Agenda item

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Addysg yn ystod y flwyddyn gan nodi cryfderau a gwendidau y mae’r Gwasanaeth wedi eu hadnabod y mae angen rhoi sylw iddynt

 

(a)   Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y Gwasanaeth Addysg wedi profi cyfnod ansefydlog gyda nifer o swyddi allweddol yn wag cyn penodiad y Pennaeth Addysg i’w swydd ac ymfalchïwyd  bod y Gwasanaeth wedi ei adfer erbyn hyn.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gymryd sylw o’r elfennau isod wrth gymharu perfformiad Gwynedd o  safbwynt y dangosydd TL2+ gydag awdurdodau eraill: 

 

·         Bod ysgolion Gwynedd yn llawer mwy cynhwysol

·         Bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yng Ngwynedd 

 

Yn ogystal, tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol:

 

·         Mai arweinyddiaeth dda sy’n gwella ysgolion

·         Bod gwaith yn mynd rhagddo i weddnewid y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

·         Llwyddiant y Siarter Iaith drwy ledaenu’r defnydd nid yn unig drwy Ogledd Cymru ond ar draws Cymru gyfan

 

(b)  Gosododd y Pennaeth Addysg gyd-destun yr adroddiad o dan dri phennawd sef safonau, darpariaeth ac ansawdd arweinyddiaeth.  Nodwyd bod yr adroddiad wedi adnabod materion sydd angen sylw a fydd yn cael eu bwydo i’r cynlluniau busnes 2016/17 ac ymhen blwyddyn o amser hyderir y gellir dangos cynnydd.

 

Tynnwyd sylw bod ESTYN yn adolygu fframwaith newydd o arolygu ar gyfer pob sector ac y byddai’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE) yn derbyn arolwg yn fuan. 

 

(c)        Derbyniwyd cyflwyniad byr ar lafar fel a ganlyn:

 

A. Gan Uwch Ymgynghorydd Her GwE

 

Adroddwyd ar brif negeseuon o’r data perfformiad ysgolion gan nodi bod y perfformiad yn gadarn ar draws pob Cyfnod Allweddol a bod y cynnydd treigl o 2013 – 2015 yn rhan fwyaf y meysydd yn fwy na chynnydd treigl cenedlaethol.  Mewn cymhariaeth a’r 22 awdurdod drwy Gymru nodwyd bod proffil Gwynedd yn dda iawn o safbwynt CA3, yn lled gadarn yn CA2 a bod lle i wella yn y Cyfnod Sylfaen.  O safbwynt y rhaglen waith ar gyfer y Cyfnodau Allweddol uchod bod angen:

 

·         Parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod y ganran lle mae perfformiad yn yr hanner cant isaf o fewn y teulu cinio am ddim yn cael ei leihau

·         Parhau i weithio gydag ysgolion mewn perthynas â dibynadwyedd a grymuster asesiadau athrawon

·         Gwella a grymuso ansawdd y cynllunio a’r ddarpariaeth yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen

 

O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y perfformiad yn eithaf cadarn ac yn broffil i ymfalchïo ynddo sef bod Gwynedd mewn cymhariaeth a’r 22 awdurdod ar draws Cymru yn y safle 1af yn TL1, 3ydd safle o safbwynt dangosydd y pynciau craidd a 5ed yn ddangosyddion TL2 a TL2+. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod perfformiad nifer o ysgolion wedi bod yn pendilio ac yn dilyn  gwaith penodol gyda rhain braf ydoedd nodi bod cynnydd sylweddol mewn nifer o’r ysgolion wedi ei gyflawni a chynnydd pellach i’w wneud.

 

O safbwynt perfformiad yng nghyd-destun arolygiadau ESTYN sydd ychydig mwy pryderus, nodwyd bod 18 o ysgolion wedi eu harolygu gyda 3 ohonynt wedi eu gosod mewn categori statudol. Ym marn yr Uwch Ymgynghorydd Her roedd hon yn broffil anfoddhaol ac fe gymerwyd llawer o gamau i unioni’r sefyllfa ac erbyn hyn mae’r sefyllfa yn llawer iawn mwy cadarnhaol.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau gwestiynu cynnwys yr uchod ac fe ymatebodd y swyddogion perthnasol iddynt fel a ganlyn:

 

(i)            Bod arolygwyr yn edrych ar safonau dros gyfnod o amser, pa mor dda yw’r ddarpariaeth addysgu, cwricwlwm yr ysgol, pa mor dda yw’r arweinyddiaeth.  Fe osodir ysgol mewn mesurau arbennig os yw yn perfformio yn gyson isel dros gyfnod o dair blynedd a bod yr Arolygwyr wedi gweld ansawdd canran o’r gwersi yn ddigonol neu anfoddhaol.  Os nad yw ysgol wedi adnabod ei gwendidau / cryfderau ac yn symud ddigon cyflym i wella, fe’i gosodir mewn mesurau arbennig.                                                                                                         

(ii)           O safbwynt y gwahaniaeth yn safonau'r dysgwyr a’r pendilio ym mherfformiad rhai ysgolion, rhaid cofio bod pob plentyn yn wahanol ac y gall un / ddau blentyn wneud gwahaniaeth i’r dangosyddion perfformiad. Os yw’r dysgu yn gyson dda nodwyd bod disgyblion yn gwneud y gorau y gallent ac yn cyrraedd y safonau disgwyliedig. 

(iii)          Yng nghyd-destun cydweithio rhwng y cynradd a’r uwchradd, cydnabuwyd bod y mater ar raglen y Gwasanaeth Addysg ers sawl blwyddyn.  Tra’n derbyn bod lle i wella'r cyfathrebu a dealltwriaeth o’r gofynion, nodwyd bod GwE wedi rhannu ysgolion i hyrwyddo cydweithio ysgol i ysgol er mwyn rhannu arferion da.  Hyderir y gellir gweld ffrwyth y cydweithio yn ystod tymor yr haf.    Yn ogystal, drwy sefydlu’r model ysgolion dilynol o 3 - 16 oed hyderir y bydd y math yma o batrwm yn cryfhau’r cydweithio. 

(iv)         O safbwynt siom bod Gwynedd yn safle 17eg ym mhrofion darllen Cymraeg, cydnabuwyd bod yn rhaid rhoi ystyriaeth bellach i hyn ond rhaid cofio bod polisi iaith Gwynedd yn gynhwysol yn y sector cynradd ac yn enwedig mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill.  Sicrhawyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag ESTYN  ynglŷn â chasglu a dehongli’r data hwn a sut maent yn dod i’r farn ar ysgolion sy’n hyrwyddo’r ddwy iaith.  

(v)          Ynglŷn ag arwyddocâd y categorïau ac yn benodol yr ysgolion hynny a ddyfarnwyd yn rhagorol gan ESTYN ond eto yn cael ei monitro gan yr awdurdod, esboniwyd mai’r elfen sydd angen ei wella ydoedd presenoldeb yn y sector cynradd.  Nodwyd ymhellach fel Sir bod angen gwella presenoldeb.

(vi)         Byddai’n fuddiol i aelodau’r Ymchwiliad Craffu Gwasanaeth Cefnogol Addysg drafod gydag ysgolion sydd wedi eu dyfarnu yn goch y math o gefnogaeth a dderbynnir gan Wasanaeth Cefnogol Addysg a GwE.  

(vii)        Yn dilyn gwaith a gyflawnwyd gan yr Ymchwiliad Ansawdd Addysg, ymddengys bod y bwlch rhwng perfformiad CA3 a CA4 yn parhau yn anferthol.   Mewn ymateb, esboniwyd ei bod yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd nad lefel 5 yn CA3 yw gwir ddangosydd y perfformiad pan mae dysgwyr yn cwblhau addysg ar ddiwedd CA4 ond yn hytrach mai lefel uwch yn CA3 sydd fwyaf arwyddocaol mewn perfformiad.  

(viii)       Gwnaed sylw y dylai’r iaith Gymraeg  fod yn gryfach.  Mewn ymateb, cydnabuwyd bod angen gosod y nod drwy’r amser er mwyn i’r disgyblion fod yn ddwyieithog fel eu bod yn cael eu haddysgu i safon i fedru gweithio’n lleol a bod arddel y Gymraeg yn her nid yn unig i addysg ond hefyd yn gymdeithasol.

(ix)         O safbwynt pryder pellach ynglŷn â chynnal yr iaith Gymraeg yn y sector uwchradd yn dilyn gwaith da wneir yn y sector cynradd yn sgil y Siarter Iaith, bod bwriad i ehangu’r Siarter i’r sector uwchradd.  Yn ychwanegol bod arbenigwr allanol yn ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ac fe fyddir yn ddiddorol i’r Pwyllgor Craffu hwn weld deilliant y gwaith hwnnw i graffu’r amrywiaeth o fewn ysgolion.

(x)          Nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad ynglŷn â’r newid yn y cwricwlwm a’r heriau a wynebai ysgolion yn hyn o beth.  Mewn ymateb, eglurwyd bod manylebau CA4 yn y Gymraeg / Saesneg / Mathemateg yn cael eu cyflwyno.  Adnabuwyd ysgolion arweiniol ar draws y rhanbarth i ddatblygu ar i arwain a chynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddiant ac ystod o weithdai i’w cefnogi.  O safbwynt adroddiad Yr Athro Donaldson ar gyfer oddeutu 2020, nodwyd bod rhaglen genedlaethol yn mynd rhagddo i adnabod ysgolion arweiniol cenedlaethol ac o 2017 ymlaen fe fydd yr ysgolion hynny yn gweithio mewn dalgylchoedd i roi arweiniad i weddill yr ysgolion. 

(xi)         Ynglyn a sut fydd y toriadau ariannol yn amharu ar hyfforddiant i athrawon yn enwedig i’r ysgolion sydd yn tangyflawni, eglurwyd y byddai’n rhaid bod yn greadigol drwy gydweithio hefo GwE o safbwynt beth sydd angen, ystyried dulliau mwy cydweithredol, rhannu adnoddau / arbenigedd yn ogystal ag osgoi dyblygu.

(xii)        Esboniwyd bod y dangosydd cinio am ddim wedi bod yn eitha’ cyson.

 

 

Aeth yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE ymlaen i nodi bod perthynas waith da yn bodoli rhwng yr awdurdod  a GwE ac wedi ei grymuso lle mae llif gwybodaeth yn rhedeg yn llyfn sydd yn caniatáu bod Gwe a’r awdurdod yn gallu ymyrryd ynghynt.

 

Cyfeiriwyd at y model newydd mewn perthynas â chategoreiddio cefnogaeth i ysgolion  yn seiliedig ar liw.  Eglurwyd bod ysgolion yn y categorïau gwyrdd yn cael eu grwpio hefo’i gilydd lle gellir  rhoi mwy o annibyniaeth iddynt i fraenaru a defnyddio eu harbenigedd.  Rhydd hyn gapasiti i fedru gweithio mwy dwys hefo’r ysgolion yn y categorïau melyngoch a choch.   Byddir mewn sefyllfa i adrodd yn fwy aeddfed ar ddatblygiad y model hwn flwyddyn nesaf.

 

Tynnwyd sylw at y drefn ganolog o gasglu targedau er mwyn ymyrryd ynghynt a’r bwriad i benodi Ymgynghorwyr Her i ddatblygu perfformiad yn Saesneg a Mathemateg.  Fe fyddir yn cyd-gyllido gyda’r awdurdod rôl yr Ymgynghorydd Mathemateg fydd yn benodol yn gweithio yng Ngwynedd.

 

Cyflwynwyd ystod o raglenni i wella ansawdd arweinyddiaeth ynghyd a rhaglen i wella arweinyddiaeth ganol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau, nododd y swyddogion fel a ganlyn:

 

(i)            Y byddir yn ceisio newid  Ymgynghorwyr Her Cyswllt pob 2/3 blynedd. 

(ii)           O safbwynt y nifer sy’n ymgymryd â chymhwyster CPCP, esboniwyd bod gan GwE raglen arweinyddiaeth gynhwysfawr lle fyddent yn trafod gyda’r awdurdod pa gefnogaeth mae ysgolion angen a phwy yw darpar arweinwyr y dyfodol.  Yn ogystal nodwyd yr angen i dargedu unigolion i fynychu cyrsiau addas. 

(iii)          Yng nghyd-destun penodi Penaethiaid, esboniwyd bod yr awdurdod yn gweithio ar y cyd gyda llywodraethwyr gan fod gan yr awdurdod adnabyddiaeth dda o botensial unigolion. 

 

 

B.   Gan y Swyddog Gwella Ansawdd

 

Nodwyd y comisiynwyd adroddiad ar faes arweinyddiaeth sydd i’w chyflwyno i’r Cabinet maes o law.  Tynnwyd sylw at y prif ganfyddiadau isod a ddeilliwyd o gyfweliadau gyda nifer o Benaethiaid ac Aelodau etholedig: 

 

1.    Bod llawer mwy o ffocws ynglŷn â phenderfyniadau a thrafodaethau diweddar ar lefel awdurdod ar arweinyddiaeth a chydnabuwyd bod angen newid arwyddocaol ym maes arweinyddiaeth

2.    Ymrwymiad clir i gydweithio

3.    Nad oedd y trefniadau presennol bellach yn briodol a bod angen cymryd camau i ymdrin â hyn h.y. edrych ar arweinyddiaeth a threfniadaeth oherwydd nad oeddynt yn gynaliadwy gyda barn glir gan Benaethiaid bod angen newid

4.    Bod angen i’r awdurdod wella ei berfformiad i adnabod arweinwyr

5.    Gostyngiad sylweddol yn nifer staff canolog yr awdurdod ac o ganlyniad bod capasiti i fodloni anghenion ysgolion yn is

6.    Bod ffocws penodol i’w weld ar arweinyddiaeth yng nghynlluniau busnes yr awdurdod a GwE

7.    Bod yr awdurdod wedi sefydlu Bwrdd Monitro cynnydd annibynnol i edrych pa mor gyflym mae ysgolion yn dod allan o’r categori statudol

8.    Wedi adnabod problem ym mherfformiad Saesneg / Mathemateg

9.    Enghreifftiau o fodelau ffederal - rhannu arweinyddion ar draws ysgolion

10.  Parhau i weithio ar amodau

11.  Parhau gyda’r gyfundrefn o gydweithio ysgol i ysgol

12.  Sicrhau bod buddsoddiad cyfalaf ar gael i greu model swyddfa ardal

13.  Datblygu rôl yr Uned Datblygu Addysg

 

Ymatebodd y Pennaeth Addysg a’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg i  ymholiadau gan Aelodau unigol fel a ganlyn:

 

(i)            Dymunir gweithredu’r drefn newydd ar gyfer Swyddfeydd Ardal y Gwasanaeth yn y flwyddyn academaidd nesaf

(ii)   O safbwynt y niferoedd sy’n dilyn y cymhwyster CPCP, bod 20 unigolyn o fewn y rhanbarth wedi derbyn mynediad y llynedd a bod oddeutu 100 o lefydd ar gael yn genedlaethol.  Eleni am y tro cyntaf gwelwyd bod y cwota wedi codi.  Ychwanegwyd pe byddir yn derbyn mwy i ddilyn y cymhwyster, byddai mwy o gystadleuaeth ar gyfer y swyddi a nodwyd pwysigrwydd i unigolion ddefnyddio’r cymhwyster os ydynt yn  llwyddo i’w dderbyn.

 

 

C.              Gan Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad:

 

Amlinellwyd gweithrediadau a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod megis:

 

·         Sefydlu trefn o hunan arfarnu ar draws ysgolion i’w harfogi i adnabod patrymau o ran presenoldeb ynghynt

·         Trefn o erlyn a rhybuddion cosb benodol

·         Bod gostyngiad yn y gwaharddiadau parhaol yn y sector uwchradd gyda chynnydd mewn gwaharddiadau parhaol yn y sector cynradd oherwydd yn bennaf diffyg cynhaliaeth ar gyfer plant hefo problemau ymddygiad.  Nodwyd bod angen rhoi sylw brys i’r mater yn CA2 a CA3.

·         Trefn newydd yn ei le ers dechrau Ionawr i gefnogi disgyblion sydd gydag ymddygiadau emosiynol yn CA4.  Gwelwyd bod y disgyblion yn cael budd o’r pecynnau sydd wedi ei teilwro ar gyfer eu hanghenion unigol hwy

·         Sefydlwyd cynllun TRAC ers Ionawr

·         Penodwyd Swyddog Diogelu ar gyfer yr Adran ac wedi grymuso trefniadau diogelu / mynediad i ysgolion ynghyd â threfnu hyfforddiant pwrpasol

·         Bod yr adolygiad strategol yn mynd rhagddo ar gyfer y disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac wedi bod yn modelu ar y cyd gydag Ynys Môn er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth.  Nodwyd bod angen bod yn ymwybodol o anghenion plant o fewn y gyfundrefn bresennol megis sut i gefnogi plant ar y sbectrwm awtistig, plant gydag anhwylder iaith benodol ac ymddygiad.

·         Gwelwyd gostyngiad bychan mewn nifer o ddisgyblion sydd ar ddatganiadau ac wedi sefydlu trefn newydd o gynlluniau datblygu unigol

·         Wedi sefydlu fforymau sydd wedi rheoli'r mynediad at wasanaethau anghenion arbennig e.e. anhwylder iaith, ymddygiad, ac sydd yn rhoi mwy o ffocws ar gefnogaeth i’r disgyblion trwy’r gwasanaethau canolog

 

           

   Ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r Aelodau fel a ganlyn:

 

(i)   Bod angen cyfarwyddo rhieni ynglŷn â pholisïau ysgolion yn benodol o safbwynt tynnu disgyblion allan o’r ysgol yn ystod tymor ysgol i fynd ar wyliau.  Byddir yn cydweithio gyda’ r Adran Gyfreithiol ar union eiriad y polisi, a.y.b.

(ii)           Bod presenoldeb yn allweddol i feithrin agwedd pobl ifanc tuag at waith.

(iii)  Tra’n derbyn bod economi Gwynedd yn ddibynnol ar dwristiaeth a rhieni ddim ond yn gallu mynd ar wyliau yn ystod y gaeaf, nodwyd pwysigrwydd i gyfleu’r neges i rieni bod presenoldeb yn hynod bwysig.

(iv)  Rhagwelir y byddai Ysgol Hafod Lon newydd yn agor oddeutu mis Hydref 2016 ac y  

byddir yn cadw’r Uned ABC o fewn prif lif yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog, oherwydd prinder lle yn yr ysgol arbennig.

(v)  Hyderir y byddir yn penodi cwnselydd yn y dyddiau nesaf ar gyfer tymor nesaf.

(vi) Cadarnhawyd y byddai newid sylweddol o ran darpariaeth plant awtistig fel rhan o’r   

adolygiad strategol anghenion dysgu ychwanegol lle byddir yn ystyried sefydlu unedau o fewn ysgolion i gefnogi’r plant yn unigol er mwyn ffocysu’r arbenigedd a chryfhau’r gwasanaeth.

           

Penderfynwyd:     (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad blynyddol.

                                   

(b)       Cymeradwyo:

 

(i)            bod yr Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg yn gwneud pwynt penodol i drafod gydag ysgolion yn y categori coch i asesu’r math o gefnogaeth y mae’r ysgolion hynny yn cael gan yr awdurdod, GwE ac eraill

(ii)          Bod yr elfennau Gwasanaethau Cefnogol yn cael sylw gan yr Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg yn hytrach nag yn y Pwyllgor Craffu llawn

 

(c)     Oherwydd y perygl o oedi mewn adrodd ar berfformiad,

gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg gyflwyno adroddiad interim yn ôl i’r Pwyllgor Craffu yn yr Hydref i weld beth yw patrwm canlyniadau arholiadau’r haf.

 

(ch)     Bod y Pwyllgor Craffu yn rhoi sylw penodol i Addysg Arbennig yn rhaglen waith ar gyfer flwyddyn nesaf gan ystyried ei graffu yn fuan yng nghyfarfod mis Mai.

 

Dogfennau ategol: