skip to main content

Agenda item

Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2016/17.

 

a)         Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth y pwyllgor.

 

b)(i)     Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 Cyngor Gwynedd.

 

b)(ii)     Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Cyngor (Atodiad 1 i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (b)(i) uchod)

 

c)(i)      Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn

 

c)(ii)     Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (Atodiad 1 i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (c)(i) uchod).

 

Cofnod:

i)       Datganiad o’r Cyfrifon

           

         Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am gymeradwyaeth y pwyllgor. Nododd bod yr adroddiadau gan Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi’r prif newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn cyn-archwiliad i gyfarfod 13 Gorffennaf o’r Pwyllgor.

 

ii)      Adroddiad yr Archwilydd Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol

                                   

a)      Cyfrifon y Cyngor

        

         Yn unol â’r drefn Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai sy’n llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ian Howse, Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte.

        

         Adroddwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar gyfrifon Cyngor Gwynedd am 2016/17.

 

         Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Nad oedd camddatganiadau heb eu cywiro i’w hadrodd;

·         Bod un camddatganiad a gywirwyd i’w boddhad;

·         Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd;

·         Cymeradwyo’r tîm cyfrifo am ansawdd y cyfrifon a diolch am eu cydweithrediad efo tîm archwilio Deloitte.

 

          Nododd aelod ei fod yn falch o’r gymeradwyaeth a roddir i waith y tîm cyfrifo.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed darpariaeth drwg-ddyledion, nododd y Pennaeth Cyllid bod y cyfrifon yn dangos ciplun o’r sefyllfa ar  ddiwrnod cau’r cyfrifon. Eglurodd bod tebygolrwydd is o gasglu dyledion hŷn  a bod  y Cyngor  yn defnyddio canran cynyddol uwch o “golled” am ddyledion flynyddoedd blaenorol. Nododd bod y swyddogion yn cytuno efo argymhelliad yr archwiliwr, sef - “…bod y canrannau a ddefnyddir i gynhyrchu’r ddarpariaeth mân ddyledion yn cael eu hadolygu’n ffurfiol bob blwyddyn ac y defnyddir dull o ddadansoddi cyfraddau casglu er mwyn llywio’r canrannau a bennir.”

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod lefel darpariaeth drwg-ddyledion y Cyngor yn lled gyson efo cynghorau eraill.

 

b)      Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd

 

Nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd am 2016/17.

 

Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod profion yr archwilwyr wedi dod i’r canfyddiad bod gorddatganiad barniadol ar yr eiddo a’r buddsoddiadau ecwiti preifat. Roedd yn fater o farn felly roeddent yn fodlon nad oedd yn cael ei gywiro;

·         Nid oedd unrhyw argymhellion newydd yn deillio o waith archwilio ariannol 2016/17 a bod manylion o ran y gwaith dilynol ar argymhellion 2015/16 yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac yn cyflawni’r gofynion.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid ei werthfawrogiad o waith tîm archwilio Deloitte. Ychwanegodd ei fod yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau archwilio diamod a oedd yn adlewyrchu gwaith da'r swyddogion wrth baratoi’r cyfrifon. Nododd ei werthfawrogiad o’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a ddirprwywyd gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng nghyswllt cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliadau perthnasol, yn cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau perthnasol Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn awdurdodi’r Pennaeth Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r “llythyrau cynrychiolaeth” ynghylch cyfrifon y Cyngor a chyfrifon y Gronfa Bensiwn a’u cyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dogfennau ategol: