holwyd os oes adolygiad wedi ei wneud a mynegwyd fod rhai
contractau yn ddrud ond fod yr adran yn edrych ar bob achos yn unigol.
·
Wrth edrych ar orwariant yr
adran Plant a Chefnogi Teuluoedd holwyd oes trafodaeth yn cael ei gynnal a siroedd
eraill gan fod problemau allsirol i’w gweld dros y
gogledd. Mynegwyd fod tasglu wedi ei greu yn fewnol oherwydd y diffyg systemau
a gorwariant o ganlyniad i ddiffyg cynlluniau arbedion. Ychwanegwyd oherwydd
natur y gwasnaeth mae angen edrych beth sydd yn bosib
ac mae atebion rhanbarthol yn rhan o’r cynlluniau ac fod lleoliadau allsirol wedi ysgogoi
cyd-weithio.
· Mynegwyd fod y maes gofal yn broblem flynyddol ac nad yw’r ateb yn
rhwydd. Ychwanegwyd fod hon yn broblemau i Gynghorau ar draws Cymru ac fod
achosion difrifol o fewn cymunedau. Pwysleiswyd nad
yw’r materion yn cael ei trafod o ddifrif yn
genedlaethol ac fod angen derbyn fod y galw yn y maes gofal yn codi yn
flynyddol. Pwysleisiwyd nad oes modd torri ar y gwasanaethau hyn ond yn hytrach
fod angen sicrhau fod y meysydd yn gweithio yn effeithiol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: