Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones (sydd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0398/11/LL) oherwydd ei fod
yn aelod o Fwrdd Adra Roedd yr aelod o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Gareth A
Roberts (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio C19/0398/11/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21
Hydref 2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0027/39/LL Tir ger Drws y Llan, Llanengan, Pwllheli, Gwynedd PDF 134 KB Adeiladu 2 dy fforddiadwy
(cais diwygiedig) AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adeiladu
2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig) Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd Roedd yr Aelodau wedi
ymweld ar safle a)
Cyfeiriwyd
at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod cais wedi ei dderbyn
gan yr ymgeisydd
i ohirio trafod y cais hyd
Pwyllgor Ionawr 2020 fel bod cyfle iddynt
drafod yr opsiynau a gyfeiriwyd atynt yn yr
adroddiad. Ategwyd nad oedd gan
yr Adran Gynllunio wrthwynebiad i ohirio’r cais b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais c)
PENDERFYNWYD gohirio’r
cais i gyfarfod
Ionawr y 13eg 2020 |
|
Cais Rhif C19/0398/11/LL Blakemore Cash & Carry, Ffordd Caernarfon, Bangor, Gwynedd PDF 189 KB Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa'r safle, sy'n cynnwys
creu cylchfan a newidiadau i drefniant
parcio presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i'r fynedfa gwasanaethu AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8)
a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith
tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa’r safle, sy’n cynnwys creu cylchfan a
newidiadau i drefniant parcio presennol
o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa gwasanaethu. (Er mai cais am siop werthu bwyd A1 yw'r cais
mae'r dystiolaeth a'r dogfennau a gyflwynwyd yn cyfeirio yn benodol at Aldi
Stores Ltd) Roedd yr Aelodau
wedi ymweld ar safle b)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi bod y cais wedi ei ohirio ym mhwyllgor 21.10.19 yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd
gan yr Asiant mewn ymateb i’r adroddiad pwyllgor. Nodwyd mai cais ydoedd i
ddymchwel adeilad presennol oedd yn flaenorol yn cash and carry a chodi
archfarchnad a datblygiadau cysylltiedig ar safle oddi ar Ffordd Caernarfon,
Bangor, tu allan i’r ganol tref ddiffiniedig ond oddi fewn i’r ffin datblygu. Cyfeiriwyd
yn yr adroddiad at y nifer o bolisïau cynllunio oedd yn berthnasol i’r bwriad
ynghyd ag asesiad llawn o unrhyw effaith ar fywiogrwydd a hyfywdra canol tref
yn ogystal â delio gyda’r Dystiolaeth o’r angen; yr Angen Meintiol; yr Angen
Ansoddol a’r Angen Dilyniadol. Yn gyffredinol, ystyriwyd na
fydda unrhyw effaith sylweddol ar hyfywedd a bywiogrwydd canol y ddinas o
adleoli siop Aldi. Eglurwyd bod rhan 5.16 - 5.18 o’r adroddiad yn nodi bod polisïau
MAN1 a MAN 3 yn gofyn bod angen i gynigion manwerthu a masnachol y tu allan i ganol trefi diffiniedig gael eu cefnogi gan
dystiolaeth o’r angen am ddarpariaeth ychwanegol. Yng nghyd-destun
angen ansoddol, dangosodd yr ymgeisydd angen ansoddol am ofod llawr ychwanegol
mewn siop Aldi fwy ac fe ysgytiwyd y byddai’r bwriad yn gwella’r dewis ansoddol
cyffredinol yn yr ardal gyfagos a’r dalgylch ehangach sydd yn gwasanaethu
Bangor gan wella safle’r ddinas fel canolfan siopa ranbarthol. Roedd yr Awdurdod
Cynllunio Lleol wedi ymgymryd â thrafodaethau cyn cyflwyno cais gyda Aldi ers
peth amser a chyfeiriwyd yn yr adroddiad bod trafodaethau cyn cyflwyno cais
wedi caniatáu i’r Awdurdod gael mewnbwn i’r broses o ddethol safle ac mae’r
swyddogion yn fodlon gyda chasgliadau’r asesiad dilyniadol ac nid yw’n
ymwybodol o unrhyw safleoedd dilyniadol gwell. Cydnabuwyd nad
oedd modd ymestyn y siop yn ei leoliad presennol. Er y cydnabuwyd
fod buddion economaidd a chymdeithasol i'w cael drwy'r cynnig ac y byddai’n
debygol o wneud cyfraniad cadarnhaol i economi'r ardal yn unol ag amcanion y CDLl ar y Cyd.
Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Iaith oedd wedi dod
i’r casgliad bod y risg yn niwtral i’r iaith oherwydd byddai’r swyddi newydd a
gaiff eu creu ar gael i’r boblogaeth leol. Adroddwyd o ran gwelliant gweledol nad oedd pryderon o safbwynt effaith weledol y bwriad - roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y cyfnod hysbysebu yn gadarnhaol gydag amryw yn cydnabod y byddai’r cynllun yn sicrhau gwelliant gweledol sydd ei angen yn y rhan yma o Fangor. Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth i’r defnydd cyfreithlon heb gyfyngiadau o'r safle fel siop talu a chludo, ble gellid derbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C19/0858/45/LL Frondeg, Ala Uchaf, Pwllheli PDF 150 KB Dymchwel adeilad presennol
ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynwys 28 fflat gofal ychwanegol (16
fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol
yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a
storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a tirlunio cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl
3 llawr yn cynnwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12
fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau
cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â
llefydd parcio a thirlunio cysylltiol. a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi ei
leoli o fewn tref Pwllheli ac o fewn Ardal Gadwraeth.
Eglurwyd bod y bwriad yn cael ei
ddisgrifio fel fflatiau gofal ychwanegol i rai sydd dros 55oed gyda’r cynlluniau yn dangos y byddai’r
fflatiau yn hunangynhaliol gydag ystafell(oedd) gwely, stafell
ymolchi, lolfa a chegin yn ogystal
â lolfa gymunedol a chegin gymharol fechan cysylltiedig. Amlygwyd bod yr Adran Oedolion, Gofal a Llesiant wedi cadarnhau eu bod yn gefnogol
i’r cais ac wedi nodi bod galw
am y math yma o ddarpariaeth
yn debygol o godi dros yr
20mlynedd nesaf gyda Pwllheli wedi ei
adnabod fel ardal twf. Nodwyd
mai ADRA yw’r ymgeisydd a bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlygu
y byddai 100% o’r unedau yn rai fforddiadwy
sy’ golygu bod y bwriad yn bodloni
gofynion polisi TAI15. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai hefyd wedi cadarnhau
bod y bwriad yn cyfarch gofynion yr ardal, a bod Cymdeithas Tai yn bartner ar gyfer
y datblygiad hwn. Roedd yr eiddo
hefyd yn cwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu, ac wedi ei gynnwys
o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod edrychiad cefn yr adeilad newydd
yn rhannol ddeulawr a rhannol drillawr ac yn wynebu cefn tai teras Penlon Llŷn.
Eglurwyd y cynlluniau diwygiedig yn ymwneud
gyda ffenestri a pherthynas y datblygiad a’r tai presennol yn ogystal â rhai
o’r pellteroedd rhyngddynt ac unrhyw effaith ar fwynderau
preswylwyr y tai. Nodwyd
bod bwriad defnyddio’r ardal rhwng yr
adeilad newydd a ffin y tai teras
fel gardd gymunedol gyda maes parcio i’r
dwyrain o’r adeilad yn cael
ei gadw ar
gyfer defnydd parcio. Yng nghyd-destun llecynnau agored, amlygwyd bod polisi ISA5 yn cadarnhau'r angen i asesu
anghenion yr ardal ar gyfer
darparu llecynnau agored priodol o ganlyniad i’r datblygiad
bwriedig (mwy na 10 o unedau
byw). Er hynny, yn unol
â geiriad y Canllaw Cynllunio Atodol nid oedd angen
gwneud cais am gyfraniad o lecyn agored yn y cyd-destun
yma. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Cynefin wedi ei dderbyn gyda’r Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr adroddiad yn delio gyda’r rhan fwyaf o bryderon bioamrywiaeth ar y safle. Ategwyd, fel bod modd cefnogi’r bwriad bod angen cadarnhau’r argymhellion a’r mesurau lliniaru o fewn y Datganiad Lliniaru sydd i gynnwys dull tynnu’r to i leihau effaith ar ystlumod ac adar. Bydd angen cynnwys amserlen a manylion penodol o’r math o focsys ystlumod a nythu sydd i’w cynnwys yn yr adeilad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cai Rhif C19/0847/22/LL Tir yn Tal Y Maes Mawr, Nebo, Caernarfon PDF 164 KB Cais i osod 4 pabell
'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith
cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn ydoedd i osod 4
pabell saffari, gosod
adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’
ynghyd â gwaith cysylltiol eraill gan gynnwys creu llecynnau parcio a man troi
cerbydau, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin
carthffosiaeth. Yn ogystal, cedwir
llecyn chwarae i blant sydd eisoes wedi ei greu o fewn rhan o’r safle. Eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais
blaenorol a wrthodwyd gyda newidiadau i rai elfennau gan gynnwys ail leoli’r
safle i leoliad yn nes at eiddo preswyl yr ymgeisydd. Eglurwyd hefyd fod
cynllun lleoliad newydd wedi ei dderbyn y bore hwnnw oedd yn newid y llinell
goch/glas oedd yn amlinellu safle’r cais. Tynnwyd sylw at bolisi TWR 5 sydd yn datgan
y caniateir cynigion am safleoedd teithiol, gwersylla neu lety
gwersylla amgen dros dro os
cydymffurfir gyda’r cyfan o’r meini
prawf perthnasol. Dadleuwyd yn y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd gyda’r cais mai
polisi TWR 5 ddylid ei ystyried gan
na fyddai’r pebyll yn barhaol
am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Er
hynny, roedd y swyddogion cynllunio o’r farn mai
polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol,
fel ag a wnaed
yn achos y cais blaenorol a wrthodwyd, gan fod elfennau mwy
parhaol yn cael eu cynnig
fel rhan o’r datblygiad. Tynnwyd sylw at y cadarnhad yn y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, y bydd ffrâm
a gorchudd canfas y pebyll yn cael
eu tynnu o’r safle ar
ddiwedd y tymor yn ogystal â’r
llwyfannau pren sydd bellach yn
cael eu gosod
ar y ddaear ac yn cael eu
hangori i’r ddaear trwy gyfres
o begiau. Er y wybodaeth, roedd y swyddogion o’r farn bod creu elfennau
parhaol eraill ar y safle trwy
gydol yr amser sef cysylltiadau trydan/dŵr/carthffosiaeth i’r pedair pabell
unigol yn ogystal â’r sylfaen
garreg o dan adeilad y ‘sauna’ sydd yn groes i
faen prawf 3 o bolisi TWR 5. Roedd y swyddogion hefyd yn cwestiynu pa mor ymarferol
fyddai datgymalu’r pebyll a’r offer cysylltiedig (sef ystafell ymolchi a chegin) a’u tynnu
yn gyfan gwbl o’u lle
ar ddiwedd tymor. Yn ogystal, mae rhan o baragraff 6.3.85 o eglurhad polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer cysgu, eistedd a bwyta y dylent eu darparu, ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr neu ddarpariaeth draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon parhaol i gynyddu lefel yr effaith ar y dirwedd neu effaith adfer y safle pe bai angen symud y strwythurau”. Ni ystyrir fod y bwriad i osod cysylltiadau trydan, dŵr a charthffosiaeth a sylfaen garreg ar ddechrau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |