Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Aled Evans, Dewi Owen, Eryl Jones-Williams, Linda Ann Wyn Jones, Sion Wyn Jones a  Peter Read.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 249 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016. 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH ADDYSG pdf eicon PDF 694 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Addysg yn ystod y flwyddyn gan nodi cryfderau a gwendidau y mae’r Gwasanaeth wedi eu hadnabod y mae angen rhoi sylw iddynt

 

(a)   Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y Gwasanaeth Addysg wedi profi cyfnod ansefydlog gyda nifer o swyddi allweddol yn wag cyn penodiad y Pennaeth Addysg i’w swydd ac ymfalchïwyd  bod y Gwasanaeth wedi ei adfer erbyn hyn.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gymryd sylw o’r elfennau isod wrth gymharu perfformiad Gwynedd o  safbwynt y dangosydd TL2+ gydag awdurdodau eraill: 

 

·         Bod ysgolion Gwynedd yn llawer mwy cynhwysol

·         Bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yng Ngwynedd 

 

Yn ogystal, tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol:

 

·         Mai arweinyddiaeth dda sy’n gwella ysgolion

·         Bod gwaith yn mynd rhagddo i weddnewid y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

·         Llwyddiant y Siarter Iaith drwy ledaenu’r defnydd nid yn unig drwy Ogledd Cymru ond ar draws Cymru gyfan

 

(b)  Gosododd y Pennaeth Addysg gyd-destun yr adroddiad o dan dri phennawd sef safonau, darpariaeth ac ansawdd arweinyddiaeth.  Nodwyd bod yr adroddiad wedi adnabod materion sydd angen sylw a fydd yn cael eu bwydo i’r cynlluniau busnes 2016/17 ac ymhen blwyddyn o amser hyderir y gellir dangos cynnydd.

 

Tynnwyd sylw bod ESTYN yn adolygu fframwaith newydd o arolygu ar gyfer pob sector ac y byddai’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE) yn derbyn arolwg yn fuan. 

 

(c)        Derbyniwyd cyflwyniad byr ar lafar fel a ganlyn:

 

A. Gan Uwch Ymgynghorydd Her GwE

 

Adroddwyd ar brif negeseuon o’r data perfformiad ysgolion gan nodi bod y perfformiad yn gadarn ar draws pob Cyfnod Allweddol a bod y cynnydd treigl o 2013 – 2015 yn rhan fwyaf y meysydd yn fwy na chynnydd treigl cenedlaethol.  Mewn cymhariaeth a’r 22 awdurdod drwy Gymru nodwyd bod proffil Gwynedd yn dda iawn o safbwynt CA3, yn lled gadarn yn CA2 a bod lle i wella yn y Cyfnod Sylfaen.  O safbwynt y rhaglen waith ar gyfer y Cyfnodau Allweddol uchod bod angen:

 

·         Parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod y ganran lle mae perfformiad yn yr hanner cant isaf o fewn y teulu cinio am ddim yn cael ei leihau

·         Parhau i weithio gydag ysgolion mewn perthynas â dibynadwyedd a grymuster asesiadau athrawon

·         Gwella a grymuso ansawdd y cynllunio a’r ddarpariaeth yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen

 

O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y perfformiad yn eithaf cadarn ac yn broffil i ymfalchïo ynddo sef bod Gwynedd mewn cymhariaeth a’r 22 awdurdod ar draws Cymru yn y safle 1af yn TL1, 3ydd safle o safbwynt dangosydd y pynciau craidd a 5ed yn ddangosyddion TL2 a TL2+. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod perfformiad nifer o ysgolion wedi bod yn pendilio ac yn dilyn  gwaith penodol gyda rhain braf ydoedd nodi bod cynnydd sylweddol mewn nifer o’r ysgolion wedi ei gyflawni a chynnydd pellach i’w wneud.

 

O safbwynt perfformiad yng nghyd-destun arolygiadau ESTYN sydd ychydig mwy pryderus, nodwyd bod 18 o ysgolion wedi eu harolygu gyda 3 ohonynt wedi eu gosod mewn categori statudol. Ym marn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD CYNNYDD YR YMCHWILIAD CRAFFU O'R YSBYTY I'R CARTREF - RHAN 2 pdf eicon PDF 203 KB

I ystyried adroddiad cynnydd gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yn erbyn prif argymhellion yr Ymchwiliad Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref - Rhan 2.

 

Gosodwyd y cefndir gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor graffu’r cynnwys.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

 

(a)              Mewn ymateb i sylw wnaed am brinder meddygon teulu a nyrsys yng Ngwynedd yn enwedig yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, esboniodd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod y prinder yn broblem genedlaethol ac o ran Gogledd Cymru nodwyd bod mwy o broblem yn ardal Wrecsam. Nodwyd ymhellach bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn arian yn y swm o £4.9m gan lywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cychwynnol sy’n galluogi sefydlu timau amlddisgyblaethol o gwmpas y meddygon teulu fyddai’n cynnwys nyrsys, therapyddion ychwanegol, cynnig awdioleg allan i’r gymuned, yn ogystal â fferyllwyr ychwanegol.  O safbwynt meddygon teulu, bod camau ar y gweill i geisio cael ieuenctid yn ôl i’w cymunedau fel rhan o gynllun “Outstanding GP Development Programme”.  Llwyddwyd i ddenu 5 yn ôl i’r Bwrdd Iechyd gyda dau feddyg teulu yn gweithio yng Ngwynedd - un yn Nefyn a’r llall  yng Nghaernarfon.  Hyderir y gellir denu mwy o ieuenctid ac y byddai’n rhoi cyfle iddynt weithio hanner amser fel meddyg teulu a’r hanner arall yn arbenigo mewn maes arbennig. 

 

(b)           Bod canmoliaeth i’r nyrs ychwanegol ym Motwnnog ynghyd âr fferyllwyr gyda phobl yn ymddiried ynddynt.  Ychwanegwyd am yr angen i gydweithio gyda’r trydydd sector ac ni ddylid gweld dirywiad yn y gwasanaeth. 

 

Mewn ymateb, nododd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn                                            bod perthynas dda gyda Mantell Gwynedd a thrwy arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, hyderir y gellir gweithredu cynllun “Social Prescribing” gyda’r trydydd sector.

 

Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod gwell dealltwriaeth rhwng y Cyngor a’r trydydd sector wedi datblygu erbyn hyn a bod yn rhaid ystyried ffurf wahanol o weithio ar y cyd.  Crybwyllwyd prosiect Her Gofal sy’n gweithio hefo cymunedau a nodwyd pwysigrwydd o’r holl waith integreiddio bod y trydydd sector yn rhan allweddol o’r tîm integreiddio.  

 

(c)              Pwysigrwydd i hysbysebu a rhoi gwell dealltwriaeth yn enwedig i’r bobl hŷn o’r cynllun “Advance Nurse Practitioner”. 

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith datblygu ar y cynllun uchod dros y 2/3 blynedd nesaf.  Cydnabuwyd bod angen ei hyrwyddo ac yn enwedig i staff derbynfeydd y meddygfeydd teulu. Sicrhawyd hefyd y byddir yn darparu erthygl bwrpasol ar gyfer y wasg leol ynghyd a’r cyfryngau cymdeithasol am y Timau Aml-astianaethol.  Hyderir y gellir treialu mwy nag un model lle gall nyrsys ymweld a chynnal ymweliad i gartrefi ac roedd cynllun yn cael ei dreialu ym Mhen Llŷn ers mis Ionawr.   Byddir yn datblygu newyddion da

 

(ch)        Mewn ymateb i sylw wnaed ynglŷn ag unigolyn bregus yn mynd adref o’r ysbyty at oedolyn bregus arall, sicrhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio datblygu cynllun “Discharge to assess” lle fyddir yn sicrhau bod unigolion yn cael eu hasesu o fewn diwrnod neu dda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.