Dymchwel adeilad presennol
ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynwys 28 fflat gofal ychwanegol (16
fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol
yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a
storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a tirlunio cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard
Cofnod:
Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl
3 llawr yn cynnwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12
fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau
cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â
llefydd parcio a thirlunio cysylltiol.
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi ei
leoli o fewn tref Pwllheli ac o fewn Ardal Gadwraeth.
Eglurwyd bod y bwriad yn cael ei
ddisgrifio fel fflatiau gofal ychwanegol i rai sydd dros 55oed gyda’r cynlluniau yn dangos y byddai’r
fflatiau yn hunangynhaliol gydag ystafell(oedd) gwely, stafell
ymolchi, lolfa a chegin yn ogystal
â lolfa gymunedol a chegin gymharol fechan cysylltiedig.
Amlygwyd bod yr Adran Oedolion, Gofal a Llesiant wedi cadarnhau eu bod yn gefnogol
i’r cais ac wedi nodi bod galw
am y math yma o ddarpariaeth
yn debygol o godi dros yr
20mlynedd nesaf gyda Pwllheli wedi ei
adnabod fel ardal twf. Nodwyd
mai ADRA yw’r ymgeisydd a bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlygu
y byddai 100% o’r unedau yn rai fforddiadwy
sy’ golygu bod y bwriad yn bodloni
gofynion polisi TAI15. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai hefyd wedi cadarnhau
bod y bwriad yn cyfarch gofynion yr ardal, a bod Cymdeithas Tai yn bartner ar gyfer
y datblygiad hwn. Roedd yr eiddo
hefyd yn cwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu, ac wedi ei gynnwys
o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod edrychiad cefn yr adeilad newydd
yn rhannol ddeulawr a rhannol drillawr ac yn wynebu cefn tai teras Penlon Llŷn.
Eglurwyd y cynlluniau diwygiedig yn ymwneud
gyda ffenestri a pherthynas y datblygiad a’r tai presennol yn ogystal â rhai
o’r pellteroedd rhyngddynt ac unrhyw effaith ar fwynderau
preswylwyr y tai. Nodwyd
bod bwriad defnyddio’r ardal rhwng yr
adeilad newydd a ffin y tai teras
fel gardd gymunedol gyda maes parcio i’r
dwyrain o’r adeilad yn cael
ei gadw ar
gyfer defnydd parcio.
Yng nghyd-destun llecynnau agored, amlygwyd bod polisi ISA5 yn cadarnhau'r angen i asesu
anghenion yr ardal ar gyfer
darparu llecynnau agored priodol o ganlyniad i’r datblygiad
bwriedig (mwy na 10 o unedau
byw). Er hynny, yn unol
â geiriad y Canllaw Cynllunio Atodol nid oedd angen
gwneud cais am gyfraniad o lecyn agored yn y cyd-destun
yma.
Wrth ystyried materion
bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Cynefin wedi ei dderbyn
gyda’r Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr adroddiad yn delio
gyda’r rhan fwyaf o bryderon bioamrywiaeth ar y safle. Ategwyd, fel bod modd cefnogi’r
bwriad bod angen cadarnhau’r argymhellion a’r mesurau lliniaru
o fewn y Datganiad Lliniaru sydd i
gynnwys dull tynnu’r to i leihau effaith
ar ystlumod ac adar. Bydd
angen cynnwys amserlen a manylion penodol o’r math o focsys ystlumod a nythu sydd i’w
cynnwys yn yr adeilad newydd
a’u lleoliad ynghyd a chynlluniau diwygiedig. Caiff y Datganiad Lliniaru ei gynnwys fel
amod.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol
a’i fod yn
cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol lleol a chenedlaethol. Nodwyd gan fod cynlluniau
diwygiedig derbyniol wedi eu derbyn
fod yr argymhelliad
wedi ei ddiwygio
i ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nad yw'r cynllun diwygiedig yn ymateb yn llawn
i’r pryderon. Derbyniwyd bod datrysiad rhesymol wedi ei gyflwyno, ond bod modd
gwella ymhellach, yn enwedig y ddau lawr sydd yn goredrych
dros dai Stryd Llyn
·
Rhai egwyddorion yn annerbyniol - y cynllun yn
ormesol, yn orddatblygiad o’r safle
·
Pryderon goredrych -
rhai tai o fewn 17m o’r datblygiad
·
Gall y cynllun fod yn fwy sympathetig
·
Darpariaethau
parcio annigonol - er i’r adroddiad nodi
bod parcio ar gyfer 22 yn ddigonol,
gall y ffigwr, mewn gwirionedd fod oddeutu 56
·
Cais
i’r pwyllgor ohirio er mwyn
cynnal trafodaethau pellach gyda’r datblygwr i geisio
datrysiadau
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr
ymgeiswyr y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod
y datblygiad yn cynnig 28 uned fforddiadwy
·
Bod
Adra yn ymateb
yn strategol i’r galw cynyddol
am unedau o’r fath - modelau tebyg wedi eu
datblygu ym Mangor a Phorthmadog - cyfle erbyn hyn
i Bwllheli gael y ddarpariaeth
·
Ystyriaethau wedi
eu gwneud i leihau pryderon
y gwrthwynebwyr o ran materion
goredrych a mwynderau gweledol - ategwyd bod y datblygiad yn un trefol ac felly goredrych yn fater tebygol
·
Bod
bwriad gwella a lledaenu maint y palmentydd i hyrwyddo
mynediad diogel i’r dref / siopa
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio'r
penderfyniad am y rhesymau canlynol:
·
bod
yr egwyddor a’r prosiect yn
dderbyniol ond angen cynnal trafodaethau
pellach gyda’r asiant i ddatrys
pryderon trigolion Stryd Pen Llyn
·
angen ymateb ymhellach i bryderon
goredrych a pharcio
·
cyfle i geisio gwybodaeth bellach a gwneud ymholiadau pellach
·
angen sicrhau bod pob elfen yn
cael ei ystyried
yn llawn ac nad oedd angen
brysio
d)
Mewn
ymateb i’r sylwadau mynegodd y Rheolwr Cynllunio mai nifer isel
o bryderon lleol oedd wedi ei
derbyn o ystyried mai cynllun trefol
yw’r bwriad. Ategwyd bod pellter o 17m yn dderbyniol (rhwng ffiniau tai
Stryd Llyn) i ganol tref
ac mai anorfod fyddai rhywfaint o oredrych. Amlygwyd nad oedd
gan yr Adran
Priffyrdd wrthwynebiad i’r bwriad a bod y dyluniad yn cynnwys
parcio ar lefel briodol i’r
defnydd arfaethedig. Nodwyd hefyd bod cais i’r datblygwr
wella’r cyswllt ar droed rhwng
y safle a chanol y dref.
Mewn ymateb i’r cynnig
i ohirio, mynegodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd nad oedd
mantais dros ohirio’r cais gan
fod y cais yn cyfarch y materion
cynllunio ac yn cwrdd â’r gofynion.
Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
rhwng y Gwasanaeth Cynllunio a’r ymgeisydd
ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
·
Croesawu bod yr unedau yn 100% fforddiadwy
·
Bod y safle yn le addas ar
gyfer y math yma o ddatblygiad - yn gyfleus i’r dref
ac felly yn diwallu angen cael car
·
Bod yr adeilad
presennol ei hun yn ormesol
·
Bod y bwriad yn ymateb i’r
angen am dai gofal ychwanegol
e)
Pleidleisiwyd
ar y cynnig i ohirio’r cais
er mwyn cynnal
trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd
Disgynnodd y
cynnig
f)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad
PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau perthnasol:
1.
5 mlynedd
2.
Unol â’r cynlluniau
diwygiedig
3.
Llechi
4.
Deunyddiau allanol i’w cytuno
5.
Tynnu hawliau gosod ffenestri newydd
6.
Cynllun goleuo allanol ac ardaloedd grisiau mewnol
7.
Ffenestri wedi eu
cymylu
8.
Cynllun Draenio (SUDS)
9.
Datganiad lliniaru bioamrywiaeth a lleoliad blychau ystlumod a nythu
10. Amod tai
fforddiadwy ar gyfer unigolion dros 55
11. Amodau priffyrdd
12. Oriau dymchwel/gweithio
13. Amodau Gwarchod y Cyhoedd (os angen)
14. Cynllun rheoli dymchwel
Dogfennau ategol: