Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Peter Read a John Pughe Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Cyfeiriodd y
Pennaeth Cyllid at eitem 10 ar y rhaglen ‘Ardrethi Annomestig – Rhyddhad
Dewisol’. Nododd bod nifer o aelodau wedi ymholi o ran yr angen i ddatgan
buddiant personol yng nghyswllt yr eitem hon. Eglurodd nad oedd yr eitem yn cyffwrdd
trethi busnesau masnachol, a bod yr adroddiad yn ymwneud â sefydlu gweithgor i
adolygu rhyddhad elusennol yn
gyffredinol ac ond petai trafodaeth am gategori penodol o gyrff
elusennol perthnasol iddynt y byddai gofyn ar yr aelodau i ddatgan buddiant. Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2016/17 PDF 138 KB Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2016/17. a) Cyflwyno’r
datganiadau ariannol statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth
y pwyllgor. b)(i) Cyflwyno
adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr
archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar
Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 Cyngor Gwynedd. b)(ii) Awdurdodi
Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth”
ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng
nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Cyngor (Atodiad 1 i
adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru, yn (b)(i) uchod) c)(i) Cyflwyno
adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr
archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar
Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn c)(ii) Awdurdodi
Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth”
ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng
nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (Atodiad 1
i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru, yn (c)(i) uchod). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: i) Datganiad o’r Cyfrifon Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am gymeradwyaeth y
pwyllgor. Nododd bod yr adroddiadau gan Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru yn nodi’r prif newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn
cyn-archwiliad i gyfarfod 13 Gorffennaf o’r Pwyllgor. ii) Adroddiad yr Archwilydd
Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol a) Cyfrifon y Cyngor Yn unol â’r drefn
Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai sy’n
llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
gan Ian Howse, Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte. Adroddwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod
ar gyfrifon Cyngor Gwynedd am 2016/17. Nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Nad oedd camddatganiadau
heb eu cywiro i’w hadrodd; ·
Bod un camddatganiad a
gywirwyd i’w boddhad; ·
Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu
hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd; ·
Cymeradwyo’r tîm cyfrifo am ansawdd y cyfrifon a
diolch am eu cydweithrediad efo tîm archwilio Deloitte. Nododd
aelod ei fod yn falch o’r gymeradwyaeth a roddir i waith y tîm cyfrifo. Mewn ymateb i
ymholiad gan aelod parthed darpariaeth drwg-ddyledion, nododd y Pennaeth Cyllid
bod y cyfrifon yn dangos ciplun o’r sefyllfa ar
ddiwrnod cau’r cyfrifon. Eglurodd bod tebygolrwydd is o gasglu dyledion
hŷn a bod y Cyngor
yn defnyddio canran cynyddol uwch o “golled” am ddyledion flynyddoedd
blaenorol. Nododd bod y swyddogion yn cytuno efo argymhelliad yr archwiliwr,
sef - “…bod y canrannau a ddefnyddir i gynhyrchu’r ddarpariaeth mân ddyledion
yn cael eu hadolygu’n ffurfiol bob blwyddyn ac y defnyddir dull o ddadansoddi
cyfraddau casglu er mwyn llywio’r canrannau a bennir.” Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte
bod lefel darpariaeth drwg-ddyledion y Cyngor yn lled gyson efo cynghorau
eraill. b) Cyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd Nododd Arweinydd
Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod yr Archwilydd Cyffredinol yn
bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd am
2016/17. Nodwyd y prif
sylwadau canlynol: ·
Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod
profion yr archwilwyr wedi dod i’r canfyddiad bod gorddatganiad barniadol ar yr
eiddo a’r buddsoddiadau ecwiti preifat. Roedd yn fater o farn felly roeddent yn
fodlon nad oedd yn cael ei gywiro; ·
Nid oedd unrhyw argymhellion newydd yn deillio o
waith archwilio ariannol 2016/17 a bod manylion o ran y gwaith dilynol ar
argymhellion 2015/16 yn Atodiad 3 o’r adroddiad. Nododd y Cadeirydd
ei fod yn falch bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac yn cyflawni’r gofynion. Nododd
yr Aelod Cabinet Cyllid ei werthfawrogiad o waith tîm archwilio Deloitte.
Ychwanegodd ei fod yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi
adroddiadau archwilio diamod a oedd yn adlewyrchu gwaith da'r swyddogion wrth
baratoi’r cyfrifon. Nododd ei werthfawrogiad o’r gwaith. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a ddirprwywyd gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng nghyswllt cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliadau perthnasol, yn cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau perthnasol Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2017/18 – ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 520 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Cyllid ar wir
weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor hyd yma yn
y flwyddyn ariannol gyfredol. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar weithgaredd
rheolaeth trysorlys y flwyddyn gyfredol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid nad oedd
unrhyw fanc yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi â nhw mewn perygl a bod arian y
Cyngor yn ddiogel. Amlygodd bod buddsoddiadau yn gallu amrywio a bod y Cyngor
yn cloriannu o ran hyblygrwydd buddsoddi tymor byr a denu llog uwch wrth
fuddsoddi am dymor hir. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y
lleihad o £2.2m ers 31 Mawrth 2017 mewn benthyciadau, nododd y Rheolwr
Buddsoddi bod y lleihad oherwydd bod y Cyngor wedi ad-dalu benthyciadau
hanesyddol ac yn defnyddio’r llif arian parod, yn hytrach na benthyg yn unol â
pholisi presennol y Cyngor i beidio benthyg mwy o arian. Nododd y Pennaeth Cyllid y cynhelir cyfarfod
briffio ar 24 Ionawr 2018 gan gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth
Trysorlys y Cyngor, ar gyfer aelodau'r Pwyllgor. Nodwyd byddai’n gyfle euraidd
er mwyn trafod ac egluro Strategaeth
Rheolaeth Trysorlys y Cyngor ar gyfer
2018/19. Mewn ymateb i
ymholiad gan aelod parthed y symudiad o £3m i £1m ers 31 Mawrth 2018 mewn
benthyciadau tymor byr ac ariannu tymor byr yn fewnol, nododd y Pennaeth Cyllid
bod y Cyngor yn obeithiol y gellir ariannu tymor byr yn fewnol. Eglurodd y
byddai’r Prif Weithredwr a’r Aelod Cabinet Cyllid yn dod â Strategaeth Asedau
gerbron y Pwyllgor, Y Cabinet ynghyd â’r Cyngor Llawn o ran Strategaeth Rheoli
Asedau, fyddai’n adnabod anghenion
benthyca yn y dyfodol. Nododd bod y symudiad yn dangos bod rhai benthyciadau
tymor byr wedi dod i ddiwedd eu cyfnod. Holodd aelod pwy oedd yn gyfrifol am osod y
gyfradd o ran Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB). Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Cyllid bod y PWLB yn rhan o Lywodraeth San Steffan ond yn asiantaeth
ar wahân. Ychwanegodd bod y Trysorlys yn ystyried rheolau mwy caeth oherwydd
bod cynghorau yn Lloegr wedi masnacheiddio gan fenthyg ar draul y wlad, ond nid
oedd y pŵer yma wedi ei ddatganoli i gynghorau Cymru. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed
lefel benthyg y Cyngor, tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at y cyfyngiadau dyled
gan egluro bod ganddo ef yr hawl i fuddsoddi i fyny at £180m yn ystod 2017/18
sef y ffin weithredol, gyda ffin awdurdodol o £190m lle'r oedd angen
cymeradwyaeth gan y Pwyllgor. Eglurodd bod y Cyngor yn benthyg £109m ac yn
hunan fenthyca £51m ar hyn o bryd, ac roedd yn ddewis strategol o ran pryd i
fenthyg. Nododd byddai faint roedd y Cyngor angen ei fenthyg yn ddibynnol ar y
Strategaeth Asedau. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod yng
nghyswllt PFI (Private Finance Initiative), nododd y Pennaeth Cyllid nad
oedd yn annog PFI’s am sawl rheswm, a
bod costau ynghlwm os penderfynir eu diddymu. ‘Roedd un prosiect hanesyddol
wedi ei ariannu yn y modd hwn yng Ngwynedd. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth. |
|
ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU PDF 470 KB Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y
Gweithgor ar 11 Medi 2017. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r
gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2017 i ystyried
archwiliad ‘Trefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol’ a dderbyniodd categori barn B ynghyd ag archwiliadau a dderbyniodd gategori barn C, sef - a) Diogelu Rhag Colli
Rhyddid (DoLS) b) Gweithwyr Cefnogol (Oedolion). Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r
cyfarfod er mwyn trafod y materion
sy’n codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed
ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r
rheolaethau mewnol dan sylw. Nododd aelodau’r Gweithgor eu pryder o ran y risg ariannol i’r
Cyngor oherwydd y nifer o asesiadau DoLS oedd wedi
ôl-gronni gyda’r gosb o beidio gweithredu
ar asesiad DoLS fod gymaint
â £1,000 fesul unigolyn yr wythnos. Holodd aelod oes oedd
rhaid i Wasanaethau
Cymdeithasol gwblhau asesiadau DoLS ynteu oedd cyrff
eraill yn gallu. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am gwblhau asesiadau DoLS, dim ond mewn achosion
lle'r oedd unigolyn yn yr
ysbyty roedd y Gwasanaeth Iechyd yn cwblhau asesiadau.
Ychwanegodd bod y Cyngor yn cynnal hyfforddiant
ar gyfer cartrefi preswyl preifat a bod hynny yn arwain at gynnydd
mewn nifer o gyfeiriadau am asesiadau DoLS. Nododd aelod o’r Gweithgor
bod y cyfarfod wedi bod yn agoriad llygad
o ran y gwaith gydag asesiadau yn cael
eu cwblhau tu allan
i’r Sir pan fo preswylydd o Wynedd angen asesiad DoLS
gan gynyddu amser y cymerir i gwblhau asesiad
oherwydd yr angen i deithio. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod parthed capasiti yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant i gwblhau asesiadau
DoLS, nododd y Rheolwr Archwilio bod dwy swydd wedi
eu llenwi yn ddiweddar a bod cytundeb ar hyn
o bryd lle mae disgwyliad
i 25 Gweithiwr Cymdeithasol oedd efo’r achrediad Best Interest Assessors (BIA) i gwblhau un asesiad
y mis. Ychwanegodd nad oedd
llawer o’r Gweithwyr Cymdeithasol yn cyflawni un asesiad y mis. Nododd y Pennaeth Cyllid bod y maes hwn
yn faes risg
uchel a dylai’r Gweithgor, yn unol
â’r hyn a nodir yn yr
adroddiad, dderbyn diweddariad gan yr Uwch Reolwyr
perthnasol o fewn 6 mis. Dylid rhoi
rhybudd digonol hefyd i’r Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant bod perfformiad yn erbyn y targed
a roddwyd i Weithwyr Cymdeithasol gydag achrediad BIA wedi ei drafod
ac ystyried gofyn i’r Pennaeth ddod
gerbron. Nododd aelod y dylai’r Pennaeth a’r Aelod
Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant ddod gerbron y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2017 gyda’r Gweithgor yn derbyn diweddariad
gan yr Uwch
Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
gwahodd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a'r Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2017 i drafod trefniadau
DoLS; (iii)
bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn derbyn diweddariad
gan yr Uwch
Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis ar
drefniadau DoLS. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/7/17 - 15/9/17 PDF 477 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr
Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 10 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau. Cyfeiriwyd at y gwaith dilyniant. Amlygwyd, yn ystod
2016/17, daethpwyd i gytundeb ar 205 o gamau gweithredu i’w cyflawni erbyn
31 Mawrth 2018. Nodwyd bod gweithrediad derbyniol ar 26.83% o’r camau
cytunedig. Adroddwyd bod cais am gynnydd ar weithrediad 104 o gamau cytunedig wedi eu hanfon
hyd yn hyn,
a bod 86 wedi eu gweithredu yn dderbyniol,
sef 82.5%. Eglurwyd bod trefniadau dilyn i fyny mewn
lle os ni dderbynnir ymateb o ran gweithrediad ar y camau cytunedig. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol – Hyfforddi Aelodau Newydd Mewn ymateb i sylw
gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod rhaglen gynhwysfawr wedi ei lunio ar
gyfer aelodau newydd gyda’r cyfle
i aelodau gysylltu efo’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu i wneud
cais am hyfforddiant ychwanegol. Nododd aelod ei fod,
fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, wedi mynychu cyfarfod
efo Cadeiryddion Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd ynghyd â Swyddogion arweiniol yn y maes lle'r
oedd y Cyngor yn amlygu ei
hun fel un o’r rhai gorau
am drefniadau hyfforddi aelodau newydd. Cadarnhaodd bod cyfle i aelodau gysylltu
efo’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu i wneud cais
am hyfforddiant ychwanegol
ac efallai’n fyddai’n fater a gellir ei ystyried gan
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
o ran hyrwyddo’r cyfle. Canolfan Hamdden
Glan Wnion Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed pryder o ran ymwybyddiaeth staff o drefniadau Diogelu Plant ac Oedolion, nododd y Rheolwr Archwilio yn unol â chais
gan y Grŵp Gweithredol Diogelu y cynhelir archwiliad ar ymwybyddiaeth gweithwyr maes o drefniadau diogelu. Eglurodd bod llawer o staff tu allan
i’r prif swyddfeydd heb gyfeiriad e-bost a heb fynediad i
fodiwlau dysgu ar-lein ac felly’n derbyn gwybodaeth gan eu rheolwr
ac mewn cyfarfodydd ardal. Nododd mai
trwy rannu pamffled a chynnal sgwrs gan drafod
enghreifftiau efallai fyddai’r opsiwn gorau o ran gwella dealltwriaeth o’r trefniadau diogelu. Plas Maesincla Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod pam nad oedd
yr archwiliad wedi derbyn categori
barn C yn hytrach na B oherwydd bod materion pwysig yn cael eu
hamlygu, nododd y Rheolwr Archwilio mai dyna’r farn
a roddwyd gan yr archwiliwr a’i
bod yn ei gefnogi. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod angen derbyn a pharchu barn yr archwiliwr ac fe
all y Pwyllgor pe dymunent ystyried yr archwiliad
yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau neu roi sylw
i’r archwiliad ar ôl i’r
gwaith dilyniant cael ei gwblhau. Nododd aelod bod y materion a nodir yn yr archwiliad
hwn yn codi
yn gyson mewn archwiliadau ar gartrefi preswyl
gyda’r un problemau yn cael
eu hamlygu. Tynnodd aelod sylw bod nifer o faterion yn amlygu o ran hyfforddiant ac fe ddylai anghenion hyfforddiant gweithwyr fod yn rhan o’u hadolygiad blynyddol. Mewn ymateb, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2017/18 PDF 459 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr
Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun
Archwilio Mewnol 2017/18. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2017/18. Adroddwyd bod yr Uned
Archwilio Mewnol hyd at 15 Medi 2017 wedi cwblhau 18.75% o’r cynllun, gyda 12
o’r 64 archwiliad yng nghynllun 2017/18 wedi eu rhyddhau yn derfynol a’i fod yn
ddisgwyliedig y bydd y ganran yn cynyddu i 26.5% erbyn 30 Medi 2017. Tynnwyd
sylw at yr addasiadau i’r Cynllun. Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod parthed capasiti staff yr Uned, nododd y
Rheolwr Archwilio bod yr Uned efo capasiti llawn. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2017/18. |
|
ARDRETHI ANNOMESTIG – RHYDDHAD DEWISOL PDF 265 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr
Uwch Reolwr Refeniw a Risg yr adroddiad gan
nodi bod Adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1988 yn cynnwys darpariaeth ddewisol i awdurdodau
bilio addasu ardrethi annomestig (heblaw am mewn achosion penodol megis eiddo awdurdod
lleol), yn ychwanegol i’r rhyddhad mandadol a ganiateir trwy Adran 43. Nododd bod rhaid i’r Cyngor
ystyried pob cais am ryddhad o’r fath yn
ôl ei haeddiant,
ond lluniwyd fframwaith polisi er mwyn rhoi
arweiniad gwrthrychol wrth ystyried os
am ganiatáu rhyddhad dewisol lle nad
yw’r trethdalwr yn elusen neu
Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), neu er mwyn cynyddu’r
rhyddhad oedd ar gael i
elusen / CASC
o’r 80% mandadol i hyd at 100%. Nododd bod Polisi’r Cyngor ar gyfer caniatáu
Rhyddhad Dewisol i Dalwyr Ardrethi
Annomestig wedi ei sefydlu ers
sawl blwyddyn, ac wedi derbyn mân
addasiadau. Eglurodd ei fod felly’n
amserol i’r Cyngor gynnal adolygiad
cynhwysfawr o’r Polisi Rhyddhad Dewisol nid yn
unig er mwyn
sicrhau ei fod yn parhau’n
addas yn sgil newidiadau deddfwriaethol ond hefyd i ystyried os
oedd y rhyddhad roedd y Cyngor yn ei ganiatáu
wedi ei anelu
i’r mannau cywir ac yn fforddiadwy
yng ngŵydd yr angen parhaus
i ddarganfod arbedion. Nododd y gofynnir i’r Pwyllgor ystyried sefydlu Gweithgor i ymchwilio
i Bolisi’r Cyngor ar ganiatáu
rhyddhad dewisol, a chynnig arweiniad wrth lunio polisi
newydd. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran yr amserlen, nododd
yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg y rhagwelir cynnal 2 neu 3 gyfarfod o’r Gweithgor. Eglurodd mai’r Cabinet a fyddai’n mabwysiadu polisi newydd, ac anelir i gyflwyno’r
polisi addasedig i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar
12 Rhagfyr 2017. PENDERFYNWYD: (i)
Sefydlu Gweithgor i ymchwilio i
Bolisi’r Cyngor ar ganiatáu rhyddhad
dewisol; (ii)
Bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr Aled Wyn Jones,
Huw G. Wyn Jones, Dewi Wyn Roberts a Angela Russell i wasanaethu ar
y Gweithgor. |