Agenda item

I ystyried adroddiad cynnydd gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yn erbyn prif argymhellion yr Ymchwiliad Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref - Rhan 2.

 

Gosodwyd y cefndir gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor graffu’r cynnwys.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

 

(a)              Mewn ymateb i sylw wnaed am brinder meddygon teulu a nyrsys yng Ngwynedd yn enwedig yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, esboniodd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod y prinder yn broblem genedlaethol ac o ran Gogledd Cymru nodwyd bod mwy o broblem yn ardal Wrecsam. Nodwyd ymhellach bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn arian yn y swm o £4.9m gan lywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cychwynnol sy’n galluogi sefydlu timau amlddisgyblaethol o gwmpas y meddygon teulu fyddai’n cynnwys nyrsys, therapyddion ychwanegol, cynnig awdioleg allan i’r gymuned, yn ogystal â fferyllwyr ychwanegol.  O safbwynt meddygon teulu, bod camau ar y gweill i geisio cael ieuenctid yn ôl i’w cymunedau fel rhan o gynllun “Outstanding GP Development Programme”.  Llwyddwyd i ddenu 5 yn ôl i’r Bwrdd Iechyd gyda dau feddyg teulu yn gweithio yng Ngwynedd - un yn Nefyn a’r llall  yng Nghaernarfon.  Hyderir y gellir denu mwy o ieuenctid ac y byddai’n rhoi cyfle iddynt weithio hanner amser fel meddyg teulu a’r hanner arall yn arbenigo mewn maes arbennig. 

 

(b)           Bod canmoliaeth i’r nyrs ychwanegol ym Motwnnog ynghyd âr fferyllwyr gyda phobl yn ymddiried ynddynt.  Ychwanegwyd am yr angen i gydweithio gyda’r trydydd sector ac ni ddylid gweld dirywiad yn y gwasanaeth. 

 

Mewn ymateb, nododd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn                                            bod perthynas dda gyda Mantell Gwynedd a thrwy arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, hyderir y gellir gweithredu cynllun “Social Prescribing” gyda’r trydydd sector.

 

Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod gwell dealltwriaeth rhwng y Cyngor a’r trydydd sector wedi datblygu erbyn hyn a bod yn rhaid ystyried ffurf wahanol o weithio ar y cyd.  Crybwyllwyd prosiect Her Gofal sy’n gweithio hefo cymunedau a nodwyd pwysigrwydd o’r holl waith integreiddio bod y trydydd sector yn rhan allweddol o’r tîm integreiddio.  

 

(c)              Pwysigrwydd i hysbysebu a rhoi gwell dealltwriaeth yn enwedig i’r bobl hŷn o’r cynllun “Advance Nurse Practitioner”. 

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith datblygu ar y cynllun uchod dros y 2/3 blynedd nesaf.  Cydnabuwyd bod angen ei hyrwyddo ac yn enwedig i staff derbynfeydd y meddygfeydd teulu. Sicrhawyd hefyd y byddir yn darparu erthygl bwrpasol ar gyfer y wasg leol ynghyd a’r cyfryngau cymdeithasol am y Timau Aml-astianaethol.  Hyderir y gellir treialu mwy nag un model lle gall nyrsys ymweld a chynnal ymweliad i gartrefi ac roedd cynllun yn cael ei dreialu ym Mhen Llŷn ers mis Ionawr.   Byddir yn datblygu newyddion da

 

(ch)        Mewn ymateb i sylw wnaed ynglŷn ag unigolyn bregus yn mynd adref o’r ysbyty at oedolyn bregus arall, sicrhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio datblygu cynllun “Discharge to assess” lle fyddir yn sicrhau bod unigolion yn cael eu hasesu o fewn diwrnod neu dda wedi iddynt ddychwelyd adref. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylid cydweithio fel rhan o’r broses i sicrhau bod unigolion yn derbyn gofalaeth.  Nodwyd ymhellach bod recriwtio gofalwyr cartref yn peri pryder mewn rhai ardaloedd a bod angen hyrwyddo’r swydd i ddenu pobl ifanc.

 

(d)          Gwnaed sylw efallai bod pwysau i symud unigolion allan o’r ysbytai i’w cartrefi a hynny mewn rhai achosion yn gynamserol ac oni ddylid sicrhau gwelyau iddynt mewn Ysbytai cymunedol i gryfhau cyn mynd adref.                                       

 

Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod cydweithio yn bwysig ac yn benodol gyda’r Timau Integredig i sicrhau gofalaeth i unigolion yn y cymunedau. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod angen gwneud mwy o waith ynglyn a chefnogaeth i ofalwyr di-dal.

 

(dd)  Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a threfniadau Ysbyty Alltwen, cydnabuwyd ei fod yn llwyddiant er bod gan y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor strwythurau llywodraethu gwahanol.  Hyderir y byddir yn symud ymlaen o fewn y misoedd nesaf i ymestyn y Timau Integredig.    

 

(e)              Nododd yr Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd, bod y sefyllfa yn y maes yma yn argyfyngus yn nhermau adnoddau ariannol a dynol ac felly rhaid addasu’r ffordd o gyfarch y problemau.  Cydnabuwyd bod llawer i’w gyflawni mewn ffyrdd gwahanol er mwyn cael canlyniad gwell i unigolion. 

 

(f)            Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a gwelyau ‘step-up – step-down’ ym Mhlas Pengwaith, Llanberis a chartrefi eraill eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod trefniadau yn cael eu gwneud i newid natur a rhaniad daearyddol y ddarpariaeth gan nad oedd y trefniant blaenorol wedi bod yn gwbl llwyddiannus. 

 

(ff)          Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gan gyfeirio at lythyr anfonwyd at Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Theuluoedd i fynegi pryder ynglŷn â phroblemau o ran y ddarpariaeth cartrefi nyrsio preifat a hefyd mewn recriwtio nyrsys ar eu cyfer. Hyderir y byddir yn gallu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y mater gydag opsiynau i’w hystyried oddeutu mis Mai.                                     

 

(g)               Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach i’r cyswllt wnaed gyda  Margaret Flynn (awdur adroddiad Winterbourne) ac y byddir yn trafod ymhellach ei phrofiad gyda Phencampwr Pobl Hŷn, Pencampwr Gofalwyr, Y Cynghorwyr Beth Lawton ac Angela Russell, ynghyd ag un aelod sydd wedi cael profiad personol.  Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Pencampwr Awtistig fod yn rhan o’r drafodaeth uchod. 

 

(ng)      O safbwynt cadw nyrsys, esboniwyd nad oedd y rhifau sydd yn cael eu derbyn drwy Brifysgol Bangor yn ddigonol.  Fe gollir rhai nyrsys wrth iddynt arbenigo mewn maes arbennig yn ogystal â’u colli drwy fiwrocratiaeth.  Hyderir drwy newid y model a’r ffordd o weithio, y byddir yn lleihau’r gwaith papur i alluogi nyrsys i roi mwy o ofal i gleifion.   Yn atodol, bod nyrsys yn dueddol i ffafrio swyddi mewn Ysbytai yn hytrach na nyrsio mewn cartrefi nyrsio.  Cydnabuwyd bod darn o waith i’w gyflawni yn hyn o beth i weld sut y gellir codi proffil Nyrs Gofal Cartref. 

 

   Penderfynwyd:          (a)        Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

                                       (b)       Cymeradwyo bod y gwaith yn datblygu ac i

 

(i)    barhau i gydweithio gyda’r gwaith gofalwyr

(j)    Hyrwyddo a hysbysebu’r trefniadau Timau Amlasiantaethol (ANP)

(k)  Raglennu gwaith dilynol ar drefniadaeth Ysbyty Alltwen ynghyd a gyrfa yn y maes gofal yng Ngweithdy Blynyddol y Pwyllgor Craffu hwn sydd i’w gynnal ar 28 Ebrill 2016. 

 

           

 

 

Dogfennau ategol: