Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts, Cynghorydd Dilwyn Lloyd a’r
Cynghorydd Mair Rowlands (Aelod Lleol ar gyfer cais 5.7) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Owain Williams
yn eitem 5.1
(C21/0106/40/LL). 5.9 (C21/0411/46/LL) a 5.10 (C21/0768/42/11) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
berchen maes carafanau Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.4 (C21/0979/11/AC) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra Roedd yr Aelodau o’r farn ei
fod yn fuddiant
a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Peter Read (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C21/0106/40/LL) ar y rhaglen
·
Y Cynghorydd
Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 (C21/0430/22/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Annwen Daniels (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 (C21/0257/03/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Aled Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 (C21/0668/43/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Peter Garlick (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.6 (C21/0835/19/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Catrin Wager (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.7 (C20/0669/11/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 (C21/0569/35/AC) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Simon Glyn (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 (C21/0411/46/LL) ar y rhaglen MATERION |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C21/0106/40/LL Fferm Llwyndyrys, Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6RH PDF 460 KB Newid defnydd tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i
fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a
thirlunio AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu Amodau
Cofnod: Newid defnydd
tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau
i fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a
thirlunio Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir
y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd rhan o dir
amaethyddol presennol ar gyfer gosod 10 caban gwyliau parhaol newydd ynghyd a
chreu ffordd fynediad newydd, mannau parcio a llwybrau troed cyswllt, llecynnau
pasio i gerbydau ger y ffordd gyhoeddus gyfagos, llwybr troed newydd, tirlunio
a gosod systemau draenio. Eglurwyd bod y safle o fewn cefn gwlad agored ac o
fewn dynodiad Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys
Enlli gyda mynediad iddo ar hyd ffordd ddi-ddosbarth gul, droellog sydd oddeutu
900m o gyffordd gyda’r A499. Atgoffwyd yr aelodau
fod y cais wedi ei ohirio ym mhwyllgor Hydref 4ydd 2021 yn dilyn cais i’r
swyddogion gynnal asesiad pellach o wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan yr
asiant. Adroddwyd bod y swyddogion wedi asesu’r cais a'r adroddiad gerbron yn
cyfleu’r darganfyddiadau. Er hynny, ni chyflwynwyd diwygiadau i unrhyw elfen
o’r cynllun ac felly, fel yn yr adroddiad gwreiddiol, barn y swyddogion oedd
gwrthod y cais oherwydd materion cynaliadwyedd ac effaith weledol. Ystyriwyd bod y safle
yn bell o’r A499 ac er bod yr ymgeisydd yn bwriadu gosod llwybr troed i ymwelwyr gerdded at arosfan
bws, ni ystyriwyd defnydd cyson o’r llwybr gan ragweld y byddai ymwelwyr yn
defnyddio eu ceir i fynd yn ôl ac ymlaen. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol
dadleuwyd bod y safle wedi ei osod ar dir gwyrdd amaethyddol agored ac amlwg
gyda'r ffordd newydd a llecynnau parcio arfaethedig yn debygol o greu nodwedd
estron yn y caeau ac yn niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol: ·
Y
cais, o bosib yn gosod cynsail cynllunio - er bod y cytiau arfaethedig yn ddeniadol
ac o safon uchel tybiwyd nad oedd y CDLl wedi
rhagweld ceisiadau am gytiau deulawr. Gall datblygiad fel hyn ymledu i
safleoedd llai addas ac yn wir ymlaen i barciau carafanau. ·
Er
bod y cais diwygiedig yn cydnabod statws hynafol y coetir cyfagos amlygwyd
pryder nad yw’r gwagle 15 metr yn ddigonol fel ‘buffer
zone’ o ystyried mai’r goedwig sy’n gwarchod elfennau gweledol y
cais ·
Bod
y coed i raddau helaeth wedi colli haen adnewyddol.
Os caniateir y cais dylid nodi’r angen am gynllun ailblannu ac adfywio coetir
cadarn fyddai’n cynnwys eithrio mynediad
i bobl ac anifeiliaid. · Bod y datblygiad yn mabwysiadu gweledigaeth gyfredol y CDLl o warchod a gwella tirweddau diwylliannol a hanesyddol Pen Llŷn trwy ddiogelu adeiladau rhestredig a thraddodiadol a chlytwaith o gaeau, lonydd, waliau cerrig a chloddiau. Awgrym i’r cloddiau traddodiadol gael eu hymestyn i ffurfio ochrau i’r ffordd fynediad newydd (o’r ffermdy Gradd II hyd at y maes parcio newydd). Byddai hyn yn lleihau effaith ‘agored’ y sefyllfa bresennol ynghyd a lleihau effaith goleuadau ceir gan greu coridor gwyrdd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais ar gyfer codi
ty fforddiadwy gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod Rhesymau:
Cofnod: Cais ar gyfer codi tŷ fforddiadwy
gyda mynedfa a pharcio a thirweddu cysylltiol Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi un tŷ fforddiadwy unllawr gyda mynedfa
a llecyn parcio ynghyd a thirweddu cysylltiol a chwrtil sylweddol. Y safle wedi ei leoli
o fewn cae amaethyddol ar gyrion pentref Penygroes ar hyd
ffordd gul sy’n troi’n lwybr
cyhoeddus yn y pen draw – y
llwybr cyhoeddus yn rhedeg rhwng
y cae sy’n destun y cais a’r
tŷ diwethaf yn y pentref (Glaslyn). Cyflwynwyd y cais
i’r Pwyllgor Cynllunio ar y 12.07.2021, ble penderfynwyd gohirio’r cais fel bod modd derbyn
gwybodaeth bellach ynglŷn â’r isod: ·
Prisiad o’r bwriad ·
Cadarnhad o angen cyfredol yr ymgeisydd o ran nifer o ystafelloedd gwely a sefyllfa’r ymgeisydd ·
Cadarnhad os yw’r ymgeisydd wedi cysidro darparu uned fforddiadwy arall ar y safle,
gan ei fod
yn sylweddol. ·
Cadarnhad os byddai’r ymgeisydd yn fodlon
arwyddo cytundeb 106 person lleol fforddiadwy petai’r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu caniatáu’r
cais. Eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi
darparu ymateb i’r uchod Nodwyd bod bwlch
rhwng y safle ar ffin datblygu
(sydd yn ymddangos fel llwybr
cyhoeddus) ac yn nhermau polisi cynllunio mae’r safle wedi ei
ddiffinio fel un yng nghefn gwlad
agored ac fe’i ystyriwyd o dan Polisi Tai 16 ‘Safleoedd Eithrio’ sy’n cael ei
ategu yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ Adroddwyd fod
y tŷ arfaethedig yn cael ei
gynnig fel tŷ fforddiadwy gyda chadarnhad gan Tai Teg fod
yr ymgeisydd yn addas ar
gyfer eiddo fforddiadwy. Ategwyd bod asiant y cais wedi
cadarnhau mai angen ar gyfer
dwy ystafell wely oedd gan
yr ymgeisydd ar hyn o bryd,
gyda bwriad o gael teulu o fewn
arwynebedd llawr yr eiddo gerbron.
Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ unllawr dwy lofft oddeutu
50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm
a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer
tŷ unllawr 2 ystafell wely fforddiadwy,
gyda uchder y prif do yn golygu
bod potensial darparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r
tŷ yn y dyfodol. Nodwyd bwriad yr ymgeisydd
o gael teulu o fewn yr eiddo
heb angen ar gyfer estyniad,
ond nid yw’n
glir beth yw’r bwriad gwirioneddol
gan mai dwy
ystafell wely yn unig a gynigiwyd. Cafwyd prisiad ar ffurf llyfr coch ar gyfer yr eiddo a chadarnhaodd yr Uned Strategol Tai o ran fforddiadwyedd y byddai disgownt o 45% yn dod ar lefel i lawr yn rhesymol ar gyfer eiddo newydd sengl ganolradd. Serch hynny amlygwyd pryder ynglŷn â phrisiau tai a / neu dir a all gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol i lefel lle gellid dadlau na fyddai’r eiddo yn fforddiadwy beth bynnag y lefel disgownt a'r posibilrwydd o dderbyn cais i godi’r cytundeb 106. Nodwyd mai cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadawy am byth y mae’r CDLl. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C21/0257/03/LL Maes Parcio, Tanygrsiau, LL41 3SL PDF 344 KB Newid
defnydd maes parcio presennol yn depo bws AELOD
LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio’r penderfyniad. Rhesymau:
Cofnod: Newid
defnydd maes parcio presennol yn depo bws Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cais wedi dod i
law gan yr ymgeisydd i ohirio’r
penderfyniad. Mewn ymateb
i gwestiwn pam gohirio’r cais (gohiriwyd cyfarfod Pwyllgor 21/06/21) nodwyd bod yr ymgeisydd eisiau
adolygu sylwadau ymgynghoriad cyhoeddus i’r bwriad ynghyd
ag ystyried yr angen i’r dyfodol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gohirio’r cais PENDERFYNWYD gohirio’r cais Rhesymau: 1. Angen mwy o amser i adolygu sylwadau
sydd wedi ei derbyn yn ystod yr ymgynghoriad 2. Bod angen ail adolygu addasrwydd y
lleoliad presennol gan na fydd bws trydan yn cael ei weithredu ar wasanaeth T19
rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno |
|
Rhyddhau ynghyd a diwygio amod rhif 2 (man
newidiadau i edrychiadau allanol a mewnol i rhai o'r tai ynghyd a codi ffens
preifatrwydd ychwanegol) o ganiatad apel APP/Q6810/A/20/3264389. AELOD
LLEOL: Cynghoyrdd Gareth A Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amod isod: - Cwblheir y
diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r
manylion a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y
ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er
gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad
mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd
cynllunio rhif C19/1072/11/LL Cofnod: Rhyddhau a diwygio amod rhif 2 (man newidiadau i
edrychiadau allanol a mewnol i rai o'r tai ynghyd a chodi ffens preifatrwydd
ychwanegol) o ganiatâd apêl APP/Q6810/A/20/3264389. a) Amlygodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio
o dan Adran 73 o’r Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref, 1990 ydoedd ar gyfer
diwygio amod rhif 2 o ganiatâd apêl APP/Q618/A/20/3264389 i godi 30 tŷ ar safle Pen y Ffridd ym Mangor.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar sail bod maint y safle yn fwy
na 0.5ha mewn arwynebedd ac yn ymwneud ac ymgymryd â’r newidiadau canlynol: ·
Codi ffens coedyn hit and miss 1.8m o uchder rhwng gerddi
ochr llain rhif 26 a 27 a chefn rhif 1 a 2 Bythynnod Pen y Ffridd er mwyn
sicrhau preifatrwydd i ddeiliaid y bythynnod. ·
Disodli to gwastad gyda tho llechi ar
gyntedd blaen tai lleiniau rhif 23 i 26; 27 i 30; 5 i 14 a 21 i 22. Eglurwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad
preswyl eisoes wedi ei dderbyn
gan yr Arolygiaeth
Gynllunio yn Ebrill 2021 ac felly byddai ystyriaeth o’r cais diweddaraf yma yn cael
ei gyfyngu i effaith y bwriad
ar fwynderau gweledol a mwynderau preswyl deiliad cyfagos. Golygai’r bwriad ddisodli toeau gwastad ar
gyfer cynteddau blaen 20 tŷ gyda thoeau o lechi
naturiol i gyd-weddu a’r brîf
doeau. O ystyried gofynion Polisi PCYFF 3 ble disgwylid i
ddatblygiadau arddangos dyluniad o ansawdd uchel, ystyriwyd bod y bwriad o ddisodli toeau gwastad mewn
mannau amlwg ar du blaen y tai yn welliant i’r
hyn a ganiatawyd yn flaenorol ar
gyfer toeau gwastad. Nodwyd hefyd y byddai gosod ffens coedyn
1.8m o uchder yn dderbyniol rhwng gerddi ochr llain
rhif 26 a 27 a chefnau rhif 1 a 2 Bythynnod Pen y Ffridd ar sail ei effaith ar
fwynderau gweledol. Byddai’r ffens yn sicrhau preifatrwydd
i ddeiliaid y bythynnod ac ar yr un pryd, yn
cydymffurfio ag amod a gynhwysid ym mhenderfyniad
yr Arolygydd Cynllunio parthed cyflwyno manylion triniaeth ffiniau. Ystyriwyd y byddai’r cais yn dderbyniol
ar sail diogelu mwynderau gweledol yr ardal leol
a mwynderau preswyl deiliaid cyfagos. b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Nad oedd diwygiadau arfaethedig i'r cynlluniau yn arwyddocaol
- yn ymwneud â mân newidiadau i'r cynllun yn
unig ·
Y diwygiadau
arfaethedig yn gysylltiedig â disodli to gwastad y cyntedd gyda tho llechi,
yn ogystal â mân newidiadau i'r cynllun mewnol
ar y tai fforddiadwy math
4P2B a 5P3B ac eiddo preifat
math 5P3B. Bydd y newidiadau
arfaethedig yn gwella ymddangosiad yr eiddo. ·
Bod y mân welliannau yn ymddangos ar
gynllun safle diwygiedig · Bod diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Trin Ffiniau yn ymwneud a chodi ffens bren ‘hit and miss’ 1.8m o uchder ar y ffin rhwng Bythynnod Pen y Ffridd (rhif 1 a 2) a lleiniau 26 a 27. Bydd hyn yn sicrhau preifatrwydd i ddeiliaid y bythynnod. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C21/0668/43/LL Tir ger Uwch Y Don, Bwlch Gwynt, Pistyll, Pwllheli, LL53 6LP PDF 360 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio – cais i’r ymgeisydd
gyflwyno mwy o wybodaeth a thystiolaeth ei fod yn gymwys am dŷ fforddiadwy Cofnod: Adeiladu tŷ fforddiadwy Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ
fforddiadwy (4 ystafell wely) ar dir ger Uwch y Dôn, Pistyll. Gwasanaethir y safle gan ffordd sirol ddi-ddosbarth
serth sy’n arwain o ganol y pentref sydd o fewn dynodiad Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llyn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac
Ynys Enlli. Caiff y tir ei adnabod fel Safle Bywyd Gwyllt Lleol Dolydd Pistyll.
Cyflwynwyd y cais i'r
Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Ymddengys Pistyll fel
‘pentref clwstwr’ yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac mai’r
polisi perthnasol a ystyriwyd oedd Polisi TAI 6 Tai mewn Clystyrau. Amlygwyd
mai tai fforddiadwy yn unig a ganiateir mewn pentrefi clwstwr a hynny ar
safleoedd addas cyfochrog ac adeiladau sydd wedi eu lliwio yn goch ar y Mapiau
Mewnosod ac yn ddibynnol ar gydymffurfio â meini prawf y polisi. Amlygwyd bod y bwriad
yn gallu cydymffurfio gyda meini prawf 2,3 a 4 o’r polisi ond yng nghyd-destun
maen prawf 1, tra nad oedd amheuaeth bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio yn yr
ystyr ei fod yn berson lleol, rhaid oedd ystyried os oedd yr ymgeisydd mewn
gwir angen am dŷ fforddiadwy gan ei fod eisoes yn berchen ar dŷ. Ni
dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos nad yw’n bosib ehangu neu ymestyn y tŷ
presennol i gwrdd â’u hanghenion ac nad yw’n glir faint o ecwiti fyddai’n cael
ei ryddhau o werthu’r tŷ presennol. O ganlyniad, nid yw Tai Teg mewn
sefyllfa i asesu os yw’r ymgeisydd mewn angen gwirioneddol am dŷ
fforddiadwy. Fel eithriad i bolisi caniateir tai newydd yng nghefn gwlad, fel
yr opsiwn olaf posib ac felly rhaid bod yn argyhoeddedig bod yr elfen
fforddiadwy yn un dilys. Wrth werthfawrogi sefyllfa’r ymgeisydd, ar sail y
wybodaeth ddaeth i law, nid oedd y cais yn cyrraedd gofynion maen prawf 1 y
polisi. Yn dilyn cyhoeddi’r
rhaglen amlygwyd anghysondeb yng ngraddfa’r cynlluniau a argraffwyd a
derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 6/12/21. Disgwylid i dŷ 6 person 4 ystafell wely
fod oddeutu 110m mewn
arwynebedd llawr mewnol. Ymddengys y cynlluniau diwygiedig gyfanswm mewnol o
115m a gellid derbyn bod gan yr ymgeisydd angen gofod ychwanegol pwrpasol i
swyddfa. Nid oedd gwrthwynebiad i faint y tŷ bellach, ond peth pryder yn
parhau am faint y llain a gwerth yr eiddo gan na dderbyniwyd prisiad marchnad
agored arno. Nid oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda meini prawf 5, 6 a 7
o’r polisi. Yn ogystal, amlygwyd
diffyg gwybodaeth ynglŷn ag effaith y bwriad ar fwynderau trigolion
cyfagos ac ar y safle bywyd gwyllt, ond gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â
rhai meini prawf ni ofynnwyd i’r ymgeisydd fynd i gostau o gyflwyno’r wybodaeth
yma Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol oherwydd diffyg prawf am eiddo fforddiadwy ynghyd a phryder am faint y llain a’i werth. Ategwyd nad oedd y bwriad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/0835/19/LL Llain Meddygon, Caeathro, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2TH PDF 340 KB Codi adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol
ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, ac
hawl ol weithredol ar gyfer ffurfio mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad
ynghyd a dymchwel modurdy a sied AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio. ·
Cais am asesiad manylach o’r
effaith weledol ac ateb i’r cwestiwn, Pam bod angen safle gwaith ym Mhenygroes a Bontnewydd ? Cofnod: Codi
adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel
gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, a hawl ôl weithredol ar gyfer ffurfio
mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad ynghyd a dymchwel modurdy a sied Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Rheolwr Cynllunio mai cais
rhannol ôl weithredol ydoedd ar gyfer codi gweithdy diwydiannol (dosbarth
defnydd B2) ar leoliad adeilad amaethyddol blaenorol. Adroddwyd y byddai’r gweithdy newydd yn mesur 20 medr o
hyd, 12 medr o led a 5.2 medr i’r crib ac yn cael ei adeiladu o fframwaith ddur
(sydd eisoes mewn lle) wedi ei orchuddio gyda sitiau
dur gyda’r tai preswyl agosaf wedi eu lleoli tua 200 medr oddi wrth y safle Pwrpas y gweithdy yw ar gyfer
busnes yr ymgeisydd. Ategwyd bod bwriad codi modurdy domestig ar safle modurdy
blaenorol ynghyd a chadw mynedfa newydd i’r ffordd sirol di ddosbarth
cyfochrog. Aseswyd egwyddor y bwriad yn ôl
Polisi CYF 6 o’r Cynllun lle nodir y gellid caniatáu cynigion ar gyfer
adeiladau er diben cyflogaeth/busnes newydd cyn belled fod posib cydymffurfio a
meini prawf y polisi. Nodwyd bod y polisi yn annog datblygiadau ar raddfa fach sy’n gwneud defnydd
priodol o adeiladau sy’n bodoli yn barod ac sy’n gweddu a’r ardaloedd gweledig.
Er hynny, nid yw Polisi presennol yn diffinio graddfa, ac felly bu rhaid pwyso
a mesur yr achos yn sgil pwrpas ac amcanion y Polisi ac anodd oedd gweld sut y byddai adeilad
diwydiannol dosbarth defnydd B2 o’r maint yma yn cydymffurfio a’r Polisi. Eglurwyd bod yr ymgeisydd yn
rhedeg ei fusnes o Ystâd Ddiwydiannol Peblig yng Nghaernarfon ond bod y safle
hwnnw yn rhy fach ar gyfer gweithrediadau'r busnes ac felly bwriad yw ymestyn y busnes i eiddo arall ym Mhenygroes. Byddai'r trefniant yma yn caniatáu i staff y
cwmni i weithio o’r Ystâd Ddiwydiannol Penygroes ac i’r ymgeisydd weithio o’i
gartref am resymau personol. Nodwyd hefyd na fyddai angen i’r ymgeisydd weithio
o fewn unedau diwydiannol presennol oherwydd natur ei waith o fewn y busnes ac
felly ymddengys mai’r bwriad yw sefydlu'r busnes yn Llain Meddygon oherwydd
anghenion personol. Ystyriwyd felly, nid yw lleoliad cefn gwlad wedi ei ddangos
yn hanfodol i’r busnes y gellid ei reoli o leoliad arall ac nad oedd cyfiawnhad
cynllunio wedi dangos dros ganiatáu'r gweithdy ar safle y tu allan i ffin
datblygu. Ni ystyriwyd bod maint, graddfa
na natur y bwriad yn cydymffurfio gydag amcanion polisi PCYFF1, PCYFF2, PCYFF3
na CYF6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac felly'r argymhelliad
oedd gwrthod y cais b)
Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Ef oedd perchennog Axis
Precision sydd yn cyflogi a hyfforddi pobl leol - yn cyflogi wyth aelod o staff
gyda saith ohonynt yn siarad Cymraeg. · Y busnes ar hyn o bryd ar ystâd Peblig ond ar fin symud i ystâd Penygroes oherwydd bod y to yn gollwng a’r peiriannau’n rhydu - nid yw’n lle da i weithio, mae’n oer a llaith. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C20/0669/11/LL Blenheim House Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2DP PDF 496 KB Cais i ddymchwel adeiladau presennol a chodi
adeilad 4 llawr i greu 36 uned breswyl, creu llecynau parcio cebydol
cysylltiedig, diwygiadau i'r fynedfa gerbydol presennol ynghyd chreu mynedfa
gerbydol ychwanegol AELODAU LLEOL: Cynghorydd Catrin Wager a’r
Cynghorydd Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio wrthod y cais yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:
Cofnod: Cais i
ddymchwel adeiladau presennol a chodi adeilad 4 llawr i greu 36 uned breswyl,
creu llecynnau parcio cerbydol cysylltiedig, diwygiadau i'r fynedfa gerbydol
bresennol ynghyd chreu mynedfa gerbydol ychwanegol a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu
mai cais llawn ydoedd ar gyfer datblygu safle gyferbyn a Ffordd Caergybi a
Llwybr Cwfaint/Convent Lane o fewn ffin datblygu
Dinas Bangor fel y’i cynhwysir yn CDLL - nid yw wedi ei ddynodi neu ei warchod
ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn
erbyn Polisi PCYFF 1 a Pholisi TAI 1 o’r CDLL. Eglurwyd mai lefel cyflenwad dangosol tai i Fangor dros gyfnod y
Cynllun yw 969 uned ac yn Ebrill 2021 roedd y banc tir ar hap yn 1883 gyda
chaniatâd pellach am 70 uned ar safleoedd sydd wedi eu dynodi ar gyfer tai yn y
CDLl. Mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn
cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn haen y Prif
Ganolfannau gyda Pholisi PS 17 y CDLL yn nodi bydd 53% o’r twf tai yn cael ei
leoli o fewn y Prif Ganolfannau. Yn ôl arolwg o’r sefyllfa mewn perthynas â’r
ddarpariaeth o fewn yr holl Brif Ganolfannau yn Ebrill 2021 ymddengys bod 1,647
uned o’r cyfanswm o 4,194 uned wedi eu cwblhau, a bod 943 yn y banc tir (ac yn
debygol o gael eu cwblhau). O ystyried y sefyllfa bresennol gellid cefnogi
cymeradwyo’r safle yma yn erbyn darpariaeth gyffredinol (yn seiliedig ar y
gyfradd gwblhau hyd yma) o fewn y categori Prif Ganolfannau ond yng ngoleuni
sefyllfa safleoedd ar hap ym Mangor, dylid adolygu unrhyw gyfiawnhad sydd wedi
ei gyflwyno gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch
anghenion y gymuned leol Mewn ymateb i’r gofyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd Asesiad Effaith
Tai ynghyd a gwybodaeth gefndirol. Mewn
ymateb i’r wybodaeth nododd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn isod: ·
Tra bod Cofrestr Tai Teg yn amlygu’r
angen am dai canolradd, mae’r angen ar gyfer fflatiau yn eithaf isel yn enwedig
fflatiau 1 ystafell wely - 3% ar gyfer fflatiau 1 llofft a 7% ar gyfer fflatiau
dwy lofft). ·
Ni cheir tystiolaeth benodol gan
werthwyr tai lleol ar gyfer unrhyw restrau aros ·
Nid yw’r Asesiad yn cyfeirio at gyn safle Jewsons
(caniatâd ar gyfer 77 fflat 1 a 2 lofft marchnad agored gan gynnwys 13 fflat
fforddiadwy canolradd) ·
Rhaid ystyried, felly, os yw’r
dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd am angen cyffredinol ar gyfer unedau
llai o ran maint yn ddigonol i gyfiawnhau rhoi caniatâd am 36 fflat ychwanegol
yn y ddinas a fyddai’n golygu cynyddu’r banc tir o fflatiau o 178 i 214 ar
gyfer Bangor. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, cyflwynwyd
gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd yn datgan: - ·
Bod gwerthwyr tai lleol mewn sefyllfa
fwy gwybodus na’r Cyngor parthed asesu’r angen masnachol am unedau preswyl ym
Mangor. · Gan fod yr ymgeisydd yn y busnes o adeiladu a gwerthu tai, ni fyddai’n gwneud synnwyr i adeiladu unedau ble nad oes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Tynnu amod 4 ar ganiatad C16/0292/35/LL sydd yn
cyfyngu meddiant o'r unedau (arwahan i lety wardeiniaid a staff) i bobl dros 55
oed yn unig neu rai sy'n ffurfio cartref unigol gyda person o'r fath AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Tynnu
amod 4 ar ganiatâd C16/0292/35/LL sydd yn cyfyngu meddiant o'r unedau (ar wahân
i lety wardeiniaid a staff) i bobl dros 55 oed yn unig neu rai sy'n ffurfio
cartref unigol gyda pherson o'r fath CAIS
WEDI EI DYNNU YN ÔL |
|
Cais Rhif C21/0411/46/LL Tir Tyddyn Du, Dinas, Pwllheli, LL53 8SU PDF 396 KB Codi adeilad i gadw cyfarpar
a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dau
stabl a storfa tac. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Codi
adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dwy stabl a storfa
tac. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Amlygodd
yr Aelod Lleol ei ddymuniad i’r Pwyllgor ohirio’r cais fel bod modd i’r
swyddogion asesu gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd PENDERFYNWYD:
Gohirio’r penderfyniad yn unol â chais yr Aelod Lleol, fel bod modd asesu
gwybodaeth ychwanegol |
|
Ymestyn
parc carafanau i'r cae cyfagos gan ychwanegu 8 Plot Carafanau Statig yn cynyddu
cyfanswm y lleiniau o 17 o Garafanau Statig i 25. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod: Ni ystyrir y
byddai’r estyniad i’r safle carafanau yn un bychan o safbwynt arwynebedd y
safle na nifer y carafanau, ni fyddai ychwaith unrhyw welliannau i’r safle
presennol yn rhan o’r cynllun ac fe fyddai estyniad i’r safle’n creu niwed
gweledol i’r dirwedd, mewn lleoliad sydd gerllaw Ardal o Harddwch Naturiol
Llŷn. Am y rhesymau hyn mae’r cais
yn groes i Feini Prawf I, III, IV, V a VII Rhan 4 o bolisi TWR 3 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a pholisïau PCYFF 2,
PCYFF 3, PCYFF 4 ac AMG 1 fel y maent yn ymwneud ag amddiffyn ansawdd y dirwedd
wledig mewn lleoliad sydd gerllaw ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Llŷn. Cofnod: Ymestyn parc
carafanau i'r cae cyfagos gan ychwanegu 8 Plot Carafanau Statig yn cynyddu
cyfanswm y lleiniau o 17 o Garafanau Statig i 25. a) Amlygodd y
Swyddog Gorfodaeth bod y cais yn un ar gyfer ymestyn parc carafanau sefydlog
presennol mewn cae amaethyddol gerllaw gan gynyddu’r nifer o garafanau sefydlog
ar y safle o 17 i 25. Eglurwyd
mai’r prif bolisi sy’n ymwneud â safleoedd carafanau sefydlog y Polisi
TWR 3 y CDLl “Safleoedd Carafanau Sefydlog, Siale a Llety Gwersylla Amgen Parhaol” gyda Rhan 4 o’r
polisi’n datgan bydd cynigion i wella safleoedd carafanau sefydlog yn gorfod
cydymffurfio gyda meini prawf perthnasol. Nodwyd
nad oedd y bwriad yn cyflwyno gwelliannau i’r parc ac ni chyflwynwyd cynlluniau
tirweddu. Ategwyd bod y safle mewn
lleoliad gweledol amlwg ac y byddai effaith cronnus ar y dirwedd o ganiatáu
rhagor o lecynnau gwyliau sefydlog yn y lleoliad. Mynegodd Cyfoeth Naturiol
Cymru bryder ynghylch effaith weledol y cynllun yn enwedig o ystyried ei
agosatrwydd at ffin yr AHNE. Ni
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol oherwydd ei fod yn groes i feini prawf y
polisi TWR 3 ac yn ogystal byddai’r datblygiad yn niweidiol i’r dirwedd wledig
gerllaw’r AHNE (yn groes i ofynion polisi PCYFF 2, PCYFF 3 PCYFF 4 ac AMG 1 y CDLl). b) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais PENDERFYNWYD:
Gwrthod Ni ystyrir y
byddai’r estyniad i’r safle carafanau yn un bychan o safbwynt arwynebedd y
safle na nifer y carafanau, ni fyddai ychwaith unrhyw welliannau i’r safle
presennol yn rhan o’r cynllun ac fe fyddai estyniad i’r safle’n creu niwed
gweledol i’r dirwedd, mewn lleoliad sydd gerllaw Ardal o Harddwch Naturiol
Llŷn. Am y rhesymau hyn mae’r cais
yn groes i Feini Prawf I, III, IV, V a VII Rhan 4 o bolisi TWR 3 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a pholisïau PCYFF 2,
PCYFF 3, PCYFF 4 ac AMG 1 fel y maent yn ymwneud ag amddiffyn ansawdd y dirwedd
wledig mewn lleoliad sydd gerllaw ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Llŷn. |