Agenda item

Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa'r safle, sy'n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i'r fynedfa gwasanaethu

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

a)         Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa’r safle, sy’n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol  o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa gwasanaethu. (Er mai cais am siop werthu bwyd A1 yw'r cais mae'r dystiolaeth a'r dogfennau a gyflwynwyd yn cyfeirio yn benodol at Aldi Stores Ltd) 

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld ar safle

 

b)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym mhwyllgor 21.10.19 yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd gan yr Asiant mewn ymateb i’r adroddiad pwyllgor. Nodwyd mai cais ydoedd i ddymchwel adeilad presennol oedd yn flaenorol yn cash and carry a chodi archfarchnad a datblygiadau cysylltiedig ar safle oddi ar Ffordd Caernarfon, Bangor, tu allan i’r ganol tref ddiffiniedig ond oddi fewn i’r ffin datblygu.

 

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y nifer o bolisïau cynllunio oedd yn berthnasol i’r bwriad ynghyd ag asesiad llawn o unrhyw effaith ar fywiogrwydd a hyfywdra canol tref yn ogystal â delio gyda’r Dystiolaeth o’r angen; yr Angen Meintiol; yr Angen Ansoddol a’r Angen Dilyniadol. Yn gyffredinol, ystyriwyd na fydda unrhyw effaith sylweddol ar hyfywedd a bywiogrwydd canol y ddinas o adleoli siop Aldi. Eglurwyd bod rhan 5.16 - 5.18 o’r adroddiad yn nodi bod polisïau MAN1 a MAN 3 yn gofyn bod angen i gynigion manwerthu a masnachol y tu allan i ganol trefi diffiniedig gael eu cefnogi gan dystiolaeth o’r angen am ddarpariaeth ychwanegol.

 

Yng nghyd-destun angen ansoddol, dangosodd yr ymgeisydd angen ansoddol am ofod llawr ychwanegol mewn siop Aldi fwy ac fe ysgytiwyd y byddai’r bwriad yn gwella’r dewis ansoddol cyffredinol yn yr ardal gyfagos a’r dalgylch ehangach sydd yn gwasanaethu Bangor gan wella safle’r ddinas fel canolfan siopa ranbarthol.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ymgymryd â thrafodaethau cyn cyflwyno cais gyda Aldi ers peth amser a chyfeiriwyd yn yr adroddiad bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi caniatáu i’r Awdurdod gael mewnbwn i’r broses o ddethol safle ac mae’r swyddogion yn fodlon gyda chasgliadau’r asesiad dilyniadol ac nid yw’n ymwybodol o unrhyw safleoedd dilyniadol gwell. Cydnabuwyd nad oedd modd ymestyn y siop yn ei leoliad presennol.

 

Er y cydnabuwyd fod buddion economaidd a chymdeithasol i'w cael drwy'r cynnig ac y byddai’n debygol o wneud cyfraniad cadarnhaol i economi'r ardal yn unol ag amcanion y CDLl ar y Cyd.  Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Iaith oedd wedi dod i’r casgliad bod y risg yn niwtral i’r iaith oherwydd byddai’r swyddi newydd a gaiff eu creu ar gael i’r boblogaeth leol.

 

Adroddwyd o ran gwelliant gweledol nad oedd pryderon o safbwynt effaith weledol y bwriad - roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y cyfnod hysbysebu yn gadarnhaol gydag amryw yn cydnabod y byddai’r cynllun yn sicrhau gwelliant gweledol sydd ei angen yn y rhan yma o Fangor. Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth i’r defnydd cyfreithlon heb gyfyngiadau o'r safle fel siop talu a chludo, ble gellid derbyn a danfon nwyddau ar unrhyw amser o'r dydd a'r nos.

 

Amlygwyd o’r asesiad y byddai’r sefyllfa arfaethedig yn welliant ar y safle presennol mewn sawl ffordd. Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd yn cydnabod y byddai’r datblygiad beth effaith ar yr eiddo o’i amgylch, a phetai’r cais yn cael ei gymeradwyo, dylai'r cyfnod adeiladu a rhedeg y siop gael eu rheoli gan amodau cynllunio i sicrhau bod yr effeithiau yn cael eu cadw i lefelau derbyniol.  Ategwyd bod amodau o'r fath yn cynnwys oriau adeiladu, amodau sŵn i beiriannau ac offer, manylion systemau awyru, amser danfoniadau ac agor y siop yn ogystal â mesurau ansawdd aer/lliniaru llwch. Ni dderbyniwyd unrhyw bryder na gwrthwynebiad gan drigolion lleol.

 

Nodwyd bod y safle yn cael ei wasanaethau gan fynedfa bresennol oddi ar Ffordd Caernarfon sef un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Fangor.  Mae yna hefyd arosfan bws ar y briffordd o flaen y safle.  Mae'r bwriad yn cynnwys ail strwythuro mynedfa'r safle gaiff ei rhannu gyda siop Dunelm ar hyn o bryd, gan gynnwys creu cylchfan newydd a newidiadau i'r trefniant parcio.  Amlygwyd  nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiadau i’r cais ac ategwyd bod y dyluniad i’r fynedfa newydd yn dderbyniol. Nodwyd hefyd bod y materion draenio tir a llifogydd yn dderbyniol.

 

Cadarnhawyd bod y casgliadau yn crynhoi’r asesiad. Ystyriwyd fod y budd i’r cyhoedd a ddaw o’r bwriad yn economaidd a chymdeithasol a bod modd rhoi pwysau ar bwysigrwydd datblygu'r safle gwag yma er defnydd buddiol a'r buddion amgylcheddol sy'n gysylltiedig gyda hynny.   Yn yr achos yma, nid oedd unrhyw wrthwynebiad sylweddol o ran polisi adwerthu ac mae'r bwriad wedi llwyddo i gael peth cefnogaeth leol.  Ar sail hyn ac wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ystyriaethau cynllunio materol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac y dylid ei gymeradwyo.

 

c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y safle yn cael ei ddatblygu gan nad yw safle presennol Aldi yn addas i bwrpas bellach

·         Y cwmni wedi bod yn edrych am safle addas ers bron i bedair blynedd. Dim safle addas yng nghanol y ddinas

·         Bod y bwriad  yn cynnig buddion ychwanegol i gwsmeriaid

·         Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cwsmeriaid wedi datgan yr angen am siop newydd, fodern

·         Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn

·         Cyrchfannau bws yn cael eu darparu - hyn yn ofyn cyffredinol - cynyddu amledd y teithiau bws

·         Bydd arwyddion yn siop yn amlygu’r iaith Gymraeg

·         Bod yr ail leoli yn cynnig buddsoddiad o £5m; yn gwarchod 27 swydd bresennol a 10 swydd newydd

·         Bod y datblygiad yn un cynaliadwy

 

d)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor hwn) y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn cefnogi’r bwriad

·         Bod y datblygiad yn welliant, yn tacluso’r ardal  – yr adeilad presennol bellach yn ddolur llygad –

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

e)         Mewn ymateb i anfodlonrwydd  rhai o’r Aelodau o dderbyn gohebiaeth ynglŷn â’r cais, nododd y Cyfreithiwr bod gan y cwmni hawl i lobio ac mai mater i’r Aelodau oedd datgan hynny.

 

Mewn ymateb i bryder ynglŷn â dymchwel yr adeilad sydd ar y safle presennol a’r angen am sicrwydd na fyddai llwch asbestos yn ymledu, nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r adran Rheolaeth Adeiladu a’r cyrff perthnasol yn  rheoli’r gwaith a bod deddfau pwrpasol yn eu lle i sicrhau bod y datblygwr yn cydymffurfio.

 

Mewn ymateb i sylw y dylai’r iaith Gymraeg ymddangos yn gyntaf ar unrhyw arwydd / ohebiaeth, amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod modd rheoli arwyddion allanol drwy drefniadau cynllunio; gellid annog y datblygwr i weithredu yn yr un modd gydag arwyddion mewnol. Awgrymwyd y gall Menter Iaith Bangor fod yn rhan o’r trafodaethau.

 

Mewn ymateb i bryder  y byddai’r siop Aldi bresennol yn troi’n ddolur llygad ynghanol y ddinas unwaith y bydd y gwasanaeth wedi symud, nodwyd y byddai’r siop yn parhau ar gael ar gyfer  defnydd adwerthu. Ategwyd mai Aldi yw perchennog y safle ac maent wedi nodi na fyddai’r safle ar gael i rywun fyddai yn cystadlu yn eu herbyn ac yn gwerthu nwyddau cyfleus. Awgrymwyd hefyd gan mai Aldi yw’r perchennog y byddai’r debygol o gadw’r safle yn daclus.

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Angen canmol bod cwmni o’r Almaen yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg - gosod esiampl dda

·         Byddai’r ardal yn tacluso yn sylweddol

·         Croesawu cylchfan newydd i hwyluso ac arafu llif y traffig

·         Gwarchod cyflogaeth yn yr ardal

·         Bod y gwelliant i’w groesawu

·         Croesawu’r bwriad i  gynyddu’r gwasanaeth bws - hyn yn annog pobl i beidio defnyddio eu ceir

 

·         A oes modd ystyried cadw siop bresennol Aldi yn agored ar gyfer y tymor byr?

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

1.         Amserlenni

2.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

3.         Deunyddiau.

4.         Dŵr Cymru / SUDS

5.         Amodau manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai

6.         Amser agor y siop a danfoniadau.

7.         Amseroedd adeiladu.

8.         Lefel Llawr Gorffenedig.

9.         Amodau mynediad priffyrdd a darpariaeth dwy loches bws.

10.      Tirlunio

11.      Mesurau gwella/lliniaru'r Gymraeg

12.      Ansawdd aer (Cynllun Rheoli'r Amgylchedd adeiladu)

 

Angen anfon llythyr gyda’r penderfyniad yn annog y datblygwr i gysylltu gyda’r Fenter Iaith Leol.

 

 

Dogfennau ategol: